Hwyluso dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc drwy fentora
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithredu fel mentoriaid i blant neu bobl ifanc yn ffurfiol neu'n anffurfiol. Yng nghyd-destun gweithio mewn ysgolion, byddai'r uned hon yn addas ar gyfer staff cymorth sy'n cyfrannu at ofal bugeiliol disgyblion, gan gynnwys mentora unigolion neu grwpiau bach o dan gyfarwyddyd athro.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â rôl unigolion sy'n hwyluso dysgu a datblygu plant a phobl ifanc drwy fentora. Mae'n ymwneud â chynorthwyo'r broses ddysgu yn hytrach nag asesu ac addysgu disgyblion.
Mae'r uned hon yn cynnwys pedair elfen
- Nodi anghenion dysgu a datblygu plant a phobl ifanc
- Cynllunio gyda phlant a phobl ifanc sut bydd anghenion dysgu a datblygu yn cael sylw drwy fentora
- Mentora plant a phobl ifanc i gyflawni deilliannau a nodwyd
- Adolygu effeithiolrwydd mentora gyda phlant a phobl ifanc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi anghenion dysgu a datblygu plant a phobl ifanc
P1 creu cyfleoedd i'r plentyn/person ifanc nodi a defnyddio ei brofiad a'i ddysgu blaenorol i lywio eu haddysg a’i ddatblygiad
P2 nodi’r nodweddion canlynol a chytuno arnynt gyda’r plentyn / person ifanc
P2.1 anghenion dysgu a datblygu
P2.2 galluoedd
P2.3 dyheadau
P3 cytuno ar y ffyrdd gorau o fodloni nodweddion canlynol y plentyn/person ifanc a nodwyd
P3.1 anghenion dysgu a datblygu
P3.2 galluoedd
P3.3 dyheadau
P4 negodi datblygiad effeithiol plentyn/person ifanc drwy nodi’r arddulliau dysgu a’r cyd-destunau dysgu sydd orau gan y plentyn/pobl ifanc
P5 cynorthwyo'r plentyn/person ifanc i asesu ei gryfderau a'i wendidau ei hun a pherthynas y rhain â dysgu a datblygu
P6 rhoi hwb i gymhelliant a hunanhyder y plentyn/person ifanc bob amser
P7 cwblhau cofnodion yn gywir a'u storio yn rhywle diogel
Cynllunio gyda phlant a phobl ifanc sut bydd anghenion dysgu a datblygu yn cael sylw drwy fentora
P8 trafod gyda'r plentyn/person ifanc ei ddealltwriaeth o bwrpas cynllunio camau
P9 negodi gyda'r plentyn/person ifanc y fformat ar gyfer cynllunio camau priodol ac y gellir eu haddasu, a chytuno ar lefel cyfrinachedd y cynllun
P10 galluogi'r plentyn/person ifanc i nodi'n glir ei nodau a thargedau cyraeddadwy a phenderfynu ar y camau allweddol wrth roi eu cynllun ar waith
P11 amlygu nodau a disgwyliadau afrealistig ac awgrymu addasiadau adeiladol posibl.
P12 archwilio’r hyn sy’n atal camau rhag cael eu rhoi ar waith gyda'r plentyn/person ifanc ac ystyried ffyrdd gwahanol o oresgyn rhwystrau neu eu lleihau
P13 nodi o fewn y cynllun gweithredu y camau hynny sydd i'w cyflawni gan y plentyn/person ifanc a'r rhai sy'n gyfrifol am eraill
P14 negodi a chytuno ar rôl pobl eraill sy'n hanfodol i lwyddiant y cynllun gweithredu
P15 negodi a chytuno ar broses ar gyfer adolygu'r cynllun gweithredu a’i gynnydd
P16 egluro rolau a disgwyliadau penodol o fewn y berthynas fentora
P17 egluro’r cyfyngiadau ar gymorth sydd ar gael i'r plentyn/person ifanc a pham mae'r rhain yno
P18 cwblhau cofnodion yn gywir a'u storio yn rhywle diogel
Mentora plant a phobl ifanc i gyflawni’r deilliannau a nodwyd
P19 gweithredu mewn ffordd sy'n groesawgar i'r plentyn/person ifanc, ac sy’n anfeirniadol ac yn parchu ei amgylchiadau, ei deimladau, ei flaenoriaethau a'i hawliau
P20 neilltuo digon o amser i ryngweithio â'r plentyn/person ifanc
P21 annog y plentyn/person ifanc i
P21.1 deimlo'n gyfforddus i archwilio a mynegi materion a phryderon, a gwneud sylwadau wrth eu pwysau eu hunain
P21.2 gofyn cwestiynau
P21.3 mynegi eu credoau a'u dewisiadau, dymuniadau a safbwyntiau personol ac eithrio pan fydd y rhain yn effeithio'n andwyol ar hawliau pobl eraill
P22 cyfathrebu â'r plentyn/person ifanc drwy gydol y broses mewn modd sydd yn
P22.1 briodol iddynt hwy
P22.2 annog trafod barn a gwybodaeth yn agored
P22.3 lleihau unrhyw gyfyngiadau ar gyfathrebu
P22.4 rhydd o wahaniaethu a gormes
P23 rhoi cymorth priodol i'r plentyn/person ifanc cyn, yn ystod, ac ar ôl i gamau gweithredu y cytunwyd arnynt gael eu rhoi ar waith
P24 awgrymu adnoddau amgen neu ychwanegol pan fo'r rhain yn angenrheidiol i ddiwallu anghenion y plentyn/person ifanc
P25 dewis gwybodaeth ac adnoddau sy'n briodol i anghenion y plentyn/person ifanc
P26 gwirio dealltwriaeth y plentyn/person ifanc o wybodaeth rydych chi'n ei darparu
P27 rhoi adborth amserol ac adeiladol i'r plentyn/person ifanc mewn modd cadarnhaol
P28 rhoi cyfleoedd rheolaidd i'r plentyn/person ifanc adolygu cynnydd y mentora
Adolygu effeithiolrwydd mentora gyda phlant a phobl ifanc
P29 nodi problemau a'u nodweddion hanfodol
P30 cytuno â'r plentyn/person ifanc ar flaenoriaeth y problemau
P31 archwilio manteision ac anfanteision ystod o gamau gweithredu gyda'r plentyn/person ifanc
P32 gwirio dealltwriaeth y plentyn/person ifanc o'r hyn sy'n gysylltiedig â phob cam gweithredu
P33 cytuno ar amcanion a chynllun gweithredu gyda'r plentyn/person ifanc
P34 creu cyfleoedd i roi adborth ac adolygu gyda'r plentyn/person ifanc
P35 nodi, archwilio a datrys neu gytuno ar bwyntiau lle ceir anghytundeb mewn ffordd sy'n cynnal perthynas effeithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gweithio gyda phlant/pobl ifanc unigol a grwpiau
K1 strategaethau ar gyfer cyfathrebu a thrafod yn effeithiol; sut i roi adborth adeiladol; beth yw gwrando’n astud a pha ffactorau a allai fod yn rhwystro’r plentyn/person ifanc rhag mynegi
K2 arddulliau a dulliau dysgu – beth yw'r rhain a sut maent yn wahanol rhwng plant a phobl ifanc, ffyrdd o nodi anghenion, arddulliau a dulliau dysgu plentyn/person ifanc
K3 sut y gall rhagfarn a stereoteipio ddigwydd o fewn y broses ddysgu a mentora; ffyrdd o frwydro yn eu herbyn; effaith agweddau, gwerthoedd a’ch ymddygiad eich hun ar waith gyda phlant a phobl ifanc a dulliau monitro nad ydynt yn effeithio'n andwyol ar waith gyda phlant a phobl ifanc
K4 dulliau annog a chynnal cymhelliant a hunan-barch plentyn/person ifanc; ffyrdd o addasu dulliau i ddiwallu anghenion y plentyn/person ifanc; technegau datrys problemau fel meddwl mewn ffyrdd amgen, sut i'w defnyddio a sut i annog plant a phobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau hyn eu hunain
K5 hawliau plant a phobl ifanc o fewn y broses fentora (cyfrinachedd, gwneud penderfyniadau, ac ati) a sut i fonitro bod y rhain yn cael eu cynnal
K6 sut i gynorthwyo penderfyniadau plant a phobl ifanc mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo annibyniaeth y plentyn/person ifanc; ffactorau a phwysau sy'n effeithio ar allu plant a phobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus; yr ystod o ffynonellau gwybodaeth perthnasol y gellir eu defnyddio i gynorthwyo plant a phobl ifanc; ffactorau a allai effeithio ar allu cael gafael ar wybodaeth
K7 fformatau cynlluniau gweithredu, sut i wneud cynlluniau gweithredu penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig ac â therfyn amser (CAMPUS); sut y gall cyflawniadau, profiad a dysgu blaenorol ddylanwadu ar ddewisiadau presennol ac yn y dyfodol; dulliau asesu cyfraddau cynnydd realistig ac amserlenni ar gyfer camau gweithredu, sut i annog plant a phobl ifanc i adolygu eu cynlluniau mewn ffordd sy'n eu hannog i fod yn realistig
K8 dulliau adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd mentora, ffyrdd o gynnwys plant a phobl ifanc yn effeithiol yn y broses
Gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'r rhai sy'n gofalu amdanynt
K9 y ddeddfwriaeth benodol, canllawiau penodol ar arferion da, siarteri a safonau gwasanaeth sy'n ymwneud â'r gwaith sy'n cael ei wneud ac effaith hyn ar y gwaith
Gweithio i wella arferion asiantaethau
K10 rôl yr ysgol a'i gwasanaethau a sut maent yn ymwneud ag asiantaethau a gwasanaethau eraill yn y sector plant
Gweithio i wella arferion y plentyn/person ifanc
K11 eich rôl a’ch cyfrifoldebau eich hun a chan bwy y dylech chi ofyn am gymorth a chyngor os ydych yn ansicr
K12 unrhyw ffactorau penodol sy'n ymwneud â pholisïau ac arferion yr ysgol sydd wedi effeithio ar y gwaith a wnaed
K13 sut rydych chi wedi cymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac arferion gwrthwahaniaethol yn eich gwaith
K14 dulliau gwerthuso eich cymhwysedd eich hun, penderfynu pryd mae angen cymorth ac arbenigedd pellach a'r camau a gymerwyd i wella eich cymhwysedd eich hun yn y maes gwaith hwn
K15 yr opsiynau y gwnaethoch chi eu hystyried ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc a'r prosesau rhesymu a ddefnyddiwyd gennych wrth benderfynu ar ydull mwyaf priodol ar gyfer y plentyn/person ifanc dan sylw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Nodi anghenion dysgu a datblygu plant a phobl ifanc
1. Anghenion dysgu a datblygu
1.1. galwedigaethol
1.2. personol
2. Cyd-destunau dysgu
2.1. dysgu yn y gwaith
2.2. hobïau/diddordebau hamdden
2.3. gwaith gwirfoddol
2.4. gwaith â thâl
Cynllunio gyda phlant a phobl ifanc sut bydd anghenion dysgu a datblygu yn cael sylw drwy fentora
3. Nodau
3.1. nodau unigol
3.2. nifer o nodau
4. Cyfnodau allweddol
4.1. tymor byr
4.2. tymor hir
Mentora plant a phobl ifanc i gyflawni’r deilliannau a nodwyd
5. Adnoddau
5.1. gan eich asiantaeth eich hun
5.2. gab asiantaethau eraill
6. Gwybodaeth
6.1. geiriol
6.2. ysgrifenedig
6.3. electronig
6.4. gweledol
Adolygu effeithiolrwydd mentora gyda phlant a phobl ifanc
7. Problemau
7.1. o fewn y berthynas fentora
7.2. y tu allan i'r berthynas fentora
Nodyn esboniadol
Yn ystod 1, gall problemau y tu allan i'r berthynas fentora fod yn rhai diwylliannol, amgylcheddol, cymdeithasol, personol neu sefydliadol.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL48 Cynorthwyo pobl ifanc i fynd i'r afael â phroblemau a chymryd camau
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn wreiddiol o uned F314 o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Cyfiawnder Cymunedol a ddatblygwyd gan Skills for Justice. Mae hefyd yn rhan o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Dysgu, Datblygu a Gwasanaethau Cymorth i Blant, Pobl Ifanc a'r rhai sy'n gofalu amdanynt, lle mae'n ymddangos fel uned 9. Mae'r uned Dysgu, Datblygu a Gwasanaethau Cymorth (fel y'i defnyddir yma) wedi'i theilwra i gael gwared argyfeiriadau at ymddygiad troseddol.