Cynorthwyo gweithgareddau llythrennedd a rhifedd

URN: TDASTL6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon? 
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau llythrennedd a rhifedd. Mae'n cwmpasu'r cymorth a roddir i ddisgyblion i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cyfrannu at weithgareddau dysgu, a chael budd ohonynt, ac sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo llythrennedd neu ddatblygiad rhifedd.

Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro i helpu disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ar gyfer dosbarth cyfan, grwpiau ac unigolion i ddatblygu llythrennedd/rhifedd. Mae'n golygu trafod gyda'r athro sut bydd y gweithgareddau dysgu yn cael eu trefnu, a beth fydd eich rôl benodol, rhoi'r cymorth y cytunwyd arno a rhoi adborth i'r athro am ba mor dda aeth y gweithgareddau a beth oedd ymateb y disgybl(ion).
 
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

  1. Cynorthwyo disgyblion gyda gweithgareddau i ddatblygu sgiliau llythrennedd
  2. Cynorthwyo disgyblion gyda gweithgareddau datblygu sgiliau rhifedd.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynorthwyo disgyblion gyda gweithgareddau i ddatblygu sgiliau llythrennedd
P1 cael gwybodaeth gan yr athro am:
P1.1 amcanion dysgu ac addysgu'r gweithgaredd
P1.2 anghenion llythrennedd y disgyblion y byddwch yn gweithio gyda nhw
P1.3 targedau dysgu unigol ar gyfer y disgyblion
P1.4 eich rôl wrth gynorthwyo'r gweithgaredd dysgu
P2 cynorthwyo disgyblion mewn gweithgareddau i ddatblygu eu:
P2.1 sgiliau darllen
P2.2 sgiliau ysgrifennu
P2.3 sgiliau siarad a gwrando
P3 cynnig y mathau gofynnol o gymorth pan fo eu hangen ar y disgyblion
P4 rhoi anogaeth ac adborth gan ddefnyddio iaith a geirfa y mae'r disgyblion yn debygol o'u deall
P5 gofyn am gymorth os ydych yn cael anawsterau wrth gynorthwyo'r gweithgaredd dysgu fel y cynlluniwyd.
P6 rhoi adborth perthnasol i'r athro ynghylch:
P6.1 cynnydd y gweithgaredd
P6.2 ymateb y disgyblion i'r gweithgaredd
P6.3 cynnydd o ran cyrraedd targedau dysgu

Cynorthwyo disgyblion gyda gweithgareddau datblygu sgiliau rhifedd
P7 cael gwybodaeth gan yr athro am:
P7.1 amcanion dysgu ac addysgu'r gweithgaredd
P7.2 anghenion rhifedd y disgyblion y byddwch yn gweithio gyda nhw
P7.3 targedau dysgu unigol ar gyfer y disgyblion
P7.4 Eich rôl wrth gynorthwyo'r gweithgaredd dysgu
P8 cynorthwyo disgyblion mewn ystod o weithgareddau i ddatblygu sgiliau rhifedd gwahanol fel y'u
diffinnir gan y cwricwlwm neu'r fframwaith perthnasol ar gyfer eich gwlad
P9 cynnig y mathau gofynnol o gymorth pan fo eu hangen ar y disgyblion
P10 yn rhoi anogaeth ac adborth gan ddefnyddio iaith a geirfa y mae'r disgyblion yn debygol o'u deall
P11 defnyddio geirfa fathemategol briodol ac annog disgyblion i’w defnyddio
P12 gofyn am gymorth os ydych yn cael anawsterau wrth gynorthwyo'r gweithgaredd dysgu fel y cynlluniwyd
P13 rhoi adborth perthnasol i'r athro ynghylch:
P13.1   cynnydd y gweithgaredd
P13.2 ymateb y disgyblion i'r gweithgaredd
P13.3 cynnydd o ran cyrraedd targedau dysgu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 polisïau'r ysgol ar gyfer mathemateg a Saesneg, Cymraeg neu iaith fel sy'n briodol i'r lleoliad
K2 y sgiliau llythrennedd a rhifedd a ddisgwylir gan y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K3 sut mae disgyblion yn datblygu sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando, a'r ffactorau sy'n hyrwyddo ac yn rhwystro dysgu effeithiol
K4 y defnydd rhyngweithiol o siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu i hyrwyddo datblygiad llythrennedd ymhlith disgyblion
K5 sut mae disgyblion yn datblygu sgiliau mathemategol, a'r ffactorau sy'n hyrwyddo ac yn rhwystro dysgu effeithiol
K6 natur unrhyw anghenion addysgol arbennig neu anghenion cymorth ychwanegol sydd gan y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw a goblygiadau'r rhain i'w helpu i ddatblygu:
K6.1 sgiliau iaith a llythrennedd
K6.2 gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mathemategol
K7 sut i annog a chynorthwyo disgyblion dwyieithog i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd
K8 y strategaethau a'r adnoddau a ddefnyddir yn eich ysgol i ddatblygu disgyblion:
K8.1 sgiliau darllen
K8.2 sgiliau ysgrifennu
K8.3 sgiliau siarad a gwrando
K8.4 gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mathemategol
K9 sut i ddefnyddio canmoliaeth a chymorth i gynnal diddordeb y disgyblion a’u brwdfrydedd dros ddeall a defnyddio'r ystod lawn o sgiliau llythrennedd a rhifedd
K10 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gynorthwyo gweithgareddau llythrennedd a rhifedd gydag unigolion a grwpiau
K11 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch gallu a phryd y dylech gyfeirio at eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Llythrennedd
mae llythrennedd yn uno sgiliau pwysig darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.



Rhifedd
hyfedredd sy'n cynnwys hyder a chymhwysedd gyda rhifau a dulliau mesur. Mae angen dealltwriaeth o'r system rifau, nifer o sgiliau cyfrifiadurol a thueddiad a'r gallu i ddatrys problemau rhifedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae rhifedd hefyd yn golygu bod angen dealltwriaeth ymarferol o'r ffyrdd y mae gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy gyfrif a mesur, ac fe'i cyflwynir mewn graffiau, diagramau a thablau.



Cymorth
defnyddio strategaethau a thechnegau ar gyfer hyrwyddo dysgu disgyblion, er enghraifft:

  1. annog disgyblion swil neu amharod
  2. cyfieithu geiriau ac ymadroddion neu eu hesbonio
  3. atgoffa disgyblion o bwyntiau addysgu a wnaed gan yr athro
  4. modelu'r defnydd cywir o iaith a geirfa
  5. gwneud yn siŵr bod disgyblion yn deall ac yn dilyn cyfarwyddiadau'r athro
  6. helpu disgyblion i ddefnyddio adnoddau sy'n berthnasol i'r gweithgaredd dysgu.



Disgyblion
y disgyblion rydych chi'n gweithio gyda nhw wrth iddynt weithio:

  1. ar eu pennau eu hunain
  2. mewn grwpiau bychain
  3. yn rhan o grŵp dosbarth.

Dolenni I NOS Eraill

TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL2 Cynorthwyo datblygiad plant
TDASTL10 Cynorthwyo chwarae a dysgu plant
TDASTL11 Cyfrannu at gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL25 Cynorthwyo datblygiad llythrennedd
TDASTL26 Cynorthwyo datblygiad rhifedd
TDASTL33 Rhoi cymorth llythrennedd a rhifedd i alluogi disgyblion i gael mynediad i'r cwricwlwm ehangach


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL6

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau