Galluogi pobl ifanc i fod yn ddinasyddion gweithgar
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo disgyblion mewn gwersi dinasyddiaeth a/neu weithgareddau yn y gymuned.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gweithio gyda phobl ifanc i'w galluogi i ymchwilio a deall y materion yn eu cymunedau a'u rôl yn eu cymuned. Mae'n ymwneud â'u helpu i nodi eu pŵer i weithredu a'u galluogi i gyflwyno eu syniadau a'u safbwyntiau i eraill.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Helpu pobl ifanc i ddeall eu cymunedau a'u rôl ynddynt
- Galluogi pobl ifanc i gyfleu eu barn a'u diddordebau i eraill a negodi a dylanwadu ar bobl a sefyllfaoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Helpu pobl ifanc i ddeall eu cymunedau a'u rôl ynddynt
P1 galluogi pobl ifanc i nodi’n glir y cymunedau amrywiol lle maen nhw'n byw
P2 gweithio gyda phobl ifanc i nodi materion lleol sy'n bwysig iddyn nhw
P3 creu cyfleoedd i bobl ifanc ystyried materion ehangach sy’n effeithio arnynt hwy a'u cymunedau
P4 cynorthwyo pobl ifanc i gydnabod eu rolau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau fel unigolion ac yn eu cymunedau
P5 cynorthwyo pobl ifanc i nodi a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol grwpiau ac unigolion yn eu cymunedau
P6 galluogi pobl ifanc i ddeall prosesau gwneud penderfyniadau yn eu cymunedau
P7 galluogi pobl ifanc i nodi pwyntiau dylanwad posibl yn y gymuned
P8 cynorthwyo pobl ifanc i nodi a datblygu eu sgiliau dylanwadu
P9 galluogi pobl ifanc i ddeall effaith eu camau gweithredu ar grwpiau ac unigolion eraill yn y gymuned
Galluogi pobl ifanc i fynegi eu barn a’u buddiannau i eraill yn ogystal
â negodi a dylanwadu ar bobl a sefyllfaoedd
P10 gweithio gyda phobl ifanc i nodi a chadarnhau'r farn a'r safbwyntiau y maent am eu cyflwyno, a'r bobl y maent am eu cyflwyno iddynt.
P11 gweithio gyda phobl ifanc i fynegi eu safbwynt a'u barn yn glir
P12 cytuno â phobl ifanc pa gymorth fydd ei angen arnynt wrth gyflwyno eu safbwynt a'u barn
P13 gweithio gyda phobl ifanc i wneud yn siŵr bod cyflwyniadau yn realistig ac yn bodloni'r gofynion a bennir gan eraill
P14 galluogi pobl ifanc i esbonio, gofyn ac ateb cwestiynau a negodi eu safbwynt a'u barn
P15 cytuno ar brosesau a meini prawf llwyddiant a monitro cynnydd gyda phobl ifanc
P16 gweithio gyda phobl ifanc i adolygu deilliannau eu cyflwyniad a gweithredu arnynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 gwahanol fathau o cymunedau
K2 materion mewnol ac ehangach sy'n effeithio ar bobl ifanc yn eu cymunedau
K3 rolau, hawliau a chyfrifoldebau unigolion a grwpiau mewn perthynas â chymunedau a chymdeithas
K4 gofynion cyfreithiol, cyfle cyfartal ac arferion gwrthwahaniaethol
K5 y ffordd y mae grwpiau diddordeb arbennig fel pobl ifanc yn rhyngweithio â grwpiau diddordeb arbennig eraill yn y gymuned
K6 prosesau gwneud penderfyniadau mewn gwahanol gymunedau
K7 pam mae’n bwysig meithrin hyder pobl ifanc yn eu gallu i ddylanwadu ar y sefyllfaoedd y maent yn gweithredu ynddynt
K8 sut i gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu a defnyddio amrywiaeth o sgiliau dylanwadu
K9 technegau meithrin hyder a phendantrwydd
K10 pam mae’n bwysig annog pobl ifanc i ddatblygu a chyflwyno eu barn a'u hanghenion eu hunain
K11 ystod o ddulliau ar gyfer datblygu cyflwyniad neu achos busnes
K12 ystod o ffynonellau gwybodaeth (e.e. canllawiau gwneud cais am grant dadansoddiadau o anghenion, amcanion eich hun a’r sefydliad) y gellid eu defnyddio wrth ddatblygu cyflwyniadau neu achosion busnes
K13 pa fathau o sgiliau y gall pobl ifanc eu cynnig wrth baratoi cyflwyniadau neu achosion busnes
K14 nodau, amcanion a gwerthoedd y bobl ifanc a'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau
K15 sut i alluogi pobl ifanc i wneud cyflwyniadau effeithiol
K16 sut i weithio gyda phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau trafod
K17 sut i adolygu deilliannau cyflwyniadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Helpu pobl ifanc i ddeall eu cymunedau a'u rôl ynddynt
cymunedau:
gall y rhain gynnwys rhai cymdeithasol, cyflogaeth, addysgol, ethnig, crefyddol.
materion ehangach:
materion yn ymwneud â gwaith ieuenctid a materion eraill, materion lleol a chenedlaethol.
grwpiau ac unigolion:
gall y rhain fod yn gysylltiedig â diwylliant, crefydd, diddordeb, grwpiau ffurfiol ac anffurfiol, grwpiau cymunedol yn seiliedig ar ardal neu ddiddordeb cyffredin, grwpiau newydd neu sefydledig, grwpiau sy'n wynebu anfantais, gwahaniaethu neu ormes.
prosesau gwneud penderfyniadau:
ffurfiol ac anffurfiol, lleol a mwy eang.
pwyntiau dylanwad:
ffurfiol ac anffurfiol, gydag unigolion a grwpiau.
Galluogi pobl ifanc i fynegi eu barn a’u buddiannau i eraill yn ogystal â negodi a dylanwadu
ar bobl a sefyllfaoedd eraill:
gall y rhain gynnwys y bobl sy'n gwneud penderfyniadau, pobl y tu mewn a'r tu allan i'w sefydliad eu hunain, grwpiau ffurfiol ac anffurfiol.
cyflwyniadau:
i unigolion, grwpiau; ffurfiol, anffurfiol; ysgrifenedig, llafar.
Dolenni I NOS Eraill
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gwaith Ieuenctid lle mae'n ymddangos fel uned A3.