Rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog ar gyfer addysgu a dysgu
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n defnyddio iaith gyntaf y disgybl i roi cymorth i ddisgyblion a theuluoedd y mae eu hiaith gyntaf yn wahanol i'r hyn a ddefnyddir i gyflwyno'r cwricwlwm. Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n rhoi cymorth ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol (EAL), neu Gymraeg neu Gaeilge fel ail iaith.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog ar gyfer addysgu a dysgu. Mae'n cynnwys defnyddio iaith gyntaf y disgyblion i gynorthwyo i asesu eu galluoedd addysgol a'u hanghenion cymorth ieithyddol, rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog ar gyfer addysgu a dysgu, a chysylltu â theuluoedd i annog disgyblion i gymryd rhan a rhoi hwb i’w dysgu.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen
- Cyfrannu at asesu disgyblion dwyieithog / amlieithog
- Rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog i athrawon a disgyblion
- Cynorthwyo i gyfathrebu â theuluoedd disgyblion dwyieithog/amlieithog.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at asesu disgyblion dwyieithog/amlieithog
P1 cynnal asesiad cychwynnol o'r disgybl, o dan gyfarwyddyd athro, gan ddefnyddio iaith ddewisol y disgybl
P2 helpu i asesu profiad, galluoedd ac arddulliau dysgu'r disgybl mewn perthynas â'r rhaglen ddysgu a gynlluniwyd
P3 sefydlu anghenion dysgu'r disgybl a chytuno arnynt gan gynnwys anghenion datblygu iaith, dyheadau ac arddulliau dysgu a ffefrir
P4 cydnabod pryd y mae asesiad arbenigol ychwanegol yn ofynnol
P5 rhoi adborth i'r disgybl a'r athro ar ganlyniad yr asesiad a'r goblygiadau o ran diwallu anghenion dysgu a lles y disgybl
P6 rhoi gwybodaeth i gydweithwyr i wneud yn siŵr y gellir diwallu anghenion dysgu a lles y disgybl mewn ffordd realistig
Rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog i athrawon a disgyblion
P7 defnyddio iaith gyntaf disgyblion i'w cyflwyno a'u hymgartrefu yn yr amgylchedd dysgu ac egluro arferion yr ysgol a’r ystafell ddosbarth
P8 gweithio gyda'r athro i nodi gweithgareddau dysgu sy'n hyrwyddo dysgu personol gan gynnwys datblygu sgiliau dwyieithog disgyblion
P9 dewis a defnyddio strategaethau cymorth priodol i ymdopi â gwahanol arddulliau dysgu yn y cyd-destun dwyieithog
P10 nodi a datblygu ystod o ddeunyddiau addysgu a dysgu sy'n briodol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, sy'n ennyn diddordeb disgyblion ac yn atgyfnerthu eu dysgu
P11 defnyddio iaith gyntaf disgyblion i ddefnyddio eu dealltwriaeth a'u profiad blaenorol i gynorthwyo dysgu pellach
P12 delio â heriau gofynion iaith yng nghyd-destun gweithgareddau dysgu mewn ffyrdd sy'n cynnal hyder a hunan-barch disgyblion
P13 cynorthwyo disgyblion i gymhwyso iaith a sgiliau a ddysgwyd mewn un maes cwricwlwm i faes arall
P14 rhoi modelau rôl da o'r iaith gyntaf a'r iaith darged i’r disgyblion
P15 cynnal a datblygu iaith gyntaf disgyblion mewn cyd-destunau dysgu er mwyn eu galluogi i ddefnyddio eu holl sgiliau iaith ar gyfer dysgu
P16 gymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu
P17 rhoi adborth i'r disgybl a'r bobl berthnasol ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r deilliannau dysgu a fwriadwyd
Cynorthwyo cyfathrebu â theuluoedd disgyblion dwyieithog/amlieithog
P18 nodi’r strategaethau y byddwch yn eu defnyddio a chytuno arnynt gyda phobl berthnasol er mwyn cynorthwyo i gyfathrebu â theuluoedd disgyblion dwyieithog/amlieithog
P19 dangos agwedd anfeirniadol sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn
cydnabod gwahaniaethau diwylliannol, crefyddol ac ethnig
P20 rhoi gwybodaeth hygyrch i deuluoedd fel y cytunwyd arni gan y ysgol
P21 cyfathrebu â theuluoedd drwy ddefnyddio dulliau y cytunwyd arnynt a mabwysiadu dull agored a chroesawgar sy'n debygol o hyrwyddo ymddiriedaeth
P22 annog teuluoedd i rannu gwybodaeth am eu plentyn i gynorthwyo'r ysgol i ddarparu ar gyfer ei les a'i addysg
P23 cofnodi unrhyw wybodaeth a ddarperir gan rieni a'r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir yn gywir, a throsglwyddo'r wybodaeth hon i'r person/pobl berthnasol yn yr ysgol yn ddi-oed.
P24 nodi unrhyw anawsterau cyfathrebu neu faterion sy'n codi o ganlyniad i wahaniaethau cyfathrebu
P25 cytuno â theuluoedd a phobl berthnasol yn yr ysgol ar sut y gellid datrys anawsterau o'r fath
P26 cytuno ar unrhyw newidiadau mewn dulliau cyfathrebu neu'r cymorth rydych chi'n ei ddarparu, a’u rhoi ar waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisi a gweithdrefnau'r ysgol ar gyfer cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog a'u teuluoedd
K2 polisïau ac arferion yr ysgol ar gyfer cynhwysiant, cyfle cyfartal, amlddiwylliannedd a gwrth-hiliaeth
K3 sut i gyfathrebu'n effeithiol ac yn sensitif â disgyblion a'u teuluoedd
K4 y broses a’r camau caffael iaith a'r ffactorau sy'n hyrwyddo neu'n rhwystro datblygiad iaith
K5 sut i gael gwybodaeth am iaith, galluoedd a sgiliau ac anghenion cymorth iaith y disgybl, a’i dehongli
K6 pryd i gyfeirio disgyblion i gael asesiad arbenigol a gweithdrefnau'r ysgol ar gyfer trefnu hyn
K7 sut i roi adborth i ddisgyblion, teuluoedd a chydweithwyr ar anghenion dysgu'r disgybl a ffyrdd o fynd i'r afael â'r rhain
K8 y defnydd rhyngweithiol o siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu i hyrwyddo datblygiad iaith ymhlith disgyblion
K9 strategaethau sy'n addas ar gyfer cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau siarad, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith darged a sut mae'r rhain yn berthnasol i weithgareddau dysgu penodol ar draws y cwricwlwm
K10 y cynlluniau cwricwlwm a’r rhaglenni dysgu a ddatblygwyd gan yr athrawon yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
K11 sut i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau dysgu i gynorthwyo datblygiad iaith a dysgu’r disgyblion
K12 sut i nodi a datblygu deunyddiau addysgu a dysgu sy'n briodol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol
K13 sut i roi cymorth priodol i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog yn ôl eu hoedran, eu hanghenion emosiynol, eu galluoedd a'u hanghenion dysgu
K14 sut y gallai agweddau ar ddiwylliant, crefydd, magwraeth, amgylchiadau cartref a theulu ac iechyd emosiynol effeithio ar ddysgu’r disgyblion a sut i ymateb i'r rhain
K15 sut i ddefnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i hyrwyddo dysgu a datblygiad iaith disgyblion
K16 rôl hunan-barch wrth ddatblygu dulliau cyfathrebu a hunanfynegiant a sut i hyrwyddo hunan-barch disgyblion drwy'r cymorth rydych chi'n ei roi
K17 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth roi cymorth i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog a sut i ymateb i'r rhain
K18 sut i fonitro, asesu a bwydo gwybodaeth yn ôl am sut mae’r disgyblion yn cymryd rhanac yn gwella ar draws y cwricwlwm i ddisgyblion a phobl berthnasol yn yr ysgol
K19 pam mae’n bwysig gweithio gyda theuluoedd i nodi eu hanghenion cyfathrebu a sut y gallwch chi wneud hyn
K20 pwysigrwydd gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol, iaith cartref y disgyblion a manteision dwyieithrwydd/amlieithrwydd, a sut i wneud hyn
K21 dulliau y gellir eu defnyddio i gyfathrebu â theuluoedd y mae eu hiaith gyntaf neu eu hiaith ddewisol yn wahanol i'r hyn a ddefnyddir yn yr ysgol
K22 sut i adnabod gwahaniaethau ac anawsterau cyfathrebu, a nodi'r rhesymau posibl dros y rhain
K23 pam mae’n bwysig gwerthuso effeithiolrwydd cyfathrebu, a strategaethau y gallwch eu defnyddio i wneud hyn
K24 ffyrdd y gallech chi addasu dulliau cyfathrebu a'r cymorth yr ydych yn ei roi er mwyn gwella effeithiolrwydd cyfathrebu rhwng teuluoedd a'r ysgol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Disgyblion dwyieithog/amlieithog
disgyblion y mae eu hiaith gyntaf yn wahanol i'r hyn a ddefnyddir i gyflwyno'r cwricwlwm ac sydd, felly, angen datblygu ail iaith neu iaith ychwanegol i gael mynediad at y cwricwlwm. Mae disgyblion dwyieithog/amlieithog yn cynnwys y rhai y mae'r Saesneg yn iaith ychwanegol ar eu cyfer a'r rhai y mae'r Gymraeg neu'r Gaeilge yn ail iaith ar eu cyfer.
Teuluoedd
yn cynnwys rhieni (mamau a thadau) a gofalwyr a theuluoedd estynedig a dethol sy'n cyfrannu'n sylweddol at les disgyblion unigol ac a allai fod â chyfrifoldeb cyfreithiol.
Sgiliau iaith
y gallu i siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith darged.
Dysgu personol
cynnal ffocws ar gynnydd unigol, er mwyn gwneud y mwyaf o allu pob plentyn a pherson ifanc i ddysgu, cyflawni a chymryd rhan. Mae hyn yn golygu cynorthwyo a herio pob dysgwr i gyflawni safonau cenedlaethol ac ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu a llwyddo drwy gydol eu bywydau. Nid yw 'dysgu personol' yn ymwneud â chynlluniau gwersi unigol neu unigoli, lle mae plant yn cael eu haddysgu ar wahân, yn bennaf trwy ddull un i un.
Problemau
sefyllfaoedd ac amgylchiadau sy'n effeithio'n andwyol ar eich gallu i roi cymorth priodol i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog. Gall problemau ymwneud ag:
- adnoddau dysgu, e.e. maint, ansawdd, addasrwydd, argaeledd
- yr amgylchedd dysgu, e.e. lle, cyfforddusrwydd, lefel sŵn, ffactorau sy’n tarfu
- gallu'r disgybl i ddysgu, e.e. hunan-barch, hyder, agwedd at ddysgu, y gallu i ganolbwyntio, ymddygiad.
Pobl berthnasol
pobl sydd â’r angen a‘r hawl i roi a chael gwybodaeth am ddisgyblion dwyieithog/amlieithog. Bydd hyn yn cynnwys yr athro sy'n gyfrifol am y disgybl ond gall hefyd gynnwys pobl eraill megis y cydlynydd cyflawniad ar gyfer lleiafrifoedd ethnig, athro cymorth iaith dwyieithog, cynorthwywyr addysgu dwyieithog, athro arbenigol EAL, cydlynydd iaith, athro iaith Saesneg/Cymraeg/Gaeilge, staff ymgynghorol perthnasol awdurdodau lleol neu staff peripatetig, yn ôl yr hyn sy'n berthnasol i'r lleoliad. Rhaid cadw at bolisi cyfrinachedd a gweithdrefnau amddiffyn plant yr ysgol bob amser wrth rannu gwybodaeth.
Adnoddau
adnoddau addysgu a dysgu i roi mynediad effeithiol i'r cwricwlwm, gan gynnwys deunyddiau ysgrifenedig, fideos, geiriaduron dwyieithog a darluniadol, meddalwedd ddwyieithog.
Strategaethau
Ffyrdd o helpu disgyblion dwyieithog/amlieithog a theuluoedd i gymryd rhan yn y gwasanaethau a ddarperir gan yr ysgol ac elwa ohonynt, megis:
- dehongli gwybodaeth lafar ac ysgrifenedig
- defnyddio iaith a rennir neu iaith darged briodol i esbonio gwybodaeth neu gyfarwyddiadau
- addasu a gwahaniaethu adnoddau dysgu
- dewis neu greu adnoddau dysgu i helpu datblygiad yn yr iaith darged
- helpu disgyblion i nodi a defnyddio geirfa a strwythurau iaith priodol i gyfathrebu â chyfoedion ac athrawon
- esbonio ac atgyfnerthu iaith, geirfa a chysyniadau sy'n gysylltiedig â'r pwnc
- annog disgyblion i siarad, trafod ac ymarfer ar lafar cyn cwblhau tasgau darllen ac ysgrifennu.
Cymorth
y cymorth a roddwch i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog a theuluoedd i hyrwyddo datblygiad a sgiliau dysgu iaith y disgyblion ar draws y cwricwlwm. Wrth roi cymorth i ddisgyblion byddwch yn gweithio un i un gyda disgyblion unigol yn ogystal â chynorthwyo'r disgyblion yn ystod gweithgareddau grŵp a dosbarth.
Iaith darged
yr iaith ychwanegol neu ail iaith sydd ei hangen ar ddisgyblion sydd ag iaith gyntaf wahanol i'r iaith a ddefnyddir ar gyfer addysgu a dysgu.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL11 Cyfrannu at gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL23 Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
TDASTL35 Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog