Helpu i gadw plant yn ddiogel
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn lleoliad neu wasanaeth a'u prif bwrpas yw cynorthwyo gofal, dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae'r uned yn addas ar eich cyfer chi os ydych chi’n cynorthwyo mewn lleoliad, ond sydd heb y cyfrifoldeb terfynol fel rheol. Bydd gennych chi gyfrifoldeb o ddydd i ddydd dros gynnal amgylchedd diogel, cyfrannu at ddiogelwch, diogeledd ac amddiffyn plant/pobl ifanc a gwneud yn siŵr yr ymdrinnir â risgiau a pheryglon yn brydlon a’u bod yn cael eu hadrodd yn unol â gweithdrefnau.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chadw plant a phobl ifanc yn ddiogel yn ystod gweithgareddau gwaith o ddydd i ddydd. Mae'r uned yn ymdrin ag ymateb i ddamweiniau, argyfyngau a salwch, ac mae'n rhaid bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau diogelwch symud, diogelu a lles, a'r gallu i osod yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r lleoliad.
Mae'r uned hon yn cynnwys pedair elfen:
- Paratoi amgylchedd diogel a’i gynnal
- Delio â damweiniau, argyfyngau a salwch
- Cynorthwyo i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin
- Annog ymddygiad cadarnhaol gan blant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi amgylchedd diogel a’i gynnal
P1 defnyddio cyfarpar, dodrefn a deunyddiau yn ddiogel, gan gydymffurfio â chyfarwyddiadau'r
gwneuthurwyr a phennu gofynion
P2 gwirio'r amgylchedd, deunyddiau a chyfarpar i sicrhau hylendid a diogelwch ar ddechrau, yn ystod ac ar ddiwedd y sesiwn, gan roi gwybod am ddiffygion yn brydlon
P3 cydnabod peryglon posibl yn y lleoliad a delio â'r rhain yn brydlon, yn unol â gweithdrefnau
P4 delio â gwastraff yn ddiogel, yn unol â gweithdrefnau'r lleoliad
P5 goruchwylio diogelwch plant/pobl ifanc yn briodol ac yn gyson, yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd
P6 annog plant/pobl ifanc i fod yn ymwybodol o ddiogelwch personol a diogelwch pobl eraill
P7 annog plant/pobl ifanc i ddatblygu arferion hylendid personol da
P8 rhoi gweithdrefnau diogelwch a diogeledd ar waith ar ddechrau'r dydd/sesiwn a phan fydd plant/pobl ifanc yn gadael
Delio â damweiniau, argyfyngau a salwch
P9 cadw pwyll a dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer damweiniau ac argyfyngau, yn unol â'ch rôl a'ch cyfrifoldeb
P10 galw am gymorth cymwys fel y bo'n briodol i'r digwyddiad
P11 cynnal diogelwch y bobl dan sylw
P12 rhoi sicrwydd a chysur i'r bobl dan sylw
P13 cydnabod pan fydd plant/pobl ifanc yn sâl a dilyn gweithdrefnau
P14 dilyn gweithdrefnau adrodd a chofnodi
Cynorthwyo i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin
P15 dilyn polisïau a gweithdrefnau eich lleoliad bob amser o ran diogelu ac amddiffyn plant/pobl ifanc
P16 adrodd am unrhyw arwyddion a dangosyddion o gam-drin posibl, gan fod yn sensitif i'r
plentyn/person ifanc a'r amgylchiadau
P17 nodi, adrodd a chofnodi newidiadau o ran ymddygiad ac arwyddion corfforol
P18 ymateb yn bwyllog ac yn brydlon i ddatgelu achos o gam-drin plentyn/person ifanc mewn modd
cefnogol, sy’n tawelu meddwl ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r lleoliad
P19 egluro wrth y plentyn/person ifanc y bydd yn rhaid i bobl eraill sy'n briodol i'r sefyllfa fod yn
ymwybodol o'u datgeliad
P20 annog plant/pobl ifanc i fod yn ymwybodol o'u cyrff ac i amddiffyn eu hunain
Annog ymddygiad cadarnhaol gan blant
P21 cynorthwyo ac annog ymddygiad cadarnhaol gan blant/pobl ifanc, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r lleoliad
P22 canmol ac annog plant/pobl ifanc
P23 caniatáu i blant/pobl ifanc wneud dewisiadau
P24 gweithio gyda phlant/pobl ifanc i gymhwyso rheolau a ffiniau yn gyson, yn briodol ac yn deg, yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd
P25 delio mewn modd sensitif ag ymddygiad sy'n herio, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r lleoliad
P26 gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad gyda phlant/pobl ifanc yn briodol ac yn barchus bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 gweithdrefnau diogelwch, diogelu ac amddiffyn ac argyfwng y lleoliad, beth ydynt a pham y mae'n rhaid eu dilyn, gan gynnwys rheolaethau ar sylweddau sy'n niweidiol i iechyd ac agweddau allweddol eraill ar iechyd a diogelwch
K2 y deddfau sy'n llywodraethu diogelwch yn eich mamwlad, gan gynnwys y cyfrifoldeb cyffredinol dros iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i bob cydweithiwr a chyflogwr.
K3 dyletswydd pawb yn y sector i ddiogelu plant, gan gynnwys yr anawsterau mewn sefyllfaoedd lle mae'n bosibl na fydd eich pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif neu'n cael eu dilyn wrth ddilyn gweithdrefnau arferol
K4 rheoliadau sy'n ymwneud â thrin â llaw a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chodi a chario plant
K5 ffactorau diogelwch a safonau cydnabyddedig cyfarpar a deunyddiau ar gyfer plant. Pwysigrwydd defnyddio cyfarpar sy'n briodol ar gyfer oedran, anghenion a galluoedd y plentyn. Pwysigrwydd dilyn canllawiau'r gwneuthurwyr
K6 gwirio diogelwch yn rheolaidd a chynnal a chadw cyfarpar. Storio deunyddiau peryglus yn ddiogel a chael gwared ar wastraff
K7 sut i osod a threfnu ystafelloedd, cyfarpar, deunyddiau a mannau awyr agored yn ddiogel
K8 sut i addasu'r amgylchedd i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ddiogel, yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd a chan ystyried anableddau neu anghenion addysgol arbennig, e.e. cadw'r llawr yn daclus i gyfyngu ar beryglon i blant/pobl ifanc ag anawsterau gweledol
K9 pryd a sut i ddefnyddio cyfarpar diogelwch fel gatiau diogelwch, gorchuddion soced, cliciedau ar ffenestri a droriau, gwarchodwyr popty, harneisiau diogelwch. Diogelwch mewn perthynas ag anifeiliaid, planhigion, pyllau tywod a mannau awyr agored
K10 arferion hylendid da: osgoi traws-heintio, gwaredu gwastraff, trin bwyd, trin hylifau'r corff. Materion sy'n ymwneud â lledaeniad HIV ac AIDS a hepatitis
K11 gofynion cymhareb oedolion / plant, yn ôl ystyriaethau rheoleiddio a’r lleoliad
K12 sut i oruchwylio plant/pobl ifanc yn ddiogel, gan addasu eich dull yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd. Y cydbwysedd rhwng diogelwch a risg, a herio ac amddiffyn plant a phobl ifanc
K13 polisïau a gweithdrefnau’r lleoliad ar gyfer ymateb i ddamweiniau ac argyfyngau a'u cofnodi Y cymorth cyntaf sylfaenol sy'n ofynnol mewn argyfwng a sut i'w gymhwyso, cydnabod achosion o dagu ac ymateb iddynt, bod yn anymwybodol, anawsterau anadlu, gwaedu, sioc anaffylactig, llosgiadau. Ymwybyddiaeth o leoliad a chynnwys y blwch cymorth cyntaf. Sut i drin mân anafiadau cyffredin y gellir delio â nhw ar y safle, fel mân grafiadau ar y croen, toriadau, hergydion
K14 pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau am ddeiet plant yn ofalus er mwyn osgoi adweithiau alergaidd hysbys, a sut y byddech chi'n adnabod adweithiau alergaidd
K15 polisïau a gweithdrefnau’r lleoliad i ddelio â salwch plant/pobl ifanc. Sut i adnabod pan fydd plant/pobl ifanc yn sâl, gan gynnwys pan nad ydynt yn gallu cyfathrebu, e.e. twymyn, brechau, pen tost, crio a diffyg anadl
K16 y gweithdrefnau brys mewn lleoliadau a'r mathau o argyfwng a allai ddigwydd. Mae'n rhaid i hyn gynnwys:
K16.1 gweithdrefnau ar gyfer tanau
K16.2 digwyddiadau diogeledd
K16.3 plant neu bobl ar goll
K17 mathau ac arwyddion a dangosyddion posibl cam-drin plant: cam-drin corfforol, emosiynol, rhywiol, bwlio ac aflonyddu, esgeulustod a methu â ffynnu am resymau nad ydynt yn seiliedig ar salwch. Mae'n rhaid i hyn gynnwys:
K17.1 newidiadau ymddygiadol fel gwaethygu, bod yn dawedog, ceisio sylw, ymddygiad ymosodol ac ymddygiad negyddol
K17.2 dangosyddion corfforol fel cleisio annhebygol, llosgiadau, marciau, llid neu ddifrod i’r organau cenhedlu, newyn, bod yn fudr, diffyg gofal iechyd
K18 cydnabyddiaeth y gall ffactorau cymdeithasol, e.e. camddefnyddio sylweddau, wneud plentyn yn fwy agored i gael ei gam-drin
K19 arferion gwaith diogel sy'n amddiffyn plant/pobl ifanc a’r oedolion sy'n gweithio gyda nhw
K20 ffyrdd o annog plant/pobl ifanc i fod yn ymwybodol o'u cyrff eu hunain a deall eu hawl i beidio â chael eu cam-drin, yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd. Gallai'r rhain gynnwys:
K20.1 defnyddio iaith ddisgrifiadol briodol
K20.2 gweithgareddau sy'n cynnwys trafodaeth am eu cyrff eu hunain
K21 pwysigrwydd ffiniau a rheolau cyson a theg ar gyfer ymddygiad plant/pobl ifanc, yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd, ac osgoi stereoteipio
K22 sut i ymateb i ymddygiad heriol plant/pobl ifanc, yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r lleoliad
K23 pwysigrwydd annog a gwobrwyo ymddygiad cadarnhaol
K24 materion diogelwch a phryderon wrth dynnu plant/pobl ifanc o'r lleoliad
K25 y ddeddfwriaeth, y canllawiau a'r polisïau sy'n sail i gamau diogelu plant a phobl ifanc
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Damweiniau
digwyddiadau annisgwyl heb achos amlwg.
Ffiniau
terfynau.
Plant a phobl ifanc
y plant a’r bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw, ac eithrio lle nodir yn wahanol.
Amgylchedd
y man, y lleoliad neu’r gwasanaeth lle rydych yn gweithio gyda phlant (gall fod y tu allan i'r safle, os yw'n rhan o'ch gwaith).
Peryglon
rhywbeth sy'n debygol o achosi niwed.
Cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwybodaeth neu gyfarwyddiadau i'w defnyddio.
Gwibdeithiau
ymweliadau y tu allan i'r lleoliad.
Arferion hylendid personol
cadw'n lân, e.e. golchi dwylo ar ôl defnyddio tŷ bach, cyn bwyd neu weithgaredd coginio, glanhau dannedd ar ôl prydau bwyd.
Gweithdrefnau’r lleoliad
camau y mae eich lleoliad yn dweud bod yn rhaid i chi eu dilyn.
Ymddygiad cadarnhaol
ymddygiad sy'n cael ei groesawu ac sy’n cynorthwyo ac yn atgyfnerthu plant.
Cymorth cymwys
swyddog cymorth cyntaf dynodedig neu berson dynodedig arall sydd â chyfrifoldeb am iechyd a diogelwch yn unol â'r amgylchiadau.
Risg
difrifoldeb perygl a'i debygolrwydd o achosi niwed.
Diogelu
yn cynnwys amddiffyn plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod ochr yn ochr â chynorthwyo eu lles.
Gwastraff
deunyddiau diangen, dillad wedi'u baeddu, hylifau'r corff, rhwymynnai, clytiau glanhau.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL31 Paratoi’r amgylchedd dysgu a’i gynnal
TDASTL46 Gweithio gyda phobl ifanc i ddiogelu eu lles
TDASTL59 Hebrwng a goruchwylio disgyblion ar ymweliadau addysgol ac ar weithgareddau y tu allan i'r ysgol
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, Dysgu a Datblygu lle mae'n ymddangos fel uned CCLD 202.
Mae'r uned hon yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd ar gyfer y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, Dysgu a Datblygiad.