Cyfrannu at atal a rheoli ymddygiad heriol ymhlith plant a phobl ifanc
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda disgyblion sy'n ymddwyn mewn modd heriol.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â thrafod ffiniau i leihau ymddygiad heriol ymhlith plant a phobl ifanc.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc i nodi nodau a ffiniau ar gyfer ymddygiad derbyniol
- Cynorthwyo plant a phobl ifanc i reoli ymddygiad heriol
- Galluogi plant a phobl ifanc i adnabod a deall eu hymddygiad a'i oblygiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gweithio gyda phlant a phobl ifanc i nodi nodau a ffiniau ar gyfer ymddygiad derbyniol
P1 cyfathrebu â phlant a phobl ifanc mewn ffyrdd sy'n briodol i'w hoedran, galluoedd, lefel datblygiad a dealltwriaeth:
P1.1 pam mae angen i chi bennu nodau a ffiniau ar gyfer ymddygiad
P1.2 yr ymddygiad a ddisgwylir ganddynt
P2 gweithio gyda phlant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac eraill i nodi a phennu nodau a ffiniau cyraeddadwy ar gyfer plant a phobl ifanc
P3 cynorthwyo plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd a gofalwyr i ddeall y nodau a'r ffiniau sydd wedi'u pennu ac i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cymhwyso'n gyson
P4 gweithio gyda rhieni, teuluoedd a gofalwyr i wneud yn siŵr bod eu hymddygiad yn briodol wrth ddelio â phlant a phobl ifanc, hyd yn oed pan fydd eu hymddygiad yn heriol
P5 bod yn fodel rôl i blant a phobl ifanc gan wneud yn siŵr bod eich gweithredoedd a'ch ymddygiad eich hun yn briodol ac yn cydymffurfio â'r ffiniau a bennir ar gyfer plant a phobl ifanc
P6 addasu nodau a ffiniau i ystyried adborth gan blant a phobl ifanc, eu rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac eraill o fewn a’r tu allan i'ch sefydliad
P7 gwneud yn siŵr bod y nodau a'r ffiniau yn cyfrannu at les cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant a phobl ifanc
P8 cofnodi ac adrodd ar y ffiniau a osodir o fewn cytundebau cyfrinachedd ac yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Cynorthwyo plant a phobl ifanc i ymdopi ag ymddygiad heriol
P9 darparu gweithgareddau a phrofiadau sy'n ddigon deniadol ac amrywiol i leihau diflastod a rhwystredigaeth
P10 cymhwyso rheolau a ffiniau yn deg ac yn gyson ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc
P11 cynorthwyo plant a phobl ifanc i nodi manteision ymddygiad cadarnhaol i’w hunain, eu rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac eraill, mewn ffyrdd sy'n briodol i oedran, galluoedd a lefel datblygiad a dealltwriaeth plant a phobl ifanc.
P12 amlygu a chanmol agweddau cadarnhaol ar ymddygiad plant a phobl ifanc
P13 amlygu a rhannu agweddau cadarnhaol ar ymddygiad plant a phobl ifanc gyda rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac eraill mewn ffyrdd sy'n gwella hunan-barch y plant ac yn hyrwyddo disgwyliadau cadarnhaol ar gyfer eu hymddygiad yn y dyfodol
P14 defnyddio canmoliaeth a gwobrau i atgyfnerthu ymddygiad cadarnhaol ac adborth adeiladol ar gyfer ymddygiad digroeso plant a phobl ifanc
Galluogi plant a phobl ifanc i adnabod a deall eu hymddygiad a'i oblygiadau
P15 ymdrin ag achosion o ymddygiad digroeso mewn modd tawel a rheoledig, gan gynorthwyo plant a phobl ifanc i ddeall pam nad oedd yr ymddygiad yn dderbyniol
P16 gwneud yn siŵr bod amseriad a dull eich ymyriad ar gyfer achosion o ymddygiad digroeso yn briodol i'r sefyllfa a'r digwyddiad, a chynorthwyo plant a phobl ifanc i roi'r gorau i'r ymddygiad digroeso
P17 gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddeall pryd a pham y cyflwynwyd unrhyw gosbau
P18 gwneud yn siŵr bod unrhyw gosbau a gyflwynir yn cyd-fynd â pholisi'r sefydliad ac yn gwahaniaethu'n glir rhwng peidio â chymeradwyo’r ymddygiad a gwrthod y plentyn
P19 nodi a chynorthwyo plant a phobl ifanc i nodi patrymau ymddygiad sy'n gwrthdaro â datblygiad blaengar
P20 arsylwi a nodi ffactorau a allai ysgogi a chyfrannu at ymddygiad digroeso a chynorthwyo plant a phobl ifanc i nodi’r rhain a’u deall
P21 defnyddio gwybodaeth am gefndir y plentyn/person ifanc a'i brofiadau diweddar i nodi ffactorau a allai achosi ymddygiad digroeso a chyfrannu atynt.
P22 defnyddio digwyddiadau a sefyllfaoedd sy'n digwydd yn naturiol i gynorthwyo plant a phobl ifanc i ddeall eu hymddygiad digroeso a'i oblygiadau
P23 peidio byth â defnyddio cosb gorfforol a, lle nad oes modd osgoi atal yn gorfforol, defnyddio cyn lleied ohono â phosibl:
P23.1 cadw at bolisïau, gweithdrefnau a ac arferion cyfreithiol a sefydliadol
P23.2 yr hyn sy’n ofynnol i gynnal diogelwch y plentyn/person ifanc ac eraill
P24 adrodd pryderon i'r bobl briodol a cheisio cymorth a chyngor ychwanegol ar gyfer problemau ac ymddygiad digroeso parhaus
P25 cofnodi, adrodd a rhannu gwybodaeth gyda rhieni, teuluoedd, gofalwyr eraill ac arbenigwyr o fewn cytundebau cyfrinachedd ac yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwerthoedd
K1 gofynion cyfreithiol a sefydliadol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, gwahaniaethu, hawliau, cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth wrth gyfrannu at atal a rheoli ymddygiad heriol ymhlith plant a phobl ifanc
K2 sut i roi cymorth parhaus a gosod dewisiadau a lles plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnewch wrth gyfrannu at atal a rheoli ymddygiad heriol ymhlith plant a phobl ifanc
K3 y cysyniad o ymddygiad sy’n dderbyniol/dymunol yn gymdeithasol a sut y gall hyn amrywio ar draws sefydliadau a diwylliannau
K4 penblethau rhwng:
K4.1 safbwyntiau, dewisiadau, dyheadau a disgwyliadau'r plant a'r bobl ifanc, a'ch rôl a'ch cyfrifoldebau o ran gofalu amdanynt a'u hamddiffyn
K4.2 eich gwerthoedd eich hun a gwerthoedd y plant a'r bobl ifanc, eu rhieni, eu teulu, gofalwyr ac eraill y mae gan y plentyn/person ifanc berthynas â nhw
K4.3 eich gwerthoedd proffesiynol eich hun a gwerthoedd pobl eraill o fewn eich sefydliadau a’r tu allan iddynt
Deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
K5 codau ymarfer ac ymddygiad, a safonau a chanllawiau sy'n berthnasol i'ch rôl eich hun yn ogystal â rolau, cyfrifoldebau, atebolrwydd a dyletswyddau pobl eraill wrth gyfrannu at atal a rheoli ymddygiad heriol ymhlith plant a phobl ifanc
K6 deddfwriaeth gyfredol leol, y Deyrnas Unedig ac Ewropeaidd a gofynion, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol ar gyfer:
K6.1 diogelu data, gan gynnwys cofnodi, adrodd, storio, diogeledd a rhannu gwybodaeth
K6.2 iechyd a diogelwch
K6.3 asesu a rheoli risg
K6.4 ymdrin â sylwadau a chwynion
K6.5 amddiffyn a diogelu plant a phobl ifanc rhag perygl, niwed a cham-driniaeth
K6.6 hawliau a chyfrifoldebau rhieni K6.7 atal plant a phobl ifanc
K6.8 hyrwyddo a diogelu plant a phobl ifanc
K6.9 rheoli ymddygiad heriol ymhlith plant a phobl ifanc
K7 fframweithiau ac arweiniad:
K7.1 asesiad
K7.2 addysg
K7.3 iechyd
K8 sut i gael gafael ar gofnodion a gwybodaeth am:
K8.1 anghenion, barn, dymuniadau a dewisiadau plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd a gofalwyr
K8.2 anghenion plant a phobl ifanc, amodau ymddygiad ac unrhyw anghenion a dewisiadau o ran cyfathrebu ac iaith
K9 pwrpas eich goruchwyliaeth a'ch cefnogaeth a’r trefniadau ar eu cyfer
Damcaniaeth ac arferion
K10 sut a ble i gael gafael ar wybodaeth a chymorth sy’n gallu llywio eich arferion wrth gynorthwyo plant a phobl ifanc i reoli ymddygiad heriol
K11 adroddiadau, ymchwiliadau ac adroddiadau ymchwil llywodraeth am fethiannau difrifol i ddelio ag ymddygiad heriol ac amddiffyn plant a phobl ifanc
K12 damcaniaethau sy'n berthnasol i blant a phobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw, ynghylch:
K12.1 twf, datblygiad ac ymddygiad dynol gan gynnwys:
i) yr effaith y mae pob math o gamdriniaeth, esgeulustod, bwlio, erledigaeth a thrais yn ei chael ar ddatblygiad ac ymddygiad
ii) pwysigrwydd perthnasoedd sefydlog ymhlith oedolion a chyfoedion ac effaith aflonyddwch, gan gynnwys aflonyddwch o ran lleoliad, ar ddatblygiad ac ymddygiad
iii) ffactorau ac amodau sy’n gallu bod les a/neu atal datblygiad
K12.2 arsylwi ymddygiad plant a phobl ifanc
K12.3 delio â gofid a straen a'r rhwystredigaeth y gallai ei achosi ymhlith plant a phobl ifanc
K12.4 gwrthdaro a chyfyng-gyngor wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n ymddwyn mewn modd digroeso
K12.5 pŵer a dylanwad a sut y gellir eu defnyddio a'u cam-drin wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n ymddwyn mewn modd digroeso
K13 gweithio mewn ffyrdd integredig sy'n hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
K14 dangosyddion allweddol o ddatblygiad ac ymddygiad sy’n peri problemau: emosiynol, corfforol, deallusol, cymdeithasol, cyfathrebu
K15 arwyddion ymddygiadol o waethygu, bod yn dawedog, ceisio sylw, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad hunan-niweidiol
K16 twf a datblygiad dynol sy'n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc
K17 ffynonellau cadarnhaol a negyddol a ffactorau atgyfnerthu sy’n gallu effeithio ar hyder, hunaniaeth a hunan-barch y plentyn/person ifanc ac sy’n arwain at ymddygiad digroeso
K18 dulliau effeithiol o gyfathrebu ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, eu rhieni, teuluoedd a gofalwyr
K19 ffactorau sy'n achosi risgiau a'r rhai sy'n gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn cael gofal diogel ac effeithiol
K20 math o gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc anabl a rhieni
K21 rôl perthnasoedd a rhwydweithiau cymorth wrth hyrwyddo lles y plant a’r bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw
K22 yr amodau a’r materion yr ydych yn debygol o'u hwynebu yn eich gwaith gyda phlant a phobl ifanc a rhieni, teuluoedd a gofalwyr
K23 cyfrifoldebau a therfynau eich perthynas â phlant a phobl ifanc a rhieni, teuluoedd a gofalwyr
K24 egwyddorion ar gyfer dewis system wobrwyo i'w defnyddio, y ffactorau a'r amgylchiadau a allai gynorthwyo neu ysgogi newidiadau ym mhatrwm ymddygiad arferol plant
K25 egwyddorion sylfaenol dylanwadu ar ymddygiad, pam mae’n bwysig hyrwyddo agweddau cadarnhaol ar ymddygiad ac egwyddorion atgyfnerthu cadarnhaol
K26 sut i adeiladu system gofnodi ar gyfer ymddygiad plant a phobl ifanc
K27 dulliau tawelu gwahanol sefyllfaoedd a allai arwain at ymddygiad digroeso
K28 technegau arsylwi a monitro ymddygiad plant a phobl ifanc yn unigol ac mewn grwpiau
K29 y rhesymau pam mae angen fframweithiau ar gyfer ymddygiad plant a phobl ifanc
K30 amrywiaeth o gosbau posibl sy'n briodol ar gyfer sefyllfaoedd amrywiol, gan gynnwys amser ymdawelu a thynnu’n ôl o weithgareddau
K31 sut i weithio gyda phlant a phobl ifanc i'w galluogi i ddeall beth yw ymddygiad cymdeithasol-ddymunol a sut y gallant ei gyflawni
K32 pwysigrwydd pennu ffiniau a chysondeb sut y rhoddir hyn ar waith gan eraill sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfathrebu drwy ddefnyddio:
1.1. yr iaith lafar sydd orau gan yr unigolyn
1.2. arwyddion
1.3. symbolau
1.4. lluniau
1.5. ysgrifen
1.6. gwrthrychau cyfeirio
1.7. pasportau cyfathrebu
1.8. ffurfiau di-eiriau eraill o gyfathrebu
1.9. cymhorthion dynol a thechnolegol ar gyfer cyfathrebu
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cymorth gweithredol
cymorth sy'n annog unigolion i wneud cymaint â phosibl drostynt eu hunain i gynnal eu hannibyniaeth a'u gallu corfforol ac sy'n annog pobl ag anableddau i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial eu hunain a’u hannibyniaeth.
Gofalwyr
unrhyw berson sy'n gofalu am les corfforol, cymdeithasol a meddyliol y plant.
Plant a phobl ifanc
plant a phobl ifanc o adeg eu geni hyd at 18 oed y mae angen gwasanaethau iechyd a gofal arnynt a hefyd mewn achosion pan mae'r plant a'r bobl ifanc ‘o dan ofal’ neu’n gymwys o hyd i gael gwasanaethau plant/pobl ifanc, nes eu bod yn cyrraedd 21 oed. os darperir addysg ar eu cyfer o hyd, gall yr ystod oedran hon godi i 25. pan mae plant a phobl ifanc yn defnyddio eiriolwyr i'w galluogi i fynegi eu barn, eu dymuniadau neu eu teimladau a siarad ar eu rhan, mae’r term plentyn/person ifanc o fewn y safon hon gynnwys y plant a'r bobl ifanc a'u heiriolwr.
Teuluoedd
gan gynnwys y bobl sy'n perthyn i’r plant a’r bobl ifanc yn fiolegol a'r rhai sydd, drwy berthnasoedd, wedi dod yn rhan gydnabyddedig o'u teulu.
Lefel datblygiad a dealltwriaeth
mae'n cwmpasu lefel gwybyddol, gorfforol, gymdeithasol, emosiynol a deallusol plant a phobl ifanc. Gall fod yn gysylltiedig ag oedran cronolegol ond gall mwy nag un datblygiad fod wedi’i oedi yn achos plant a phobl ifanc sydd ag anableddau.
Cyfleoedd mewn bywyd
agweddau ar fywyd plant a phobl ifanc sy'n gallu atal neu hyrwyddo'r cyfle sydd ganddynt i fanteisio’n llawn ar eu potensial, yn addysgol ac yn gymdeithasol.
Eraill
pobl eraill o fewn a’r tu allan i'ch sefydliad sy'n angenrheidiol i chi gyflawni eich swydd.
Rhieni
rhieni biolegol a llys-rieni plant a phobl ifanc.
Hawliau
yr hawliau sydd gan blant a phobl ifanc i:
- gael eu parchu
- cael eu trin yn gyfartal a pheidio â chael eu gwahaniaethu
- cael eu trin fel unigolion
- cael eu trin ag urddas
- preifatrwydd
- cael eu hamddiffyn rhag perygl a niwed
- cael gofal mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion, yn ystyried eu dewisiadau, yn ogystal â’u diogelu
- cael gafael ar wybodaeth am eu hunain
- cyfathrebu drwy ddefnyddio’r dulliau sydd orau ganddynt o ran
- cyfathrebu ac iaith.
Ymddygiad digroeso
Gall ymddygiad heriol gynnwys cam-drin geiriol (sylwadau hiliol, bygythiadau, bwlio eraill), cam-drin corfforol (megis ymosod ar eraill, difrodi eiddo), ymddygiad sy'n ddinistriol i'r plentyn/person ifanc ac ymddygiad anghyfreithlon.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL19 Hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol
TDASTL41 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion ymddygiad, emosiynol a datblygiad cymdeithasol
TDASTL50 Hwyluso dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc drwy fentora
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle mae'n ymddangos fel uned HSC326.