Helpu i roi meddyginiaeth
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo i roi meddyginiaeth i ddisgyblion mewn ysgolion. Dim ond i'r rhai sydd â chyfrifoldeb dros roi meddyginiaeth dan gyfarwyddyd ymarferydd gofal iechyd cymwysedig y mae’r uned hon yn berthnasol. Mae hyfforddiant am sut i roi meddyginiaeth yn rhagofyniad hanfodol i'r rhai sy'n ymgymryd â'r rôl hon.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chynorthwyo i roi meddyginiaeth i ddisgybl unigol, neu’n rhan o broses ehangach lle gellir cynnal "rownd gyffuriau." Byddwch bob amser yn gweithio gyda staff eraill sy’n gyfrifol am arwain y broses yn y cyd-destun hwn, a rhaid i chi bob amser weithio o fewn eich rôl a'ch maes cyfrifoldeb dirprwyedig i roi meddyginiaeth.
Gall y broses o roi meddyginiaeth gynnwys meddyginiaeth(au) o wahanol gategorïau cyffuriau fel:
- rhestr o eitemau a werthir yn gyffredinol
- fferyllfa yn unig
- presgripsiwn yn unig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer rheoli heintiau ac iechyd a chamau diogelwch perthnasol eraill
P2 gwneud yn siŵr bod yr holl gofnodion neu brotocolau rhoi meddyginiaethau ar gael, yn gyfredol ac yn ddarllenadwy drwy gael cadarnhad yw aelod staff sy'n arwain y proses
P3 rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau neu ddiffygion i'r person sy'n rheoli'r broses rhoi meddyginiaeth ac i staff perthnasol fel y bo'n briodol
P4 darllen y cofnod rhoi meddyginiaethau gyda'r person sy'n arwain y broses, gwirio a chadarnhau faint o feddyginiaeth sydd ei hangen, y dos a'r dull rhoi yn erbyn y cofnod/protocol, a chadarnhau erbyn pa ddyddiad y gellir defnyddio’r feddyginiaeth
P5 cyfeirio cyfarwyddiadau dryslyd neu anghyflawn yn ôl at yr aelod staff perthnasol neu'r fferyllydd
P6 gwirio a chadarnhau pwy yw'r unigolyn sydd i gael y feddyginiaeth gyda'r person sy'n arwain y gweithgaredd a chyda'r unigolyn ei hun, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyn i'r feddyginiaeth gael ei rhoi
P7 cyfrannu at roi'r feddyginiaeth i'r unigolyn yn y ffordd briodol, defnyddio'r dechneg gywir ac ar yr amser penodedig yn unol â'r cynllun gofal
P8 helpu'r unigolyn i reoli eu hunain gymaint â phosibl a chyfeirio unrhyw broblemau neu ymholiadau at y staff neu'r fferyllydd perthnasol
P9 gofyn am gymorth a chyngor gan aelod perthnasol o staff os na fydd yr unigolyn yn cymryd y feddyginiaeth neu os nad yw’n gallu ei chymryd
P10 gwirio a chadarnhau bod yr unigolyn yn cymryd y feddyginiaeth ac nad yw'n rhoi’r meddyginiaeth i rywun arall
P11 cyfrannu at gwblhau'r cofnodion angenrheidiol sy'n ymwneud â rhoi meddyginiaethau'n gyfreithlon, yn gywir ac yn llawn
P12 dychwelyd cofnodion rhoi meddyginiaethau i'r man y cytunwyd arno ar gyfer storio a chynnal cyfrinachedd gwybodaeth sy'n ymwneud â'r unigolyn bob amser
P13 sicrhau diogeledd meddyginiaethau trwy gydol y broses a gwneud yn siŵr bod yr holl feddyginiaeth yn cael ei storio yn y lle diogel cywir pan fydd y feddyginiaeth wedi’i rhoi yn llawn.
P14 gwirio lefel stoc meddyginiaethau a chynorthwyo i ailarchebu os
bydd hynny’n angenrheidiol ac yn berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Deddfwriaeth, polisïau ac arferion da
K1 ymwybyddiaeth ffeithiol o'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd a chenedlaethol gyfredol, canllawiau cenedlaethol a pholisïau a phrotocolau lleol sy'n effeithio ar eich arferion gwaith mewn perthynas â chynorthwyo i roi meddyginiaeth
K2 gwybodaeth ymarferol am eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd a chenedlaethol bresennol, canllawiau cenedlaethol a pholisïau a phrotocolau lleol
K3 ymwybyddiaeth ffeithiol o bwysigrwydd gweithio yn eich maes cymhwysedd a gofyn am gyngor wrth wynebu sefyllfaoedd y tu allan i’ch maes cymhwysedd
K4 gwybodaeth ymarferol am bwysigrwydd cymhwyso rhagofalon safonol a chanlyniadau posibl arferion gwael
K5 gwybodaeth ymarferol pam mai dim ond yn erbyn cofnod yr unigolyn yn unig y dylai’r feddyginiaeth gael ei rhoi a hynny mewn modd cyson gyda chyngor y rhagnodydd
K6 gwybodaeth ymarferol am bwy yn lleoliad eich gwaith sy’n gyfrifol am gwirio a chadarnhau bod y manylion a'r cyfarwyddiadau ar label y feddyginiaeth yn gywir ar gyfer y cleient ac o ran taflen/protocol cofnod rhoi’r feddyginiaeth
K7 gwybodaeth ymarferol am y camau y dylech eu cymryd os ydych yn anghytuno â’r person sy’n arwain y broses o roi meddyginiaeth
K8 gwybodaeth ymarferol am y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio meddyginiaeth ar daflenni gwybodaeth i gleifion a chyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr
Gweithdrefnau a thechnegau
K9 gwybodaeth ymarferol o'r gwahanol ffyrdd o roi meddyginiaeth
K10 gwybodaeth ymarferol o'r wybodaeth y mae angen ei chynnwys ar label meddyginiaeth a'i harwyddocâd
Gofal a chymorth i'r unigolyn
K11 gwybodaeth ymarferol am y gwahanol gymhorthion y gellir eu defnyddio i helpu unigolion i gymryd eu meddyginiaeth
K12 gwybodaeth ymarferol am bwysigrwydd cyfathrebu a gwahanol ffyrdd y gallwch gyfathrebu
K13 gwybodaeth ymarferol am bwysigrwydd nodi’r unigolyn y mae'r meddyginiaethau wedi'u rhagnodi ar ei gyfer
K14 gwybodaeth ymarferol am pam mae’n hanfodol eich bod yn cadarnhau'r feddyginiaeth yn erbyn y presgripsiwn/protocol gyda'r person sy'n arwain y broses o roi’r feddyginiaeth
Cofnodion a dogfennaeth
K15 gwybodaeth ymarferol am bwysigrwydd cofnodi'ch gweithgareddau yn gywir yn ôl yr angen
K16 gwybodaeth ymarferol am bwysigrwydd cadw cofnodion cywir a chyfredol
K17 gwybodaeth ymarferol am bwysigrwydd rhoi gwybod i’r aelod staff perthnasol ar unwaith ac yn ddiymdroi am unrhywfaterion sydd y tu allan i'ch maes cymhwysedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. mae dull priodol yn cynnwys:
1.1. dull araf, o lwy neu bot meddyginiaeth ar gyfer meddyginiaeth drwy’r geg
1.2. peidio â thrin y cyffur eich hun
2. cyfarpar
2.1. cyffuriau
2.2. troli
2.3. meddyginiaeth
2.4. potiau
2.5. llwyau
2.6. chwistrelli
2.7. jygiau dŵr
2.8. gwydrau yfed
2.9. siartiau presgripsiwn
2.10. bagiau gwaredu
2.11. meddyginiaeth
2.12. poteli
2.13. pecynnau
3. mae dulliau’n cynnwys:
3.1. ar lafar
3.2. drwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol eraill e.e. Makaton
3.3. drwy ddefnyddio breichledau hunaniaeth
4. mae’r person sy'n arwain y broses o roi meddyginiaeth yn cynnwys uwch-aelod o staff fel:
4.1. nyrs gofrestredig ym mhob cyd-destun
4.2. bydwraig gofrestredig
4.3. gweithiwr cymdeithasol
5. mae staff perthnasol yn cynnwys:
5.1. person wrth y llyw
5.2. nyrs
5.3. bydwraig
5.4. gweithiwr cymdeithasol
5.5. meddyg
5.6. fferyllydd
6. rhagofalon safonol a chamau iechyd a diogelwch
6.1. cyfres o ymyriadau a fydd yn lleihau neu'n atal heintiau a thraws-heintio, gan gynnwys:
golchi dwylo/glanhau cyn, yn ystod, ac ar ôl y gweithgaredd
6.2. defnyddio dillad amddiffynnol personol a cyfarpar diogelu ychwanegol pan fo'n briodol
mae hefyd yn cynnwys:
6.3. trin eitemau halogedig
6.4. gwaredu gwastraff
6.5. technegau sy,mud a thrin yn ddiogel
6.6. gweithdrefnau pan fo pethau’n mynd o chwith
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarpar amddiffynnol ychwanegol
yn cynnwys mathau o gyfarpar amddiffynnol personol fel feisorau, sbectol amddiffynnol a chyfarpar amddiffynnol ymbelydredd fel sy'n briodol i'r sefyllfa.
Halogedig
yn cynnwys eitemau sydd wedi'u halogi â hylifau'r corff, cemegau neu radioniwcliadau, a dylai unrhyw becyn/eitem a agorir ac na ddefnyddir gael ei drin fel un sydd wedi'i halogi.
Unigolion
y personau mae'r feddyginiaeth wedi cael ei harchebu/rhagnodi ar eu cyfer. Gall y rhain fod yn oedolion a/neu'n blant, yn dibynnu ar y lleoliad gofal yr ydych yn gweithio.
Cofnod rhoi meddyginiaethau a/neu brotocolau cyffuriau
dynodi'r term a ddefnyddir ar gyfer y ddogfennaeth y mae'r feddyginiaeth wedi cael ei threfnu/rhagnodi arni - bydd hyn yn amrywio ar draws lleoliadau gofal ac amgylcheddau, megis ysbytai a lleoliadau cymunedol, gan gynnwys meddyginiaethau a ragnodir gan ymarferwyr cyffredinol (meddygon teulu) a'u dosbarthu gan fferyllwyr cymunedol, lle bydd y cyfarwyddiadau i'w gweld ar becynnau’r feddyginiaeth.
Dillad diogelu personol
yn cynnwys eitemau fel ffedogau plastig, menig – glân a di-haint, esgidiau, ffrogiau, trowsus a chrysau a siwtiau trowsus popeth-mewn-un. Gall y rhain fod yn ddillad untro tafladwy neu’n ddillad y gellir eu hailddefnyddio.
Dolenni I NOS Eraill
Tarddiad yr uned hon
Daw’r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Cymorth Gofal Iechyd Clinigol a ddatblygwyd gan Skills for Health, lle mae'n ymddangos fel CHS2.