Hebrwng a goruchwylio disgyblion ar ymweliadau addysgol a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol

URN: TDASTL59
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n hebrwng ac yn goruchwylio disgyblion ar deithiau addysgol a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol, e.e. cludiant o'r cartref-i'r-ysgol, teithio yng nghwmni plant rhwng lleoliadau addysgol fel grŵp chwarae ac ysgol neu ysgol a choleg, ymweliadau diwylliannol, astudiaethau maes, neu brosiectau cymunedol.

Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chynnal iechyd, diogelwch a lles disgyblion pan maent y tu allan i leoliad yr ysgol.

Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

  1. Hebrwng disgyblion ar ymweliadau ac ar weithgareddau y tu allan i'r ysgol
  2. Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Hebrwng disgyblion ar ymweliadau ac ar weithgareddau y tu allan i'r ysgol
P1     casglu'r wybodaeth angenrheidiol am y disgyblion i’w hebrwng
P2     gwneud yn siŵr bod pawb sy'n cymryd rhan yn ymwybodol o’r trefniadau
P3     gwneud yn siŵr eich bod chi, a staff eraill os yw'n briodol, yn y man cyfarfod ar yr amser y cytunwyd arno ac yn cyfarch y disgyblion yn gynnes
P4     hebrwng y disgyblion mewn modd diogel gan ddefnyddio'r llwybr a'r dull cludo y cytunwyd arnynt
P5     gwneud yn siŵr bod y disgyblion yn cyrraedd y cyrchfan ar amser ac yn mynd i mewn i'r lleoliad perthnasol yn ddiogel
P6      cyflawni'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer disgyblion nad ydynt yn y man cyfarfod y cytunwyd arno

Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau ac ar weithgareddau y tu allan i'r ysgol
P7     sicrhau bod eich gwybodaeth am drefniadau teithio yn gyfredol ac yn gywir
P8     gwneud yn siŵr bod y disgyblion yn barod ar gyfer yr ymweliad neu’r gweithgaredd y tu allan i'r ysgol
P9     gwneud yn siŵr bod yr holl ffurflenni caniatâd wedi’u cwblhau
P10   cynnal diogelwch cyfarpar ac eiddo yn ystod yr ymweliad neu’r gweithgaredd y tu allan i'r ysgol
P11   cynnal diogelwch, lles ac ymddygiad derbyniol y disgyblion yn ystod yr ymweliad neu'r gweithgaredd y tu allan i'r ysgol
P12   gwneud yn siŵr bod cyfarpar cymorth cyntaf yn gyflawn ac yn bodloni gofynion sefydliadol a chyfreithiol
P13   gwneud yn siŵr bod y nifer cywir o ddisgyblion yn atebol drwy gydol yr
ymweliad neu’r gweithgaredd y tu allan i’r ysgol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1     y prif ffactorau i'w hystyried wrth drefnu teithio, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â diogelwch a diogeledd y rhai sy’n cymryd rhan
K2     gwerth gwahanol gyd-destunau dysgu, (e.e. o dan do, yn yr awyr agored, ymweliadau)
K3     trefniadau teithio sy'n briodol i ystod y disgyblion, ystod y teithiau a'r mathau o raglen yr ydych yn ymwneud â hi
K4     pwysigrwydd rhoi gwybodaeth gyfredol a chywir i ddisgyblion, rhieni a gofalwyr, a staff/cynorthwywyr eraill am drefniadau teithio mewn da bryd a beth all fynd o'i le os na wneir hyn
K5     y paratoadau y byddai'n rhaid i ddisgyblion ac aelodau staff eu gwneud ar gyfer teithiau o wahanol fath a hyd
K6     beth allai ddigwydd mewn teithiau i wahanol fath a hyd a pha gynlluniau i'w gwneud i ystyried y rhain
K7     y gofynion sefydliadol a chyfreithiol sy'n llywodraethu trefniadau teithio i ddisgyblion
K8     pam mae angen casglu'r wybodaeth gywir a chyfredol am ddisgyblion i'w hebrwng
K9     gweithdrefn yr ysgol ar gyfer hebrwng disgyblion y tu allan i'r ysgol yn ddiogel
K10   pam mae’n bwysig bod yn y man cyfarfod dynodedig ar amser
K11   pwysigrwydd cyfarchiad croesawgar i bob disgybl
K12   pwysigrwydd defnyddio'r llwybr dynodedig
K13   sut i helpu i gynllunio'r llwybr mwyaf diogel a pha ffactorau y dylid eu hystyried
K14   yr hyn y gallwch ei wneud i wneud yn siŵr bod disgyblion yn mynd i mewn i leoliad y gyrchfan yn ddiogel
K15   y gofynion sefydliadol a chyfreithiol ar gyfer hebrwng disgyblion a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat
K16   pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod y disgyblion yn cyrraedd ac yn gadael yn ddiogel ac ar amser a pha gamau y gallwch eu cymryd i gyflawni hyn
K17   pwysigrwydd sicrhau diogelwch a lles disgyblion yn ystod y daith a sut i wneud hynny
K18   y mathau o ymddygiad y dylech eu hosgoi yn ystod eich ymweliad neu’r gweithgaredd y tu allan i'r ysgol
K19   sut i gynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar, eiddo a dogfennau teithio yn ystod y daith
K20   technegau trin a storio diogel
K21   gofynion trefniadol a chyfreithiol o ran cyflwr cerbydau a’u rheoli
K22   y mathau o anawsterau a allai godi yn ystod y daith a sut i ddelio â'r rhain
K23   canllawiau ac arfer da sy’n gysylltiedig â chynnal ymweliadau addysgol a gweithgareddau y tu allan o’r ysgol
K24   cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd gwneud hynny


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dulliau cludiant
gellir teithio ar droed neu ar gludiant preifat neu gyhoeddus.



Gweithgareddau y tu allan i'r ysgol
yn cynnwys unrhyw weithgaredd oddi ar y safle sy'n cynnwys disgyblion, megis prosiectau yn y gymuned, astudiaethau maes, ymweliadau diwylliannol, chwaraeon, hamdden a gweithgareddau awyr agored.



Ymweliadau
ymweliadau y tu allan i'r ysgol, a allai gynnwys:

  1. cludiant o’r cartref i’r ysgol
  2. gwibdeithiau lleol
  3. teithiau preswyl
  4. ymweliadau tramor.

Dolenni I NOS Eraill

TDASTL3  Helpu i gadw plant yn ddiogel TDASTL58 Trefnu a goruchwylio teithio

Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o uned PW5, Hebrwng a goruchwylio plant a phobl ifanc y tu allan i'r lleoliad chwarae, o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gwaith Chwarae. Fodd bynnag, mae'r uned hon wedi'i newid i ddileu cyfeiriadau at leoliadau chwarae ac i adlewyrchu cyd-destun gweithio yn y sector ysgolion ac ni ellireu trosglwyddo’n uniongyrchol.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

PW5

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau