Cynorthwyo datblygiad llythrennedd
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n rhoi cymorth i ddatblygu llythrennedd. Mae'n cwmpasu'r cymorth a roddir i ddisgyblion i'w helpu i ddatblygu sgiliau darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â gweithio gyda'r athro i helpu disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu ar gyfer dosbarth cyfan, grwpiau ac unigolion i ddatblygu llythrennedd. Mae'n golygu trafod gyda'r athro sut bydd y gweithgareddau dysgu yn cael eu trefnu, a beth fydd eich rôl benodol, rhoi'r cymorth y cytunwyd arno a rhoi adborth i'r athro am gynnydd y disgyblion o ran datblygu sgiliau llythrennedd.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
- Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau darllen
- Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu
- Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau darllen
P1 egluro a chadarnhau’r canlynol gyda'r athro:
P1.1 eich rôl o ran cynorthwyo’r disgyblion i ddatblygu sgiliau darllen a sut mae hyn yn berthnasol i rôl yr athro
P1.2 anghenion dysgu'r disgyblion y byddwch yn gweithio gyda nhw
P1.3 targedau dysgu unigol y disgyblion y byddwch yn gweithio gyda nhw
P2 cytuno ar y strategaethau cymorth y byddwch yn eu defnyddio wrth weithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau darllen
P3 cael yr adnoddau dysgu sydd eu hangen i roi'r strategaethau cymorth y cytunwyd arnynt ar waith
P4 rhoi'r strategaethau y cytunwyd arnynt ar waith yn gywir i gynorthwyo datblygiad darllen y disgyblion
P5 monitro cynnydd y disgyblion tuag at y deilliannau dysgu a fwriadwyd a rhoi adborth i'r disgyblion mewn modd sy'n briodol i'w hoedran a'u cyflawniadau
P6 cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu
P7 rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr athro i gynnal cofnodion ac adroddiadau disgyblion
Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu
P8 egluro a chadarnhau’r canlynol gyda'r athro:
P8.1 eich rôl o ran cynorthwyo’r disgyblion i ddatblygu sgiliau ysgrifennu a sut mae hyn yn berthnasol i rôl yr athro
P8.2 anghenion dysgu'r disgyblion y byddwch chi'n gweithio gyda nhw
P8.3 targedau dysgu unigol y disgyblion y byddwch chi’n gweithio gyda nhw
P9 cytuno ar y strategaethau cymorth y byddwch yn eu defnyddio wrth weithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu
P10 cael yr adnoddau dysgu sydd eu hangen i roi'r strategaethau cymorth y cytunwyd arnynt ar waith
P11 rhoi'r strategaethau y cytunwyd arnynt ar waith yn gywir i gynorthwyo datblygiad
sgiliau ysgrifennu’r disgyblion
P12 monitro cynnydd y disgyblion tuag at y deilliannau dysgu a fwriadwyd a rhoi adborth i'r disgyblion mewn modd sy'n briodol i'w hoedran a'u cyflawniadau
P13 cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu
P14 rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr athro i gynnal cofnodion ac adroddiadau disgyblion
Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando
P15 rhoi cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan mewn sgwrs, trafodaeth a chwestiynu
P16 defnyddio cwestiynau penagored i annog disgyblion i gyfrannu mewn sgyrsiau a thrafodaethau
P17 cynorthwyo disgyblion swil ac amharod i ymateb i gwestiynau
P18 defnyddio iaith a geirfa sy'n briodol i lefel dealltwriaeth a datblygiad y disgyblion
P19 defnyddio strategaethau priodol ar gyfer cyflwyno disgyblion i eiriau a strwythurau iaith newydd i helpu i ymestyn eu geirfa a'u gafael strwythurol o'r iaith darged
P20 creu cyfleoedd i ehangu dealltwriaeth disgyblion o bwysigrwydd gwrando’n astud a chymryd tro i siarad
P21 annog disgyblion i gyfrannu mewn sgyrsiau a thrafodaethau mewn modd sy'n debygol o roi hwb i’w hunanhyder a'u hunan-barch
P22 annog disgyblion i ymateb yn adeiladol i gyfraniadau gan ddisgyblion eraill mewn sgyrsiau a thrafodaethau
P23 ymateb i ddefnydd y disgyblion o iaith y cartref ac acenion a thafodieithoedd lleol mewn modd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol ac yn atgyfnerthu hunan-ddelweddau cadarnhaol i’r disgyblion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisïau'r ysgol ar gyfer Saesneg, Cymraeg neu iaith fel sy'n briodol i'r lleoliad
K2 y strategaethau a'r adnoddau a ddefnyddir yn eich ysgol i helpu’r disgyblion i ddatblygu:
K2.1 sgiliau darllen
K2.2 sgiliau ysgrifennu
K2.3 sgiliau siarad a gwrando
K3 natur a ffiniau eich rôl wrth gynorthwyo datblygiad llythrennedd, a'i pherthynas â rôl yr athro ac eraill yn yr ysgol
K4 rhaglen yr athro a'r cynlluniau datblygu llythrennedd
K5 egwyddorion sylfaenol sut mae plant yn datblygu sgiliau llythrennedd, y camau datblygu disgwyliedig, ac a gyflawnir gan, y disgyblion rydych chi'n gweithio gyda nhw
K6 natur unrhyw anghenion addysgol arbennig neu anghenion cymorth ychwanegol sydd gan y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw a goblygiadau'r rhain i'w helpu i ddatblygu sgiliau llythrennedd
K7 y strategaethau sy'n addas i gynorthwyo darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando a sut mae'r rhain yn berthnasol i anghenion dysgu gwahanol y disgyblion rydych chi'n gweithio gyda nhw
K8 y defnydd rhyngweithiol o siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu i hyrwyddo datblygiad llythrennedd ymhlith disgyblion
K9 sut i sillafu a ffurfio brawddegau gramadegol gywir
K10 sut i ddefnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i hyrwyddo dysgu disgyblion
K11 rôl cyfathrebu a hunanfynegiant wrth feithrin hunan-barch
K12 ffactorau corfforol ac emosiynol sy'n effeithio ar allu disgybl i gyfathrebu’n llafar a ffyrdd o oresgyn neu leihau effeithiau'r rhain
K13 sut i fonitro a hyrwyddo cyfranogiad a chynnydd ym mhob agwedd ar ddatblygu llythrennedd
K14 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gynorthwyo gweithgareddau dysgu a sut i fynd i’r afael â'r rhain
K15 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech chi gyfeirio at eraill
K16 gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer cofnodi a rhannu gwybodaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Llythrennedd
mae llythrennedd yn uno sgiliau pwysig darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.
Adnoddau dysgu
deunyddiau, cyfarpar (gan gynnwys TGCh), meddalwedd, llyfrau a deunyddiau ysgrifenedig eraill (e.e. taflenni, dalenni gwaith), DVDs, ac ati sydd eu hangen i gynorthwyo addysgu a dysgu.
Problemau
y rhwystrau i roi cymorth i ddisgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu. Gall problemau ymwneud â:
- adnoddau dysgu, e.e. maint, ansawdd, addasrwydd neu argaeledd
- yr amgylchedd dysgu, e.e. lle, cyfforddusrwydd, lefel sŵn, ffactorau sy’n tarfu
- gallu'r disgyblion i ddysgu, e.e. cefndir cartref neu addysgol, treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol, agwedd at ddysgu, ymddygiad gwael, hunan-barch isel, diffyg canolbwyntio, anableddau synhwyraidd neu gorfforol.
Strategaethau cymorth
y dulliau a'r technegau a ddefnyddir i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu sgiliau llythrennedd, er enghraifft:
- defnyddio awgrymiadau ac adborth wedi'u targedu i ddatblygu'r defnydd o strategaethau darllen ac ysgrifennu annibynnol
- hwyluso unigolion neu grwpiau bach i gymryd rhan mewn gweithgareddau darllen ac ysgrifennu a rennir
- defnyddio ffoneg i helpu disgyblion i ddeall y system sain a sillafu a'i defnyddio i ddarllen a sillafu'n gywir
- defnyddio strategaethau cymorth penodol, e.e. darllen mewn parau, fframiau ysgrifennu
- defnyddio rhaglenni cymorth penodol, e.e. llyfrau darllen wedi’u categoreiddio, rhaglenni dysgu gwahaniaethol, rhaglenni cymorth llythrennedd ychwanegol
- annog disgyblion swil neu amharod i gyfrannu at sgyrsiau a thrafodaethau ac ymateb i gwestiynau
- esbonio geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir gan yr athro
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL2 Cynorthwyo datblygiad plant
TDASTL6 Cynorthwyo gweithgareddau llythrennedd a rhifedd
TDASTL10 Cynorthwyo chwarae a dysgu plant
TDASTL11 Cyfrannu at gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL33 Rhoi cymorth llythrennedd a rhifedd i alluogi disgyblion i gael mynediad i'r cwricwlwm ehangach
TDASTL35 Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL36 Rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog ar gyfer addysgu a dysgu