Arwain gweithgaredd allgyrsiol

URN: TDASTL53
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n rhoi cyfleoedd allgyrsiol i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a'u doniau, e.e. drwy weithgareddau chwaraeon, cerddorol, artistig, creadigol, deallusol neu ieithyddol.

Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud ag arwain gweithgaredd allgyrsiol, fel clwb, gweithgaredd hamdden, tîm chwaraeon neu weithgaredd celfyddydau perfformio, o dan gyfarwyddyd yr ysgol ond o dan oruchwyliaeth gyfyngedig.

Mae'r uned hon yn cynnwys pedair elfen:

  1. Paratoi plant a phobl ifanc ar gyfer y gweithgaredd
  2. Cyflwyno plant a phobl ifanc i'r gweithgaredd
  3. Arwain y gweithgaredd
  4. Cynnal ac annog perthnasoedd gwaith effeithiol yn ystod y gweithgaredd.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi plant a phobl ifanc ar gyfer y gweithgaredd

P1     helpu'r plant/pobl ifanc i deimlo bod croeso iddynt ac yn gyfforddus
P2     dilyn gweithdrefnau eich ysgol ar gyfer gwirio'r plant/pobl ifanc sy’n bresennol
P3     gwneud yn siŵr bod gwisg a chyfarpar y plant/pobl ifanc yn ddiogel ac yn briodol
P4     trefnu'r plant/pobl ifanc er mwyn i chi allu cyfathrebu'n effeithiol â nhw
P5     esbonio nodau a chynnwys y sesiwn i'r plant/pobl ifanc
P6     gweld a oes gan y plant/pobl ifanc unrhyw brofiad perthnasol y gallech chi adeiladu arno
P7        gwneud yn siŵr bod y plant/pobl ifanc yn barod yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer y gweithgareddau a gynllunnir

Cyflwyno plant a phobl ifanc i'r gweithgaredd

P8     esbonio a dangos pwyntiau allweddol i'r plant/pobl ifanc, gan ddefnyddio dulliau sy'n briodol i'w hoedran, cam datblygu a’u hanghenion
P9     amlygu pwysigrwydd y pwyntiau allweddol hyn i’r plant/pobl ifanc, a’r rhesymau pam
P10   annog y plant/pobl ifanc i ofyn cwestiynau
P11   ateb cwestiynau'r plant/pobl ifanc yn ddefnyddiol ac yn glir
P12   gwirio bod y plant/pobl ifanc yn deall yr hyn rydych chi am iddyn nhw ei wneud
P13   cymell y plant/pobl ifanc i gymryd rhan heb eu rhoi dan straen gormodol

Arwain y gweithgaredd

P14   gwneud yn siŵr bod y plant/pobl ifanc yn dilyn eich cyfarwyddiadau drwy gydol y gweithgaredd
P15   datblygu'r gweithgaredd ar gyflymder sy'n addas i'r plant/pobl ifanc ac mewn ffordd sy'n cyflawni ei nodau
P16   rhoi adborth clir a chefnogol i'r plant/pobl ifanc ar adegau priodol
P17   rhoi esboniadau ac arddangosiadau ychwanegol i'r plant/pobl ifanc pan fo angen
P18   annog y plant/pobl ifanc i ddweud sut maen nhw'n teimlo am y gweithgaredd ac ymateb i'w teimladau'n briodol
P19   amrywio'r gweithgaredd i ddiwallu anghenion a chyfleoedd newydd
P20   annog a chynorthwyo'r plant/pobl ifanc i nodi pa ddysgu y gallant eu trosglwyddo i feysydd yn eu cwricwlwm ysgol a/neu feysydd eraill yn eu bywydau

Cynnal ac annog perthnasoedd gwaith effeithiol yn ystod y gweithgaredd

P21   cyfathrebu a rhyngweithio â'r plant/pobl ifanc mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran, eu cam datblygu a’u hanghenion
P22   sefydlu a chynnal perthynas gyda'r plant/pobl ifanc sy'n cyd-fynd â'r sefyllfa a'r gofynion moesegol
P23   rhoi sylw digonol i bob plentyn/person ifanc yn y grŵp, yn unol â'u hanghenion
P24   annog cyfathrebu effeithiol a sgiliau rhyngbersonol rhwng y plant/pobl ifanc
P25   annog a chynorthwyo'r plant/pobl ifanc i ystyried effaith eu hymddygiad ar eraill, eu hunain a'u hamgylchedd
P26   amlygu a chanmol mathau o ymddygiad sy'n cael effaith bositif ar y grŵp cyfan
P27   nodi ymddygiad amhriodol a’i herio mewn ffordd sy'n cynnal lles emosiynol y plant/pobl ifanc ac yn dilyn gweithdrefnau y cytunwyd arnynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1     gwerthoedd neu godau ymarfer sy'n berthnasol i'r gweithgaredd
K2     y gofynion o ran iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'r gweithgaredd
e.e. polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch yr ysgol, y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a gofynion ar gyfer gweithgareddau yng nghwmpas y cyrff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer chwaraeon, lle mae'r rhain yn berthnasol
K3     nodau a chynnwys y gweithgaredd yr ydych yn ei arwain
K4     y cynlluniau ar gyfer y gweithgaredd yr ydych chi'n ei arwain, gan gynnwys gweithdrefnau iechyd a diogelwch
K5     yr effaith y gallai'r gweithgareddau yr ydych chi'n eu harwain ei chael ar yr amgylchedd a sut i leihau'r effaith hon
K6     pam y gallai cofnodi presenoldeb fod yn bwysig mewn rhai cyd - destunau
K7     gwisg y rhai sy’n cymryd rhan a’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer y gweithgaredd yr ydych chi'n ei arwain
K8     pwysigrwydd gallu cyfathrebu'n glir â phlant a phobl ifanc yn ôl eu   hoedran, eu cam datblygu a’u hanghenion
K9     sut i gyfathrebu'n glir ag unigolion a grwpiau o blant
a phobl ifanc
K10   pam mae’n bwysig egluro nodau a chynnwys y sesiwn
K11   pam mae’n bwysig cael gwybod am brofiad blaenorol plant a phobl ifanc
K12   pam y gallai fod angen i blant a phobl ifanc fod yn barod yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer y gweithgaredd y byddant yn cymryd rhan ynddo
K13   y dulliau y dylech chi eu defnyddio wrth baratoi plant a phobl ifanc yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer y gweithgareddau y byddant yn cymryd rhan ynddynt
K14   y pwyntiau allweddol y mae'n rhaid eu hegluro i blant a phobl ifanc cyn iddynt ddechrau'r gweithgaredd
K15   y dulliau y gallwch chi eu defnyddio i esbonio a dangos pwyntiau allweddol
K16 pwysigrwydd annog sesiynau holi ac ateb
K17   y mathau o gwestiynau neu broblemau y gallai fod gan blant a phobl ifanc mewn perthynas â’r gweithgaredd
K18   y dulliau y gallwch chi eu defnyddio i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn deall yr hyn rydych chi am iddyn nhw ei wneud
K19   sefyllfaoedd lle gallai fod angen i gymell plant a phobl ifanc ymhellach
K20   y gwahanol ddulliau y gallwch chi eu defnyddio i ysgogi plant a phobl ifanc heb roi pwysau gormodol arnynt
K21   sut i oruchwylio'r plant/pobl ifanc yn ystod y gweithgaredd
K22 pryd i beidio ag ymyrryd mewn gweithgaredd
K23   pwysigrwydd bod y plant a'r bobl ifanc yn cael adborth clir a chefnogol ar yr hyn y maent wedi'i gyflawni
K24   sut i farnu beth yw teimladau plant a phobl ifanc am weithgareddau a sut i ymateb rhain
K25   pwysigrwydd addasu eich cynlluniau a'ch dulliau i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn/person ifanc
K26   pam a sut y dylech chi gynorthwyo plant a phobl ifanc i drosglwyddo'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu i gyd-destunau eraill
K27   y gofynion cyfreithiol a’r codau moesegol sy'n effeithio ar eich perthynas â phlant a phobl ifanc
K28   pam y dylai pob plentyn/person ifanc gael digon sylw
K29   ffyrdd o weithio sy'n annog cyfathrebu a rhyngweithio rhwng plant a phobl ifanc a rhwng y plant a phobl ifanc â chithau
K30   sut i gydbwyso anghenion plant/pobl ifanc unigol â rhai'r grŵp cyfan
K31   pwysigrwydd annog plant a phobl ifanc i gyfathrebu a chysylltu'n effeithiol ag eraill
K32   y mathau o ymddygiad sy'n cael effaith bositif a negyddol ar y grŵp a pham y dylech dynnu sylw at y rhain
K33   polisïau'r ysgol ar gyfer gofal, lles, disgyblaeth a phresenoldeb plant a phobl ifanc, gan gynnwys hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol
K34   y strategaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer delio ag ymddygiad amhriodol
K35   dulliau a gweithdrefnau ar gyfer delio â gwrthdaro
K36   y gweithdrefnau cadw cofnodion y mae'n rhaid i chi eu dilyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Nodau
y rhai a bennwyd ar gyfer y gweithgaredd yn ystod y cam cynllunio ac y cytunwyd arnynt gyda'r ysgol

Ymddygiad amhriodol
ymddygiad sy'n mynd yn groes i werthoedd a chredoau derbyniol yr ysgol a'r gymdeithas. Gellir ymddygiad amhriodol fod ar lafar, yn ysgrifenedig, yn ddi-eiriol neu’n gam-drin corfforol

Plant a phobl ifanc
plant neu bobl ifanc yr ydych chi'n gweithio gyda nhw

Amgylchedd
y man lle mae'r gweithgaredd yn cael ei gynnal; gallai fod yn gyfleuster dan do neu'n amgylchedd awyr agored

Moesegol
dilyn y datganiad gwerthoedd ar gyfer eich maes gwaith

Adborth
rhoi gwybodaeth ac arweiniad i blant a phobl ifanc ar yr hyn y maent yn ei wneud, ei ddysgu a'i gyflawni

Prif bwyntiau
elfennau o’r gweithgaredd y mae angen i blant a phobl ifanc ei wybod a'i ddeall cyn dechrau, gan gynnwys:
1.    iechyd a diogelwch
2.    rheolau ymddygiad
3.    sgiliau a thechnegau
4.    defnyddio cyfarpar
5.    diogelu'r amgylchedd



Bod yn barod yn gorfforol ac yn feddyliol
mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn gallu ymgymryd â'r gweithgaredd heb straen corfforol neu emosiynol diangen neu risg o anaf


Dolenni I NOS Eraill

Tarddiad yr uned hon
Mae hon yn uned newydd a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer cynorthwyo addysgu a dysgu mewn ysgolion. Daw o uned D22 o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Arwain Gweithgareddau a ddatblygwyd gan SkillsActive ond mae wedi'i ymestyn i gwmpasu ystod ehangach o weithgareddau allgyrsiol a allai gaeleu darparu i blant a phobl ifanc ac na ellir eu trosglwyddo’n uniongyrchol.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

D22

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau