Hyrwyddo trosglwyddo dysgu o brofiadau yn yr awyr agored

URN: TDASTL32
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda disgyblion ar weithgareddau y tu allan i'r ystafell ddosbarth megis prosiectau yn y gymuned, astudiaethau maes, ymweliadau diwylliannol, chwaraeon, hamdden ac addysg awyr agored.

Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gweithio gyda disgyblion i'w helpu i fyfyrio ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth a sut y gallant drosglwyddo hyn i rannau eraill o'u rhaglenni dysgu ac agweddau eraill ar eu bywydau.

Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

  1. Hwyluso dysgu drwy fyfyrio’n unigol ac ar y cyd ar brofiad
  2. Helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i nodi sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Hwyluso dysgu drwy fyfyrio’n unigol ac ar y cyd ar brofiad
P1     sefydlu amgylchedd gwrando ar gyfer yr adolygiad
P2     galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i fyfyrio ar eu profiadau
P3     galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i nodi dysgu unigol ac mewn grwpiau
P4     galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i nodi dysgu unigol ac mewn grwpiau
P5     cysylltu dysgu bwriadol ac anfwriadol i amcanion unigol a grwpiau
P6     egluro ac atgyfnerthu pwyntiau allweddol fel bod y rhai sy’n cymryd rhan yn canolbwyntio ar ddysgu

Helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i nodi sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau
P7     galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i weld sut mae’r hyn y maent yn ei ddysgu yn berthnasol i feysydd eraill mewn bywyd
P8     galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i nodi beth maent wedi’i ddysgu y gallant ei drosglwyddo i agweddau penodol ar eu bywydau
P9     galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i nodi'r hyn y gallant ei drosglwyddo am sut y maent yn dysgu
P10   ennill eu hymrwymiad i amcanion cysylltiedig
P11   adolygu a gwerthuso beth allai rwystro’r rhai sy’n cymryd rhan rhag trosglwyddo'r hyn y maent wedi'i ddysgu
P12   trafod strategaethau posibl i oresgyn y rhwystrau hyn
P13   rhannu gwybodaeth ac arweiniad am gyfleoedd i drosglwyddo dysgu a chymorth y gallai fod eu hangen arnynt gyda phobl eraill
P14   annog myfyrio ac adolygu parhaus


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Myfyrio gyda’r rhai sy’n cymryd rhan ar yr hyn y maent wedi’i ddysgu
K1     y cylched dysgu drwy brofiad
K2     pwysigrwydd myfyrio ar ddysgu effeithiol
K3     nodau, amcanion a thargedau'r cyfranogwyr
K4     y mathau o gyfleoedd y gellir eu creu neu eu defnyddio i adolygu a myfyrio
K5     sut i greu amgylchedd gwrando effeithiol ac annog y rhai sy’n cymryd rhan i leisio eu barn
K6     sut i ddadansoddi profiadau’r rhai sy’n cymryd rhan a rhoi crynodeb o’r dadansoddiad hwn
K7     sut i sefydlu'r cysylltiadau rhwng yr hyn a ddysgwyd yn yr amgylchedd awyr agored ac agweddau eraill ar fywydau'r rhai sy’n cymryd rhan
K8        pwysigrwydd cofnodi deilliannau adolygiadau

Helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i drosglwyddo
K9     y tri dull trosglwyddo, h.y. trosiad, uniongyrchol ac anuniongyrchol
K10   pwysigrwydd cynorthwyo’r rhai sy’n cymryd rhan i drosglwyddo'r hyn y maent wedi’i ddysgu i gyd - destunau eraill
K11   anawsterau posibl a gwirioneddol y gall y rhai sy’n cymryd rhan eu cael yn ystod y broses hon a sut i nodi’r rhai sy'n berthnasol i rai pobl benodol
K12   unigolion eraill a allai gyfrannu mewn modd defnyddiol at y broses drosglwyddo
K13   y mathau o gymorth y gallai fod eu hangen ar unigolion wrth geisio trosglwyddo dysgu
K14   y mathau o gyngor, cymorth a gwybodaeth am anghenion dysgu'r rhai sy’n cymryd rhan y gallai fod eu hangen ar y rhai sy'n rhoi cymorth
K15   sut i ddatblygu a datblygu cynlluniau gweithredu
K16   sut i egluro sut i fanteisio’n llawn ar y profiad
K17 sut i negodi y mathau o adnoddau, cymorth ac amodau i gynorthwyo'r rhai sy’n cymryd rhan
K18   sut i gyflawni ymrwymiad y rhai sy’n cymryd rhan i'r deilliannau dysgu a nodwyd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Hwyluso dysgu drwy fyfyrio’n unigol ac ar y cyd ar brofiad
1.        Y rhai sy'n cymryd rhan
1.1.     oedolion
1.2.     plant a phobl ifanc
1.3.     grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd
1.4.     grwpiau sefydledig

2.        Dysgu
2.1.     affeithiol
2.2.     gwybyddol
2.3.     corfforol
2.4.     datblygu tîm

3.        Meysydd bywyd
3.1.     gwaith
3.2.     cymdeithasol
3.3.     personol
3.4.     cartref
3.5.     addysg

Helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i nodi sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau

4.        Y rhai sy’n cymryd rhan
4.1.     oedolion
4.2.     plant a phobl ifanc
4.3.     grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd
4.4.     grwpiau sefydledig

5.        Meysydd bywyd
5.1.     gwaith
5.2.     cymdeithasol
5.3.     personol
5.4.     cartref
5.5.     addysg

6.        Eraill
6.1.     cydweithwyr
6.2.     goruchwylwyr
6.3.     athrawon
6.4.     mentoriaid
6.5. ffrindiau


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

TDASTL30 Cyfrannu at asesu ar gyfer dysgu
TDASTL48 Cynorthwyo pobl ifanc i fynd i'r afael â phroblemau a chymryd camau
TDASTL53 Arwain gweithgaredd allgyrsiol

Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a ddatblygwyd gan SkillsActive lle mae'n ymddangos fel uned D35.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL32

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau