Cynorthwyo plant a phobl ifanc yn ystod cyfnodau pontio yn eu bywydau
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio gydag eraill i gynorthwyo plant neu bobl ifanc i gydnabod ac ymdopi â chyfnodau pontio arwyddocaol yn eu bywydau.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gweithio gyda phlant neu bobl ifanc i nodi cyfnodau pontio arwyddocaol a allai fod yn digwydd neu sydd ar fin digwydd yn eu bywydau a rhoi cymorth i'w galluogi i'w rheoli mewn modd cadarnhaol.
Diffinnir cyfnodau pontio fel unrhyw gam neu brofiad arwyddocaol ym mywyd plentyn neu berson ifanc sy’n gallu effeithio ar ymddygiad a/neu ddatblygiad.
Mae cyfnodau pontio yn cynnwys y rhai sy'n gyffredin i bob plentyn a pherson ifanc, fel symud ysgol a’r glasoed, a'r rhai sy'n benodol ac yn digwydd i rai yn unig, fel profedigaeth ac ysgariad. Efallai y bydd cyfnodau pontio o'r fath yn hysbys ac wedi'u cynllunio, neu'n annisgwyl a heb eu cynllunio.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Adnabod arwyddion o gyfnodau pontio ac ymateb iddynt
- Cynorthwyo plant a phobl ifanc i reoli cyfnodau pontio yn eu bywydau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Adnabod arwyddion o gyfnodau pontio ac ymateb iddynt
P1 meithrin perthynas agored a gonest gyda phlant neu bobl ifanc gan ddefnyddio iaith sy'n briodol i'w hoedran a'u cyfnod datblygu
P2 rhoi cyfleoedd i blant neu bobl ifanc archwilio a thrafod digwyddiadau a phrofiadau arwyddocaol a allai effeithio arnynt
P3 nodi arwyddion o bryder neu ofid ymhlith plant neu bobl ifanc a allai fod yn gysylltiedig â phrofiad o bontio
P4 adnabod ac ystyried unrhyw arwyddion o newid mewn agwedd ac ymddygiad plant neu bobl ifanc unigol
P5 esbonio yn glir i blant neu bobl ifanc pa wybodaeth y gallai fod gennych i'w rhannu ag eraill a pham
P6 rhannu gwybodaeth a phryderon am blant neu bobl ifanc â'r person priodol
P7 cyfrannu at gynllunio sut i gynorthwyo plant neu bobl ifanc i reoli cyfnodau pontio mewn ffordd gadarnhaol
P8 cadarnhau gyda’r person priodol y ffiniau a'r protocolau sy'n llywodraethu eich rôl wrth gynorthwyo plant neu bobl ifanc drwy gyfnodau pontio
Cynorthwyo plant a phobl ifanc i reoli cyfnodau pontio yn eu bywydau
P9 rhoi cyfleoedd strwythuredig i blant neu bobl ifanc archwilio effeithiau profiadau pontio ar eu bywydau
P10 gwrando'n astud ar unrhyw ofidiau ac ymateb yn adeiladol iddynt
P11 esbonio sefyllfaoedd yn llawn ac yn gywir, gan nodi'r hyn sy'n digwydd yn ogystal â’r rhesymau dros y newidiadau os bydd hynny’n bosibl ac yn briodol
P12 annog cwestiynau a gwirio dealltwriaeth
P13 rhoi cymorth mewn modd amserol i helpu plant neu bobl ifanc i reoli'r cyfnod pontio a chael deilliant cadarnhaol
P14 cynorthwyo plant neu bobl ifanc i ddod o hyd i ffyrdd o reoli newid yn gadarnhaol a'u hannog i adnabod eu cryfderau ac adeiladu arnynt
P15 gwneud cysylltiadau effeithiol ag eraill o fewn eich sefydliad eich hun neu sefydliadau eraill, yn ôl eich rôl, pe bai angen cymorth pellach
P16 cofnodi unrhyw gamau a gymerir gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydliadol y cytunwyd arnynt
P17 cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, sefydliadol a moesegol sy'n ymwneud â chyfnewid gwybodaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 gall cyfnodau pontio fod:
K1.1 yn emosiynol, wedi'u heffeithio gan brofiadau personol, e.e. profedigaeth
K1.2 yn ffisegol, e.e. symud i sefydliad addysgol newydd, cartref/ardal newydd
K1.3 yn ddeallusol, e.e. symud o'r feithrinfa i'r ysgol gynradd, neu ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
K1.4 yn ffisiolegol, e.e. y glasoed, cyflwr meddygol tymor hir
K2 yr effeithiau y gall cyfnodau pontio eu cael ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
K2.1 ymddygiadol
K2.2 emosiynol
K2.3 deallusol
K2.4 ffisiolegol
K3 yr arwyddion bod plentyn neu berson ifanc yn mynd trwy gyfnod pontio penodol
K4 pwysigrwydd meithrin a chynnal perthynas o ymddiriedaeth gyda phlant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod pontio, a sut i wneud hyn
K5 gall cyfnodau pontio fod yn brofiad cadarnhaol yn ogystal â phrofiad negyddol ym mywydau plant a phobl ifanc
K6 sut y gall effaith diwylliant, crefydd, credoau personol, rhyw, cam datblygu a phrofiadau blaenorol effeithio ar sut mae plentyn neu berson ifanc yn mynd drwy gyfnod pontio
K7 pwysigrwydd rhoi cymorth priodol i blant a phobl ifanc yn ystod cyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau a'r mecanweithiau ar gyfer gwneud hyn
K8 y math o gymorth y gall eich sefydliad eich hun ac asiantaethau eraill ei gynnig
K9 natur a ffiniau eich rôl wrth gynorthwyo plant neu bobl ifanc sy'n profi cyfnodau pontio a sut mae hyn yn berthnasol i rôl pobl eraill o fewn y lleoliad a’r tu hwnt iddo
K10 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech gyfeirio at bobl eraill
K11 sut i alluogi plant neu bobl ifanc i ystyried eu pryderon am gyfnodau pontio mewn modd cadarnhaol ac anfygythiol
K12 pwysigrwydd parchu hawliau plant a phobl ifanc unigol bob tro yr ydych yn rhyngweithio â nhw
K13 sut rydych chi'n adnabod ac yn rheoli eich teimladau negyddol eich hun, e.e. teimlo’n ddiymadferth ac yn annigonol
K14 y math o wybodaeth a allai fod yn briodol i'w chyfnewid ag asiantaethau eraill (e.e. cofnodion addysgol)
K15 pam mae’n bwysig arsylwi protocolau cyfrinachedd wrth gyfnewid gwybodaeth a pham mae’n bwysig bod y plentyn neu'r person ifanc yn cael gwybod am y protocolau hyn
K16 y math o sefyllfa lle mae'n rhaid torri protocolau cyfrinachedd
K17 gofynion cyfreithiol, sefydliadol a moesegol mewn perthynas â chasglu, storio a chyfnewid gwybodaeth, gan gynnwys:
K17.1 y Ddeddf Diogelu Data
K17.2 protocolau a gweithdrefnau cyfrinachedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Person priodol
caiff hyn ei ddiffinio mewn gweithdrefnau sefydliadol a bydd yn oruchwyliwr neu'n rheolwr llinell yn ôl pob tebyg. Os amheuir achos o gam-drin, bydd person dynodedig sydd â chyfrifoldeb yn y maes hwn.
Pontio
unrhyw gam neu brofiad arwyddocaol ym mywyd plentyn neu berson ifanc sy’n gallu effeithio ar ymddygiad a/neu ddatblygiad Mae cyfnodau pontio yn cynnwys y rhai sy'n gyffredin i bob plentyn a pherson ifanc, fel symud ysgol a’r glasoed, a'r rhai sy'n benodol ac yn digwydd i rai yn unig, fel profedigaeth ac ysgariad.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL2 Cynorthwyo datblygiad plant
TDASTL38 Cynorthwyo plant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig a'u teuluoedd