Trefnu a goruchwylio teithio
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n trefnu teithio sy'n cynnwys plant a phobl ifanc o dan oruchwyliaeth oedolion, e.e. ar gyfer teithio o'r cartref-i'r-ysgol, ymweliadau addysgol, astudiaethau maes neu gemau chwaraeon.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â threfnu a goruchwylio teithio i blant, pobl ifanc ac oedolion. Gall teithio fod 'wedi ei bweru eich hun', e.e. ar droed neu ar feic, mewn cerbyd sy'n eiddo neu'n cael ei logi, neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Gwneud trefniadau teithio
- Goruchwylio teithio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwneud trefniadau teithio
P1 cynllunio trefniadau teithio sy'n briodol i ofynion y siwrnai ac anghenion y rhai sy’n cymryd rhan
P2 cynllunio trefniadau teithio sy'n cydbwyso effeithlonrwydd, cost-effeithiolrwydd, cyfforddusrwydd a’r effaith ar yr amgylchedd
P3 cynllunio ar gyfer argyfyngau tebygol
P4 cynllunio trefniadau teithio sy'n ddiogel ac yn ystyried yr amodau tebygol yn ystod y daith
P5 rhoi gwybodaeth glir, gywir a chyfredol i'r rhai sy’n cymryd rhan a'r aelodau staff am y trefniadau teithio mewn da bryd
P6 gwneud yn siŵr bod y rhai sy’n cymryd rhan a'r staff yn barod ar gyfer y daith
P7 dilyn yr holl ofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer y daith
Goruchwylio teithio
P8 cymryd camau rhesymol i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n cymryd rhan yn cyrraedd ac yn ymadael ar amser
P9 cynnal diogelwch y rhai sy’n cymryd rhan yn ystod y daith
P10 gwneud yn siŵr bod cyfarpar, eiddo ac unrhyw ddogfennau teithio yn ddiogel yn ystod y daith
P11 goruchwylio'r modd y mae cyfarpar ac eiddo yn cael eu trin er mwyn osgoi anaf a difrod
P12 cymryd camau rhesymol i wneud yn siŵr bod cerbydau ac atodiadau o dan eich rheolaeth, a bod eich rheolaeth o'r cerbydau hyn yn cydymffurfio â gofynion sefydliadol a chyfreithiol
P13 delio ag unrhyw anawsterau yn ystod y daith mewn ffordd sy'n cynnal diogelwch, diogeledd, cyfforddusrwydd ac ewyllys da y rhai sy’n cymryd rhan
P14 cadw cofnodion gofynnol yn gywir ac yn gyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 y prif ffactorau i'w hystyried wrth drefnu teithio, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â diogelwch a diogeledd y rhai sy’n cymryd rhan
K2 yr adnoddau a’r trefniadau a allai fod eu hangen ar gyfer pobl anabl
K3 trefniadau teithio sy'n briodol i ystod y rhai sy’n cymryd rhan, yr ystod o deithiau a'r mathau o raglenni yr ydych chi’n cymryd rhan ynddynt
K4 pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod trefniadau teithio yn ystyried yr amodau tebygol a sut mae’r amodau tebygol yn gallu effeithio ar y mathau o trefniadau
K5 pwysigrwydd rhoi gwybodaeth gyfredol a chywir i’r rhai sy’n cymryd rhan a staff eraill am drefniadau teithio mewn da bryd a beth all fynd o'i le os na wneir hyn
K6 y paratoadau y byddai'n rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan a’r aelodau staff eu gwneud ar gyfer yr ystod o deithiau
K7 beth allai ddigwydd yn yr ystod o deithiau a’r cynlluniau a restrir a pha gynlluniau i'w gwneud i ystyried y rhain
K8 y gofynion sefydliadol a chyfreithiol sy'n llywodraethu trefniadau teithio i’r rhai sy’n cymryd rhan
K9 pa gamau i'w cymryd i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n cymryd rhan yn cyrraedd ac yn gadael yn ddiogel ac ar amser
K10 pwysigrwydd sicrhau diogelwch a lles y rhai sy’n cymryd rhan yn ystod y daith a sut i wneud hynny
K11 y mathau o ymddygiad i beidio â’i annog yn ystod y mathau o deithiau a restrir, a sut i wneud hynny gydag ystod y rhai sy’n cymryd rhan a restrir
K12 sut i gynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar, eiddo a dogfennau teithio yn ystod y mathau o deithiau a restrir
K13 technegau trin a storio diogel
K14 gofynion trefniadol a chyfreithiol o ran cyflwr cerbydau a’u rheoli
K15 y mathau o anawsterau a allai godi yn ystod y daith a sut i ddelio â'r rhain
K16 canllawiau ac arfer da o ran parcio cerbydau
K17 cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd gwneud hynny
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwneud trefniadau teithio
1. trefniadau teithio
1.1. dull o deithio
1.2. llwybr
1.3. amseroedd cyrraedd a gadael
1.4. camau yn y daith
1.5. bwyd a diod
1.6. cyfforddusrwydd a hylendid
1.7. llety dros nos
1.8. goruchwylio a chynorthwyo
1.9. cludo cyfarpar ac eiddo
2. teithiau
2.1. pweru eich hun
2.2. mewn cerbyd sefydliad/wedi’i logi
2.3. trafnidiaeth gyhoeddus
Y rhai sy’n cymryd rhan
2.4. oedolion
2.5. plant a phobl ifanc
2.6. pobl ag anghenion penodol ar gyfer teithio
Goruchwylio teithio
3. teithiau
3.1. pweru eich hun
3.2. mewn cerbyd sefydliad/wedi’i logi
3.3. trafnidiaeth gyhoeddus
4. y rhai sy’n cymryd rhan
4.1. oedolion
4.2. plant a phobl ifanc
4.3. pobl ag anghenion penodol ar gyfer teithio
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Plant a phobl ifanc
plant a phobl ifanc anabl a heb anabledd rhwng 4 ac 16 oed, gan gynnwys genethod a bechgyn o bob diwylliant a chefndir.
Cynlluniau wrth gefn
pethau a allai fynd o'i le, e.e. tywydd gwael, damweiniau, staff yn methu mynd yn ôl y disgwyl, ac ati.
Pobl anabl
pobl ag amhariadau sy'n wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at gyfleusterau prif ffrwd. Mae hyn yn cynnwys pobl ag amhariadau corfforol ac ar y synhwyrau, anawsterau dysgu a chyfathrebu, cyflyrau meddygol, neu anghenion heriol a chymhleth, a allai fod yn barhaol neu dros dro.
Pweru eich hun
e.e. ar droed neu ar feic neu ganŵ.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL59 Hebrwng a goruchwylio disgyblion ar ymweliadau addysgol ac ar weithgareddau y tu allan i'r ysgol
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a ddatblygwyd gan SkillsActive lle mae'n ymddangos fel uned B228.