Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo disgyblion y mae eu hiaith gyntaf yn wahanol i'r hyn a ddefnyddir i gyflwyno'r cwricwlwm ac a allai fod yn defnyddio iaith gyntaf y disgybl eu hunain. Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n rhoi cymorth ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol (EAL), neu Gymraeg neu Gaeilge fel ail iaith.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â'r cymorth a roddir i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog ar gyfer datblygu a dysgu iaith ar draws y cwricwlwm yn yr ail iaith neu'r iaith ychwanegol briodol.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Cynorthwyo datblygiad yn yr iaith darged
- Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog i gael mynediad i'r cwricwlwm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynorthwyo datblygiad yn yr iaith darged
P1 egluro a chadarnhau gyda phobl berthnasol
P1.1 y strategaethau i'w defnyddio i gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog i ddatblygu sgiliau iaith yn yr iaith darged
P1.2 eich rôl a'ch cyfrifoldebau o ran cynorthwyo datblygiad yn yr iaith darged
P1.3 y disgybl(ion) y byddwch yn gweithio gyda nhw
P1.4 sut caiff llwyddiant ei fesur
P2 cael gwybodaeth gywir a chyfredol am ddatblygiad y disgybl yn yr iaith gyntaf a’r iaith darged a defnyddio'r wybodaeth hon i roi cymorth priodol i'r disgybl
P3 rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ryngweithio â chi eich hun ac eraill gan ddefnyddio eu gwybodaeth am yr iaith darged
P4 defnyddio iaith a geirfa sy'n briodol i oedran, lefel dealltwriaeth a cham datblygiad y disgyblion yn yr iaith darged
P5 defnyddio cyfleoedd i fodelu'r iaith darged ar gyfer y disgyblion a rhoi’r sylfeini iddynt allu dysgu'r iaith darged
P6 defnyddio strategaethau priodol ar gyfer cyflwyno'r disgyblion i eiriau a strwythurau iaith newydd i helpu i ymestyn eu geirfa a'u gafael strwythurol o'r iaith darged
P7 rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ymarfer sgiliau iaith newydd
P8 defnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i gynnal diddordeb y disgyblion yn y gweithgareddau dysgu
P9 ymateb i ddefnydd y disgyblion o iaith y cartref a thafodieithoedd lleol mewn modd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol ac yn atgyfnerthu hunan-ddelweddau cadarnhaol i’r disgyblion
P10 rhoi adborth i bobl berthnasol am gynnydd y disgyblion wrth ddatblygu sgiliau iaith yn yr iaith darged
Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog i gael mynediad i'r cwricwlwm
P11 egluro a chadarnhau gyda'r athro:
P11.1 amcanion dysgu ac addysgu’r gweithgareddau
P11.2 eich rôl o ran cynorthwyo'r gweithgareddau addysgu a dysgu a sut mae hyn yn berthnasol i rôl yr athro
P12 defnyddio dulliau addysgu, dysgu ac asesu priodol er mwyn:
P12.1 defnyddio gwybodaeth a phrofiadau blaenorol disgyblion i’w hannog i gymryd rhan yn llawn mewn gweithgareddau dysgu
P12.2 rhoi cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i ddatblygu sgiliau’r disgyblion yn yr iaith darged
P12.3 rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ryngweithio ag eraill a chyfrannu at drafodaethau mewn grwpiau ac yn y dosbarth
P12.4 yn cynorthwyo'r disgyblion mewn ffyrdd sy'n annog eu datblygiad fel dysgwyr annibynnol
P12.5 cynorthwyo datblygiad iaith sy’n ymwneud â phynciau penodol
P13 nodi a datblygu ystod o adnoddau sy'n briodol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol i roi mynediad effeithiol i'r cwricwlwm
P14 cyfathrebu'n effeithiol ac yn sensitif â disgyblion i gynorthwyo eu dysgu, yn ogystal â gyda'u teuluoedd lle bo’n briodol
P15 delio â heriau gofynion iaith gweithgareddau dysgu mewn ffyrdd sy'n cynnal hyder a hunan-barch y disgyblion
P16 defnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i gynnal diddordeb y disgyblion yn y gweithgareddau dysgu
P17 monitro cynnydd y disgyblion wrth ddatblygu sgiliau iaith ac addasu'r math a'r lefel o gymorth a roddir os oes angen
P18 cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu
P19 rhoi adborth i bobl berthnasol ar sut mae’r disgyblion yn cymryd rhan ac yn datblygu mewn gwahanol feysydd cwricwlwm
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisi a gweithdrefnau'r ysgol ar gyfer cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
K2 polisïau ac arferion yr ysgol ar gyfer cynhwysiant, cyfle cyfartal, amlddiwylliannedd a gwrth-hiliaeth
K3 y broses a’r camau caffael iaith a'r ffactorau sy'n hyrwyddo neu'n rhwystro datblygiad iaith
K4 sut i gael gwybodaeth am iaith, galluoedd a sgiliau ac anghenion cymorth iaith y disgybl, a’i dehongli
K5 strategaethau sy'n addas ar gyfer cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau siarad, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith darged a sut mae'r rhain yn berthnasol i weithgareddau dysgu penodol ar draws y cwricwlwm
K6 y defnydd rhyngweithiol o siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu i hyrwyddo datblygiad iaith ymhlith disgyblion
K7 sut i gynllunio a gwerthuso gweithgareddau dysgu i gynorthwyo datblygiad yn yr iaith darged
K8 sut y gallai agweddau ar ddiwylliant, crefydd, magwraeth, amgylchiadau cartref a theulu ac iechyd emosiynol effeithio ar ddysgu’r disgyblion a sut i ymateb i'r rhain
K9 sut i ddefnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i hyrwyddo dysgu a datblygiad iaith disgyblion
K10 rôl hunan-barch wrth ddatblygu dulliau cyfathrebu a hunanfynegiant a sut i hyrwyddo hunan-barch disgyblion drwy'r cymorth rydych chi'n ei roi
K11 pwysigrwydd gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol, iaith cartref y disgyblion a manteision dwyieithrwydd/amlieithrwydd, a sut i wneud hyn
K12 y cynlluniau cwricwlwm a’r rhaglenni dysgu a ddatblygwyd gan yr athrawon yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
K13 sut i roi cymorth priodol i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog yn ôl eu hoedran, eu hanghenion emosiynol, eu galluoedd a'u hanghenion dysgu
K14 sut i nodi a datblygu deunyddiau addysgu a dysgu sy'n briodol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol
K15 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth roi cymorth i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog a sut i ymateb i'r rhain
K16 sut i fonitro, asesu a bwydo gwybodaeth yn ôl am sut mae’r disgyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd ar draws y cwricwlwm i ddisgyblion a phobl berthnasol ynyr ysgol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Disgyblion dwyieithog/amlieithog
disgyblion y mae eu hiaith gyntaf yn wahanol i'r hyn a ddefnyddir i gyflwyno'r cwricwlwm ac sydd, felly, angen datblygu ail iaith neu iaith ychwanegol i gael mynediad at y cwricwlwm. Mae disgyblion dwyieithog/amlieithog yn cynnwys y rhai y mae'r Saesneg yn iaith ychwanegol ar eu cyfer a'r rhai y mae'r Gymraeg neu'r Gaeilge yn ail iaith ar eu cyfer.
Teuluoedd
yn cynnwys rhieni (mamau a thadau) a gofalwyr a theuluoedd estynedig a dethol sy'n cyfrannu'n sylweddol at les disgyblion unigol ac a allai fod â chyfrifoldeb cyfreithiol.
Sgiliau iaith
y gallu i siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith darged.
Problemau
sefyllfaoedd ac amgylchiadau sy'n effeithio'n andwyol ar eich gallu i roi cymorth priodol i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog. Gall problemau ymwneud ag:
- adnoddau dysgu, e.e. maint, ansawdd, addasrwydd, argaeledd
- yr amgylchedd dysgu, e.e. lle, cyfforddusrwydd, lefel sŵn, ffactorau sy’n tarfu
- gallu'r disgybl i ddysgu, e.e. hunan-barch, hyder, agwedd at ddysgu, y gallu i ganolbwyntio, ymddygiad.
Pobl berthnasol
pobl sydd â’r angen a‘r hawl i roi a chael gwybodaeth am ddisgyblion dwyieithog/amlieithog. Bydd hyn yn cynnwys yr athro sy'n gyfrifol am y disgybl ond gall hefyd gynnwys pobl eraill megis y cydlynydd cyflawniad ar gyfer lleiafrifoedd ethnig, athro cymorth iaith dwyieithog, cynorthwywyr addysgu dwyieithog, athro arbenigol EAL, cydlynydd iaith, athro iaith Saesneg/Cymraeg/Gaeilge, staff ymgynghorol perthnasol awdurdodau lleol neu staff peripatetig, yn ôl yr hyn sy'n berthnasol i'r lleoliad. Rhaid cadw at bolisi cyfrinachedd a gweithdrefnau amddiffyn plant yr ysgol bob amser wrth rannu gwybodaeth.
Adnoddau
adnoddau addysgu a dysgu i ddarparu mynediad effeithiol i'r cwricwlwm, gan gynnwys deunyddiau ysgrifenedig, fideos, DVDs, geiriaduron dwyieithog a darluniadol, meddalwedd ddwyieithog.
Cymorth
y cymorth a roddwch i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog ar gyfer datblygu a dysgu iaith ar draws y cwricwlwm. Wrth roi cymorth i ddisgyblion byddwch yn gweithio un i un gyda disgyblion unigol yn ogystal â chynorthwy’r disgyblion yn ystod gweithgareddau grŵp a dosbarth.
Iaith darged
yr iaith ychwanegol neu ail iaith sydd ei hangen ar ddisgyblion sydd ag iaith gyntaf wahanol i'r iaith a ddefnyddir ar gyfer addysgu a dysgu.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL11 Cyfrannu at gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL23 Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
TDASTL36 Rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog ar gyfer addysgu a dysgu