Cynorthwyo addysgu a dysgu mewn maes cwricwlwm
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio o fewn pwnc neu faes yn y cwricwlwm i gynorthwyo addysgu a dysgu.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â datblygu a defnyddio gwybodaeth a sgiliau pwnc i gynorthwyo addysgu a dysgu mewn maes yn y cwricwlwm. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys y swyddogaethau technegol arbenigol a gyflawnir gan dechnegwyr, llyfrgellwyr a gweithwyr proffesiynol TGCh, sy'n cael eu cynnwys mewn setiau gwahanol o safonau galwedigaethol cenedlaethol. Mae pwnc neu faes cwricwlwm yn cyfeirio at bob math o ddysgu cyfundrefnol a brofir ar draws y cwricwlwm. Fodd bynnag, maes dysgu yn y cyfnod sylfaen, meysydd eang o brofiad cwricwlaidd a dysgu drwy chwarae yn y blynyddoedd cynnar, gwaith thematig strwythuredig yn y cyfnod cynradd, pynciau sengl, pynciau galwedigaethol a gwaith trawsgwricwlaidd yn y cyfnod 14–19.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Datblygu, defnyddio a gwella eich gwybodaeth am y pwnc i gynorthwyo addysgu a dysgu
- Datblygu a gwerthuso deunyddiau i gynorthwyo addysgu a dysgu mewn maes cwricwlwm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Datblygu, defnyddio a gwella eich gwybodaeth am y pwnc i gynorthwyo addysgu a dysgu
P1 monitro datblygiadau mewn gwybodaeth ac arferion sy'n berthnasol i faes y pwnc i lefel ddigonol i allu bod yn ymwybodol o ddatblygiadau
P2 defnyddio tystiolaeth o'ch gwaith eich hun ac eraill i lywio datblygiad eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn y pwnc
P3 yn defnyddio'ch gwybodaeth am y pwnc fel sy'n ofynnol er mwyn:
P3.1 cyfrannu at gynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau neu wersi
P3.2 rhannu gwybodaeth am y pwnc gyda disgyblion, ateb cwestiynau'r disgyblion, a mynd i'r afael â'u camgymeriadau neu gamsyniadau
P3.3 datblygu a gwerthuso deunyddiau addysgu a dysgu
P3.4 cyfrannu at weithgareddau datblygu staff
P4 cynnal hunanwerthusiad realistig o'ch gwybodaeth a'ch sgiliau yn y pwnc
P5 gofyn am adborth gan athrawon ac eraill yr ydych yn gweithio gyda nhw, a’i defnyddio
P6 nodi unrhyw wybodaeth a sgiliau yn y pwnc a fyddai'n eich helpu i wella'r cymorth a roddwch i addysgu a dysgu yn y pwnc/maes cwricwlwm
P7 nodi a defnyddio cyfleoedd i wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn y pwnc
P8 cyfuno gwybodaeth a sgiliau newydd yn eich arferion eich hun a'u cymhwyso i bob maes gwaith lle mae'n berthnasol ac yn debygol o fod yn effeithiol
Datblygu a gwerthuso deunyddiau i gynorthwyo addysgu a dysgu mewn maes cwricwlwm
P9 egluro a chadarnhau eich dealltwriaeth o'r deunyddiau sydd eu hangen a'r terfynau amser ar gyfer cael deunyddiau neu eu cynhyrchu
P10 cadarnhau gyda'r person perthnasol eich bod yn deall yr hyn sydd ei angen arno
P11 cyfeirio'n brydlon unrhyw geisiadau am ddeunyddiau at berson priodol pan na allwch fodloni gofynion y defnyddiwr
P12 dewis ffynonellau priodol i chwilio am y wybodaeth neu'r deunyddiau sydd eu hangen
P13 lleoli a chael y wybodaeth neu'r deunyddiau a chynnal cofnod o’r ffynonellau a ddefnyddir
P14 archwilio, dehongli a thynnu gwybodaeth sy'n berthnasol i anghenion y defnyddiwr/defnyddwyr
P15 cadarnhau bod y wybodaeth neu'r deunydd yn addas i'w defnyddio ac mai dyna sydd ei angen ar y defnyddiwr
P16 nodi a/neu baratoi deunyddiau addysgu a dysgu sy'n berthnasol i:
P16.1 anghenion a diddordebau'r disgyblion
P16.2 amcanion addysgu a dysgu'r pwnc/maes cwricwlwm
P16.3 amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol cymdeithas
P17 cyflwyno'r deunyddiau yn y fformat mwyaf priodol, yn gywir ac ar amser
P18 cadw cofnodion cywir o'r deunyddiau a gafwyd ac a ddatblygwyd yn unol â gweithdrefnau’r ysgol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 y cwricwlwm ysgol perthnasol a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran disgyblion yn y pwnc/maes cwricwlwm ac ystod oedran y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K2 sut mae'r pwnc/maes cwricwlwm yn cyfrannu at addysg gyffredinol y disgyblion, gan gynnwys dysgu trawsgwricwlaidd
K3 pwrpas a manteision datblygu eich gwybodaeth am y pwnc er mwyn eich ac i eraill
K4 sut i fonitro eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn y pwnc, myfyrio arnynt a’u gwerthuso
K5 sut i ddiweddaru eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn y pwnc o ystyried y pwysau eraill ar eich amser a'ch adnoddau
K6 sut i gael gafael ar wybodaeth, adnoddau a chyfleoedd datblygu i wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn y pwnc
K7 sut i ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn y pwnc i gynorthwyo addysgu a dysgu, gan gynnwys datblygu a gwerthuso deunyddiau addysgu a dysgu
K8 pwysigrwydd cadarnhau'r deunyddiau addysgu a dysgu sydd eu hangen
K9 pam mae’n bwysig sefydlu dyddiadau cau realistig ar gyfer rhoi gwybodaeth a deunyddiau
K10 sut i ddelio â nifer o geisiadau ar yr un pryd am wybodaeth a deunyddiau
K11 meysydd nodweddiadol o ddiddordeb i wahanol bobl o fewn y pwnc/maes cwricwlwm
K12 y mathau o geisiadau am wybodaeth a deunyddiau sydd y tu hwnt i'ch gallu neu'ch cyfrifoldeb
K13 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech chi gyfeirio at bobl eraill
K14 pa wybodaeth a deunyddiau sydd eisoes yn bodoli yn y pwnc/maes cwricwlwm a sut i gael gafael ar y rhain a/neu eu haddasu os yw'n briodol
K15 ffynonellau gwybodaeth a deunyddiau perthnasol ar gyfer y pwnc/maes cwricwlwm ac ystod oedran y disgyblion
K16 sut i ymchwilio i wybodaeth yn effeithlon ac yn gywir
K17 pam y dylech chi gadw cofnod o’r ffynonellau gwybodaeth rydych chi wedi'u defnyddio a sut i wneud hynny
K18 sut i ddewis a pharatoi deunyddiau addysgu a dysgu i ddiwallu anghenion y disgyblion dan sylw
K19 sut i drefnu gwybodaeth ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, e.e. athrawon, disgyblion o wahanol oedrannau a galluoedd
K20 sut i nodi a datblygu deunyddiau addysgu a dysgu sy'n briodol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol
K21 gweithdrefnau’r ysgol neu'r adran ar gyfer cynnal cofnodion o'r wybodaeth a'r deunyddiau a gafwyd ac a ddatblygwyd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deunyddiau gwybodaeth, deunyddiau ysgrifenedig, meddalwedd, llyfrau, DVDs, ffynonellau rhyngrwyd, ac ati y gellir eu defnyddio i gynorthwyo addysgu a dysgu mewn pwnc/maes cwricwlwm.
Cyfleoedd i wella eich gwybodaeth am y pwnc cyfleoedd i ddatblygu eich gwybodaeth am y pwnc drwy, er enghraifft:
- ymchwil
- arsylwi gwersi
- cyfleoedd i ddatblygu yn yr ysgol
- rhaglenni datblygu allanol
- cyfnodolion ac adroddiadau.
Pwnc/cwricwlwm
yn cwmpasu pob math o ddysgu trefnus ar draws y cwricwlwm. Er enghraifft, maes dysgu yn y cyfnod sylfaen, meysydd eang o brofiad cwricwlaidd a dysgu drwy chwarae yn y blynyddoedd cynnar, gwaith thematig strwythuredig yn y cyfnod cynradd, pynciau sengl, pynciau galwedigaethol a gwaith trawsgwricwlaidd yn y cyfnod 14–19, ac yn cynnwys hyrwyddo’r rhinweddau, yr agweddau a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr llwyddiannus sy’n dangos cymhelliant a diddordeb.
Defnyddwyr
y bobl a fydd yn defnyddio'r deunyddiau i gynorthwyo dysgu, gan gynnwys athrawon, staff cymorth a disgyblion.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar gynnwys a materion sy’n ymwneud â phynciau penodol.
Mae’r unedau canlynol yn cwmpasu cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau dysgu:
TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL8 Defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i gynorthwyo dysgu disgyblion
TDASTL10 Cynorthwyo chwarae a dysgu plant
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL23 Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
TDASTL24 Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu
TDASTL27 Cynorthwyo i roi cwricwlwm y blynyddoedd cynnar ar waith
Mae paratoi deunyddiau dysgu wedi'u cynnwys hefyd yn:
TDASTL31 Paratoi’r amgylchedd dysgu a’i gynnal