Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n helpu athrawon i gynllunio a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â helpu'r athro i gynllunio sut bydd gweithgareddau addysgu a dysgu yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys eich rôl chi wrth gynorthwyo'r gweithgareddau, a rhannu eich barn a'ch safbwyntiau â'r athro am ba mor dda y cyflawnodd y gweithgareddau yr amcanion dysgu.
Gall y gweithgareddau addysgu a dysgu fod ar gyfer disgyblion unigol, grwpiau o ddisgyblion, neu'r dosbarth cyfan. Gellir cyflwyno'r gweithgareddau addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth neu unrhyw leoliad lle mae'r addysgu a'r dysgu'n digwydd megis astudiaethau maes, ymweliadau addysgol, darpariaeth oriau estynedig a threfniadau cymorth astudio.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Cyfrannu at gynllunio gweithgareddau addysgu a dysgu
- Cyfrannu at werthuso gweithgareddau addysgu a dysgu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at gynllunio gweithgareddau addysgu a dysgu
P1 egluro a chadarnhau gyda'r athro eich dealltwriaeth o amcanion addysgu a dysgu'r gweithgareddau a sut caiff llwyddiant ei fesur
P2 rhoi adborth adeiladol ac amserol ar syniadau ac opsiynau sy'n cael eu harchwilio
P3 rhannu eich syniadau eich hun ar anghenion dysgu disgyblion a ffyrdd o fodloni'r rhain
P4 cynnig awgrymiadau realistig ac adeiladol ynghylch y cymorth y gallwch ei roi, gan ystyried unrhyw gryfderau a gwendidau penodol yn eich arbenigedd a'ch profiad a allai effeithio ar y cynlluniau sy'n cael eu gwneud.
P5 trafod a chytuno ar eich rôl wrth gyflwyno'r gweithgareddau addysgu a dysgu pan ydych yn gweithio ar eich pen eich hun ac wrth weithio mewn partneriaeth â'r athro
P6 tynnu sylw'r athro yn ôl yr angen at unrhyw anawsterau rydych chi'n eu rhagweld wrth gyflwyno'r gweithgareddau addysgu a dysgu a gynlluniwyd
P7 cynllunio eich amser i gyflawni eich cyfrifoldebau ar gyfer cyflwyno’r gweithgareddau addysgu a dysgu a gynlluniwyd a gwneud defnydd effeithiol o'r amser a ddyrannwyd
Cyfrannu at werthuso gweithgareddau addysgu a dysgu
P8 mynegi barn realistig a theg ar lwyddiant y gweithgareddau addysgu a dysgu gan ystyried y dulliau mesur llwyddiant y cytunwyd arnynt
P9 ystyried y cyd-destunau y cynhaliwyd y gweithgareddau addysgu a dysgu ynddynt wrth gynnig sylwadau arnynt
P10 nodi a rhannu gwybodaeth am gryfderau a gwendidau'r gweithgareddau mewn modd adeiladol
P11 cynnig awgrymiadau realistig ac adeiladol ar gyfer gwelliannau i'r gweithgareddau a'ch rôl wrth eu cynorthwyo
P12 delio ag unrhyw wahaniaeth barn mewn ffordd sy'n cynnal perthnasoedd gwaith effeithiol â chydweithwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 y berthynas rhwng eich rôl eich hun a rôl yr athro yn yr amgylchedd dysgu
K2 eich rôl a’ch chyfrifoldebau chi a phobl eraill wrth gynllunio gweithgareddau addysgu a dysgu, eu rhoi ar waith a’u gwerthuso
K3 eich rôl a'ch cyfrifoldebau chi o ran cynorthwyo dysgu disgyblion a goblygiadau hyn ar gyfer y math o gymorth y gallwch ei roi
K4 polisïau'r ysgol ar gyfer cynhwysiant a chyfle cyfartal, a goblygiadau hyn ar gyfer sut rydych chi'n gweithio gyda disgyblion
K5 y cwricwlwm ysgol perthnasol a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran disgyblion yn y pwnc/maes cwricwlwm ac ystod oedran y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K6 sut mae plant yn dysgu a goblygiadau hyn wrth gynllunio gweithgareddau addysgu a dysgu
K7 unrhyw anghenion dysgu penodol ac arddulliau dysgu'r disgyblion dan sylw a sut y gallai'r rhain effeithio ar y gweithgareddau addysgu a dysgu a gynlluniwyd
K8 gwerth gwahanol gyd-destunau dysgu, (e.e. dan do, yn yr awyr agored, ymweliadau)
K9 yr egwyddorion sy'n sail i gyfathrebu, cynllunio a chydweithio’n effeithiol
K10 eich profiad a'ch arbenigedd mewn perthynas â chynorthwyo gweithgareddau dysgu a sut mae hyn yn berthnasol i'r gweithgareddau a gynlluniwyd
K11 eich cryfderau a'ch gwendidau mewn perthynas â chynorthwyo gwahanol fathau o ddysgu
K12 pwysigrwydd rheoli amser yn effeithiol a sut i gyflawni hyn
K13 sut i roi adborth mewn modd adeiladol ac mewn ffordd sy'n gwneud yn siŵr bod perthnasoedd gwaith yn cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyd-destunau
y ffactorau y mae angen eu hystyried wrth werthuso gweithgareddau addysgu a dysgu, er enghraifft:
- y fframwaith cwricwlwm perthnasol
- oedran a cham datblygiad y disgyblion
- unrhyw anghenion ychwanegol sydd gan y disgyblion sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu
- yr amgylchedd/lleoliad dysgu.
Anawsterau rhwystrau posibl i roi'r gweithgareddau addysgu a dysgu arfaethedig ar waith. Gall anawsterau ymwneud â:
- deunyddiau dysgu, e.e. argaeledd, cost, ansawdd
- amser, e.e. cyfyngiadau amserlen, eich oriau cytundebol
- amgylchedd/lleoliad dysgu, e.e. gofod, cyfleusterau, pethau a allai dynnu sylw neu amharu
- eich rôl a'ch arbenigedd, e.e. eich disgrifiad swydd a'ch gofynion o ran cynorthwyo disgyblion penodol, eich gwybodaeth am y pwnc.
Gwerthuso
asesiad o ba mor dda y llwyddodd y gweithgareddau addysgu a dysgu i gyflawni eu hamcanion.
Gweithio mewn partneriaeth
gweithio gyda'r athro i gynorthwyo addysgu a dysgu, e.e. mewn sesiynau llawn gyda’r dosbarth cyfan.
Cynllunio
penderfynu gyda'r athro beth fyddwch chi'n ei wneud, pryd, sut a gyda pha ddisgyblion, i wneud yn siŵr bod y gweithgareddau addysgu a dysgu sydd wedi'u cynllunio yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol.
Cynlluniau
Gall cynlluniau ymwneud ag un wers neu rychwantu nifer o wersi, e.e. cynlluniau prosiect, cynllun gwaith. Gall y cynllun gael ei gofnodi'n ysgrifenedig neu gellir cytuno arno ar lafar yn unig rhyngoch chi a'r athro.
Dulliau mesur llwyddiant
y meini prawf y mae'r gweithgareddau addysgu a dysgu yn cael eu gwerthuso yn eu herbyn.
Gallai dulliau mesur llwyddiant ymwneud â’r canlynol:
- yr effaith ar unigolion neu grwpiau o ddisgyblion
- i ba raddau y maent yn cwmpasu'r cwricwlwm
- targedau dysgu unigol.
Gweithgareddau addysgu a dysgu
y gweithgareddau addysgu a dysgu a gynlluniwyd gan yr athro ar gyfer disgyblion unigol, grwpiau o ddisgyblion, neu'r dosbarth cyfan.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL8 Defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i gynorthwyo dysgu disgyblion
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL23 Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
TDASTL27 Cynorthwyo i roi cwricwlwm y blynyddoedd cynnar ar waith
TDASTL29 Arsylwi a hyrwyddo perfformiad a datblygiad disgyblion
TDASTL34 Cynorthwyo disgyblion dawnus a thalentog
Gyda’i gilydd, mae’r uned hon a TDASTL18 yn ymdrin â chyfrifoldebau'r rhai sy'n cyfrannu at gynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu. Fodd bynnag, gellir defnyddio TDASTL18 ar wahân os nad oes unrhyw gysylltiad â chynllunio a gwerthuso, e.e. er mwyn cyflenwi goruchwylio.
Mae TDASTL23 wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu yn annibynnol ar gyfer disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion o dan gyfarwyddyd athro, lle mae'r athro yn bresennol neu gerllaw, ac yn parhau i fod yn bennaf gyfrifol am y dosbarth cyfan.