Rhoi gwybodaeth i helpu i lunio polisïau a gwella arferion a darpariaeth
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cyfrannu at adolygu polisïau a gwella arferion a gweithdrefnau fel aelod o dîm yr ysgol.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chyflwyno gwybodaeth er mwyn helpu i lunio polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau, monitro gweithrediadau eich rhan chi o'r sefydliad mewn perthynas ag amcanion, a gwneud awgrymiadau am newidiadau.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Rhoi gwybodaeth a chyngor i helpu i ddatblygu strategaethau, polisïau, arferion a darpariaeth
- Casglu a chyflwyno gwybodaeth i helpu i fonitro, adolygu a gwella perfformiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rhoi gwybodaeth a chyngor i helpu i ddatblygu strategaethau, polisïau, arferion a darpariaeth
P1 cymryd rhan mewn ymgynghoriad ynghylch cynnwys polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau mewn da bryd
P2 cyflwyno gwybodaeth gyfredol, gywir a phriodol i helpu i ymgynghori
P3 paratoi cyfraniadau i ddatblygu polisïau sy'n cael eu llywio gan
anghenion a dyheadau cyfredol a disgwyliedig plant/pobl ifanc mewn fformat priodol
P4 gwneud cyfraniadau clir, perthnasol ac adeiladol at ddatblygu polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau
P5 cyfathrebu polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau'r sefydliad ar ffurf a modd sy'n briodol i'r rhai dan sylw
P6 dehongli polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau yn glir i fodloni gofynion gwahanol gyd-destunau, gweithgareddau a mentrau
P7 nodi'n gywir y ffactorau sy'n atal polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau rhag cael eu rhoi ar waith a chynnig cyngor ynghylch sut y gellir goresgyn y rhain
P8 defnyddio polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau i sefydlu amcanion a dangosyddionclir a mesuradwy
Casglu a chyflwyno gwybodaeth i helpu i fonitro, adolygu a gwella perfformiad
P9 cyfrannu'n effeithiol at ddatblygu mecanweithiau sicrhau ansawdd sefydliadol a dulliau mesur llwyddiant
P10 monitro cynnydd ac effeithiolrwydd eich gwaith eich hun yn erbyn amcanion a dangosyddion perfformiad sefydledig
P11 monitro’n barhaus sut y rhoddir polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau ar waith, gan ddefnyddio dulliau mesurau y cytunwyd arnynt
P12 casglu gwybodaeth gywir a pherthnasol am fanteision ac effeithiolrwydd y gwaith sy’n cael ei wneud gan eich rhan chi o'r sefydliad
P13 cynnig adborth clir ac adeiladol i bobl berthnasol am effeithiolrwydd gwaith eich rhan chi o'r sefydliad
P14 cyflwyno gwybodaeth gywir am i ba raddau y mae eich amcanion a’ch dangosyddion perfformiad chi a'ch tîm wedi’u cyflawni
P15 gwneud awgrymiadau clir, realistig a pherthnasol am weithgareddau, newidiadau a gwelliannau yn y dyfodol y mae angen eu rhoi ar waith
P16 mynd ati’n barhaus i fonitro effeithiolrwydd y mecanweithau a’r dulliau mesur cyfredol o sicrhau ansawdd, a gwneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 pwysigrwydd polisi ar bob lefel yn y sefydliad a sut mae'n cael ei ffurfio
K2 hanes a phwrpas cyffredinol y sefydliad
K3 y cymunedau yr ydych yn gweithredu ynddynt ac anghenion a dyheadau'r plant/pobl ifanc sydd ynddynt
K4 effaith y sefyllfa wleidyddol leol a chenedlaethol ar weithrediad eich sefydliad
K5 sut i ymgynghori ag eraill a chasglu gwybodaeth er mwyn llunio polisïau
K6 polisïau a chynlluniau presennol y sefydliad
K7 prosesau cynllunio strategol a sut i gyfrannu atynt
K8 sut i gyfathrebu polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau i gynorthwyo dealltwriaeth
K9 ffactorau a allai rwystro gweithredu, fel diwylliant sefydliadol
K10 sut i bennu amcanion a dangosyddion perfformiad
K11 pam mae’n bwysig sefydlu gweithdrefnau ar gyfer monitro gwaith eich sefydliad
K12 y mathau o fecanweithiau sicrhau ansawdd sydd eisoes yn cael eu defnyddio yn eich sefydliad
K13 ystod o ddulliau ar gyfer cael adborth
K14 amrywiaeth o ddulliau a systemau ar gyfer monitro a mesur
K15 gweithdrefnau sefydliadol (yn enwedig o ran cyfle cyfartal) sy'n berthnasol i gasglu gwybodaeth a monitro
K16 sut i gasglu a chyflwyno gwybodaeth am i ba raddau y cyflawnwyd amcanion
K17 sut i wneud awgrymiadau realistig ac sydd ar sail gadarn ar gyfer newidiadau a gwelliannau
K18 sut i asesu effeithiolrwydd dulliau mesur sicrhau ansawdd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhoi gwybodaeth a chyngor i helpu i ddatblygu strategaethau, polisïau, arferion a darpariaeth
ymgynghori
gall hyn gynnwys syniadau ysgrifenedig, llafar, ffurfiol, anffurfiol, cyfnewid syniadau a safbwyntiau, gwneud penderfyniadau, gwneud argymhellion ac awgrymu geiriad priodol ar gyfer polisïau a chynlluniau.
cyfathrebu
gall gynnwys cyfathrebu ag unigolion a grwpiau yn yr ysgol/cymuned, cydweithwyr y tu allan i'r sefydliad, arianwyr, grwpiau rheoli.
amcanion a dangosyddion perfformiad
sy'n feintiol, ansoddol.
Casglu a chyflwyno gwybodaeth i helpu i fonitro, adolygu a gwella sgoriau mesur
llwyddiant perfformiad
ffurfiol ac anffurfiol y tîm a'r sefydliad.
effeithiolrwydd
o ran ansawdd a maint.
gwaith y sefydliad
sef polisïau, nodau ac amcanion, cynlluniau, gweithdrefnau.
pobl berthnasol
gall gynnwys aelodau'r tîm, cydweithwyr sy'n gweithio ar yr un lefel, rheolwyr lefel uwch neu noddwyr, arbenigwyr.
Dolenni I NOS Eraill
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gwaith Ieuenctid lle mae'n ymddangos fel uned F1. Mae wedi'i deilwra i gyd-fynd â chyd-destunsector yr ysgolion ond mae modd ei throsglwyddo’n llawn.