Cynorthwyo i roi cwricwlwm y blynyddoedd cynnar ar waith

URN: TDASTL27
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon?               
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo athrawon i roi'r cwricwlwm blynyddoedd cynnar neu gyfnod sylfaen ar waith mewn ysgolion.

Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gweithio gydag athrawon i gynorthwyo dysgu cynnar plant ifanc a phrofiad o bynciau'r cwricwlwm. Mae fframweithiau addysg gynnar yn amrywio rhwng pedair gwlad y DU a bydd angen i chi gysylltu pob rhan o'r uned â'ch gwlad a'ch gweithle eich hun.

Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:

  1. Cyfrannu at gynllunio i roi cwricwlwm y blynyddoedd cynnar ar waith
  2. Cynorthwyo gweithgareddau addysgu a dysgu i gyflwyno'r cwricwlwm blynyddoedd cynnar
  3. Cyfrannu at fonitro ac asesu cynnydd plant.



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cyfrannu at gynllunio i roi cwricwlwm y blynyddoedd cynnar ar waith
P1 cynorthwyo'r athro wrth gynllunio a pharatoi gwersi a chyfleoedd dysgu ar gyfer dysgu cynnar plant
P2 cyfrannu'n effeithiol at ddewis a pharatoi adnoddau dysgu i ddiwallu anghenion amrywiol plant
P3 disgwyl safonau uchel gan blant ac ymrwymo i wella eu cyflawniad, yn seiliedig ar arfarniad realistig o'u galluoedd a'r hyn y gallant ei gyflawni
P4 cynllunio a pharatoi eich cyfraniad eich hun at weithgareddau addysgu a dysgu fel y cytunwyd gyda'r athro

Cynorthwyo gweithgareddau addysgu a dysgu i gyflwyno'r cwricwlwm blynyddoedd cynnar
P5 dewis a defnyddio strategaethau cymorth sy'n addas ar gyfer cynnwys ac amcanion y gweithgareddau dysgu a'r plant dan sylw
P6 cynnal gweithgareddau dysgu strwythuredig sy'n diddori ac yn cymell plant ac yn hyrwyddo eu dysgu
P7 cyfathrebu'n effeithiol â phlant i wella eu dysgu, gwrando'n astud ar blant ac ymateb yn adeiladol
P8 cyflwyno cynnwys y pwnc yn glir ac yn frwdfrydig gan ddefnyddio geirfa berthnasol sy'n benodol i'r pwnc a darluniau ac enghreifftiau a ddewiswyd yn ddoeth
P9 annog plant i ganolbwyntio, gwrando'n astud a dyfalbarhau yn eu dysgu am gyfnodau hir
P10 annog ymddygiad cadarnhaol gan blant
P11 addasu eich dulliau addysgu i ddiwallu anghenion yr holl blant dan sylw, gan wneud yn siŵr bod y cwricwlwm ar gael i bob plentyn yn yr un modd
P12 gwneud yn siŵr bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu effeithiol a hyderus

Cyfrannu at fonitro ac asesu cynnydd plant
P13 cynorthwyo gwaith athrawon wrth werthuso cynnydd plant drwy amrywiaeth o weithgareddau asesu
P14 monitro ymatebion plant i ddysgu yn ogystal â'u cyfranogiad a'u cynnydd
P15 rhoi adborth i athrawon a chymorth adeiladol i blant wrth iddynt ddysgu
P16 cyflwyno gwybodaeth am asesu a’i chofnodi yn unol â gweithdrefnau'r lleoliad
P17 defnyddio dulliau monitro ac asesu cynnydd plant i lywio eich anghenion dysgu eich hun a'ch effeithiolrwydd wrth gynorthwyo plant


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 fframweithiau’r cwricwlwm a ddefnyddir yn eich mamwlad a lle mae eich gwaith eich hun yn cyd-fynd â gwahanol strwythurau’r cwricwlwm
K2 patrwm dysgu a datblygiad deallusol plant yn y blynyddoedd cynnar neu'r cyfnod sylfaen
K3 sut mae eu cam datblygu yn effeithio ar ddysgu plant
K4 bod plant yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd a bod ganddynt arddulliau a dewisiadau dysgu unigol
K5 hawliau pob plentyn i gymryd rhan a chael mynediad cyfartal a sut mae hyn yn effeithio ar y cymorth yr ydych yn ei roi
K6 y materion penodol o ran datblygiad a dysgu plant mewn lleoliadau amlieithog neu ddwyieithog neu lle mae plant yn dysgu drwy gyfrwng iaith ychwanegol neu ail iaith
K7 sut i gynorthwyo dysgu plant drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau yn seiliedig ar eich gwybodaeth am sut mae plant yn dysgu
K8 rôl gwybodaeth arbenigol am y cwricwlwm a sut y gallwch chi ddefnyddio gwybodaeth o'r fath er budd plant
K9 gwahaniaethu'r cwricwlwm, beth mae hyn yn ei olygu a pham mae’n angenrheidiol
K10 sut y gallwch chi addasu gweithgareddau addysgu a dysgu i ddiwallu anghenion unigol gwahanol blant, gan gynnwys gwahanol oedrannau, rhyw, diwylliannau ac ethnigrwydd, anghenion, galluoedd ac arddulliau dysgu
K11 sut i gynllunio a pharatoi amgylchedd dysgu ysgogol, diddorol a phwrpasol i blant
K12 dulliau cynorthwyo ymddygiad cadarnhaol
K13 diogelu data a chyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch gwaith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mynediad cyfartal
gwneud yn siŵr bod rhwystrau gwahaniaethol i fynediad yn cael eu dileu gan ystyried anghenion unigol plant.



Ethnigrwydd
yn cyfeirio at sut mae unigolyn yn uniaethu â grŵp sy'n rhannu rhai elfennau neu bob elfen o'r un diwylliant, ffordd o fyw, iaith, lliw croen, credoau ac arferion crefyddol, cenedligrwydd, rhanbarth daearyddol a hanes. Mae gan bawb ethnigrwydd.



Cynhwysiant
proses o nodi, deall a chwalu rhwystrau sy’n atal cymryd rhan a pherthyn.



Gweithgareddau dysgu
gweithgareddau sy'n rhan o gynlluniau cwricwlwm yr athro.



Adnoddau dysgu
deunyddiau, cyfarpar (gan gynnwys TGCh), meddalwedd, llyfrau a deunyddiau ysgrifenedig eraill (e.e. taflenni, dalenni gwaith), DVDs, ac ati sydd eu hangen i gynorthwyo addysgu a dysgu.



Arddulliau dysgu
arddulliau y mae'n well gan bobl eu defnyddio wrth ddysgu ac sy'n eu helpu i ddysgu orau, megis pwyslais ar weld, clywed neu wneud.



Ymddygiad cadarnhaol
ymddygiad sy'n cael ei groesawu ac sy’n cynorthwyo ac yn atgyfnerthu plant.


Dolenni I NOS Eraill

TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL2 Cynorthwyo datblygiad plant
TDASTL10 Cynorthwyo chwarae a dysgu plant
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL24 Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu
TDASTL28 Cynorthwyo addysgu a dysgu mewn maes cwricwlwm

Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o CCLD 406 Datblygu a chynorthwyo dysgu cynnar plant mewn partneriaeth ag athrawon, o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. Fodd bynnag, mae'r uned hon wedi'i datblygu ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo yn hytrach na chyflwyno addysgu a dysgu ac nid oes modd ei throsglwyddo’n uniongyrchol.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL27

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

mathemateg, cynllunio, paratoi, adnoddau, deilliannau, rhif, siâp, dulliau mesur, trin data, datrys problemau, symbolau, diagramau, gweithgareddau