Cyfrannu at berthnasoedd cadarnhaol

URN: TDASTL4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon? 
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn lleoliad neu wasanaeth a'u prif bwrpas yw cynorthwyo gofal, dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n helpu i weithio gyda phlant ac oedolion.
 
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â rhyngweithio â phlant, pobl ifanc ac oedolion ac ymateb yn gadarnhaol iddynt. Mae'n cynnwys sgiliau cyfathrebu geiriol a di-eiriau sy'n gysylltiedig â gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac wrth ddelio ag oedolion, ynghyd â phwysigrwydd gwerthfawrogi pobl yn gyfartal.
 
Mae'r uned hon yn cynnwys pedair elfen: 

  1. Ymgysylltu â phlant ac ymateb iddynt
  2. Ymgysylltu ag oedolion ac ymateb iddynt
  3. Cyfathrebu â phlant
  4. Cyfathrebu ag oedolion.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Ymgysylltu â phlant ac ymateb iddynt
P1 dangos i blant/pobl ifanc eich bod yn rhoi sylw iddynt ac yn gwrando arnynt
P2 defnyddio dull ystyriol a chydymdeimladol wrth roi sylw i blant/pobl ifanc a gwrando
arnynt
P3 caniatáu i blant/pobl ifanc fynegi eu hunain yn eu hamser eu hunain, gan ddefnyddio
eu geiriau eu hunain neu ddulliau cyfathrebu amgen
P4 gwneud yn siŵr bod pob plentyn/person ifanc yn cael mynegi ei hun ac yn cael ei
gydnabod
P5 derbyn a chydnabod ymdrechion plant/pobl ifanc i fynegi eu teimladau
P6 gofyn cwestiynau i blant/pobl ifanc i gadarnhau eich bod yn deall eu hiaith a'u
mynegiadau

Ymgysylltu ag oedolion ac ymateb iddynt
P7 rhoi sylw llawn i oedolion pan maent yn cyfathrebu â chi
P8 dangos eich bod wedi eu deall
P9 ymateb yn hyderus ac mewn ffordd sy'n dangos eich bod wedi rhoi sylw i’w barn a
gwrando’n arni’n ofalus
P10 egluro unrhyw gamddealltwriaeth
P11 gwneud awgrymiadau a rhoi gwybodaeth pan ofynnir

Cyfathrebu â phlant
P12 cyfathrebu'n glir ac mewn ffyrdd y bydd y plentyn/person ifanc yn eu deall
P13 defnyddio iaith a chamau sy'n dangos i blant/pobl ifanc eich bod wedi rhoi sylw i’w
barn, eu teimladau a'u safbwyntiau a gwrando arnynt yn ofalus
P14 helpu plant/pobl ifanc i fynegi eu hanghenion a gwneud dewisiadau
P15 dangos eich dealltwriaeth o hoff ffyrdd plant/pobl ifanc o gyfathrebu
P16 annog plant/pobl ifanc i ddefnyddio dulliau cyfathrebu gwahanol
P17 modelu sgiliau cyfathrebu cadarnhaol ar gyfer plant/pobl ifanc

Cyfathrebu ag oedolion
P18 trin oedolion gyda chwrteisi a pharch, gan ddefnyddio enwau a ffefrir
P19 gwerthfawrogi anghenion a dewisiadau unigol oedolion
P20 cyfnewid gwybodaeth gydag oedolion yn unol ag arfer y cytunwyd arno
P21 defnyddio dulliau cyfathrebu sy'n briodol i oedolion
P22 addasu'r ffyrdd o gyfathrebu pan fyddwch yn cael anawsterau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 pwysigrwydd rhoi sylw llawn i blant a phobl ifanc wrth wrando arnynt a sut rydych chi'n dangos hyn drwy iaith y corff, mynegiant eich wyneb, lleferydd ac ystum
K2 pam mae’n bwysig rhoi cyfle i bob plentyn a pherson ifanc gael eu clywed a sut rydych chi'n gwneud hyn mewn grŵp
K3 amlinelliad o sut mae sgiliau cyfathrebu plant a phobl ifanc yn datblygu o fewn ystod oedran 0–16 oed
K4 pam mae’n bwysig rhoi digon o amser i blant a phobl ifanc fynegi eu hunain yn eu geiriau eu hunain
K5 pam mae’n bwysig helpu plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau a sut y gallwch eu cynorthwyo i wneud hyn
K6 nodweddion allweddol cyfathrebu effeithiol a pham mae’n bwysig modelu hyn wrth ryngweithio ag oedolion, plant a phobl ifanc
K7 y prif wahaniaethau rhwng cyfathrebu ag oedolion a chyfathrebu â phlant a phobl ifanc
K8 sut i ddangos eich bod yn gwerthfawrogi safbwyntiau a barn oedolion a pham mae’n bwysig datblygu perthnasoedd cadarnhaol
K9 anawsterau cyfathrebu posibl a sut y gellir goresgyn y rhain
K10 sut i ymdopi ag anghytundebau ag oedolion
K11 pam mae’n bwysig rhoi sicrwydd i oedolion o gyfrinachedd gwybodaeth a rennir a
therfynau hyn
K12 polisi sefydliadol ynghylch cyfnewid gwybodaeth
K13 pwysigrwydd cyfathrebu'n gadarnhaol â phlant, pobl ifanc a theuluoedd
K14 sut mae gallu plant a phobl ifanc i gyfathrebu yn gallu effeithio ar eu hymddygiad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Oedolion
oedolion rydych chi'n cwrdd â nhw yn y gwaith. Bydd hyn yn amrywio yn ôl eich rôl a'ch cyfrifoldeb, ond gall gynnwys un neu ragor o: gydweithwyr, ymwelwyr â'r lleoliad ac aelodau o deuluoedd plant/pobl ifanc.



Plant a phobl ifanc
y plant a’r bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw, ac eithrio lle nodir yn wahanol.



Gwrando 
rhoi sylw i'r hyn y mae'r plentyn/person ifanc neu'r oedolyn yn ei gyfathrebu er mwyn ymateb yn briodol. Mae gwrando yn cynnwys dulliau cyfathrebu amgen y cytunwyd arnynt mewn sefyllfaoedd lle gallai fod anawsterau clywed.



Iaith
yn cynnwys iaith arwyddion, symbolau ac iaith arall ddi-eiriau.



Perthnasoedd cadarnhaol
perthnasoedd sydd o fudd i'r plant/pobl ifanc a gallu'r plant/pobl ifanc i gymryd rhan yn y lleoliad ac elwa ohono.



Dolenni I NOS Eraill

TDASTL5 Rhoi cymorth effeithiol i'ch cydweithwyr
TDASTL20 Meithrin perthnasoedd cadarnhaol a’u hyrwyddo
TDASTL60 Cysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd
TDASTL62 Datblygu a chynnal perthynas waith gydag ymarferwyr eraill
Mae'r uned hon hefyd yn gysylltiedig â phob uned sy'n cynnwys rhyngweithio â phlant, pobl ifanc a/neu oedolion.



Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, Dysgu a Datblygu lle mae'n ymddangos fel CCLD 201.
Mae'r uned hon yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Dysgu, Datblygiad a Gofal Plant.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL4

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau