Cynorthwyo plant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig a'u teuluoedd
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc anabl, neu blant neu bobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig, naill ai fel arweinydd tîm neu gydlynydd, neu sydd â rhywfaint o annibyniaeth mewn lleoliad lle nad ydych yn arweinydd tîm nac yn gydlynydd, neu'n gweithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig naill ai mewn ysgol neu wasanaeth peripatetig.
Byddai'r rhai sy'n gweithio mewn rôl gynorthwyol mewn lleoliad ysgol yn gweithio o dan gyfarwyddyd athro bob amser.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chynorthwyo plant neu bobl ifanc anabl a/neu blant neu bobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion cymorth ychwanegol. Mae'n golygu gweithio o dan gyfarwyddyd athro i sefydlu cryfderau ac anghenion plant/pobl ifanc mewn partneriaeth â'u teuluoedd ac mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill os yw'n briodol. Mae hefyd yn cynnwys nodi a defnyddio adnoddau i alluogi cynhwysiant a chymryd rhan.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
- Cyfrannu at gynnwys plant ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig
- Helpu plant ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig i gymryd rhan yn yr ystod lawn o weithgareddau a phrofiadau
- Cynorthwyo teuluoedd i ymateb i anghenion plant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at gynnwys plant ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig
P1 ceisio gwybodaeth am blant/pobl ifanc o deuluoedd ac asiantaethau cymorth allanol er mwyn asesu ac ymateb i anghenion unigol y plentyn neu'r person ifanc
P2 nodi rhwystrau rhag cymryd rhan; cymryd camau i ddileu'r rhain a chynorthwyo plant/pobl ifanc i gymryd rhan a rhoi mynediad cyfartal
P3 cynnwys ac ymgynghori â phlant/pobl ifanc a theuluoedd ar bob cam o benderfynu ar y camau y mae'n rhaid eu cymryd i’r helpu i gymryd rhan a chael mynediad
P4 datblygu cynlluniau unigol i ddiwallu anghenion pob plentyn/person ifanc
P5 gofyn am adnoddau ychwanegol neu asesiad statudol lle
bo’n briodol
P6 cynorthwyo plant/pobl ifanc yn briodol drwy gyfnodau pontio fel bod profiadau yn rhedeg
P7 cyfeirio pryderon am blant/pobl ifanc, yn ôl gweithdrefnau’r lleoliad
Helpu plant ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig i gymryd rhan yn yr ystod lawn o weithgareddau a phrofiadau
P8 nodi a chymryd camau i oresgyn rhwystrau rhag cyfathrebu
P9 nodi a chymryd camau i oresgyn rhwystrau rhag gymryd rhan yn ystod lawn y gweithgareddau a phrofiadau
P10 cynnig gweithgareddau eraill os yn briodol
P11 rhoi addasiadau ar waith y gellir eu gwneud heb ddefnyddio cymhorthion a chyfarpar arbennig
P12 nodi a defnyddio cymhorthion a chyfarpar arbenigol fel yn ôl yr angen
P13 addasu'r amgylchedd, gan gynnwys gosodiad y dodrefn a hygyrchedd cyfarpar, lle bo hynny'n angenrheidiol ac o fewn eich rôl a’ch cyfrifoldeb
P14 gwneud yn siŵr bod yr oedolion sy'n cymryd rhan yn wybodus am anableddau plant/pobl ifanc ac anghenion addysgol arbennig, ac yn hyderus yn eu rolau a’u cyfrifoldebau
P15 cytuno ar ffiniau ar gyfer ymddygiad gyda phlant/pobl ifanc a teuluoedd
Cynorthwyo teuluoedd i ymateb i anghenion plant
P16 annog aelodau o'r teulu i arsylwi a nodi anghenion plant/pobl ifanc
P17 annog aelodau o'r teulu i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda phlant/pobl ifanc
P18 sefydlu partneriaethau â theuluoedd i gydnabod mai nhw yw prif ofalwyr y plentyn/person ifanc ac y gallant fod â gwybodaeth arbenigol fanwl am y plentyn/person ifanc.
P19 teilwra cymorth i wahanol anghenion teuluoedd, gan gydnabod y bydd y deunydd a'r adnoddau personol sydd ar gael iddynt yn amrywio
P20 annog aelodau o'r teulu i fynegi eu teimladau mewn amgylchedd anfeirniadol
P21 addasu eich defnydd o iaith arbenigol gymhleth i sicrhau eglurder a dealltwriaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 effaith bosibl cael plentyn neu berson ifanc ag anabledd neu anghenion addysgol arbennig mewn teulu ac ymatebion amrywiol gofalwyr, brodyr a chwiorydd a'r teulu ehangach
K2 deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer sy'n effeithio ar ddarpariaeth ar gyfer plant a phlant anabl ag anghenion addysgol arbennig yn eich mamwlad
K3 fframweithiau asesu ac ymyrryd ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig
K4 hawliau pob plentyn a pherson ifanc i gymryd rhan a chael mynediad cyfartal a sut mae hyn yn effeithio ar ddarpariaeth
K5 cymorth a gwybodaeth leol a chenedlaethol arbenigol sydd ar gael i chi ac i'r plant/pobl ifanc a'u teuluoedd
K6 partneriaethau gyda rhieni a theuluoedd yw hanfod y ddarpariaeth gan mai nhw sy’n gwybod fwyaf am eu plentyn
K7 ceir 'rhieni arbenigol' sydd â dealltwriaeth eang a manwl o’u plentyn a'r anabledd neu anghenion addysgol arbennig, sy’n gallu cynnig cymorth i eraill
K8 sut mae integreiddio/cynhwysiant yn gweithio yn eich lleoliad a'ch ardal leol a'r rhesymau dros ei fanteision neu fel arall
K9 manylion am anableddau penodol neu anghenion addysgol arbennig wrth iddynt effeithio ar y plant/pobl ifanc yn eich gofal a'ch gallu i roi gwasanaeth o ansawdd uchel
K10 y patrwm datblygu disgwyliedig ar gyfer y plant/pobl ifanc yr ydych yn gyfrifol amdanynt
K11 effeithiau posibl anawsterau cyfathrebu a diffygion canolbwyntio
K12 pwrpas a defnydd Cyfathrebu Amgen ac Estynedig a chynorthwyo plant/pobl ifanc drwy ddefnyddio'r holl synhwyrau a phrofiadau sydd ar gael
K13 cynllunio ar gyfer anghenion unigol pob plentyn/person ifanc yn unol â'u hoedran, anghenion, rhyw a galluoedd
K14 sut i addasu eich arferion i ddiwallu anghenion yr holl blant/pobl ifanc yr ydych yn gyfrifol amdanynt, yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd
K15 pa gymhorthion a chyfarpar arbenigol sy'n berthnasol ac ar gael i'r plant/pobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw a sut i'w defnyddio'n ddiogel
K16 pwysigrwydd cydnabyddiaeth ac ymyrraeth gynnar i atal dysgu neu anawsterau eraill rhag datblygu
K17 ymwybyddiaeth o derminoleg arbenigol a’r gallu i’w ddefnyddio er budd y plant/pobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw, gan wneud yn siŵr nad ywdefnyddio terminoleg o'r fath yn rhwystro cyfathrebu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Diffygion canolbwyntio
grŵp o symptomau sydd weithiau yn gysylltiedig â gorfywiogrwydd lle mae'n anodd i'r plentyn drefnu neu orffen tasg, rhoi sylw i fanylion, neu ddilyn cyfarwyddiadau neu sgyrsiau: mae modd tynnu sylw’r plentyn yn rhwydd neu mae’n anghofio manylion arferion dyddiol.
Cyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC)
Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw ddyfais, system neu ddull cyfathrebu arbennig sy'n helpu unigolion ag anawsterau cyfathrebu i gyfathrebu'n haws ac yn fwy effeithiol: e.e. symbolau, byrddau cyfathrebu, cymhorthion cyfathrebu allbwn llais, iaith arwyddion neu fynegiannau ac ystumiau wyneb.
Rhwystrau cyfathrebu
unrhyw beth sy'n atal y plentyn neu'r person ifanc rhag cyfathrebu ag eraill neu wneud perthnasoedd, e.e. colli clyw, lleferydd neu olwg, diffyg gwasanaethau cymorth, materion iechyd meddwl, anableddau dysgu.
Rhwystrau cymryd rhan
unrhyw beth sy'n atal y plentyn neu'r person ifanc rhag cymryd rhan lawn mewn gweithgareddau a phrofiadau a gynigir gan y lleoliad neu'r gwasanaeth.
Plant
y plant neu'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw, ac eithrio lle nodir yn wahanol.
Anabledd
Amhariad corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu'r plentyn neu'r person ifanc i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Mynediad cyfartal
gwneud yn siŵr bod rhwystrau gwahaniaethol i fynediad yn cael eu dileu a bod gwybodaeth am ddarpariaeth ar gael i bob teulu yn y gymuned.
Integreiddio/cynhwysiant
plant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig sy'n perthyn i leoliadau prif ffrwd.
Modelau cymdeithasol a meddygol o anabledd
mae'r model meddygol yn adlewyrchu'r farn draddodiadol o anabledd, ei fod yn rhywbeth i'w 'wella', ac yn trin yr unigolyn fel claf sy’n sâl. Mae'r model cymdeithasol yn dynodi mai cymdeithas sydd angen newid a bod gan bobl anabl hawliau a dewisiadau.
Anghenion addysgol arbennig (AAA)
mae plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu gymorth ychwanegol yn dysgu mewn ffyrdd wahanol i'r rhan fwyaf o blant neu bobl ifanc o'r un oedran. Efallai y bydd angen help ychwanegol neu wahanol ar y plant a'r bobl ifanc hyn i'r hyn a roddir i blant a phobl ifanc eraill.
Cyfnodau pontio
newid, symud rhwng gwahanol gyfnodau mewn bywyd (tyfu) neu leoedd ffisegol (cartref–meithrinfa–ysgol).
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL12 Cynorthwyo plentyn ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig
TDASTL39 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion cyfathrebu a rhyngweithio
TDASTL40 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion gwybyddol a dysgu
TDASTL41 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion ymddygiadol, emosiynol a datblygiad cymdeithasol
TDASTL42 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, Dysgu a Datblygu lle mae'n ymddangos fel CCLD 321.
Mae'r uned hon yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Dysgu, Datblygiad a Gofal Plant.