Cynorthwyo disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n rhoi cymorth i ddisgyblion sy'n dangos graddau o amhariad gweledol, corfforol a/neu ar y clyw.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â'r cymorth a roddir i ddisgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol i'w galluogi i fanteisio’n llawn ar ddysgu mewn gweithgareddau unigol, grŵp a dosbarth, a darparu rhaglenni strwythuredig sy'n berthnasol i'w hanghenion cymorth ychwanegol.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen
- Galluogi disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol i fanteisio’n llawn ar ddysgu
- Rhoi rhaglenni dysgu strwythuredig ar waith ar gyfer disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Galluogi disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol i fanteisio’n llawn ar ddysgu
P1 cael gwybodaeth gywir a chyfredol ynghylch:
P1.1 natur a lefel anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol y disgybl
P1.2 anghenion dysgu'r disgybl
P1.3 y tasgau dysgu a’r gweithgareddau a gynlluniwyd
P2 addasu gosodiad yr amgylchedd dysgu a'r cyfarpar a ddefnyddir i alluogi'r disgybl sydd ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol i gael cyfleoedd dysgu a manteisio’n llawn arnynt
P3 datblygu a defnyddio deunyddiau addysgu a dysgu yn y cyfrwng priodol fel sy'n ofynnol gan y disgybl
P4 annog y disgybl i gymryd rhan amlwg mewn tasgau a gweithgareddau dysgu sy'n cyd-fynd â'i lefel datblygiadol, ei alluoedd corfforol ac unrhyw gyflyrau meddygol
P5 gwneud yn siŵr bod unrhyw gyfarpar arbenigol yn cael ei ddefnyddio'n briodol fel bod y disgybl yn gyfforddus ac yn manteisio i’r eithaf ar gymryd rhan mewn tasgau a gweithgareddau dysgu
P6 rhoi cymorth i alluogi'r disgybl i gael ymdeimlad o gyflawniad ac annog annibyniaeth
P7 atgyfnerthu ymdrechion y disgybl mewn modd cadarnhaol i gymryd rhan mewn tasgau a gweithgareddau dysgu
P8 rhoi adborth i bobl berthnasol ar elfennau arwyddocaol o lefelau cymryd rhan a chynnydd y disgybl
Rhoi rhaglenni dysgu strwythuredig ar waith ar gyfer disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol
P9 gweithio gyda phobl berthnasol er mwyn gwneud y canlynol ar y cyd:
P9.1 cynllunio ar y rhaglen ddysgu strwythuredig a chytuno arno
P9.2 egluro a chadarnhau eich rôl a'ch cyfrifoldeb o ran rhoi'r rhaglen ar waith
P9.3 cytuno ar amcanion ar gyfer gweithgareddau strwythuredig sy'n cyflawni nodau'r rhaglen, a’u bod o fewn cyrraedd ac yn berthnasol i anghenion y disgybl
P10 gwneud yn siŵr bod amseriad a lleoliad y gweithgareddau strwythuredig:
P10.1 yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y disgybl
P10.2 yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y drefn arferol ac amserlenni
P10.3 ar adeg pan fo'r disgybl yn fwyaf tebygol o elwa ac yn cael y manteision mwyaf
P11 defnyddio cyfarpar a deunyddiau priodol ar gyfer y gweithgareddau fel y cytunwyd arnynt gyda'r bobl berthnasol
P12 rhoi anogaeth, adborth a chanmoliaeth i atgyfnerthu a chynnal ymdrechion y disgyblion
P13 rhoi’r lefel briodol o gymorth i alluogi'r disgybl i gael ymdeimlad o gyflawniad, cynnal hunan-barch a hunanhyder ac annog annibyniaeth
P14 rhoi gwybodaeth i'r bobl berthnasol am sut mae’r disgybl yn cymryd rhan, ei gynnydd a’i fwynhad o weithgareddau strwythuredig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisi'r ysgol ar addysg gynhwysol a chyfle cyfartal a'ch rôl a'ch cyfrifoldeb mewn perthynas â hyn
K2 egwyddorion sylfaenol deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau, rheoleiddio a chodau ymarfer cyfredol
K3 rolau a chyfrifoldebau eraill, o fewn yr ysgol a’r tu allan iddi, sy'n cyfrannu at gynorthwyo disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol
K4 effaith anabledd sylfaenol ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol disgyblion
K5 sut i ddewis a defnyddio deunyddiau addysgu a dysgu mewn cyfrwng priodol, e.e. diagramau cyffyrddol, Braille, meddalwedd gyfrifiadurol, symbolau a deunydd fideo wedi’i isdeitlo
K6 rheoli materion ffisegol disgyblion, gan gynnwys technegau codi addas, seddi priodol, goleuo a chyflyru acwstig
K7 y mathau o gyfarpar a thechnoleg arbenigol a ddefnyddir gan y disgyblion rydych chi'n gweithio gyda nhw, a sut mae'n helpu i oresgyn neu leihau effaith amhariad corfforol neu ar y synhwyrau
K8 sut i helpu disgyblion i gyfrannu at reoli eu cyfarpar arbenigol eu hunain
K9 effaith salwch cronig, poen a blinder ar ddysgu
K10 effaith unrhyw feddyginiaeth a gymerir gan y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw ar eu galluoedd gwybyddol a chorfforol, ymddygiad ac ymatebolrwydd emosiynol
K11 effaith cyflyrau hirsefydlog neu gynyddol ar emosiynau, dysgu, ymddygiad ac ansawdd bywyd disgyblion
K12 pwysigrwydd canmoliaeth ac anogaeth wrth helpu disgyblion i brofi cyflawniad ac annibyniaeth a sut i ddefnyddio'r rhain yn effeithiol
K13 sut i wneud y defnydd gorau posibl o swyddogaethau synhwyraidd a chorfforol gweddilliol
K14 yr ystod o anableddau corfforol, echddygol a/neu synhwyraidd y disgyblion yr ydych chi'n gweithio gyda nhw a'r mathau o weithgareddau strwythuredig sydd eu hangen i'w helpu i oresgyn neu leihau effaith y rhain
K15 sut i gynnal gweithgaredd strwythuredig ar gyfer grŵp
K16 yr angen am ymatebolrwydd a hyblygrwydd wrth roi gweithgareddau strwythuredig ar waith ar gyfer disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol
K17 technegau atgyfnerthu cadarnhaol, sut y dylid eu defnyddio a'u heffeithiau ar ddisgyblion
K18 yr angen am ymatebion addasol i ymddygiad a chyflawniadau'r disgybl a’r dulliau ar gyfer gwneud hynny
K19 angen disgybl am annibyniaeth, rheolaeth, her ac ymdeimlad o gyflawniad
K20 pwysigrwydd gwerthfawrogi disgybl a sut i gyfathrebu hyn
K21 pryd mae'n briodol ymyrryd mewn gweithgaredd disgybl a sut i wneud hyn mewn modd sy’n dangos sensitifrwydd a pharch tuag at y disgybl
K22 pwysigrwydd ymateb i'r disgybl a rhyngweithio ag ef, gan gynnwys cyfleu cynlluniau a bwriadau i'r disgybl, mewn ffordd briodol
K23 gweithdrefnau ysgolion ar gyfer cofnodi a rhannu gwybodaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth
Gellir cael gwybodaeth am anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol y disgybl gan:
- athro’r dosbarth
- athro arbenigol neu'r cydlynydd anghenion addysgol arbennig yn yr ysgol
- cofnodion/adroddiadau ysgrifenedig
- arbenigwyr ac asiantaethau allanol.
Cynllunio
penderfynu gyda'r athro ac arbenigwyr eraill beth fyddwch chi'n ei wneud, pryd, sut a gyda pha ddisgyblion, i wneud yn siŵr bod rhaglenni dysgu strwythuredig yn cael eu rhoi ar waith fel y bo'n briodol i anghenion disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol.
Disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol
disgyblion sy'n dangos graddau o amhariad gweledol, corfforol a/neu ar y clyw.
Pobl berthnasol
pobl sydd ag angen a’r hawl i gael gwybodaeth am sut mae disgyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd. Bydd hyn yn cynnwys yr athro sy'n gyfrifol am y disgyblion, ond gall hefyd gynnwys pobl eraill fel arweinwyr ysgolion, staff cymorth eraill mewn ystafelloedd dosbarth sy'n gweithio gyda'r disgyblion, cydlynydd anghenion addysgol arbennig, neu weithwyr proffesiynol eraill, e.e. therapydd. Rhaid cadw at bolisi cyfrinachedd a gweithdrefnau amddiffyn plant yr ysgol bob amser wrth rannu gwybodaeth.
Cyfarpar arbenigol
cyfarpar a chymhorthion dysgu y gallai fod eu hangen ar ddisgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol, e.e.:
- cymhorthion clywedol
- cymhorthion gweledol
- cymhorthion symudedd
- peiriannau braille
- caledwedd a meddalwedd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).
Rhaglenni dysgu strwythuredig
rhaglenni dysgu unigol i fynd i'r afael ag anghenion ychwanegol disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol, e.e. ffisiotherapi, symudedd, therapi lleferydd ac iaith, therapi galwedigaethol a rhaglenni annibyniaeth.
Deunyddiau addysgu a dysgu
y deunyddiau sy'n addas ar gyfer disgyblion ag anableddau synhwyraidd, amlsynhwyraidd neu gorfforol, e.e.:
- diagramau cyffyrddol
- Braille
- deunyddiau fideo wedi’u hisdeitlo
- caledwedd a meddalwedd TGCh.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r uned hon yn un o bedair uned arbenigol i'r rhai sy'n gweithio gyda disgyblion ag anghenion addysgol arbennig cymedrol, difrifol a/neu gymhleth neu anghenion cymorth ychwanegol mewn ysgol arbennig neu leoliad prif ffrwd.
Yr unedau arbenigol eraill yw:
TDASTL39 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion cyfathrebu a rhyngweithio
TDASTL40 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion gwybyddol a dysgu
TDASTL41 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion ymddygiadol, emosiynol a datblygiad cymdeithasol
Mae'r uned hon yn cysylltu hefyd â:
TDASTL12 Cynorthwyo plentyn ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig
TDASTL13 Cyfrannu at symud a thrin unigolion
TDASTL14 Cynorthwyo unigolion yn ystod sesiynau therapi
TDASTL38 Cynorthwyo plant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig a'u teuluoedd