Hyrwyddo lles a gwydnwch plant
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo gofal, dysgu a datblygiad plant neu bobl ifanc. Gall yr uned hon fod yn addas ar gyfer y rhai sydd â rôl cymorth bugeiliol a/neu ddysgu mewn lleoliad ysgol.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â helpu plant neu bobl ifanc i ddatblygu hunanddibyniaeth, hunan-barch a gwydnwch emosiynol. Mae'n ymwneud â sut mae ymarferwyr yn rhoi amgylchedd emosiynol sy'n cynorthwyo, yn cadarnhau ac yn gwerthfawrogi plant a phobl ifanc ac yn eu helpu i reoli eu teimladau eu hunain a'u perthnasoedd ag eraill.
Mae'r uned hon yn cynnwys pedair elfen:
- Galluogi plant i uniaethu ag eraill
- Darparu amgylchedd cynorthwyol a heriol
- Galluogi plant i gymryd risgiau yn ddiogel
- Annog hunanddibyniaeth, hunan-barch a gwydnwch plant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Galluogi plant i uniaethu ag eraill
P1 parchu a gwerthfawrogi safbwyntiau, barn a theimladau plant/pobl ifanc
P2 annog plant/pobl ifanc i ystyried teimladau pobl eraill
P3 annog plant/pobl ifanc i rannu a chydweithio mewn gweithgareddau ar y cyd
P4 helpu plant/pobl ifanc i nodi ffiniau ymddygiad derbyniol ac annerbyniol
P5 myfyrio ar agweddau cadarnhaol ar ymddygiad a rhyngweithio plant/pobl ifanc a’u cydnabod
P6 adnabod ymddygiad priodol o ran datblygiad
P7 parch a gwerthfawrogi galluoedd a chryfderau plant/pobl ifanc
P8 gwerthfawrogi amrywiaeth a dangos parodrwydd i derbyn nodweddion tebyg a gwahanol
Darparu amgylchedd cynorthwyol a heriol
P9 darparu amgylchedd tawel a pharod i dderbyn sy'n caniatáu i blant/pobl ifanc brofi a mynegi eu teimladau'n ddiogel
P10 annog plant/pobl ifanc i roi cynnig ar weithgareddau a phrofiadau newydd
P11 gwobrwyo ymdrechion a chyflawniadau plant/pobl ifanc mewn modd cadarnhaol
P12 cynorthwyo plant/pobl ifanc i reoli methiant a siom P13 helpu plant/pobl ifanc i ragfynegi, cydnabod a derbyn goblygiadau eu gweithredoedd
P14 helpu plant/pobl ifanc i gynorthwyo ei gilydd drwy weithgareddau a chyflawniadau heriol
P15 dangos parodrwydd i dderbyn a pharchu unigoliaeth plant/pobl ifanc
P16 dangos gonestrwydd a didwylledd wrth ryngweithio â phlant/pobl ifanc
Galluogi plant i gymryd risgiau yn ddiogel
P17 cynnal asesiad risg yn unol â pholisi sefydliadol, heb gyfyngu ar gyfleoedd i ymestyn a herio sgiliau plant/pobl ifanc
P18 dangos ymwybyddiaeth o alluoedd a chymhwysedd plant/pobl ifanc unigol
P19 caniatáu i blant/pobl ifanc bennu eu terfynau eu hunain o fewn fframwaith asesu risg
P20 annog plant/pobl ifanc i asesu risgiau iddynt eu hunain ac eraill o'u gweithgareddau a’u hymddygiad
P21 ymyrryd mewn sefyllfaoedd lle mae plant/pobl ifanc mewn perygl o gael niwed
P22 cytuno ar ffiniau a therfynau clir gyda phlant/pobl ifanc a’r rhesymau y tu ôl iddynt
P23 helpu plant/pobl ifanc i reoli a monitro eu hymddygiad eu hunain ac ymddygiad pobl eraill
P24 goruchwylio plant/pobl ifanc yn unol â deddfwriaeth a’r polisïau a’r arferion a dderbynnir yn y lleoliad
Annog hunanddibyniaeth, hunan-barch a gwydnwch plant
P25 ymgysylltu â phlant/ifanc unigol a rhoi sylw penodol iddynt
P26 cyfathrebu â phlant/pobl ifanc yn agored ac yn onest mewn ffyrdd nad ydynt yn feirniadol
P27 canmol ymddygiad penodol yr ydych am ei annog
P28 cyfeirio unrhyw sylwadau, boed yn rhai cadarnhaol neu negyddol, tuag at yr ymddygiad a ddangosir, nid y plentyn/person ifanc unigol
P29 trin plant/pobl ifanc â pharch ac ystyriaeth fel pobl unigol yn eu rhinwedd eu hunain
P30 helpu plant/pobl ifanc i ddewis nodau realistig sy'n heriol ond yn gyraeddadwy
P31 dangos empathi tuag at blant/pobl ifanc drwy ddangos dealltwriaeth o'u teimladau a'u safbwynt
P32 annog plant/pobl ifanc i wneud penderfyniadau a dewisiadau
P33 gweithio gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn ôl yr angen, i annoghunan-barch a gwydnwch plant/pobl ifanc
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 sut i gynnal asesiad risg sy'n cymryd pob rhagofal rhesymol heb gyfyngu ar gyfleoedd i ddatblygu; sut y gall polisi sefydliadol gynorthwyo hyn
K2 ffactorau sy'n effeithio ar wydnwch plant a phobl ifanc
K3 sut gallech chi gynyddu gwydnwch plant a phobl ifanc, yn ôl oedran, anghenion a galluoedd y plentyn neu'r person ifanc
K4 y cysylltiad rhwng gallu plant a phobl ifanc i uniaethu ag eraill a'u lles emosiynol a'u gwydnwch
K5 y cysyniad o amgylchedd emosiynol ddiogel sy'n rhoi rhwydd hynt i blant a phobl ifanc fynegi eu teimladau
K6 pwysigrwydd ymddiriedaeth, didwylledd a gonestrwydd ym mherthynas ymarferwyr â phlant a phobl ifanc
K7 sut y gallwch chi helpu plant a phobl ifanc i ddeall, mynegi a rheoli eu teimladau
K8 pam mae’n bwysig i blant a phobl ifanc herio a phrofi eu galluoedd a'r berthynas rhwng hyn a hunan-barch
K9 sut y gallwch chi annog a chynorthwyo plant a phobl ifanc i brofi ac ymestyn eu sgiliau a'u galluoedd; sut rydych chi'n eu helpu i reoli llwyddiant a methiant mewn ffyrdd nad ydynt yn niweidio eu hunan-barch
K10 yr hyn a olygir gan ganolbwyntio, pam mae hyn yn bwysig i hunan-barch plant a phobl ifanc, a sut rydych chi'n canolbwyntio fel hyn
K11 pwysigrwydd peidio â barnu plant a phobl ifanc; pam y dylid cyfeirio sylwadau at ymddygiad yn hytrach na'r unigolyn a'r cysylltiad rhwng hyn a gwydnwch a hunan-barch plant a phobl ifanc
K12 sut rydych yn dangos empathi a dealltwriaeth tuag at blant a phobl ifanc, gan gynnwys yr iaith a'r ymadroddion y gallech eu defnyddio
K13 sut rydych chi'n nodi ac yn rheoli eich teimladau negyddol eich hun, e.e. diffyg hyder a theimladau o annigonolrwydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cadarnhad
anogaeth gadarnhaol a chadarnhad o allu neu werth fel person.
Her
arbrofi a phrofi maint a therfynau eich hun gallu.
Plant a phobl ifanc
plant neu bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw, oni bai y nodir fel arall.
Empathi
y gallu i weld pethau o safbwynt rhywun arall a deall eu teimladau.
Gallu emosiynol
y gallu i ddeall, rheoli a mynegi elfennau cymdeithasol ac emosiynol eich bywyd mewn ffyrdd sy'n galluogi sgiliau bywyd i gael eu datblygu.
Gwydnwch
y gallu i wrthsefyll siomedigaethau, niwed ac ymosodiadau cyffredin ar hyder rhywun heb i’r rhain effeithio ar hunan-barch.
Asesu risg
yr asesiadau y mae'n rhaid eu cynnal er mwyn nodi peryglon a dod o hyd i’r ffordd fwyaf diogel o gyflawni tasgau a gweithdrefnau penodol.
Hunan-barch
hunanhyder; cymryd cysur yn eich hun fel person sy’n cael ei werthfawrogi.
Hunanddibyniaeth
annibyniaeth bersonol, y gallu i ddatrys eich problemau eich hun.
Lles
iechyd corfforol a meddyliol, gan arwain at agwedd gadarnhaol a theimladau o hapusrwydd.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL20 Datblygu a hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, Dysgu a Datblygu lle mae'n ymddangos fel CCLD 308.
Mae'r uned hon yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd ar gyfer y Safonau.