Myfyrio ar arferion a'u datblygu
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau a gwasanaethau.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â'r cymhwysedd sydd ei angen arnoch i fyfyrio ar eich arferion. Bydd hunanwerthuso a myfyrio yn eich galluogi i ddysgu a datblygu eich arferion. Mae'r uned hon hefyd yn cynnwys cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus a sut mae wedi’i ddefnyddio i ddatblygu eich arferion.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Myfyrio ar arferion
- Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Myfyrio ar arferion
P1 monitro prosesau, arferion a deilliannau o'ch gwaith eich hun
P2 gwerthuso eich perfformiad eich hun (cyflawniadau, cryfderau a gwendidau) gan ddefnyddio meincnodau arferion gorau
P3 myfyrio ar sut rydych chi’n rhyngweithio ag eraill
P4 rhannu eich myfyrdodau ag eraill a defnyddio eu hadborth i wella'ch gwerthusiad eich hun
P5 defnyddio myfyrio i ddatrys problemau
P6 defnyddio myfyrio i wella arferion
Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus
P7 nodi meysydd yn eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau lle gallech chi ddatblygu ymhellach
P8 datblygu a negodi cynllun i wella eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch dealltwriaeth ymhellach
P9 chwilio am gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a manteisio arnynt yn rhan o'r cynllun hwn
P10 defnyddio datblygiad proffesiynol parhaus i wella eich arferion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 pam mae myfyrio ar arferion a gwerthuso effeithiolrwydd personol yn bwysig
K2 sut y gall dysgu drwy fyfyrio gynyddu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol
K3 sut y gall myfyrio wella a defnyddio profiad personol i gynyddu hyder a hunan-barch
K4 technegau dadansoddi myfyriol:
K4.1 cwestiynu beth, pam a sut
K4.2 chwilio am ddewisiadau amgen
K4.3 cadw meddwl agored
K4.4 gwylio o wahanol safbwyntiau
K4.5 meddwl am ddeilliannau
K4.6 profi syniadau drwy gymharu a gwrthgyferbynnu
K4.7 gofyn 'beth os?'
K4.8 cyd-osod syniadau
K4.9 ceisio, nodi a datrys problemau
K5 myfyrio fel offeryn ar gyfer gwrthgyferbynnu'r hyn yr ydym yn dweud ein bod yn ei wneud a'r hyn yr ydym yn ei wneud mewn gwirionedd
K6 sut i ddefnyddio myfyrio i herio arferion presennol
K7 yr anawsterau a allai ddigwydd o ganlyniad i archwilio credoau, gwerthoedd a theimladau
K8 sut i asesu meysydd pellach i'w datblygu yn eich sgiliau a'ch gwybodaeth drwy fyfyrio, adborth a defnyddio adnoddau fel y rhyngrwyd, llyfrgelloedd, cyfnodolion
K9 sut i ddatblygu cynllun datblygu personol gydag amcanion sy'n benodol, mesuradwy, cyraeddadwy, realistig a chydag amserlenni
K10 argaeledd ac ystod y cyfleoedd hyfforddi a datblygu yn yr ardal leol a sut i fanteisio arnynt
K11 pwysigrwydd integreiddio gwybodaeth a/neu ddysgu newydd er mwyn cwrdd ag arferion gorau cyfredol, cynlluniau ansawdd neu ofynion rheoleiddio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Meincnodau arferion gorau
cytunir yn eang fel dull sy'n darparu'r syniadau a'r arferion mwyaf datblygedig a chyfoes y gallwch chi fesur yr hyn rydych chi'n ei wneud yn eu herbyn: nid safonau gofynnol. Gall meincnodau fod yn statudol/rheoleiddiol neu'n seiliedig ar ymchwil neu ofynion eraill.
Datblygiad proffesiynol parhaus
hyfforddiant parhaus a diweddaru proffesiynol.
Prosesau, arferion a deilliannau
sut rydych chi'n gwneud pethau, beth rydych chi'n ei wneud a beth rydych chi'n ei gyflawni.
Arferion myfyriol
y broses o feddwl am eich gweithredoedd a'u dadansoddi'n feirniadol i geisio newid a gwella arferion galwedigaethol.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL5 Rhoi cymorth effeithiol i'ch cydweithwyr
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, Dysgu a Datblygu lle mae'n ymddangos fel CCLD 304.
Mae'r uned hon yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Dysgu, Datblygiad a Gofal Plant.