Gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n rhoi gofal personol i ddisgyblion sydd ag anghenion ychwanegol.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chyfrannu at asesu a datblygu cynlluniau i ddiwallu anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol, cyn mynd ati i roi’r cynlluniau ar waith a’u gwerthuso.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
- Cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i nodi a datblygu cynlluniau i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
- Cynorthwyo plant a phobl ifanc i fynd i'r afael â'u hanghenion cymorth personol
- Cyfrannu at werthuso effeithiolrwydd gweithgareddau i ddiwallu anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i nodi a datblygu cynlluniau i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
P1 cynorthwyo plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac eraill, i nodi anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc
P2 chwilio am wybodaeth a chyngor i'ch helpu i ddeall a mynd i'r afael ag anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc
P3 archwilio, gyda phlant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac eraill, ffyrdd gwahanol y gellir diwallu eu hanghenion cymorth personol
P4 cynorthwyo plant a phobl ifanc i nodi eu barn a'u dewisiadau ynghylch sut y dylid ac y gellid diwallu eu hanghenion cymorth personol, gan ystyried eu hoedran, eu galluoedd a'u lefel datblygu a dealltwriaeth
P5 cyfrannu at ddatblygu cynlluniau i ddiwallu anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc
P6 gofyn am gyngor a chymorth arbenigol, i'ch helpu i ddiwallu anghenion cymorth personol ychwanegol plant a phobl ifanc
Cynorthwyo plant a phobl ifanc i fynd i'r afael â'u hanghenion cymorth personol
P7 nodi anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc yr ydych yn gyfrifol amdanynt
P8 rhoi cymorth gweithredol i alluogi plant a phobl ifanc i:
P8.1 nodi a defnyddio eu sgiliau, eu galluoedd, eu profiad a'u gwybodaeth eu hunain i helpu i ddiwallu eu hanghenion personol
P8.2 cymryd rhan gymaint ag y maent yn gallu
P9 helpu plant a phobl ifanc i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol, gan ystyried risgiau a’u rheoli
P10 rhoi cymorth gweithredol i alluogi plant a phobl ifanc i gynnal gweithgareddau sy'n ategu eu hanghenion personol, gan ystyried:
P10.1 y dymuniadau a'r dewisiadau a fynegwyd ganddynt
P10.2 unrhyw risgiau
P10.3 gofynion cynllun gofal
P11 gweithio mewn modd sensitif gyda phlant a phobl ifanc i'w helpu i ddeall, ymdopi a lleihau'r rhwystredigaethau y gallant deimlo wrth ofyn am help a’i dderbyn
P12 cynorthwyo plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac eraill i nodi unrhyw newidiadau i anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc
P13 cymryd camau priodol i ddelio ag unrhyw anghenion cymorth personol newidiol plant a phobl ifanc
P14 gofyn am gymorth a chyngor ychwanegol pan fyddwch yn cael trafferth cynorthwyo anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc
P15 gofyn am gymorth ychwanegol i fynd i’r afael â’ch anghenion personol ac emosiynol eich hun wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
Cyfrannu at werthuso effeithiolrwydd gweithgareddau i ddiwallu anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc
P16 annog plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd a gofalwyr i roi adborth ar effeithiolrwydd gweithgareddau i ddiwallu anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc
P17 gweithio gydag eraill i nodi eich cyfrifoldebau eich hun a’u cyflawni i werthuso effeithiolrwydd gweithgareddau i ddiwallu anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc
P18 cynorthwyo plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac eraill i werthuso agweddau ar eich cymorth:
P18.1 sydd wedi cyflawni canlyniadau cadarnhaol
P18.2 y gellid eu gwella
P19 cynorthwyo plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac eraill i werthuso gweithgareddau er mwyn diwallu anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc sydd:
P19.1 wedi bod o fudd i'r plentyn/person ifanc
P19.2 angen eu gwella
P19.3 angen eu diwygio i fodloni newidiadau yn anghenion, oedran, galluoedd a lefel datblygiad a dealltwriaeth y plentyn/person ifanc
P20 gweithio gyda phlant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd a gofalwyr yn y broses werthuso mewn ffyrdd sy'n parchu eu barn, dymuniadau a’u dewisiadau
P21 nodi, gydag eraill:
P21.1 pa arbenigedd ychwanegol sydd ei angen i ddiwallu anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc, a ble i gael gafael arno, nawr ac yn y dyfodol
P21.2 sut y gellir cael gafael ar unrhyw help a chymorth ychwanegol a phwy ddylai fod yn gyfrifol am hyn
P21.3 unrhyw newidiadau y mae angen eu rhoi ar waith wrth gynorthwyo anghenion cymorth personol ychwanegol plant a phobl ifanc
P22 cynorthwyo plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd a gofalwyr i ddeall:
P22.1 unrhyw newidiadau a wneir i anghenion cymorth personol plant a phobl ifanc
P22.2 pryd a chan bwy y bydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud
P22.3 sut y ceir yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer unrhyw newidiadau sydd â goblygiadau o ran adnoddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwerthoedd
K1 gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth, gwahaniaethu, hawliau, cyfrinachedd, rhannu gwybodaeth a hawliau plant a phobl ifanc yn genedlaethol, a thrwy Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
K2 sut i roi cymorth parhaus a gosod dewisiadau a buddiannau gorau plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnewch chi wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
K3 sut i wneud yn siŵr eich bod yn diogelu hawliau a buddiannau plant a phobl ifanc gan ystyried unrhyw gyfyngiadau ar eu hawliau a hawliau rhieni
K4 sut i weithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd, gofalwyr a'r rhai o fewn a’r tu allan i'ch sefydliad i alluogi'r plant a'r bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol i gyfathrebu a diwallu eu hanghenion, eu dymuniadau a’u dewisiadau
K5 penblethau rhwng:
K5.1 safbwyntiau, dewisiadau, dyheadau a disgwyliadau'r plant a'r bobl ifanc, a'ch rôl a'ch cyfrifoldebau o ran gofalu amdanynt a'u hamddiffyn
K5.2 eich gwerthoedd eich hun a gwerthoedd plant a phobl ifanc, eu rhieni, teuluoedd, gofalwyr a phobl allweddol
K5.3 eich gwerthoedd proffesiynol eich hun a gwerthoedd pobl eraill o fewn eich sefydliadau a’r tu allan iddynt
K6 dulliau effeithiol wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a mynd i’r afael â gwahaniaethu a’i herio wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
Deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
K7 codau ymarfer ac ymddygiad, a safonau a chanllawiau sy'n berthnasol i'ch rolau eich hun, cyfrifoldebau, atebolrwydd a dyletswyddau eraill wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
K8 deddfwriaeth gyfredol leol, y Deyrnas Unedig ac Ewropeaidd a gofynion, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol ar gyfer:
K8.1 diogelu data, gan gynnwys cofnodi, adrodd, storio, diogeledd a rhannu gwybodaeth
K8.2 iechyd a diogelwch
K8.3 asesu a rheoli risg
K8.4 ymdrin â sylwadau a chwynion
K8.5 hyrwyddo lles a diogelwch plant a phobl ifanc
K8.6 hawliau a chyfrifoldebau rhieni
K8.7 gweithio gyda rhieni, teuluoedd a gofalwyr i hyrwyddo lles a chyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc
K8.8 gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
K9 fframweithiau ac arweiniad ar:
K9.1 asesiadau
K9.2 addysg
K9.3 iechyd
K10 arferion a safonau gwasanaeth sy'n berthnasol i leoliad eich gwaith ac wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
K11 sut i gael gafael ar gofnodion a gwybodaeth am anghenion, barn, dymuniadau a dewisiadau plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd a gofalwyr
K12 diben eich goruchwyliaeth a’ch cymorth a’r trefniadau ar eu cyfer
Damcaniaeth ac arferion
K13 sut a lle i gael gafael ar wybodaeth a chymorth a all lywio eich arferion wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol er mwyn diwallu eu hanghenion cymorth personol
K14 adroddiadau, ymchwiliadau ac adroddiadau ymchwil y llywodraeth am fethiannau difrifol o ran amddiffyn plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
K15 damcaniaethau sy'n berthnasol i'r plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw, ynghylch:
K15.1 twf a datblygiad dynol sy'n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys ffactorau ac amodau sy’n gallu helpu a/neu atal datblygiad
K15.2 hunaniaeth a hunan-barch
K15.3 colli a newid
K15.4 gwrthdaro a phenblethau
K15.5 pŵer, a sut y gellir ei ddefnyddio a'i gamddefnyddio wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
K15.6 effeithiau straen a gofid
K15.7 gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
K15.8 ffynonellau cadarnhaol a negyddol a ffactorau atgyfnerthu sy’n gallu effeithio ar hyder, hunaniaeth a hunan-barch y plant a'r bobl ifanc
K15.9 arsylwi cynnydd plant a phobl ifanc
K15.10 anghenion ychwanegol a chyflyrau’r plant a phobl ifanc y byddwch yn gweithio gyda nhw
K15.11 beth sy’n cymell ac yn galluogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan hyd eithaf eu gallu
K15.12 defnyddio, cynnal a gwaredu deunyddiau a chyfarpar peryglus a’r rhai nad ydynt yn beryglus
K16 gweithio mewn ffyrdd integredig sy'n hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
K17 cyfrifoldebau a therfynau eich perthynas â phlant a phobl ifanc
K18 dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu’n effeithiol â phlant a phobl ifanc, eu rhieni, eu teuluoedd a'u gofalwyr
K19 ffactorau sy'n achosi risgiau a'r rhai sy'n sicrhau gofal diogel ac effeithiol i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
K20 pwysigrwydd perthnasoedd teuluol sefydlog, oedolion a chyfoedion ac effaith tarfu, gan gynnwys aflonyddwch o ran lleoliad
K21 sut i weithio gyda gwrthdaro yr ydych yn debygol o’u hwynebu, a’u datrys
K22 amodau a materion yr ydych chi’n debygol o'u hwynebu yn eich gwaith gyda phlant a phobl ifanc a rhieni, teuluoedd a gofalwyr
K23 dulliau cynorthwyo plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol er mwyn:
K23.1 iddynt fynegi eu hanghenion, eu dymuniadau a’u dewisiadau
K23.2 nodi sut y dylid diwallu eu hanghenion gofal
K24 dulliau:
K24.1 cyfathrebu ac ymgysylltu’n effeithiol â phlant a phobl ifanc yn gyffredinol, ac yn benodol â'r rhai rydych chi'n gweithio gyda nhw
K24.2 cynnwys plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau mewn ffyrdd sy'n briodol i oedran y plentyn a'r person ifanc, lefel eu datblygiad a'u dealltwriaeth, a'u hanghenion ychwanegol
K24.3 gweithio gyda rhieni, teuluoedd a gofalwyr i gynorthwyo plant a phobl ifanc
K24.4 gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin, eu bwlio, eu herlid, a allai wynebu niwed neu berygl, neu a allai gymryd rhan mewn ymddygiad troseddol
K25 sut y gallai anghenion gwahanol plant fod angen technegau gwahanol
K26 y math o gyfarpar a chymorth y gallai’r plant a’r bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw eu defnyddio, sut i'w defnyddio, sut y dylid eu cynnal ac â phwy i gysylltu os ydynt yn ddiffygiol neu os oes angen eu huwchraddio
K27 dulliau a fformatau ar gyfer cynllunio, monitro, arsylwi a chofnodi at ddibenion gwerthuso
K28 pwysigrwydd nodi a yw plant a phobl ifanc yn ofidus neu'n anghyfforddus pan fydd eu hanghenion cymorth personol yn cael eu diwallu
K29 sut i gynorthwyo rhieni a gofalwyr i reoli'r risgiau i blant a phobl ifanc o ran eu datblygiad a’u hannibyniaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cymorth gweithredol
cymorth sy'n annog plant a phobl ifanc i wneud cymaint â phosibl drostynt eu hunain i gynnal eu hannibyniaeth a'u gallu corfforol ac sy'n annog pobl ag anableddau i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial eu hunain a’u hannibyniaeth.
Gofalwr
unrhyw berson sy'n gofalu am les corfforol, cymdeithasol a meddyliol y plant.
Plant a phobl ifanc
plant a phobl ifanc o adeg eu geni hyd at 18 oed y mae angen gwasanaethau iechyd a gofal arnynt; hefyd mewn achosion pan mae'r plant a'r bobl ifanc yn gymwys o hyd drwy ddeddfwriaeth neu bolisi i dderbyn gwasanaethau plant/pobl ifanc, nes eu bod yn cyrraedd 21 oed. Pan mae plant a phobl ifanc yn defnyddio eiriolwyr/cyfieithwyr ar y pryd i'w galluogi i fynegi eu barn, eu dymuniadau neu eu teimladau a siarad ar eu rhan, gall y term plentyn/person ifanc o fewn y safon hon gynnwys y plant a'r bobl ifanc a'u heiriolwr/cyfieithydd ar y pryd.
Cyfathrebu
cyfathrebu drwy ddefnyddio: yr iaith lafar a ffefrir gan y plentyn/person ifanc; defnyddio arwyddion; symbolau; lluniau; ysgrifen; gwrthrychau cyfeirio; pasportau cyfathrebu; ffurfiau di-eiriau eraill o gyfathrebu; cymhorthion dynol a thechnolegol i gyfathrebu.
Teuluoedd
gan gynnwys y bobl sy'n perthyn i’r plant a’r bobl ifanc yn gyfreithiol a'r rhai sydd, drwy berthnasoedd, wedi dod yn rhan gydnabyddedig o'u teulu.
Eraill
pobl eraill y mae gan y plentyn/person ifanc berthynas gefnogol gyda nhw.
Rhieni
pobl sydd â chyfrifoldeb rhieni cyfreithiol.
Anghenion cymorth personol
anghenion y plant a'r bobl ifanc mewn perthynas â'u gweithgareddau personol fel mynd i'r tŷ bach, diwallu eu hanghenion gofal personol, golchi ac ati.
Hawliau
yr hawliau sydd gan blant a phobl ifanc i:
- gael eu parchu
- cael eu trin yn gyfartal a pheidio â chael eu gwahaniaethu
- cael eu trin fel unigolion
- cael eu trin ag urddas
- preifatrwydd
- cael eu hamddiffyn rhag perygl a niwed
- cael gofal mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion, yn ystyried eu dewisiadau, yn ogystal â’u diogelu
- cael gafael ar wybodaeth am eu hunain
- cyfathrebu drwy ddefnyddio’r dulliau cyfathrebu a’r iaith sydd orau ganddynt.
Risgiau
y tebygolrwydd o berygl, niwed a/neu gamdriniaeth sy'n deillio o unrhyw beth neu unrhyw un.
Dolenni I NOS Eraill
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle mae'n ymddangos fel uned HSC315.