Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynllunio, cyflwyno a gwerthuso addysgu a dysgu gweithgareddau ar gyfer disgyblion unigol neu grwpiau o ddisgyblion o dan arweiniad neu gyfarwyddiadau'r athro.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chynllunio a chyflwyno gweithgareddau addysgu a dysgu i ategu, atgyfnerthu neu ymestyn addysgu a dysgu sydd wedi'u cynllunio a'u cyflwyno gan yr athro. Mae hefyd yn cynnwys monitro a rhoi adborth ar gyfranogiad a chynnydd disgyblion, a gwerthuso eich cyfraniad eich hun i'r gweithgaredd dysgu.
Bydd y gweithgareddau addysgu a dysgu ar gyfer disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion ac yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â'r athro sy'n parhau i fod yn bennaf gyfrifol am y dosbarth cyfan. Gellir eu cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth neu unrhyw leoliad lle mae'r addysgu a'r dysgu'n digwydd fel astudiaethau maes, ymweliadau addysgol, oriau estynedig a threfniadau cymorth astudio. Bydd cynllunio, gweithredu a gwerthuso yn cwmpasu hefyd unrhyw waith partneriaeth gyda'r athro yn rhan o'r cynllun gwersi cyffredinol, er enghraifft wrth weithio gyda'r dosbarth cyfan mewn sesiwn lawn.
Dylai gweithgareddau addysgu a dysgu gael eu cynnal o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athro cymwysedig yn unol â threfniadau a wnaed gan bennaeth yr ysgol.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
- Cynllunio gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
- Cyflwyno gweithgareddau addysgu a dysgu
- Gwerthuso gweithgareddau a deilliannau addysgu a dysgu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
P1 egluro a chadarnhau’r canlynol gyda'r athro:
P1.1 amcanion dysgu ac addysgu'r gweithgareddau
P1.2 eich rôl wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso'r gweithgareddau addysgu a dysgu a sut mae hyn yn ymwneud â'r hyn y bydd yr athro yn ei wneud
P1.3 y disgyblion y byddwch yn gweithio gyda nhw
P1.4 sut caiff llwyddiant ei fesur
P2 cyfrannu'n effeithiol at gynllunio unrhyw bartneriaeth sy'n gweithio gyda'r athro yn rhan o gynllun cyffredinol y wers
P3 cynllunio gweithgareddau i gyflawni'r amcanion addysgu a dysgu y cytunwyd arnynt ac anghenion dysgu personol y disgyblion dan sylw
P4 strwythuro gweithgareddau addysgu a dysgu er mwyn:
P4.1 cynnal cymhelliant a diddordeb y disgyblion
P4.2 rhoi adborth ar ddysgu a chynnydd y disgyblion
P5 dewis a pharatoi adnoddau addysgu a dysgu sy'n berthnasol i:
P5.1 anghenion a diddordebau'r disgyblion
P5.2 amcanion dysgu ac addysgu'r gweithgareddau
P5.3 amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol cymdeithas
Cyflwyno gweithgareddau addysgu a dysgu
P6 sefydlu a chynnal amgylchedd gwaith pwrpasol ar gyfer y gweithgareddau dysgu
P7 cyfathrebu'n effeithiol ac yn sensitif â disgyblion i gynorthwyo eu dysgu
P8 defnyddio dulliau addysgu a dysgu priodol: T8.1 ar gyfer y disgyblion a'r gweithgareddau dysgu
P8.2 cynnal cymhelliant a diddordeb y disgyblion
P8.3 cynorthwyo a herio disgyblion yn briodol
P8.4 casglu adborth ar ddysgu a chynnydd disgyblion
P9 hyrwyddo a chynorthwyo i gynnwys pob disgybl sy'n ymwneud â'r gweithgareddau dysgu
P10 monitro ymatebion y disgyblion i'r gweithgareddau addysgu a dysgu ac addasu gweithgareddau os oes angen gwneud hynny i hyrwyddo dysgu
P11 monitro sut mae disgbyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd yn y gweithgareddau dysgu a rhoi cymorth adeiladol i ddisgyblion wrth iddynt ddysgu
P12 cyflawni ymrwymiadau y cytunwyd arnynt mewn modd dibynadwy i weithio mewn partneriaeth â'r athro
P13 rhoi adborth cywir a chyflawn i bobl berthnasol ar gyfranogiad a chynnydd disgyblion
P14 cynnal cofnodion priodol o'r gweithgareddau a'r deilliannau addysgu a dysgu yn unol â gweithdrefnau ysgol
Gwerthuso gweithgareddau a deilliannau addysgu a dysgu
P15 nodi a defnyddio tystiolaeth o'r gweithgareddau addysgu a dysgu i werthuso cynnydd disgyblion
P16 gwneud asesiad realistig o'r graddau y cyflawnwyd yr amcanion addysgu a dysgu a gynlluniwyd gan ystyried y dulliau y cytunwyd arnynt i fesur llwyddiant
P17 gofyn am adborth gan yr athro a'r disgyblion a’i ystyried
P18 nodi cryfderau a gwendidau'r gweithgareddau addysgu a dysgu mewn perthynas â’r canlynol:
P18.1 yr amcanion dysgu ac addysgu
P18.2 y dulliau mesur llwyddiant
P18.3 cyfranogiad a chynnydd y disgyblion
P18.4 yr adnoddau dysgu ac addysgu
P18.5 y dulliau addysgu a dysgu
P19 nodi materion ar gyfer gwella, a ffyrdd o fynd i'r afael â'r rhain
P20 cofnodi a defnyddio canlyniadau eich gwerthusiad i gynorthwyo datblygiad a gwella
P21 rhoi adborth i'r athro i lywio ei waith cynllunio yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 natur a ffiniau eich rôl wrth gynllunio a chyflwyno gweithgareddau addysgu a dysgu, a'i pherthynas â rôl yr athro ac eraill yn yr ysgol
K2 pwysigrwydd disgwyl llawer gan ddisgyblion a sut mae hyn yn cael ei ddangos drwy eich arferion
K3 y cwricwlwm ysgol perthnasol a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran disgyblion yn y pwnc/maes cwricwlwm ac ystod oedran y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K4 amcanion addysgu a dysgu'r gweithgareddau dysgu a lle'r rhain yn rhaglen addysgu gyffredinol yr athro
K5 sut i ystyried profiadau, diddordebau, doniau a dewisiadau disgyblion wrth gynllunio dysgu personol
K6 y ffactorau allweddol sy’n gallu effeithio ar y ffordd y mae disgyblion yn dysgu gan gynnwys oedran, rhywedd a datblygiad corfforol, deallusol, ieithyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac emosiynol, a sut i ystyried y rhain wrth gynllunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau dysgu
K7 sut mae trefniadaeth gymdeithasol a pherthnasoedd, fel grwpio disgyblion a'r ffordd y mae oedolion yn rhyngweithio â nhw ac yn ymateb iddynt, yn gallu effeithio ar ddysgu
K8 strategaethau casglu gwybodaeth am ddysgu a chynnydd disgyblion, a sut i gynllunio’r rhain a’u defnyddio mewn gweithgareddau addysgu a dysgu
K9 sut i ddewis a pharatoi adnoddau addysgu a dysgu i ddiwallu anghenion y disgyblion dan sylw
K10 sut i sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu pwrpasol a hyrwyddo ymddygiad da
K11 pwysigrwydd meithrin cysylltiad a pherthynas barchus, hyderus â disgyblion
K12 sut i ddewis a defnyddio dulliau addysgu a dysgu i gynorthwyo, cymell ac ennyn diddordeb yr holl ddisgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K13 polisïau'r ysgol ar gyfer cynhwysiant a chyfle cyfartal a goblygiadau hyn ar gyfer sut rydych chi'n cynorthwyo gweithgareddau addysgu a dysgu
K14 sut i fonitro ymateb y disgyblion i weithgareddau addysgu a dysgu
K15 pryd a sut i addasu gweithgareddau addysgu a dysgu
K16 sut i fonitro a hyrwyddo sut mae disgbyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd
K17 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech gyfeirio at eraill
K18 sut i fyfyrio ar brofiad a dysgu ohono
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwerthuso
asesiad o ba mor dda y llwyddodd y gweithgareddau addysgu a dysgu i gyflawni eu hamcanion.
Adnoddau dysgu
deunyddiau, cyfarpar (gan gynnwys TGCh), meddalwedd, llyfrau a deunyddiau ysgrifenedig eraill (e.e. taflenni, dalenni gwaith), DVDs, ac ati sydd eu hangen i gynorthwyo addysgu a dysgu.
Gweithio mewn partneriaeth
gweithio gyda'r athro i gynorthwyo addysgu a dysgu, er enghraifft mewn sesiynau llawn gyda’r dosbarth cyfan.
Dysgu personol
cynnal ffocws ar gynnydd unigol, er mwyn gwneud y mwyaf o allu pob plentyn a pherson ifanc i ddysgu, cyflawni a chymryd rhan. Mae hyn yn golygu cynorthwyo a herio pob dysgwr i gyflawni safonau cenedlaethol ac ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu a llwyddo drwy gydol eu bywydau. Nid yw ‘dysgu personol’ yn ymwneud â chynlluniau gwersi unigol neu unigoli, lle mae plant yn cael eu haddysgu ar wahân, yn bennaf drwy ddull un i un.
Cynlluniau
gall cynlluniau ymwneud ag un wers neu rychwantu nifer o wersi, e.e. cynlluniau prosiect, cynllun gwaith. Bydd y cynllun yn cael ei gofnodi'n ysgrifenedig a bydd yr athro’n cytuno arno cyn ei roi ar waith.
Pobl berthnasol
pobl sydd ag angen a’r hawl i gael gwybodaeth am sut mae disgyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd. Bydd hyn yn cynnwys yr athro cymwys sy'n gyfrifol am y disgyblion, ond gall hefyd gynnwys pobl eraill fel arweinwyr ysgolion, staff cymorth eraill mewn ystafelloedd dosbarth sy'n gweithio gyda'r disgyblion, cydlynydd anghenion addysgol arbennig, neu weithwyr proffesiynol eraill, e.e. therapydd lleferydd ac iaith, seicolegydd addysgol. Rhaid cadw at bolisi cyfrinachedd a gweithdrefnau amddiffyn plant yr ysgol bob amser wrth rannu gwybodaeth.
Dulliau mesur llwyddiant
y meini prawf y mae'r gweithgareddau addysgu a dysgu yn cael eu gwerthuso yn eu herbyn.
Gallai dulliau mesur llwyddiant ymwneud â’r canlynol:
- yr effaith ar unigolion neu grwpiau o ddisgyblion
- i ba raddau y maent yn cwmpasu'r cwricwlwm
- targedau dysgu unigol.
Gweithgareddau addysgu a dysgu
y gweithgareddau addysgu a dysgu ar gyfer disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion a ddatblygwyd ac a gyflwynir gan yr ymarferydd sy'n gweithio o fewn fframwaith a bennwyd gan yr athro.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL8 Defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i gynorthwyo dysgu disgyblion
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL24 Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu
TDASTL27 Cynorthwyo i roi cwricwlwm y blynyddoedd cynnar ar waith
TDASTL34 Cynorthwyo disgyblion dawnus a thalentog
Mae'r uned hon yn ymdrin â chynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu yn annibynnol o dan arweiniad neu gyfarwyddiadau'r athro.
Gyda’i gilydd, mae TDASTL2 a TDASTL3 yn ymdrin â chyfrifoldebau'r rhai sy'n gweithio gyda'r athro er mwyn cynllunio a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu, ac yna'n cynorthwyo'r gwaith o gyflwyno gweithgareddau arfaethedig yr athro.
Fodd bynnag, gellir defnyddio TDASTL3 ar wahân lle nad oes unrhyw ran mewn cynllunio a gwerthuso, e.e. er mwyn cyflenwi goruchwylio.