Cynorthwyo pobl ifanc i fynd i'r afael â phroblemau a chymryd camau

URN: TDASTL48
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo pobl ifanc wrth gynllunio camau i fynd i'r afael â phroblemau. Gall fod yn addas ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo addysg dinasyddiaeth a/neu fenter neu'r rhai sydd â rôl cymorth bugeiliol mewn ysgolion.

Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â galluogi grwpiau o bobl ifanc i dderbyn cyfrifoldeb dros gynllunio, trafod a blaenoriaethu eu camau gweithredu. Mae'n ymwneud â galluogi pobl ifanc i droi eu cynlluniau yn gamau gweithredu, gweithio gyda nhw i fonitro cynnydd ac addasu cynlluniau yn ôl yr angen, ac, yn olaf, nodi'r hyn y maent wedi'i ddysgu ac ystyried eu camau nesaf.

Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen

  1. Galluogi pobl ifanc i fynd i'r afael â phroblemau a chynllunio camau gweithredu i gyflawni eu nodau a'u dyheadau
  2. Galluogi pobl ifanc i gymryd camau ar sail eu cynlluniau
  3. Galluogi pobl ifanc i fyfyrio ar eu gweithredoedd a dysgu ohonynt.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Galluogi pobl ifanc i fynd i'r afael â phroblemau a chynllunio camau gweithredu i gyflawni eu nodau a'u dyheadau
P1     gweithio gyda phobl ifanc i nodi a chytuno ar eu nodau ar gyfer gweithredu
P2     annog pobl ifanc i nodi ystod o opsiynau ymarferol ar gyfer cyflawni eu nodau
P3     galluogi pobl ifanc i ymgynghori â phartïon eraill sydd â diddordeb er mwyn penderfynu beth yw'r opsiynau mwyaf ymarferol ar gyfer cyflawni eu nodau
P4     cynorthwyo pobl ifanc i sefydlu rhinweddau pob opsiwn a nodwyd
P5     lle bo'n bosibl, gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn diffinio sut maent am fesur llwyddiant yr opsiynau gweithredu y maent am eu dewis.
P6     cytuno ar gynlluniau ar gyfer cyflawni opsiynau’r bobl ifanc sy'n realistig o fewn y cyfyngiadau perthnasol
P7     gwneud yn siŵr bod gan bobl ifanc y sgiliau fydd eu hangen arnynt, neu eu bod yn gallu datblygu’r sgiliau hyn, er mwyn rhoi eu cynllun ar waith
P8     annog pobl ifanc i nodi cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i roi eu cynllun ar waith
P9     gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn mynd i'r afael â'u dyheadau a'u hanghenion datblygu unigol a chyfunol yn y cynllun

Galluogi pobl ifanc i gymryd camau yn seiliedig ar eu cynlluniau
P10   gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn datblygu cynlluniau realistig a thrylwyr
P11   helpu pobl ifanc i nodi a chytuno ar gyfrifoldebau unigol a chyfunol dros roi eu cynlluniau ar waith
P12   gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn ystyried ac yn cytuno ar effeithiau eu camau arfaethedig ar grwpiau ac unigolion eraill
P13   cytuno â phobl ifanc ar ffiniau clir ar gyfer y cynllun gweithredu
P14   gweithio gyda phobl ifanc i roi cymaint o ryddid â phosibl iddynt o fewn y ffiniau y cytunwyd arnynt ar gyfer eu cynllun
P15   gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn monitro cynnydd eu cynllun wrth ei roi ar waith
P16   gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cyfathrebu'n effeithiol â grwpiau ac unigolion sy’n cael eu heffeithio gan eu camau
P17   cynorthwyo pobl ifanc i nodi newidiadau sydd eu hangen i'w cynlluniau a'u rhoi ar waith
P18   cynnig gwybodaeth, cyngor ac adborth a fydd yn hybu cynnydd camau gweithredu pobl ifanc

Galluogi pobl ifanc i fyfyrio ar eu gweithredoedd a dysgu ohonynt
P19   creu amgylcheddau ac adegau sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc fyfyrio ar eu profiadau
P20   yn annog pobl ifanc yn gyson i adolygu eu profiad o roi eu cynllun ar waith a chymryd camau
P21   galluogi pobl ifanc i nodi a datblygu sgiliau wrth fyfyrio ar eu profiad eu hunain a dysgu ohonynt
P22   galluogi pobl ifanc i fesur eu camau gweithredu yn erbyn y cynllun gweithredu y cytunwyd arno ac adolygu effeithiau eu camau gweithredu ar eraill
P23   helpu pobl ifanc i nodi cyflawniadau a delio â methiannau canfyddedig
P24   esbonio a hyrwyddo manteision dysgu parhaus
P25   galluogi pobl ifanc i nodi sut y gallant ddefnyddio eu dysgu mewn agweddau eraill ar eu bywydau.
P26   galluogi pobl ifanc i ddatblygu nodau a thargedau clir a chyraeddadwy ar gyfer cymryd camau yn y dyfodol yn seiliedig ar eu dysgu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1     pam mae’n bwysig annog pobl ifanc i werthuso opsiynau
K2     ffynonellau gwybodaeth a chyngor y gall pobl ifanc eu defnyddio i’w helpu i werthuso opsiynau
K3     technegau gwerthuso opsiynau K4    technegau mesur llwyddiant
K5     sut i bennu amcanion realistig a mesur eu cyflawniad
K6     sut i ddefnyddio technegau datrys problemau i gynllunio gweithgareddau
K7     sut i ddatblygu cynlluniau a’u cyflwyno
K8     canllawiau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol i'r atebion arfaethedig a’r broses gynllunio
K9     ffynonellau hyfforddiant ar gyfer y sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i roi eu cynlluniau ar waith
K10   fframweithiau cyfreithiol a statudol, gofynion sefydliadau ariannu
K11 y gyfraith mewn perthynas â hawliau pobl ifanc, yn enwedig deddfwriaeth amddiffyn plant a rheoliadau iechyd a diogelwch
K12   pam mae’n bwysig bod gan gamau gweithredu nodau realistig a’u bod wedi’u cynllunio’n briodol
K13   ystod o gyfarpar a thechnegau i alluogi cynllunio manwl
K14   pam mae’n bwysig bod grwpiau ac unigolion sy’n cael eu heffeithio yn cael eu cynnwys yn y gwaith cynllunio
K15   anghenion, hawliau a gwerthoedd grwpiau eraill
K16   ystod o dechnegau monitro a gwerthuso y gall pobl ifanc eu defnyddio
K17   ystod o strategaethau a thechnegau cyfathrebu y gall pobl ifanc eu defnyddio
K18   cyfansoddiad a pholisïau sefydliadol, deddfwriaeth a gofynion iechyd a diogelwch
K19   pam mae’n bwysig annog pobl ifanc i fyfyrio ar eu profiadau eu hunain ac ystyried beth maent wedi’i ddysgu oddi wrthynt
K20   sut i greu amgylchedd lle mae'n ddiogel siarad yn agored ac yn onest am brofiadau, dysgu a dyheadau
K21   ystod o sgiliau hwyluso, cyfathrebu a gwrando
K22   ystod o dechnegau adolygu y gall pobl ifanc eu defnyddio
K23   sut i adolygu cyflawniadau yn erbyn cynlluniau
K24   sut i alluogi pobl ifanc i gysylltu eu dysgu i rannau eraill o'u bywydau
K25   sut i ddatblygu nodau pellach yn seiliedig ar ddysgu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Galluogi pobl ifanc i fynd i'r afael â phroblemau a chynllunio camau gweithredu i gyflawni eu nodau a'u dyheadau:
unigol, grŵp; emosiynol, ysbrydol, gwybyddol, corfforol; gwybodaeth a sgil.



partïon sydd â diddordeb:
pobl ifanc, darparwyr adnoddau, gofalwyr.



sgiliau:
gallai‘r rhain gynnwys sgiliau technegol, gweinyddol, rhyngbersonol.



cyfleoedd:
ffurfiol ac anffurfiol, hyfforddiant, cyfleoedd i ymarfer.



cyfyngiadau:
gall y rhain gynnwys yr adnoddau sydd ar gael, polisi sefydliadol, gwerthoedd grŵp a pholisïau.



Galluogi pobl ifanc i gymryd camau ar sail eu cynlluniau mewn modd realistig a thrylwyr:
gan gynnwys amcanion clir, amserlenni, adnoddau, rolau a cyfrifoldebau.



ffiniau:
Gall gynnwys canllawiau cyfreithiol, polisïau a chanllawiau sefydliadol, gwerthoedd gwaith ieuenctid, ffiniau y cytunwyd arnynt gyda grwpiau sy’n cael eu heffeithio gan eu gweithredoedd.



cyfathrebu’n effeithiol:
yn rheolaidd, yn sensitif, mewn ffyrdd sy'n cynnal parch ar y naill ochr.



Galluogi pobl ifanc i fyfyrio ar eu gweithredoedd a dysgu ohonynt er mwyn eu hadolygu a myfyrio arnynt:
wrth roi eu cynllun ar waith, ac ar ôl ei roi ar waith.



adolygu:
drwy fyfyrio’n unigol, drwy drafodaethau a gweithgareddau grŵp.



cyflawniadau:
gallu grŵp i gymryd camau, dysgu a datblygu aelodau'r grŵp, symud ymlaen yn erbyn nodau ac amcanion.



Dolenni I NOS Eraill

TDASTL50 Hwyluso plant a phobl ifanc i ddysgu a datblygu drwy fentora

Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gwaith Ieuenctid lle mae'n ymddangos fel uned A4.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL48

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau