Rhoi cymorth llythrennedd a rhifedd i alluogi disgyblion i gael mynediad i’r cwricwlwm ehangach
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n rhoi cymorth llythrennedd a rhifedd i helpu disgyblion i gael mynediad at y cwricwlwm ehangach. Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo unigolion neu grwpiau o ddisgyblion ar draws y cwricwlwm a'r rhai sy'n rhoi cymorth o fewn un maes cwricwlwm fel gwyddoniaeth.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â'r cymorth a roddir i ddisgyblion i'w helpu i ymdopi â gofynion llythrennedd a rhifedd gweithgareddau dysgu a gynlluniwyd i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau pwnc.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Rhoi cymorth llythrennedd i helpu disgyblion i gael mynediad i'r cwricwlwm ehangach
- Rhoi cymorth rhifedd i helpu disgyblion i gael mynediad i'r cwricwlwm ehangach.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rhoi cymorth llythrennedd i helpu disgyblion i gael mynediad i'r cwricwlwm ehangach
P1 cael gwybodaeth gywir a chyfredol am angen y disgybl am gymorth llythrennedd i hyrwyddo mynediad i'r cwricwlwm
P2 egluro a chadarnhau gyda'r athro eich dealltwriaeth o’r:
P2.1 y gweithgareddau dysgu y byddwch chi’n eu cynorthwyo
P2.2 amcanion dysgu ac addysgu'r gweithgareddau
P2.3 gofynion llythrennedd y gweithgareddau dysgu
P3 defnyddio strategaethau priodol i roi'r cymorth llythrennedd y cytunwyd arno yn ystod y gweithgareddau dysgu
P4 gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan y gweithgareddau dysgu i gynorthwyo datblygiad sgiliau llythrennedd ac iaith y disgybl
P5 monitro cynnydd y disgybl wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd ac, os yw'n berthnasol, addasu'r math a lefel y cymorth llythrennedd a ddarperir
P6 hysbysu'r athro yn brydlon pan fo'r disgybl yn cael anawsterau dysgu nad oes gennych chi unrhyw gyfrifoldeb a/neu hyfforddiant penodol ar eu cyfer i ddelio â nhw
P7 defnyddio canmoliaeth a chymorth yn briodol i gynnal diddordeb y disgybl yn y gweithgareddau dysgu
P8 delio â heriau gofynion llythrennedd gweithgareddau dysgu mewn ffyrdd sy'n cynnal hyder a hunan-barch y disgybl
P9 cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu
P10 rhoi adborth i bobl berthnasol ar sut mae’r disgyblion yn cymryd rhan ac yn datblygu mewn gwahanol feysydd cwricwlwm
Rhoi cymorth rhifedd i helpu disgyblion i gael mynediad i'r cwricwlwm ehangach
P11 cael gwybodaeth gywir a chyfredol am angen y disgybl am gymorth llythrennedd i hyrwyddo mynediad i'r cwricwlwm
P12 egluro a chadarnhau gyda'r athro eich dealltwriaeth o’r:
P12.1 y gweithgareddau dysgu y byddwch chi'n eu cynorthwyo
P12.2 amcanion addysgu a dysgu'r gweithgareddau
P12.3 gofynion mathemategol y gweithgareddau dysgu
P13 defnyddio strategaethau priodol i roi'r cymorth rhifedd y cytunwyd arno yn ystod y gweithgareddau dysgu
P14 gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan y gweithgareddau dysgu i gynorthwyo datblygiad gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mathemategol y disgybl
P15 monitro cynnydd y disgybl wrth ddatblygu sgiliau mathemategol ac, os yw'n berthnasol, addasu'r math a lefel y cymorth rhifedd a roddir
P16 hysbysu'r athro yn brydlon pan fydd y disgybl yn cael anawsterau dysgu nad oes gennych unrhyw gyfrifoldeb a/neu hyfforddiant penodol ar eu cyfer i ddelio â nhw
P17 defnyddio canmoliaeth a chymorth yn briodol i gynnal diddordeb y disgybl yn y gweithgareddau dysgu
P18 delio â heriau gofynion mathemategol gweithgareddau dysgu mewn ffyrdd sy'n cynnal hyder a hunan-barch y disgybl
P19 cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu
P20 rhoi adborth i bobl berthnasol ar sut mae’r disgyblion yn cymryd rhan ac yn datblygu mewn gwahanol feysydd cwricwlwm
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisi a gweithdrefnau'r ysgol ar gyfer cynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu sy'n gysylltiedig â llythrennedd a/neu rifedd
K2 sut i gael gwybodaeth am sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion, targedau dysgu unigol ac anghenion cymorth penodol, a sut i’w dehongli
K3 unrhyw gynlluniau addysg unigol ar gyfer disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K4 y cwricwlwm ysgol perthnasol a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran disgyblion yn y pwnc/maes cwricwlwm ac ystod oedran y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K5 y cynlluniau cwricwlwm a'r rhaglenni dysgu a ddatblygir gan yr athro K6 amcanion addysgu a dysgu'r gweithgareddau dysgu yr ydych chi’n eu cynorthwyo
K7 sut i nodi gofynion llythrennedd gweithgareddau dysgu yn y pwnc/maes(meysydd) cwricwlwm yr ydych yn rhoi cymorth llythrennedd ar eu cyfer.
K8 sut i nodi gofynion rhifedd gweithgareddau dysgu yn y pwnc/maes(meysydd) cwricwlwm yr ydych yn rhoi cymorth rhifedd ar eu cyfer
K9 y strategaethau sy'n addas ar gyfer helpu disgyblion ag anghenion cymorth llythrennedd i gael mynediad i’r cwricwlwm ehangach
K10 y strategaethau sy'n addas ar gyfer helpu disgyblion ag anghenion cymorth llythrennedd i gael mynediad i’r cwricwlwm ehangach
K11 y defnydd rhyngweithiol o siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu i hyrwyddo datblygiad llythrennedd ymhlith disgyblion
K12 y mathau ro adnoddau y gellir eu defnyddio i helpu disgyblion i ymdopi â gofynion mathemategol y cwricwlwm ehangach, a sut i gael gafael ar y rhain a’u defnyddio
K13 sut i ddefnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i hyrwyddo dysgu disgyblion
K14 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gynorthwyo gweithgareddau dysgu a sut i ddelio â’r rhain
K15 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch gallu a phryd y dylech gyfeirio at eraill
K16 gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer cofnodi a rhannu gwybodaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth
Gellir cael gwybodaeth am y sgiliau a’r galluoedd sydd gan ddisgyblion ar hyn o bryd gan:
- athro’r dosbarth neu’r pwnc
- cydlynydd neu arbenigwr pwnc ar gyfer Saesneg, mathemateg a/neu anghenion addysgol arbennig neu anghenion cymorth ychwanegol
- cofnodion/adroddiadau ysgrifenedig
- arsylwi’r disgybl.
Llythrennedd
mae llythrennedd yn uno sgiliau pwysig darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.
Cymorth llythrennedd
y cymorth rydych chi'n ei roi i ddisgyblion i fodloni gofynion llythrennedd y cwricwlwm, er enghraifft:
- helpu disgyblion i ddehongli a dilyn cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig
- annog disgyblion swil neu amharod i gyfrannu at sgyrsiau a thrafodaethau ac ymateb i gwestiynau
- helpu disgyblion i ddewis a defnyddio adnoddau priodol, e.e. geiriaduron
- addasu neu wahaniaethu deunyddiau dysgu
- esbonio geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir gan yr athro
- defnyddio awgrymiadau ac adborth wedi'u targedu i gynorthwyo defnydd y disgybl o iaith a geirfa berthnasol sy'n benodol i'r pwnc
- cymryd nodiadau tra bod yr athro yn siarad â'r dosbarth
- paratoi disgyblion ar gyfer gwersi drwy, er enghraifft, ddarllen pennod berthnasol llyfr ymlaen llaw gyda nhw
- annog disgyblion i siarad, trafod ac ymarfer ar lafar cyn cwblhau tasgau darllen ac ysgrifennu
- cymorth darllen neu ysgrifennu penodol, e.e. amanuensis, darllenydd.
Rhifedd
hyfedredd sy'n cynnwys hyder a chymhwysedd gyda rhifau a dulliau mesur. Mae angen dealltwriaeth o'r system rifau, nifer o sgiliau cyfrifiadurol a thueddiad a'r gallu i ddatrys problemau rhifedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae rhifedd hefyd yn golygu bod angen dealltwriaeth ymarferol o'r ffyrdd y mae gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy gyfrif a mesur, ac fe'i cyflwynir mewn graffiau, diagramau a thablau.
Cymorth rhifedd
y cymorth a roddwch i ddisgyblion i fodloni gofynion rhifedd y cwricwlwm, e.e.
- egluro'r dasg ddysgu a helpu disgyblion i ddeall agwedd fathemategol neu gynnwys y dasg
- helpu disgyblion i ddefnyddio’r hyn y maent wedi’i ddysgu a'u profiadau mathemategol blaenorol i’w hannog i gymryd rhan yn llawn yn y gweithgaredd dysgu
- esbonio geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir gan yr athro
- helpu disgyblion i ddewis a defnyddio adnoddau mathemategol priodo e.e. llinellau rhif unigol, offerynnau mesur, cyfarpar mathemategol
- addasu neu wahaniaethu deunyddiau dysgu
- defnyddio awgrymiadau ac adborth wedi'u targedu i gynorthwyo defnydd y disgybl o wybodaeth a sgiliau mathemategol perthnasol
- esbonio ac atgyfnerthu'r iaith, yr eirfa a’r cysyniadau mathemategol perthnasol.
Problemau
y rhwystrau i roi cymorth i ddisgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu. Gall problemau ymwneud ag:
- adnoddau dysgu, e.e. maint, ansawdd, addasrwydd neu argaeledd
- yr amgylchedd dysgu, e.e. lle, cyfforddusrwydd, lefel sŵn, ffactorau sy’n tarfu
- gallu'r disgyblion i ddysgu, e.e. agwedd at ddysgu, ymddygiad, hunan-barch, y gallu i ganolbwyntio.
Pobl berthnasol
pobl sydd ag angen a’r hawl i gael gwybodaeth am sut mae disgyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd. Bydd hyn yn cynnwys athro’r dosbarth a/neu'r pwnc ond gall hefyd gynnwys pobl eraill fel arweinwyr ysgolion, staff cymorth ystafell ddosbarth eraill sy'n gweithio gyda'r disgyblion, cydlynydd anghenion arbennig, cydlynydd iaith, cydlynydd mathemateg, neu weithwyr proffesiynol eraill, e.e. therapydd lleferydd ac iaith, staff cymorth peripatetig. Rhaid cadw at bolisi cyfrinachedd a gweithdrefnau amddiffyn plant yr ysgol bob amser wrth rannu gwybodaeth.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL6 Cynorthwyo gweithgareddau llythrennedd a rhifedd
TDASTL11 Cyfrannu at gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL25 Cynorthwyo datblygiad llythrennedd
TDASTL26 Cynorthwyo datblygiad rhifedd
TDASTL35 Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL36 Rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog ar gyfer addysgu a dysgu