Cysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n dod i gysylltiad â rhieni, gofalwyr a theuluoedd y disgyblion y maent yn gweithio gyda nhw. Mae'n cwmpasu cyfrifoldeb yr unigolyn i sicrhau uniondeb proffesiynol wrth gyfathrebu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd drwy gysylltiadau o fewn neu’r tu allan i’r ysgol.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â sefydlu a chynnal perthnasoedd a dulliau cyfathrebu effeithiol â rhieni, gofalwyr a theuluoedd am ofal ac addysg eu plant yn unol â chyfarwyddyd yr ysgol.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Sefydlu a chynnal perthynas â rhieni, gofalwyr a theuluoedd
- Hwyluso rhannu gwybodaeth rhwng yr ysgol a rhieni, gofalwyr a theuluoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sefydlu a chynnal perthynas â rhieni, gofalwyr a theuluoedd
P1 sefydlu a chynnal perthynas broffesiynol barchus a chefnogol gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd fel sy'n briodol i'ch rôl
P2 siarad â rhieni, gofalwyr ac aelodau eraill o'r teulu mewn ffordd sy'n dangos parch gan roi sylw dyledus i'w gwerthoedd, eu credoau a'u hawliau
P3 cyfathrebu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd o bryd i’w gilydd gan ddefnyddio dulliau y cytunwyd arnynt gan yr athro a/neu'r ysgol
P4 mabwysiadu dull agored a chroesawgar sy'n debygol o hyrwyddo ymddiriedaeth
P5 annog perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd
P6 dangos agwedd anfeirniadol sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn cydnabod gwahaniaethau diwylliannol, crefyddol ac ethnig bob amser wrth ryngweithio â rhieni, gofalwyr a theuluoedd
P7 rhoi hyder ynghylch gofal ac addysg eu plant wrth gysylltu a chyfathrebu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd
P8 rhoi gwybod i’r person perthnasol yn yr ysgol yn ddiymdroi am unrhyw anawsterau wrth gynnal perthynas waith effeithiol gyda rhieni, gofalwyr neu aelodau eraill o'r teulu
Hwyluso rhannu gwybodaeth rhwng yr ysgol a rhieni, gofalwyr a theuluoedd
P9 rhoi gwybodaeth gywir a pherthnasol i rieni, gofalwyr a theuluoedd:
P9.1 sy’n cyd-fynd â'ch rôl a'ch cyfrifoldeb yn yr ysgol
P9.2 y cytunwyd arni gyda'r athro
P9.3 sy’n cyd-fynd â gofynion cyfrinachedd y lleoliad
P9.4 a gyflwynir mewn iaith ddealladwy
P10 cyfeirio ceisiadau am wybodaeth y tu hwnt i'ch rôl a'ch cyfrifoldeb chi i'r bobl berthnasol yn yr ysgol
P11 cyfathrebu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd mewn ffordd sy'n briodol i'w hanghenion a'u dewisiadau
P12 gwneud yn siŵr bod yr amseru, y lleoliad a’r amgylchedd mor ffafriol â phosibl i allu cyfathrebu effeithiol
P13 gweithio gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd i oresgyn unrhyw wahaniaethau wrth gyfathrebu
P14 cydnabod eich teimladau, eich credoau a'ch gwerthoedd eich hun, a sut y gallai'r rhain effeithio ar y broses gyfathrebu
P15 cydnabod teimladau a dymuniadau rhieni, gofalwyr a theuluoedd a sut y gallai'r rhain effeithio ar y broses gyfathrebu
P16 cydnabod pan fydd angen help neu gyngor arnoch chi a gofyn amdano hyn gan ffynonellaupriodol
P17 annog rhieni, gofalwyr a theuluoedd i rannu gwybodaeth am eu plant i gynorthwyo'r ysgol i hyrwyddo eu cyflawniad a’u lles
P18 cadarnhau bod cyd-ddealltwriaeth o unrhyw ddeilliannau o'r broses gyfathrebu, gan gynnwys rhannu gwybodaeth ag eraill
P19 trosglwyddo gwybodaeth a roddir i chi gan rieni, gofalwyr ac aelodau eraill o'r teulu i'r aelod staff perthnasol yn yr ysgol lle bo’n briodol
P20 gwneud yn siŵr bod ceisiadau rhieni, gofalwyr ac aelodau eraill o'r teulu i weld athro yn cael eu trin yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r ysgol
P21 dilyn protocolau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer cofnodi, storio a rhannu gwybodaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisïau a gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer cyfathrebu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd
K2 polisi'r ysgol o ran cyfrinachedd gwybodaeth – pwy sydd â hawl i drosglwyddo pa wybodaeth ac i bwy
K3 protocolau a gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer cofnodi a rhannu gwybodaeth
K4 pwysigrwydd rôl ganolog rhieni, gofalwyr a theuluoedd o ran lles a datblygiad eu plant
K5 pwysigrwydd meithrin cysylltiad a pherthynas barchus, hyderus â rhieni, gofalwyr a theuluoedd a’r ffyrdd o wneud hyn
K6 amrywiadau o ran gwerthoedd ac arferion teuluol ar draws grwpiau diwylliannol a grwpiau eraill, a bod arferion hefyd yn amrywio o fewn grwpiau o'r fath, a sut i sefydlu perthynas â'r holl rieni, gofalwyr a theuluoedd
K7 manteision cyswllt dyddiol wrth sefydlu perthnasoedd effeithiol
K8 pwysigrwydd defnyddio enwau cywir a dulliau cyfarch wrth ddangos
parch tuag at unigolion
K9 y mathau o wybodaeth y cewch ei chyfathrebu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd yn rhinwedd eich rôl
K10 pwysigrwydd gweithio o fewn terfynau y cytunwyd arnynt sy'n briodol i'ch rôl a'ch cyfrifoldebau wrth gyfathrebu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd a phryd y dylech chi gyfeirio at eraill
K11 pwysigrwydd gweithio mewn ffordd hwylus ac sy’n galluogi, a sut i wneud hyn
K12 effeithiau amgylcheddau a chyd-destunau ar gyfathrebu (yn enwedig mewn lleoliadau sefydliadol)
K13 sut i adnabod gwahaniaethau ac anawsterau cyfathrebu, a nodi'r rhesymau posibl dros y rhain
K14 sut mae gwahaniaethau cyfathrebu yn effeithio ar y dulliau cyfathrebu rydych chi'n eu defnyddio
K15 yr anawsterau cyfathrebu y gall rhieni, gofalwyr a theuluoedd eu hwynebu oherwydd bod eu cefndir diwylliannol a’u hiaith yn wahanol i brif ddiwylliant ac iaith y lleoliad
K16 y mathau o ysgogiadau di-eiriau y mae pobl yn eu rhoi wrth gyfathrebu (e.e. mynegiant yr wyneb, tôn y llais, iaith y corff) a'r ffordd y mae gwahanol ddiwylliannau yn defnyddio a dehongli iaith y corff mewn gwahanol ffyrdd
K17 y ffyrdd y gellir addasu a newid dulliau cyfathrebu ar gyfer gwahanol anghenion, cyd-destunau a chredoau, gan gynnwys dealltwriaeth rhieni, gofalwyr a theuluoedd a’u dewisiadau cyfathrebu
K18 pwysigrwydd cydnabod eich teimladau, eich credoau a'ch gwerthoedd eich hun a rhai pobl eraill yn rhan o'r broses gyfathrebu
K19 sut y gellir camddehongli ffyrdd o gyfathrebu a phwysigrwydd gwneud eu siŵr eu bod yn eich deall
K20 y rhesymau pam y gall cyfathrebu fethu â datblygu neu ddod i ben
K21 y mathau o anawsterau a allai godi wrth gyfathrebu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd, a phwy y dylid ddylai gael gwybod amdanynt
K22 y mathau o wybodaeth a roddir gan rieni, gofalwyr a theuluoedd y dylid ei throsglwyddo i eraill yn yr ysgol, a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hyn
K23 pwysigrwydd cadarnhau deilliannau'r broses gyfathrebu, gan gynnwys y wybodaeth sydd i'w rhannu ag eraill, a sut i wneud hyn
K24 polisïau a gweithdrefnau ysgolion o ran y mynediad sydd gan rieni, gofalwyr neu aelodau eraill o'r teulu i staff addysgu, gan gynnwys y prifathro neu’r pennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfathrebu
rhannu gwybodaeth, syniadau, safbwyntiau ac emosiynau ag eraill drwy ddulliau siarad, ysgrifennu, arwyddion, symbolau, cyffwrdd, gweithredoedd, iaith y corff neu ddefnyddio cyfarpar. Yng nghyd-destun yr uned hon, gall cyfathrebu fod yn:
1. ysgrifenedig
1.1. ar bapur
1.2. electronig
1.3. neges destun.
2. ar lafar
2.1. wyneb yn wyneb
2.2. dros y ffôn.
3. iaith arwyddion
4. di-eiriau.
Gwahaniaethau cyfathrebu
gwahaniaethau rhwng unigolion a allai eu hatal rhag cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd. Gall gwahaniaethau cyfathrebu ymwneud â’r canlynol:
- iaith
- amhariad ar y synhwyrau
- amhariad iaith, lleferydd neu gyfathrebu
- galluoedd gwybyddol
- cyflwr emosiynol
- gwahaniaethau diwylliannol.
Cyfrinachedd
rhoi gwybodaeth i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i’w derbyn yn unig.
Cysylltu
Rhyngweithio â rhieni, gofalwyr a theuluoedd a allai fod:
- wyneb yn wyneb (e.e. pan fydd rhieni'n mynd â’u plant i’r ysgol ac yn eu casglu, cwrdd â rhieni mewn lleoliadau cymdeithasol y tu mewn neu'r tu allan i'r ysgol)
- dros y ffôn (e.e. pan fydd disgyblion yn anghofio dychwelyd ffurflenni ymateb)
- yn ysgrifenedig (e.e. sylwadau a wneir mewn dyddiaduron gwaith cartref, cylchlythyrau).
Rhieni
mae rhieni'n cynnwys mamau a thadau.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL4 Cyfrannu at berthnasoedd cadarnhaol
TDASTL20 Datblygu a hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol