Trefnu staff cyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n trefnu staff i gyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol o ddydd i ddydd. Bydd y trefniant cyflenwi yn un tymor byr ac yn cyd-fynd â'r polisi, y rheoliadau a'r côd ymarfer sy'n berthnasol i'ch gwlad a'ch gweithle.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â threfnu staff cyflenwi pan fydd athro neu gydweithiwr staff cynorthwyol sydd fel arfer yn gyfrifol am addysgu neu gynorthwyo dosbarth penodol yn absennol o'r ystafell ddosbarth yn ystod yr amser y maent wedi'u hamserlennu i addysgu/cynorthwyo. Mae hyn yn cynnwys absenoldeb y gwyddys amdano ymlaen llaw (e.e. pan fo gan gydweithiwr apwyntiad meddygol neu’n datblygu’n broffesiynol) ac absenoldeb annisgwyl (e.e. oherwydd salwch).
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Trefnu staff cyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol
- Monitro ac adolygu trefniadau cyflenwi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Trefnu staff cyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol
P1 cadw cofnodion cywir a diweddar o absenoldeb hysbys cydweithiwr
P2 rhoi gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar waith ar gyfer derbyn a chofnodi hysbysiad o absenoldeb annisgwyl
P3 cadarnhau trefniadau cyflenwi gyda’r person priodol a gofyn am eglurhad, lle bo angen, ar unrhyw bwyntiau a materion eraill
P4 nodi pobl i gyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol yn unol â pholisi cyflenwi’r ysgol
P5 dyrannu rolau cyflenwi i unigolion yn deg, gan ystyried eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, eu profiad a'u llwyth gwaith
P6 cadarnhau bod y bobl briodol ar gael i gyflenwi ar gyfer dosbarthiadau yn ôl yr angen
P7 hysbysu'r person priodol os bydd anawsterau wrth drefnu staff cyflenwi ar gyfer unrhyw ddosbarth neu grŵp o ddisgyblion
P8 rhoi gwybod i bobl berthnasol am yr angen i roi gwaith priodol i ddisgyblion sy'n cael eu goruchwylio, gan roi manylion llawn am y dosbarth neu'r dosbarthiadau dan sylw ac am ba hyd y bydd angen iddynt gyflenwi
P9 rhoi gwybodaeth am drefniadau cyflenwi yn unol â gweithdrefnau’r ysgol
P10 rhoi gwybodaeth glir, gywir a chyflawn i'r rhai sy'n cyflenwi yn ôl yr angen er mwyn iddynt weithio'n effeithiol
P11 cynnig cymorth a chyngor i'r rhai sy'n cyflenwi pan fyddant yn gofyn am hynny, a phan fydd hyn yn cyd-fynd â'ch cyfrifoldebau eraill
P12 cadw cofnodion cywir a chyfredol o drefniadau cyflenwi yn unol â gweithdrefnau’r ysgol y cytunwyd arnynt
Monitro ac adolygu trefniadau cyflenwi
P13 gwirio cynnydd ac ansawdd y trefniadau cyflenwi yn rheolaidd yn erbyn safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig
P14 rhoi adborth prydlon ac adeiladol i'r rhai sy'n ymwneud â chyflenwi
P15 cynorthwyo'r rhai sy'n cyflenwi wrth nodi a delio ag unrhyw problemau
P16 ymgynghori â'r holl bobl berthnasol ynghylch effeithiolrwydd trefniadau cyflenwi
P17 nodi a rhannu gwybodaeth am gyfleoedd i wella trefniadau cyflenwi mewn modd adeiladol
P18 gweithio gyda phawb dan sylw i gytuno ar welliannau i drefniadau cyflenwi a’u rhoi ar waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisi cyflenwi’r ysgol
K2 deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer sy'n ymwneud â threfniadau cyflenwi mewn ysgolion
K3 pwysigrwydd cadarnhau/egluro'r gwaith cyflenwi sy'n ofynnol gyda'r person priodol a sut i wneud hyn yn effeithiol
K4 pa aelodau staff y dylech fynd atynt, ac ar ba adeg, i gyflenwi
K5 pam mae’n bwysig dyrannu gwaith cyflenwi yn deg a sut i wneud hynny
K6 pwysigrwydd gwneud yn siŵr nad yw elfennau eraill o swydd yr unigolyn yn dioddef o ganlyniad i’r gofyniad i gyflenwi
K7 y cyfyngiadau ar faint o waith cyflenwi y gellir ei ddisgwyl gan wahanol aelodau staff fel arfer
K8 y gwahaniaeth mewn goruchwylio a gwaith cyflenwi penodedig a phwy o fewn a’r tu allan i’r ysgol y gallwch alw arnynt i wneud hyn yn ôl y galw
K9 pryd a sut i ofyn i staff gyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol a'ch rôl wrth wneud y trefniadau cyflenwi
K10 i bwy y dylech chi roi gwybod am unrhyw anawsterau wrth wneud trefniadau cyflenwi
K11 pwy dylech fynd ato i gael gwaith priodol ar gyfer disgyblion sy'n cael eu goruchwylio
K12 pam mae’n bwysig briffio pobl ar y gwaith cyflenwi a ddyrannwyd iddynt; pa wybodaeth sydd ei hangen arnynt a sut i roi'r wybodaeth hon
K13 y mathau o sefyllfaoedd lle gall fod angen help a chyngor ar y rhai sy'n cyflenwi ar gyfer dosbarthiadau a sut y dylech ymateb i'r rhain
K14 ffyrdd effeithiol o wirio cynnydd ac ansawdd trefniadau cyflenwi yn rheolaidd ac yn deg
K15 sut i roi adborth prydlon ac adeiladol i'r rhai sy'n cyfrannu at drefniadau cyflenwi
K16 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gyflenwi a sut i gynorthwyo pobl i ddelio â'r rhain
K17 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech gyfeirio at eraill
K18 pwysigrwydd ymgynghori ag ystod eang o ddiddordebau, gan gynnwys disgyblion os yw'n briodol, ar effeithiolrwydd trefniadau cyflenwi
K19 sut i gynnig awgrymiadau a syniadau ar gyfer gwella trefniadau cyflenwi mewn modd adeiladol
K20 pwysigrwydd cadw cofnodion cywir a chyflawn o ofynion cyflenwi a threfniadau a wneir i fodloni'r rhain, a gweithdrefnau'r ysgol ar gyfer hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Absenoldeb
efallai y gwyddys amdano ymlaen llaw (e.e. pan fo gan gydweithiwr apwyntiad meddygol neu’n datblygu’n broffesiynol) neu absenoldeb annisgwyl (e.e. oherwydd salwch).
Person priodol
caiff hyn ei ddiffinio mewn gweithdrefnau sefydliadol ac mae'n debygol o fod yn oruchwyliwr neu'n rheolwr llinell.
Cydweithwyr
staff addysgu neu gynorthwyol sydd wedi'u hamserlennu i addysgu/cynorthwyo grwpiau o disgyblion.
Cyflenwi
Mae'r term 'cyflenwi' yn cyfeirio at unrhyw achlysur lle mae cydweithiwr sydd fel arfer yn gyfrifol am addysgu neu gynorthwyo dosbarth penodol yn absennol o'r ystafell ddosbarth yn ystod yr amser y mae wedi'i amserlennu i addysgu/cynorthwyo.
Pobl i gyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol
bydd y bobl sydd ar gael i gyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol yn dibynnu ar y polisi, y rheoliadau a'r côd ymarfer sy'n berthnasol i'ch gwlad a'ch gweithle, a gall y rhain gynnwys:
- staff cyflenwi a gyflogir gan yr ysgol
- staff cymorth sy'n gwneud gwaith cyflenwi goruchwyliol yn rhan o rôl ehangach
- staff cyflenwi
- staff addysgu (o fewn terfynau y cytunwyd arnynt i gyflenwi ar gyfer athrawon absennol).