Cyfrannu at asesu ar gyfer dysgu
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cyfrannu at asesu, yn rhan o addysgu a
dysgu, mewn ffyrdd a fydd yn gwella cyflawniad disgyblion.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu fel y cytunwyd arnynt gyda'r athro i hyrwyddo dysgu disgyblion. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo disgyblion i adolygu eu dysgu eu hunain a nodi eu hanghenion dysgu sy’n dod i’r amlwg.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Defnyddio strategaethau asesu i wella dysgu
- Cynorthwyo disgyblion i adolygu eu dysgu eu hunain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Defnyddio strategaethau asesu i wella dysgu
P1 egluro a chadarnhau’r canlynol gyda'r athro:
P1.1 amcanion dysgu’r gweithgaredd
P1.2 y nodau dysgu ar gyfer disgyblion unigol
P1.3 y meini prawf llwyddiant ar gyfer y gweithgaredd dysgu
P1.4 y cyfleoedd a'r strategaethau asesu sy'n berthnasol i'ch rôl yn y wers/gweithgaredd
P2 trafod ac egluro'r nodau a'r meini prawf dysgu ar gyfer asesu cynnydd gyda'r disgyblion gan ddefnyddio termau y gallant eu deall a rhoi enghreifftiau o sut y gellir bodloni'r meini prawf yn ymarferol
P3 annog disgyblion i dderbyn cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain
P4 annog disgyblion i gadw eu nodau dysgu mewn cof ac asesu eu cynnydd eu hunain i fodloni’r rhain wrth iddynt symud ymlaen
P5 defnyddio'r cyfleoedd a’r strategaethau asesu y cytunwyd arnynt i gael gwybodaeth a llunio barn ynghylch pa mor dda y mae'r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a'r cynnydd y maent yn ei wneud
P6 rhoi adborth i ddisgyblion i'w helpu i ddeall yr hyn y maent wedi'i wneud yn dda a beth sydd angen iddynt ei ddatblygu
P7 bod yn glir ac yn adeiladol ynghylch unrhyw wendidau a sut y gellid mynd i'r afael â nhw
P8 annog disgyblion i adolygu a rhoi sylwadau ar eu gwaith cyn ei gyflwyno neu ei drafod gyda'r athro
P9 canmol disgyblion pan mae eu sylwadau yn canolbwyntio ar y nodau dysgu ar gyfer y dasg
P10 rhoi cyfleoedd ac anogaeth i ddisgyblion wella eu gwaith
Cynorthwyo disgyblion i adolygu eu dysgu eu hunain
P11 defnyddio gwybodaeth a gafwyd o fonitro sut mae disgbyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd i’w helpu i adolygu eu strategaethau dysgu, cyflawniadau ac anghenion dysgu ar gyfer y dyfodol.
P12 rhoi amser i ddisgyblion fyfyrio ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu a'i ddeall a nodi lle maent yn dal i gael anawsterau
P13 gwrando'n astud ar ddisgyblion a’u hannog yn gadarnhaol i gyfleu eu hanghenion a'u syniadau ar gyfer dysgu yn y dyfodol
P14 cynorthwyo disgyblion i ddefnyddio asesiadau gan ddisgyblion eraill a hunanasesiadau i werthuso eu cyflawniadau dysgu
P15 cynorthwyo disgyblion i fyfyrio ar eu dysgu, nodi'r cynnydd y maent wedi'i wneud a nodi’r anghenion dysgu sy'n dod i'r amlwg
P16 cynorthwyo disgyblion i nodi cryfderau a gwendidau eu strategaethau dysgu a chynllunio sut i'w gwella
P17 rhoi adborth i'r athro ar y canlynol:
P17.1 sut mae disgbyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd yn y gweithgareddau dysgu
P17.2 sut mae’r disgyblion yn cymryd rhan yn yr asesiad dysgu a’i ymateb iddo
P18 defnyddio deilliannau asesiad dysgu i fyfyrio a gwella’r ffordd rydych chi’n cynorthwyo dysgu disgyblion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 cyfrifoldeb yr athro am asesu cyflawniad disgyblion a'ch rôl wrth gynorthwyo hyn
K2 y gwahaniaeth rhwng asesu ffurfiannol a chrynodol
K3 yr egwyddorion sylfaenol o sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu
K4 y gydberthynas rhwng cymhelliant a hunan-barch, dysgu a chynnydd effeithiol, ac asesu ar gyfer dysgu
K5 y cwricwlwm ysgol perthnasol a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran disgyblion yn y pwnc/maes cwricwlwm ac ystod oedran y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K6 pwysigrwydd disgwyl llawer gan ddisgyblion a sut mae hyn yn cael ei ddangos drwy eich arferion
K7 pwysigrwydd credu y gall pob disgybl wella o'i gymharu â chyflawniadau blaenorol a goblygiadau hyn ar gyfer sut rydych chi'n cynorthwyo dysgu disgyblion
K8 y strategaethau a'r technegau ar gyfer cynorthwyo asesu ar gyfer dysgu sydd o fewn eich rôl a’ch maes cymhwysedd
K9 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech gyfeirio at eraill
K10 sut i gyfathrebu'n glir ac yn wrthrychol â disgyblion am eu nodau a'u cyflawniadau dysgu
K11 sut i annog disgyblion i gadw eu nodau dysgu mewn cof ac asesu eu cynnydd eu hunain i fodloni’r rhain wrth symud ymlaen
K12 sut i gynorthwyo disgyblion i fod yn ddysgwyr brwd sy’n gallu cymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu cynnydd eu hunain
K13 sut i adolygu a myfyrio ar berfformiad a chynnydd disgyblion
K14 sut i roi adborth adeiladol i ddisgyblion
K15 sut i helpu disgyblion i adolygu eu strategaethau dysgu a'u cyflawniadau, a chynllunio dysgu yn y dyfodol
K16 pwysigrwydd gwrando’n astud a sut i wneud hyn
K17 technegau hunanasesu a sut i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu'r rhain
K18 sut i hyrwyddo sgiliau cydweithredu wrth gynnal asesiadau cyfoedion
K19 sut mae asesu ar gyfer dysgu yn cyfrannu at gynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol gan:
K19.1 yr athro
K19.2 y disgyblion
K19.3 eich hun
K20 sut i fyfyrio ar brofiad a dysgu ohono
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Asesu ar gyfer dysgu
yn cynnwys defnyddio asesu, fel rhan o addysgu a dysgu, mewn ffyrdd a fydd yn cynyddu cyflawniad disgyblion. Dyma nodweddion asesu ar gyfer dysgu:
- mae'n rhan annatod ac yn elfen hanfodol o addysgu a dysgu
- mae'n cynnwys rhannu nodau dysgu gyda disgyblion
- ei nod yw helpu disgyblion i wybod a chydnabod y safonau y maent yn anelu atynt
- mae'n cynnwys disgyblion mewn hunanasesiadau
- mae'n rhoi adborth sy'n arwain at ddisgyblion yn cydnabod eu camau nesaf a sut i'w cymryd
- mae’n seiliedig ar fod yn hyderus bod pob disgybl yn gallu gwella
- mae'n cynnwys athrawon a disgyblion yn adolygu gwybodaeth asesu a myfyrio arni.
Amcanion dysgu
beth mae'r athro am i'r disgyblion ei ddysgu.
Strategaethau asesu y dulliau a'r technegau a ddefnyddir ar gyfer asesu parhaus yn ystod gwersi neu weithgareddau dysgu, megis:
- defnyddio cwestiynau penagored
- arsylwi disgyblion
- gwrando ar sut mae disgyblion yn disgrifio eu gwaith a'u rhesymeg
- gwirio dealltwriaeth disgyblion
- cynnwys disgyblion wrth adolygu cynnydd.
Meini prawf llwyddiant
crynodeb o'r pwyntiau allweddol y mae angen i ddisgyblion eu deall fel camau er mwyn cyflawni'r amcanion dysgu.
Nodau dysgu
Y targedau dysgu personol ar gyfer disgyblion unigol. Bydd nodau dysgu yn gysylltiedig â'r amcanion dysgu ac yn ystyried cyflawniadau blaenorol ac anghenion dysgu'r disgybl.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL9 Arsylwi ac adrodd ar berfformiad disgyblion
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL23 Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
TDASTL29 Arsylwi a hyrwyddo perfformiad a datblygiad disgyblion
TDASTL34 Cynorthwyo disgyblion dawnus a thalentog
TDASTL50 Hwyluso plant a phobl ifanc i ddysgu a datblygu drwy fentora