Cynllunio a chynorthwyo chwarae hunan-gyfeiriedig

URN: TDASTL54
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynllunio ac yn cynorthwyo gweithgareddau chwarae hunangyfeiriedig plant neu bobl ifanc. Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn unrhyw fath o leoliad ysgol, gan gynnwys ysgolion uwchradd, a byddai'n arbennig o addas ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau estynedig.

Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â nodi anghenion chwarae a dewisiadau plant a phobl ifanc, datblygu mannau chwarae a fydd yn diwallu'r anghenion hyn, a chynorthwyo plant a phobl ifanc yn ystod chwarae.

Mae'r uned hon yn cynnwys pedair elfen:

  1. Casglu a dadansoddi gwybodaeth am anghenion chwarae a dewisiadau
  2. Cynllunio a pharatoi mannau chwarae
  3. Cynorthwyo chwarae hunan-gyfeiriedig
  4. Helpu plant a phobl ifanc i reoli risg yn ystod chwarae.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Casglu a dadansoddi gwybodaeth am anghenion chwarae a dewisiadau
P1     casglu gwybodaeth am chwarae plant a phobl ifanc gan ddefnyddio ystod o ddulliau
P2     ymchwilio ac ystyried anghenion plant a phobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau i fynediad
P3     dadansoddi gwybodaeth i nodi anghenion chwarae
P4     ymgynghori â phlant a phobl ifanc ac ystyried eu syniadau ar anghenion chwarae a dewisiadau
P5     ymchwilio a nodi ystod o fannau chwarae ac adnoddau a fydd yn diwallu anghenion chwarae plant a phobl ifanc

Cynllunio a pharatoi mannau chwarae
P6     cynllunio mannau chwarae a fydd yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc ac y gellir eu haddasu ganddynt i ddiwallu anghenion newydd
P7     gwneud yn siŵr bod y mannau chwarae yn addas ar gyfer ystod o wahanol fathau o chwarae
P8     cael yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y mannau chwarae hyn
P9     gweithio o fewn y gyllideb sydd ar gael neu ddod o hyd i ffyrdd creadigol eraill o gael yr adnoddau neu eu creu
P10   creu'r mannau chwarae a gynllunnir, a chynnwys plant a phobl ifanc lle bynnag y bo modd.
P11   gwneud yn siŵr y bydd yr ystod o fannau chwarae yn hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc a allai gymryd rhan
P12   gwneud yn siŵr bod y mannau chwarae yn ystyried gofynion iechyd a diogelwch

Cynorthwyo chwarae hunan-gyfeiriedig
P13   annog plant a phobl ifanc i ddewis ac archwilio'r ystod o fannau chwarae drostynt eu hunain, gan roi cymorth pan fo angen
P14   gadael y cynnwys a bwriad y chwarae i’r plant a’r bobl ifanc P15 galluogi chwarae i ddigwydd yn ddi-dor
P16   galluogi plant a phobl ifanc i archwilio eu gwerthoedd eu hunain P17   gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn gallu datblygu yn eu ffyrdd eu hunain
P18   cynnal fframiau chwarae plant a phobl ifanc pan fo angen
P19   arsylwi chwarae ac ymateb i ysgogiadau chwarae yn unol â’r cam yn cylched chwarae

Helpu plant a phobl ifanc i reoli risg yn ystod chwarae
P20   caniatáu i blant a phobl ifanc brofi ac archwilio risg yn ystod chwarae
P21   nodi peryglon pan maent yn digwydd
P22   asesu'r risgiau y mae'r peryglon hyn yn eu peri mewn ffordd sy'n sensitif i natur y plant a'r bobl ifanc dan sylw
P23   codi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o beryglon a sut i reoli risg eu hunain
P24   cydbwyso'r risgiau sy'n gysylltiedig â manteision her a symbyliad P25 peidio ag ymyrryd oni bai y bydd lefel y risg yn annerbyniol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1     rhagdybiaethau a gwerthoedd sy’n gysylltiedig â gwaith chwarae sy'n berthnasol i'r uned hon
K2     manteision chwarae yn y tymor byr a’r tymor hir
K3     Rôl y gweithiwr chwarae wrth gynorthwyo chwarae
K4     dangosyddion/amcanion y gallwch chi eu defnyddio i werthuso darpariaeth chwarae
K5     y dulliau ymddygiadol sy'n gysylltiedig â chwarae:
K5.1  wedi'i gyfarwyddo'n bersonol
K5.2  cymhelliant cynhenid
K5.3   mewn cyd-destun diogel
K5.4   digymell
K5.5   heb nod
K5.6   y cynnwys a'r bwriad o dan reolaeth y plant a'r bobl ifanc
K6     yr ystod o fathau o chwarae sy'n cael eu derbyn yn gyffredin
K7     sut i ddarparu ar gyfer y mathau canlynol o chwarae:
K7.1   chwarae cyfathrebu
K7.2   chwarae creadigol
K7.3   chwarae dwfn
K7.4   chwarae dramatig
K7.5   chwarae archwiliadol
K7.6   chwarae ffantasi
K7.7   chwarae dychmygus
K7.8   chwarae ymsymudol
K7.9   chwarae meistrolaeth
K7.10 chwarae gwrthrych
K7.11  chwarae rôl
K7.12 chwarae corfforol
K7.13 chwarae cymdeithasol
K7.14 chwarae cymdeithasol-ddramatig
K7.15 chwarae symbolaidd
K8     y disgrifyddion hwyliau sy'n gysylltiedig â chwarae a sut i adnabod y rhain:
K8.1   hapus
K8.2   annibynnol
K8.3   hyderus
K8.4   anhunanol
K8.5    ymddiriedus
K8.6    cytbwys
K8.7     gweithredol neu wedi ymgolli
K8.8     cyfforddus
K9     y prif gamau yn natblygiad plant a sut mae'r rhain yn effeithio ar anghenion ac ymddygiadau chwarae plant
K10   anghenion penodol plant anabl a sut mae angen i'r rhain gael eu bodloni wrth gynllunio a chynorthwyo chwarae, gan gynnwys eu helpu i reoli risg
K11    pam mae’n bwysig nodi anghenion chwarae a dewisiadau plant a phobl ifanc
K12   y mathau o wybodaeth y gallwch chi eu defnyddio i nodi anghenion a dewisiadau chwarae a sut i gael gafael arnynt
K13   y rhwystrau i fynediad, gan gynnwys anabledd ymhlith rhai eraill, y gall rhai plant a phobl ifanc eu profi a sut i fynd i'r afael â'r rhain
K14   pam mae’n bwysig ymgynghori â phlant a phobl ifanc ar anghenion a dewisiadau chwarae
K15   dulliau effeithiol o ymgynghori â phlant a phobl ifanc
K16    yr ystod o wahanol fathau o fannau chwarae sy’n gallu diwallu anghenion a dewisiadau plant a phobl ifanc
K17   sut i gynllunio mannau chwarae sy'n diwallu anghenion chwarae plant a phobl ifanc
K18   pam mae’n bwysig creu lleoedd y gall plant a phobl ifanc eu haddasu i'w hanghenion eu hunain
K19   sut i gael a/neu greu’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer ystod o fannau chwarae
K20   sut i gynnwys plant a phobl ifanc wrth greu mannau chwarae
K21   pwysigrwydd rhoi mynediad i bob plentyn a sut i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd
K22   y gofynion iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i fannau chwarae a sut i wneud yn siŵr eich bod yn ystyried y rhain
K23   pam mae’n bwysig i blant a phobl ifanc ddewis ac archwilio mannau chwarae drostynt eu hunain
K24   y mathau o gymorth y gallai fod angen i chi eu rhoi a sut i benderfynu pryd mae'n briodol rhoi cymorth
K25   pam mae’n bwysig gadael i blant a phobl ifanc benderfynu ar y cynnwys a bwriad y chwarae
K26   pam mae’n bwysig caniatáu i chwarae fynd rhagddo’n ddi-dor
K27  pam mae’n bwysig caniatáu i blant ddatblygu yn eu ffyrdd eu hunain a pheidio â dangos ffyrdd 'gwell' iddynt o wneud pethau pan fyddant yn chwarae oni bai eu bod yn gofyn
K28   prif gamau’r cylched chwarae
K29   sut i ddiffinio ffrâm chwarae
K30   sut i nodi  ysgogiadau chwarae
K31   sut i nodi pryd a sut i ymateb i ysgogiad chwarae
K32   pam mae risg yn bwysig mewn chwarae a sut i annog a chynorthwyo plant a phobl ifanc i gymryd risg derbyniol
K33   y lefelau risg sy’n dderbyniol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
K34   yr ystod o beryglon a allai ddigwydd yn ystod chwarae plant a sut i adnabod y rhain
K35   y camau sylfaenol yn natblygiad plant a'r goblygiadau sydd gan y rhain ar gyfer lefelau risg
K36  sut i asesu risg yn ôl oedran a cham datblygu
K37  pwysigrwydd cydbwyso risg â manteision her a symbyliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Casglu a dadansoddi gwybodaeth am anghenion chwarae a dewisiadau
1.         Dulliau
1.1.       ymchwilio i ddamcaniaeth ac arferion gwaith chwarae
1.2.       arsylwi plant a phobl ifanc yn chwarae
1.3.       rhyngweithio â phlant a phobl ifanc

Cynllunio a pharatoi mannau chwarae
2.         Mannau chwarae
2.1.       ar gyfer chwarae corfforol
2.2.       ar gyfer chwarae affeithiol
2.3.       dros dro
2.4.       parhaol

Cynorthwyo chwarae hunan-gyfeiriedig
3.         Mannau chwarae
3.1.      ar gyfer chwarae corfforol
3.2.      ar gyfer chwarae affeithiol
3.3.      dros dro
3.4.      parhaol

Helpu plant a phobl ifanc i reoli risg yn ystod chwarae
4.         Peryglon
4.1.      corfforol
4.2.      emosiynol
4.3.      ymddygiadol
4.4. amgylcheddol


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Chwarae affeithiol
chwarae lle mae’r plant neu'r bobl ifanc yn profi neu'n arbrofi gydag emosiynau, teimladau ac agweddau.



Rhwystrau i fynediad
pethau sy'n atal neu'n annog plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan mewn darpariaeth chwarae. Gall y rhain gynnwys rhwystrau corfforol i blant anabl, ond gallant hefyd gynnwys materion ehangach fel gwahaniaethu, diffyg delweddau cadarnhaol, diffyg gweithgareddau ac arferion sy'n dderbyniol yn ddiwylliannol, rhwystrau iaith allu o ffactorau eraill sy'n effeithio ar wahanol gymunedau.

Plant a phobl ifanc
plant a phobl ifanc anabl a heb anabledd rhwng pedair ac un ar bymtheg oed, gan gynnwys genethod a bechgyn o bob diwylliant a chefndir.



Chwarae cyfathrebu
chwarae sy’n defnyddio geiriau, naws neu ystumiau, e.e. meimio, jôcs, ffugio, tynnu coes, canu, trafod, barddoniaeth.



Chwarae creadigol
chwarae sy'n caniatáu ymateb newydd, trawsnewid gwybodaeth, ymwybyddiaeth o gysylltiadau newydd, gydag elfen annisgwyl, e.e. mwynhau creu gydag ystod o ddeunyddiau ac offer, er ei fwyn ei hun.



Chwarae dwfn
chwarae sy'n caniatáu i'r plentyn ddod ar draws profiadau peryglus neu hyd yn oed a allai beryglu bywyd, datblygu sgiliau goroesi a gorchfygu ofn, e.e. neidio i mewn i redfa awyr, reidio beic ar barapet, cydbwyso ar drawst uchel.



Plant anabl
plant ag amhariadau sy'n wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at ofal plant prif ffrwd a chyfleusterau chwarae. Mae hyn yn cynnwys plant ag amhariadau corfforol ac ar y synhwyrau, anawsterau dysgu a chyfathrebu, cyflyrau meddygol, ac anghenion heriol a chymhleth a allai fod yn barhaol neu dros dro.



Chwarae dramatig
chwarae sy'n dramateiddio digwyddiadau lle nad yw'r plentyn yn cymryd rhan yn uniongyrchol, e.e. cyflwyno sioe deledu, digwyddiad ar y stryd, digwyddiad crefyddol neu Nadoligaidd, hyd yn oed angladd.



Chwarae archwiliadol
chwarae i gael mynediad at wybodaeth ffeithiol gan gynnwys ymddygiadau trafod pethau fel trin, taflu, taro neu gegu gwrthrychau, e.e. ymgysylltu â gwrthrych neu le ac, naill ai drwy drin neu symud, asesu ei briodweddau, posibiliadau a chynnwys, megis pentyrru briciau.



Chwarae ffantasi
chwarae sy'n aildrefnu'r byd yn ffordd y plentyn, ffordd sy'n annhebygol o ddigwydd, e.e. chwarae drwy esgus bod yn beilot sy'n hedfan o gwmpas y byd neu berchennog car drud.



Perygl
rhywbeth a allai achosi niwed i iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr y lleoliad chwarae, e.e. gwydr wedi torri, cyfarpar chwarae diffygiol, drysau yn cael eu gadael ar agor y dylid eu cau.



Chwarae dychmygus
chwarae lle nad yw'r rheolau confensiynol sy'n rheoli'r byd ffisegol yn berthnasol, e.e. dychmygu neu'n esgus bod yn goeden neu long, neu’n rhoi mwythau i gi nad yw yno.



Chwarae ymsymudol
symud i unrhyw gyfeiriad ac i bob cyfeiriad er ei fwyn ei hun, e.e. cwrso, tagio, cuddio a cheisio, dringo coed.



Chwarae meistrolaeth
rheoli cynhwysion ffisegol ac affeithiol yr amgylcheddau, e.e. tyllau cloddio, newid llwybr nentydd, adeiladu llochesi, adeiladu tanau.



Chwarae gwrthrych
chwarae sy'n defnyddio dilyniannau anfeidrol a diddorol o drafod a symudiadau gan y llygad a’r llaw, fel archwilio a defnyddio unrhyw wrthrych mewn ffordd newydd, ee. brethyn, brwsh paent, cwpan.



Parhaol
rhywbeth sy'n para, neu y bwriedir iddo bara, am gyfnod hir.



Chwarae
mae chwarae’n cael ei ddewis yn rhydd, caiff ei gyfarwyddo’n bersonol ac mae’n cael ei gymell yn gynhenid.



Ysgogiadau chwarae*
mynegiant yr wyneb, iaith neu iaith y corff sy'n cyfleu dymuniad y plentyn neu'r person ifanc i chwarae neu wahodd eraill i chwarae.



Cylched chwarae*
llif llawn y chwarae, o'r ysgogiad chwarae cyntaf gan y plentyn, dychwelyd o'r byd y tu allan, ymateb y plentyn i ddychwelyd a datblygiad chwarae pellach i'r pwynt lle mae'r chwarae'n gyflawn.



Ffrâm* chwarae
ffin materol neu anfaterol sy'n cadw'r chwarae yn gyfan.



Anghenion chwarae
anghenion unigol y plant i chwarae.



Gofod chwarae
unrhyw le sy'n cynorthwyo ac yn cyfoethogi'r potensial i blant chwarae.



Risg
y tebygolrwydd y bydd perygl yn achosi niwed mewn gwirionedd; yn aml, bydd hyn yn cael ei ddylanwadu gan oedran neu gam datblygiad y plant a'r bobl ifanc dan sylw.



Chwarae rôl
chwarae drwy archwilio ffyrdd o fod, er nad ydynt fel arfer o natur bersonol, gymdeithasol, ddomestig neu ryngbersonol dwys, e.e. brwsio ag ysgub, deialu gyda ffôn, gyrru car.



Chwarae corfforol
chwarae clos sy’n llai i’w wneud ag ymladd a mwy i'w wneud â chyffwrdd, cosi, mesur cryfder cymharol, darganfod hyblygrwydd corfforol a chynnwrf arddangos, e.e. ymladd chwareus, reslo a chwrso lle mae'r plant dan sylw yn amlwg heb eu hanafu ac yn rhoi pob arwydd eu bod yn mwynhau eu hunain.



Chwarae cymdeithasol
chwarae lle gellir datgelu'r rheolau a'r meini prawf ar gyfer ymgysylltu cymdeithasol a rhyngweithio, eu harchwilio a'u diwygio, e.e. unrhyw sefyllfa gymdeithasol neu ryngweithiol sy'n cynnwys disgwyliad ar bob parti y byddant yn cadw at y rheolau neu'r protocolau, h.y. gemau, sgyrsiau, gwneud rhywbeth gyda'i gilydd.



Chwarae cymdeithasol-ddramatig
profiadau go iawn a phrofiadau potensial o natur bersonol, gymdeithasol, ddomestig neu ryngbersonol dwys, e.e. chwarae gartref, mynd i'r siopau, bod yn famau a thadau, trefnu pryd o fwyd neu hyd yn oed ffraeo.



Chwarae symbolaidd
chwarae sy'n caniatáu rheolaeth, archwilio graddol a gwell dealltwriaeth, heb y risg o fod allan o ddyfnder, e.e. defnyddio darn o bren i symboleiddio person, neu ddarn o linyn i symboleiddio modrwy briodas.



Dros dro
nid parhaol.



* Gordon Sturrock a Perry Else, 1998, The playground as therapeutic space: playwork as healing (known as “The Colorado Paper”), a gyhoeddwyd yn Play in a Changing Society: Research, Design, Application, IPA/USA, Little Rock, UDA. Ar gael fel PDF yn rhad ac am ddim o www.ludemos.co.uk neu info.ludemos@virgin.net


Dolenni I NOS Eraill

TDASTL10 Cynorthwyo chwarae a dysgu plant
TDASTL15 Cynorthwyo chwarae plant a phobl ifanc

Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gwaith Chwarae lle mae'n ymddangos fel uned PW9.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

PW9

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau