Cynorthwyo datblygiad rhifedd
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n rhoi cymorth i ddatblygu rhifedd. Mae'n cynnwys
y cymorth a roddir i ddisgyblion i'w helpu i ddatblygu sgiliau mathemategol a defnyddio a chymhwyso mathemateg.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro i helpu disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu ar gyfer dosbarth cyfan, grwpiau ac unigolion i ddatblygu rhifedd. Mae'n golygu trafod gyda'r athro sut bydd y gweithgareddau dysgu yn cael eu trefnu, a beth fydd eich rôl benodol, rhoi'r cymorth y cytunwyd arno a rhoi adborth i'r athro am gynnydd y disgyblion o ran datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mathemategol.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu sgiliau rhifedd
- Cynorthwyo disgyblion i ddefnyddio a chymhwyso mathemateg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu sgiliau rhifedd
P1 egluro a chadarnhau gyda'r athro eich dealltwriaeth o’r canlynol:
P1.1 y gweithgareddau dysgu y byddwch chi'n eu cynorthwyo
P1.2 amcanion addysgu a dysgu'r gweithgareddau
P1.3 pa ddisgyblion y byddwch chi'n gweithio gyda nhw
P1.4 sut y bydd hyn yn cael ei drefnu mewn perthynas â'r hyn y bydd yr athro a'r disgyblion eraill yn ei wneud
P2 cael gwybodaeth gywir a chyfredol am sgiliau rhifedd y disgyblion ar hyn o bryd, gan gynnwys unrhyw dargedau neu anawsterau dysgu penodol
P3 cytuno ar y strategaethau cymorth y byddwch chi’n eu defnyddio wrth weithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau rhifedd
P4 cael yr adnoddau dysgu sydd eu hangen i roi'r gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt ar waith
P5 defnyddio'r strategaethau y cytunwyd arnynt yn gywir i gynorthwyo datblygiad sgiliau rhifedd y disgyblion
P6 defnyddio canmoliaeth, sylwebaeth a chymorth i annog disgyblion i ddyfalbarhau a chwblhau’r tasgau dysgu
P7 delio ag unrhyw anawsterau wrth gwblhau'r tasgau dysgu mewn ffyrdd sy'n cynnal hyder a hunan-barch y disgybl
P8 monitro cynnydd tuag at y deilliannau dysgu a fwriadwyd a rhoi adborth i'r disgyblion mewn modd sy'n briodol i'w hoedran a'u cyflawniadau
P9 cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu
P10 rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr athro i gynnal cofnodion ac adroddiadau disgyblion
Cynorthwyo disgyblion i ddefnyddio a chymhwyso mathemateg
P11 egluro a chadarnhau eich dealltwriaeth o’r canlynol:
P11.1 y gweithgaredd dysgu y byddwch chi'n ei gynorthwyo
P11.2 amcanion addysgu a dysgu'r gweithgaredd
P11.3 pa ddisgyblion y byddwch yn gweithio gyda nhw
P11.4 sut y bydd hyn yn cael ei drefnu mewn perthynas â'r hyn y bydd yr athro a'r disgyblion eraill yn ei wneud
P12 cytuno ar y strategaethau y byddwch chi’n eu defnyddio i gynorthwyo disgyblion i ddefnyddio a chymhwyso mathemateg
P13 cael a/neu ddatblygu adnoddau dysgu i gynorthwyo'r gweithgaredd
P14 esbonio'r dasg ddysgu yn glir i'r disgyblion dan sylw
P15 annog y disgyblion i ofyn cwestiynau a gofyn am esboniad am unrhyw agwedd ar y dasg ddysgu
P16 rhoi lefelau sylw unigol, sicrwydd a help gyda’r tasgau dysgu fel sy'n briodol i anghenion y disgyblion
P17 gwneud yn siŵr eich bod ar gael ac yn hawdd i ddisgyblion ddod atoch am gymorth pan fo angen
P18 rhoi cymorth yn ôl yr angen i hyrwyddo dysgu disgyblion yn ogystal â rhoi amser ac anogaeth iddynt ddilyn eu trywyddau ymholi eu hunain a datrys problemau mathemategol
P19 defnyddio canmoliaeth, sylwebaeth a chymorth i annog disgyblion i ddyfalbarhau a chwblhau’r tasgau dysgu
P20 delio ag anawsterau wrth gwblhau'r tasgau dysgu mewn ffyrdd sy'n cynnal hyder a hunan-barch y disgybl
P21 monitro cynnydd tuag at yr amcanion dysgu a fwriadwyd a rhoi adborth i'r disgyblion mewn modd sy'n briodol i'w hoedran a'u cyflawniadau
P22 cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion yn ystod y gweithgareddau dysgu
P23 rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr athro i gynnal cofnodion ac adroddiadau disgyblion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisi'r ysgol ar gyfer mathemateg a’r disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran disgyblion sy'n berthnasol i ystod oedran y disgyblion rydych chi'n gweithio gyda nhw
K2 sut mae disgyblion yn datblygu sgiliau mathemategol, a'r ffactorau sy'n hyrwyddo ac yn rhwystro dysgu effeithiol
K3 amcanion addysgu a dysgu'r gweithgareddau dysgu rydych chi’n eu cynorthwyo a lle'r rhain yn rhaglen addysgu gyffredinol yr athro ar gyfer mathemateg
K4 sut i gael gwybodaeth am sgiliau a galluoedd mathemategol y disgyblion ar hyn o bryd a’i defnyddio
K5 strategaethau cynorthwyo datblygiad sgiliau mathemategol a sut mae'r rhain yn berthnasol i wahanol anghenion dysgu
K6 natur unrhyw anghenion addysgol arbennig neu anghenion cymorth ychwanegol sydd gan y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw a goblygiadau'r rhain i'w helpu i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mathemategol
K7 yr adnoddau a ddefnyddir yn eich ysgol i ddatblygu sgiliau mathemategol disgyblion a sut y dylid eu defnyddio
K8 sut i ddefnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i hyrwyddo dysgu disgyblion
K9 y mathau o gwestiynau, problemau a thasgau y gellir eu defnyddio i helpu disgyblion yn yr ystod oedran rydych chi'n gweithio gyda nhw i ddefnyddio a chymhwyso mathemateg
K10 pwysigrwydd esbonio tasgau dysgu yn glir a chaniatáu i ddisgyblion ofyn cwestiynau ac egluro eu dealltwriaeth a sut i wneud hyn
K11 sut i gynorthwyo disgyblion i ddilyn eu trywydd ymholi eu hunain a dod o hyd i'w datrysiadau eu hunain i broblemau
K12 sut i gynnal diddordeb, cymhelliant a ffocws disgyblion wrth fynd ar drywydd llinellau ymholi a datrys problemau
K13 sut i fonitro a hyrwyddo cyfranogiad a chynnydd ym mhob agwedd ar ddatblygu sgiliau mathemategol
K14 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gynorthwyo gweithgareddau dysgu a sut i fynd i ddelio â'r rhain
K15 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech chi gyfeirio at eraill
K16 gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer cofnodi a rhannu gwybodaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth
Gellir cael gwybodaeth am y sgiliau a’r galluoedd sydd gan ddisgybl ar hyn o bryd yn y ffyrdd canlynol:
- gan athro’r dosbarth neu’r pwnc
- mewn cofnodion/adroddiadau ysgrifenedig
- drwy arsylwi’r disgyblion.
Amcanion dysgu
fel y maent wedi’u diffinio gan y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer y wlad lle'r ydych chi’n gweithio ac yn cael eu hadlewyrchu yn fframwaith cwricwlwm yr ysgol a’r athro ar gyfer mathemateg.
Rhifedd
hyfedredd sy'n cynnwys hyder a chymhwysedd gyda rhifau a dulliau mesur. Mae angen dealltwriaeth o'r system rifau, nifer o sgiliau cyfrifiadurol a thueddiad a'r gallu i ddatrys problemau rhifedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae rhifedd hefyd yn golygu bod angen dealltwriaeth ymarferol o'r ffyrdd y mae gwybodaeth yn cael ei chasglu drwy gyfrif a mesur, ac fe'i cyflwynir mewn graffiau, diagramau a thablau.
Adnoddau dysgu
deunyddiau, cyfarpar (gan gynnwys TGCh), meddalwedd, llyfrau a deunyddiau ysgrifenedig eraill (e.e. taflenni, dalenni gwaith), DVDs, ac ati sydd eu hangen i gynorthwyo addysgu a dysgu.
Sgiliau rhifedd
Y sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio a chymhwyso mathemateg gan gynnwys:
- cyfrif a deall rhif
- adnabod a defnyddio ffeithiau rhif
- cyfrifo
- deall siâp
- mesur
- trin data.
Problemau
y rhwystrau i roi cymorth i ddisgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu. Gall problemau ymwneud ag:
- adnoddau dysgu, e.e. maint, ansawdd, addasrwydd neu argaeledd
- yr amgylchedd dysgu, e.e. lle, cyfforddusrwydd, lefel sŵn, ffactorau sy’n tarfu
- gallu'r disgyblion i ddysgu, e.e. agwedd at ddysgu, ymddygiad, hunan-barch, y gallu i ganolbwyntio.
Strategaethau cymorth
y dulliau a'r technegau a ddefnyddir i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mathemategol, er enghraifft:
- helpu disgyblion i ddehongli a dilyn cyfarwyddiadau
- atgoffa disgyblion o bwyntiau addysgu a wnaed gan yr athro
- holi ac annog disgyblion
- helpu disgyblion i ddewis a defnyddio adnoddau mathemategol priodol,
e.e. llinellau rhif, offerynnau mesur, gemau, meddalwedd cyfrifiadurol a rhaglenni dysgu - esbonio ac atgyfnerthu defnydd cywir o eirfa fathemategol
- cyflwyno tasgau dilynol i atgyfnerthu ac ymestyn dysgu, e.e. tasgau datrys problemau, gemau mathemategol, posau.
Defnyddio a chymhwyso mathemateg
datrys problemau neu ddilyn trywydd ymholi sy'n cynnwys cynrychioli syniadau gan ddefnyddio rhifau, symbolau neu ddiagramau, rhesymu a rhagfynegi a chyfleu canlyniadau, ar lafar neu'n ysgrifenedig.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL2 Cynorthwyo datblygiad plant
TDASTL6 Cynorthwyo gweithgareddau llythrennedd a rhifedd
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL33 Rhoi cymorth llythrennedd a rhifedd i alluogi disgyblion i gael mynediad i'r cwricwlwm ehangach