Gweithio gyda phobl ifanc i ddiogelu eu lles
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda myfyrwyr hŷn mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill i ddiogelu eu lles.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â deall a gwerthuso peryglon a risgiau, a chyflawni eich gwaith yn ddiogel ac yn unol â gweithdrefnau sefydliadol. Mae'n ymwneud â galluogi pobl ifanc i asesu risgiau, eu helpu i fagu eu hyder i'w rheoli a chynnig cymorth priodol i unigolion pan fyddant mewn argyfwng.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen
- Hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel ar gyfer gwaith ieuenctid
- Gweithio gyda phobl ifanc i asesu risg a’i rheoli
- Helpu unigolion i gymryd camau pan maent yn ofidus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel ar gyfer gwaith ieuenctid
P1 nodi pa bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i'ch rôl
P2 gweithio yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
P3 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad personol yn hyrwyddo eich diogelwch eich hun ac eraill
P4 nodi'r arferion gwaith hynny yn unrhyw ran o'ch rôl a allai niweidio eich hun neu bobl eraill
P5 delio â pheryglon ac arferion risg isel yn unol â pholisïau sefydliadol a gofynion cyfreithiol
P6 rhoi gwybod i’r bobl sy’n gyfrifol yn eich sefydliad am y peryglon a'r arferion hynny sy'n peri risg uchel, ac awgrymiadau ar gyfer lleihau risg
Gweithio gyda phobl ifanc i asesu perygl a’i reoli
P7 gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwybod beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer diogelu eu lles
P8 gweithio gyda phobl ifanc i nodi’r peryglon mewn amgylcheddau gwaith ieuenctid, a'u risg gysylltiedig
P9 cytuno â phobl ifanc ar reolau diogelwch sylfaenol clir a chryno ar gyfer gwaith ieuenctid
P10 annog pobl ifanc i fod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain ac eraill
P11 gwneud yn siŵr bod rheolau ac arferion y cytunwyd arnynt yn cyd-fynd â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer diogelwch
P12 gweithio gyda phobl ifanc i nodi pob sefyllfa a allai fod yn beryglus y tu allan i leoliad y gwaith ieuenctid
P13 helpu pobl ifanc i ddatblygu arferion diogel sy'n cyd-fynd â'u galluoedd a'r gweithdrefnau diogelwch perthnasol
P14 gweithio gyda phobl ifanc i nodi ffynonellau cymorth a chamau gweithredu y gallant eu cymryd i ddelio â'r risgiau y maent wedi'u nodi
Helpu unigolion i gymryd camau pan maent yn ofidus
P15 adnabod arwyddion o barodrwydd pobl ifanc i siarad â chi neu bod angen iddynt wneud hynny
P16 creu perthynas o natur agored ac ymddiriedaeth drwy ddefnyddio dulliau effeithiol technegau gwrando
P17 annog y person ifanc i esbonio ei ofid mewn modd nad yw’n pwyso arno i drafod neu ddatgelu mwy nag y mae ei eisiau, ei angen neu’n gallu ei wneud
P18 ymateb yn sensitif i’r tawelwch meddwl sydd ei angen ar y person ifanc, gan gadw o fewn gweithdrefnau sefydliadol
P19 parchu angen y person ifanc am gyfrinachedd o fewn gweithdrefnau'r sefydliad ynghylch datgelu
P20 nodi ffynonellau sy’n gallu cynnig cymorth ar unwaith
P21 helpu'r person ifanc i nodi opsiynau a phenderfynu ar gamau gweithredu ar unwaith
P22 cytuno ar broses ar gyfer cynorthwyo a monitro cynnydd gyda'r person ifanc, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol
P23 cofnodi eich gweithredoedd ac adrodd arnynt yn briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar iechyd a diogelwch ac amddiffyn plant
K2 polisïau penodol y gweithle sy'n cwmpasu eich rôl
K3 arferion gweithio diogel yn eich swydd eich hun
K4 pwysigrwydd ymddygiad personol wrth gynnal eich diogelwch eich hun ac eraill
K5 eich cwmpas a'ch cyfrifoldeb dros nodi risgiau a’u cywiro
K6 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer trin risgiau nad ydych yn gallu mynd i’r afael â nhw
K7 pam mae hunan-werth a hunan-barch yn bwysig i bobl ifanc wrth iddynt reoli'r risg yn eu bywydau
K8 pam y dylid annog pobl ifanc i dderbyn cyfrifoldeb dros eu diogelwch eu hunain
K9 sut i negodi a chytuno ar reolau diogelwch ar gyfer gwaith ieuenctid gyda phobl ifanc a’u hannog i ddatblygu rheolau sylfaenol ar gyfer eu hunain
K10 mathau cyffredin o beryglon o fewn amgylchedd y gwaith ieuenctid, a'u risg gysylltiedig i bobl ifanc
K11 mathau cyffredin o beryglon a risg gysylltiedig y tu allan i amgylchedd y gwaith ieuenctid
K12 ffynonellau cyngor ac arweiniad ar risgiau i bobl ifanc a sut i ddelio â nhw
K13 pam mae’n bwysig gwrando ar ofidion pobl ifanc ac ymateb iddynt
K14 arwyddion sy'n dangos parodrwydd unigolyn i siarad â chi neu bod angen iddynt wneud hynny
K15 technegau gwrando fel crynhoi, aralleirio, gwirio, ac ati
K16 gweithdrefnau sefydliadol ynghylch cyfrinachedd a datgeliadau adroddadwy
K17 gweithdrefnau sefydliadol ar ymddygiad priodol wrth gynorthwyo pobl sy’n wynebu gofid, gan gyfeirio'n benodol at amddiffyn pobl ifanc rhag cael eu cam-drin
K18 ffynonellau cymorth/cyswllt ar gyfer sefyllfaoedd penodol (arbenigol)
K19 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â datgeliadau y mae angen rhoi gwybod amdanynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel ar gyfer gwaith ieuenctid
polisïau a gweithdrefnau sefydliadol:
iechyd a diogelwch, amddiffyn plant.
diogelwch:
diogelwch corfforol, diogelwch emosiynol.
risgiau sy’n deillio o:
ymddygiad anniogel, ffactorau amgylcheddol, arferion gwaith nad ydynt yn cydymffurfio â pholisïau gosodedig, defnyddio a chynnal peiriannau neu gyfarpar.
pobl gyfrifol:
y rhai sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch, amddiffyniad plant.
Gweithio gyda phobl ifanc i asesu perygl a’i reoli
gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer diogelu eu lles: iechyd a diogelwch, gweithdrefnau amddiffyn plant.
peryglon:
Rhywbeth sydd â'r potensial i achosi niwed megis mewn gweithgareddau, elfennau afiach ac anniogel o’r amgylchedd, cyfarpar a deunyddiau, arferion afiach ac anniogel, ymddygiad pobl ifanc neu oedolyn.
risg:
y tebygolrwydd y bydd potensial y perygl yn cael ei wireddu, gan effeithio ee. ar iechyd a diogelwch corfforol, lles emosiynol.
diogelwch:
diogelwch corfforol, diogelwch emosiynol.
Helpu unigolion i gymryd camau pan maent yn ofidus argyfyngau unigol o ofid:
mewn perthynas â pherthnasoedd, iechyd, cyllid, cyfreithiol neu weithgareddau anghyfreithlon.
cymorth ar unwaith:
gall gynnwys cymorth gan deulu a ffrindiau, ffynonellau gwybodaeth arbenigol, asiantaethau statudol a gwirfoddol.
proses ar gyfer cynorthwyo a monitro cynnydd:
Gall fod yn ffurfiol neu'n anffurfiol, yn fewnol i leoliad eich gwaith, gan drosglwyddo cyfrifoldeb i asiantaeth arbenigol.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL3 Helpu i gadw plant yn ddiogel
TDASTL45 Hyrwyddo lles a gwydnwch plant
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gwaith Ieuenctid lle mae'n ymddangos fel uned YW D4.