Monitro a chynnal adnoddau’r cwricwlwm
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n monitro ac yn cynnal adnoddau'r cwricwlwm i gynorthwyo addysgu a dysgu.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â monitro a chynnal adnoddau i gynorthwyo’r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm. Mae'n golygu gweithio gydag athrawon a phobl berthnasol eraill i nodi'r adnoddau sydd eu hangen, cynnal cyflenwadau adnoddau, a chynnal a chadw a glanhau adnoddau yn rheolaidd. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys y swyddogaethau technegol arbenigol a gyflawnir gan dechnegwyr, llyfrgellwyr a gweithwyr proffesiynol technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), sy'n cael eu cynnwys mewn setiau gwahanol o safonau galwedigaethol cenedlaethol.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Monitro a chynnal cyflenwadau adnoddau’r cwricwlwm
- Trefnu a chynnal adnoddau’r cwricwlwm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Monitro a chynnal cyflenwadau adnoddau'r cwricwlwm
P1 cysylltu ag athrawon ynglŷn â'u cynlluniau gwersi a'r adnoddau a ragwelir y bydd eu hangen
P2 sefydlu gofynion clir ar gyfer ystod a maint adnoddau'r cwricwlwm sydd eu hangen i gynorthwyo'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm yn eich maes cyfrifoldeb
P3 egluro a chadarnhau unrhyw ofynion penodol mewn perthynas â'r adnoddau sy’n ofynnol
P4 gwirio stoc yn rheolaidd i fonitro adnoddau a gwneud yn siŵr eu bod ar gael
P5 gwerthuso ystod o adnoddau a chyflenwyr posibl i fodloni gofynion yn y dyfodol
P6 nodi'r adnoddau sy'n rhoi'r gwerth gorau o ran addasrwydd, cost a gofynion sefydliadol
P7 gwneud yn siŵr bod yr adnoddau hyn yn bodloni gofynion penodol defnyddwyr
P8 cael yr awdurdodiad cywir i brynu adnoddau
P9 archebu’r stoc gofynnol yn unol â gweithdrefnau’r ysgol P10 olrhain a chofnodi archebion a danfoniadau adnoddau
P11 cymryd camau priodol mewn ymateb i unrhyw problemauo ran y danfoniadau
P12 cadw cofnodion cywir o stoc drwy ddefnyddio'r ddogfennaeth briodol
P13 nodi unrhyw ddiffygion o ran argaeledd adnoddau a rhoi gwybod i bobl berthnasol am hyn
P14 rhoi gwybod i bobl berthnasol am argaeledd stoc a sut i gael gafael ar adnoddau
Trefnu a chynnal adnoddau’r cwricwlwm
P15 storio stoc yn ddiogel, gan wneud yn siŵr bod stoc yn cael ei gylchdroi’n effeithiol lle bo’n briodol
P16 gwneud yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth angenrheidiol am ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a’r ysgol, yn ogystal â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
P17 cadw rhestr gyflawn a chywir o’r adnoddau yr ydych yn gyfrifol amdanynt
P18 cynnal a chofnodi archwiliadau rheolaidd o adnoddau yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a sefydliadol
P19 glanhau a chynnal a chadw adnoddau yn rheolaidd yn unol â gofynion yr ysgol a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr lle bo’n berthnasol
P20 gwneud yn siŵr bod ansawdd a maint yr adnoddau yn cael eu cynnal
P21 rhoi gwybod i bobl berthnasol pan fydd problem o ran cynnal a chadwadnoddau sydd y tu allan i’ch maes cyfrifoldeb neugymhwysedd
P22 paratoi adnoddau i'w defnyddio fel y gofynnir amdanynt gan bobl awdurdodedig
P23 gwneud yn siŵr bod defnyddwyr yn ymwybodol o ganllawiau iechyd a diogelwch perthnasol wrth gyflwyno adnoddau
P24 gwaredu gwastraff ac adnoddau diangen yn ddiogel a gwneud y defnydd gorau posibl o gyfleoedd i ailgylchu deunyddiau a chyfarpar
P25 gweithio'n ddiogel bob amser, gan gydymffurfio â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
P26 monitro'r galw am adnoddau a'u defnyddio i nodi meysydd ar gyfer gwella ansawdd, cyflenwad ac addasrwydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisi a gweithdrefnau'r ysgol ar gyfer cael adnoddau'r cwricwlwm a’u cynnal
K2 yr ystod o adnoddau'r cwricwlwm yr ydych yn gyfrifol amdanynt, eu nodweddion a'u defnyddiau
K3 unrhyw ofyniad cyfreithiol a rheoleiddiol ar gyfer defnyddio, storio a/neu gynnal yr adnoddau yr ydych yn gyfrifol amdanynt
K4 gofynion yr ysgol ar gyfer storio a diogeledd adnoddau’r cwricwlwm
K5 ble i gael gwybodaeth a chyngor am adnoddau'r cwricwlwm, cyflenwyr, ac am sut i ddefnyddio, cynnal a gwella adnoddau
K6 sut i bennu ystod, maint a gofynion penodol adnoddau'r cwricwlwm sydd eu hangen
K7 sut i werthuso’r adnoddau a’r cyflenwyr sydd ar gael drwy ddefnyddio meini prawf y cytunwyd arnynt
K8 sut i gofnodi gwybodaeth am yr adnoddau a'r ffynonellau sydd ar gael
K9 gofynion yr ysgol ar gyfer rhoi awdurdodi i brynu adnoddau’r cwricwlwm
K10 pam a sut y dylech chi weithio i amserlenni a chyllideb y cytunwyd arnynt ar gyfer cyflenwi adnoddau
K11 gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer archebu deunyddiau a chyfarpar
K12 sut i olrhain archebion a danfoniadau a pham mae’n bwysig gwneud hynny
K13 pa gamau y dylech chi eu cymryd mewn ymateb i broblemau o ran danfoniadau, e.e. eitemau nad ydych chi’n eu derbyn, eitemau ar goll, eitemau sydd wedi'u difrodi neu eitemau anghywir
K14 pwysigrwydd cadw cofnodion cywir a chyflawn o'r adnoddau yr ydych yn gyfrifol amdanynt
K15 sut i nodi deunyddiau a/neu gyfarpar peryglus a delio â nhw K16 sut i reoli deunyddiau sy’n para am gyfnod cyfyngedig
K17 pam a sut y dylech chi gynnal archwiliadau rheolaidd o'r adnoddau yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt
K18 sut i ymgymryd â gweithdrefnau arferol o lanhau a chynnal a chadw adnoddau a cyfarpar
K19 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech gyfeirio at eraill
K20 sut i baratoi adnoddau i'w defnyddio gan ddisgyblion a/neu athrawon yn ôl yr angen
K21 gweithdrefnau asesu risg
K22 sut i roi arweiniad i ddefnyddwyr i leihau'r risg sy'n gysylltiedig â defnyddio adnoddau
K23 egwyddorion datblygu cynaliadwy a phwysigrwydd ailgylchu deunyddiau gwastraff ac adnoddau diangen pryd bynnag y bo modd
K24 sut i waredu deunyddiau gwastraff ac adnoddau diangen yn ddiogel arhoi sylw dyledus i gyfleoedd i ailgylchu a datblygiad cynaliadwy
K25 sut i fonitro'r galw am adnoddau'r cwricwlwm a defnyddio'r wybodaeth hon i wella ansawdd, cyflenwad ac addasrwydd adnoddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwricwlwm
yn cwmpasu pob math o ddysgu trefnus ar draws y cwricwlwm, e.e. maes dysgu yn y cyfnod sylfaen, meysydd eang o brofiad cwricwlaidd a dysgu drwy chwarae yn y blynyddoedd cynnar, gwaith thematig strwythuredig yn y cyfnod cynradd, pynciau sengl, pynciau galwedigaethol a gwaith trawsgwricwlaidd yn y cyfnod 14–19.
Adnoddau’r cwricwlwm
deunyddiau, cyfarpar (gan gynnwys TGCh), meddalwedd, llyfrau a deunyddiau ysgrifenedig eraill, DVDs, ac ati, sy'n ofynnol i gynorthwyo addysgu a dysgu mewn pwnc/maes cwricwlwm.
Problemau o ran danfoniadau
yn cynnwys peidio â derbyn archebion, danfon archebion yn hwyr, eitemau sydd wedi'u difrodi, eitemau ar goll a / neu eitemau anghywir.
Pobl berthnasol
Y rhai sy'n defnyddio neu'n rheoli adnoddau'r cwricwlwm gan gynnwys athrawon, penaethiaid adrannau, arweinwyr pwnc, uwch-reolwyr, bwrsariaethau a staff cymorth eraill.
Gofynion penodol
gofynion penodol mewn perthynas ag adnoddau'r cwricwlwm, megis:
- ansawdd
- amserlen
- nodweddion arbennig
- cost
- galw ieithyddol
- pwyslais diwylliannol.
Defnyddwyr
y bobl a fydd yn defnyddio'r deunyddiau i gynorthwyo dysgu, gan gynnwys athrawon, staff cymorth a disgyblion.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL7 Cynorthwyo'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ar gyfer addysgu a dysgu
TDASTL28 Cynorthwyo addysgu a dysgu mewn maes yn y cwricwlwm