Cynorthwyo plant a theuluoedd drwy ymweld â’r cartref
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol i gynnig cymorth i deuluoedd yn eu cartrefi.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud ag ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi i roi cymorth i blant neu bobl ifanc a'u rhieni a'u teuluoedd.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen
- Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd â theuluoedd
- Rhoi cymorth i deuluoedd
- Cysylltu â chydweithwyr, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau i gynorthwyo teuluoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd â theuluoedd
P1 cychwyn perthnasoedd â theuluoedd drwy gyfathrebu mewn modd parchus a phroffesiynol, gan ddefnyddio enwau a theitlau a ffefrir
P2 gwneud trefniadau i ymweld â theuluoedd ar adeg sy'n gyfleus iddynt, fel y cytunwyd gyda'r gwasanaeth
P3 cydnabod hawliau teuluoedd a'ch cyfrifoldebau pan fyddant yn eu cartref
P4 negodi a chytuno gyda theuluoedd pa gamau i'w cymryd i hwyluso dealltwriaeth pan fydd anawsterau cyfathrebu
P5 dangos agwedd anfeirniadol sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn cydnabod gwahaniaethau diwylliannol, crefyddol ac ethnig
P6 cyfathrebu â theuluoedd drwy ddefnyddio dull agored a chroesawgar sy'n debygol o hyrwyddo ymddiriedaeth
P7 trafod materion cyfrinachedd gyda theuluoedd mewn ffordd sy'n gwneud yn siŵr bod disgresiwn wrth wneud ffiniau, terfynau a chyfrifoldebau'n glir
P8 arsylwi’n gynnil ar ryngweithio rhwng aelodau'r teulu a nodi unrhyw faterion a allai effeithio ar eich perthynas â'r teulu
P9 gwneud yn siŵr bod cydweithwyr yn ymwybodol o fanylion a threfniadau'r ymweliad
Rhoi cymorth i deuluoedd
P10 helpu teuluoedd i archwilio eu hanawsterau, yn ogystal â nodi a mynegi eu hanghenion
P11 dangos empathi a sensitifrwydd wrth annog teuluoedd i drafod eu bywydau teuluol
P12 helpu teuluoedd i archwilio opsiynau a chytuno ar y math a lefel y cymorth sydd ei angen arnynt
P13 nodi rolau a chyfrifoldebau yn glir a chytuno arnynt gyda theuluoedd
P14 trafod a chytuno ar gynlluniau ar gyfer rhoi cymorth gydag aelodau'r teulu a chytuno ar nodau unigol
P15 helpu teuluoedd i gael gafael ar wybodaeth, a rhoi cymorth sy'n rhoi hwb i hunanhyder ac annibyniaeth
P16 annog teuluoedd i ddatblygu rhwydweithiau cymorth personol
P17 rhoi anogaeth i deuluoedd a chydnabod eu hymdrechion
P18 addasu a diwygio cynlluniau a chytundebau yn unol ag amgylchiadau teuluoeddsy’n newid
Cysylltu â chydweithwyr, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau i gynorthwyo teuluoedd
P19 rhoi gwybod i gydweithwyr a rheolwyr yn rheolaidd am gynnydd gyda theuluoedd yn unol â pholisi ac arferion y cytunwyd arnynt
P20 hysbysu teuluoedd a gofyn am eu cytundeb i rannu gwybodaeth, o fewn yffiniau cyfrinachedd a heb gyfaddawdu ar les plant a phobl ifanc
P21 gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a rennir ag eraill yn gywir ac wedi'i chofnodi yn unol â pholisïau sefydliadol
P22 cyfeirio pryderon am deuluoedd at gydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn unol â pholisïau ac arferion sefydliadol
P23 cyfrannu at roi cymorth proffesiynol i deuluoedd o fewn ffiniau eich rôl ac â chytundeb pawb dan sylw
P24 cyfrannu at benderfyniadau ynghylch parhau i roi cymorth ffurfiol neu ei dynnu’n ôl
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 y ffyrdd y mae plant a phobl ifanc yn elwa o ganlyniad i gymorth a roddir i'w rhieni a'u teuluoedd
K2 sut y gallai plant a phobl ifanc sy’n gweithredu fel gofalwyr gael eu hadnabod a'u cynorthwyo
K3 sut i gyfathrebu â theuluoedd mewn modd proffesiynol a pharchus a pham mae hyn yn bwysig i ddatblygu perthnasoedd
K4 pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol a defnyddio pobl sy'n siarad iaith y teulu lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol
K5 pam mae’n bwysig trefnu ymweliadau sy'n addas i deuluoedd, pa gamau i'w cymryd os bydd trefniadau'n methu, a'r effaith debygol ar ddatblygiad perthnasoedd
K6 pam mae’n bwysig bod yn glir ynghylch rolau a chyfrifoldebau, ffiniau a chyfrinachedd
K7 y cyfrifoldebau cyfreithiol a sefydliadol o ran cyfrinachedd, terfynau a ffiniau a pham mae'r rhain yn bwysig
K8 y materion moesegol sy'n ymwneud ag ymweliadau â’r cartref, hawliau teuluoedd a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â hyn
K9 pam mae’n bwysig rhoi gwybod i gydweithwyr am eich trefniadau ymweld
K10 pwrpas ymweld â theuluoedd unigol a lefel a’r math o gymorth y maent fydd ei angen arnynt yn ôl pob tebyg
K11 sut y gallwch chi annog teuluoedd i drafod eu problemau a'u pryderon gyda chi
K12 pam mae’n bwysig cynllunio a chytuno ar nodau gyda theuluoedd a sut i fynd ati i wneud hyn
K13 y math o wybodaeth y gallai fod ei hangen ar deuluoedd i gyflawni eu nodau a ffynonellau tebygol o wybodaeth o'r fath
K14 ffyrdd y gallwch chi gymell ac annog aelodau unigol o'r teulu
K15 pwysigrwydd cynorthwyo teuluoedd mewn ffyrdd sy'n rhoi hwb i’w hunanhyder a sut y byddech chi’n gwneud hyn
K16 materion a allai beri pryder wrth ymweld â'r cartref a mecanweithiau ar gyfer rhoi gwybod am y rhain
K17 gofynion trefniadol a chyfreithiol o gofnodi gwybodaeth
K18 pam mae’n bwysig rhannu'r wybodaeth rydych chi'n ei throsglwyddo gyda theuluoedd o ran ymweld â'r cartref
K19 rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill a allai fod yn gysylltiedig â chynorthwyo teuluoedd
K20 sut i gael gwybod mewn ffyrdd sensitif a oes angen sgiliau sylfaenol ar rieni neu aelodau eraill o'r teulu; sut i weithio gyda nhw a chyfeirio at ffynonellau gwybodaeth priodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Teuluoedd
yn cynnwys rhieni (mamau a thadau) a gofalwyr a theuluoedd estynedig a dethol sy'n cyfrannu'n sylweddol at les plant unigol ac a allai fod â chyfrifoldeb cyfreithiol.
Rhieni
y rhai (mamau a thadau) sydd â chyfrifoldeb rhiant cydnabyddedig ffurfiol a chyfreithiol am ofal a lles parhaus y plentyn dan sylw, p'un a yw'n gysylltiedig yn fiolegol ai peidio.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL38 Cynorthwyo plant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig a'u teuluoedd
TDASTL60 Cysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, Dysgu a Datblygu lle mae'n ymddangos fel uned CCLD331.
Mae'r uned hon yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Dysgu, Datblygiad a Gofal Plant.