Cynorthwyo datblygiad ac effeithiolrwydd timau gwaith
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio gydag eraill i gyflawni amcanion a rennir i gynorthwyo disgyblion unigol neu grwpiau o ddisgyblion. Mae'n ymdrin â rôl yr unigolyn wrth gyfrannu at ddatblygiad tîm ac effeithiolrwydd.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â bod yn aelod effeithiol o dîm gwaith. Mae'n golygu chwarae rhan amlwg wrth gynorthwyo a datblygu effeithiolrwydd tîm.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Cyfrannu at arferion tîm effeithiol
- Cyfrannu at ddatblygiad y tîm gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at arferion tîm effeithiol
P1 gweithio mewn ffyrdd sy'n cydymffurfio â phenderfyniadau a wneir gan y tîm
P2 cyfathrebu ag aelodau eraill o'r tîm yn agored ac yn onest
P3 cydnabod barn a safbwyntiau cydweithwyr yn adeiladol
P4 rhoi digon o wybodaeth am waith sydd ar y gweill i alluogi aelod arall o'r tîm gymryd yr awenau os oes angen.
P5 rhoi gwybodaeth glir, gywir a chyflawn i aelodau eraill o'r tîm yn ôl yr angen er mwyn iddynt weithio'n effeithiol
P6 cofnodi, crynhoi, rhannu a bwydo gwybodaeth yn ôl, gan ddefnyddio sgiliau TG lle bo angen i wneud hynny
P7 cynnig cymorth a chyngor i gydweithwyr pan fyddant yn gofyn am hynny, a phan fydd hyn yn cyd-fynd â'ch cyfrifoldebau eraill
P8 mynd i’r afael ag unrhyw faterion yn y tîm y gallwch chi eu datrys eich hun, a gwneud hynny mewn modd adeiladol
P9 rhoi gwybod yn gywir ac yn deg i rywun sydd â'r awdurdod a'r gallu i ddod i benderfyniad am unrhyw faterion yn y tîm na ellir eu datrys
P10 dangos parch at unigolion a'r angen am gyfrinachedd wrth roi gwybod am faterion i rywun mewn awdurdod i ddelio â nhw
Cyfrannu at ddatblygiad y tîm gwaith
P11 cyfrannu'n effeithiol at yr adolygiad o arferion y tîm
P12 nodi a rhannu gwybodaeth am gyfleoedd i wella arferion y tîm mewn modd adeiladol
P13 rhoi adborth cadarnhaol i aelodau eraill o'r tîm ar gyfer gweithgareddau y maent wedi'u cynnal yn effeithiol
P14 cynnig cymorth ac anogaeth briodol i aelodau eraill o'r tîm pan fyddant yn ymgymryd â thasgau newydd neu anodd
P15 cynnig adborth, gwybodaeth a chyngor i eraill mewn modd adeiladol, sy'n dangos sensitifrwydd i'w hanghenion a'u pryderon, ac yn ystyried eu sefyllfa gyffredinol
P16 cydnabod a gwerthfawrogi'r cryfderau y mae pob aelod o'r tîm yn eu cynnig i sefyllfa
P17 dangos parodrwydd i rannu gwybodaeth ac arbenigedd a allai fod o fudd i aelodau eraill o'r tîm yn eu gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 yr egwyddorion sy'n sail i gyfathrebu effeithiol, sgiliau rhyngbersonol a chydweithredol a sut i gymhwyso'r rhain yn y timau rydych chi'n gweithio ynddynt
K2 y berthynas rhwng eich rôl eich hun a rôl aelodau eraill o'r tîm gwaith
K3 y gwerth a'r arbenigedd rydych chi'n eu cynnig i dîm a’r hyn a gynigir gan eich cydweithwyr
K4 pwysigrwydd parchu sgiliau ac arbenigedd ymarferwyr eraill
K5 eich rôl o fewn y tîm a sut rydych chi'n cyfrannu at broses gyffredinol y grŵp
K6 yr ystod o arddulliau rhyngweithiol sydd gan unigolion a sut y gall y rhain effeithio ar waith sy’n mynd rhagddo
K7 y gwahaniaethau rhwng perthnasoedd gwaith a pherthnasoedd personol a sut y gellir cynnal perthnasoedd gwaith yn effeithiol
K8 y mathau o sefyllfaoedd lle gall fod angen help a chyngor ar aelodau’r tîm a sut y dylech ymateb i'r rhain
K9 dangosyddion problemau wrth weithio mewn tîm a'r camau y dylech eu cymryd mewn ymateb iddynt
K10 dulliau trin a lleihau gwrthdaro rhyngbersonol
K11 polisïau a gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer delio ag anawsterau mewn perthnasoedd gwaith ac arferion, gan gynnwys gofynion cyfrinachedd
K12 yr ystod o arddulliau a dewisiadau dysgu o fewn y tîm gwaith a goblygiadau'r rhain ar gyfer sut rydych chi'n cynnig cymorth i gydweithwyr
K13 y cyd-destunau ehangach y mae pawb yn gweithio ynddynt a sefyllfaoedd penodol cydweithwyr a allai effeithio ar sut maent yn gweithio ac yn mynd i'r afael â phroblemau ar adegau penodol
K14 y math o wybodaeth ac arbenigedd sydd gennych chi a allai fod o fudd i aelodau'r tîm a sut i'w rhannu ag eraill
K15 gwerth rhannu sut rydych chi'n ymdrin â'ch rôl ag aelodau eraill o'r tîm
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfrinachedd
rhoi gwybodaeth i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i’w derbyn yn unig.
Anawsterau
sefyllfaoedd ac amgylchiadau sy'n rhwystro neu'n atal perfformiad effeithiol mewn tîm, er enghraifft:
- cydweithrediad gwael rhwng aelodau'r tîm
- gwrthdaro rhyngbersonol rhwng aelodau'r tîm.
Cymorth
yr amser, yr adnoddau a'r cyngor rydych chi'n eu rhoi i gydweithwyr a'u gweithgareddau.
Tîm
pobl rydych chi'n gweithio gyda nhw yn y tymor byr, canolig neu dymor hir. Gall timau ymwneud â'r cymorth a roddir ar gyfer:
- disgybl penodol, e.e. athrawon, staff cymorth eraill a gweithwyr proffesiynol eraill o'r tu mewn a'r tu allan i'r ysgol sy'n cynorthwyo disgybl sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig
- grŵp o ddisgyblion, e.e. dosbarth neu grŵp blwyddyn.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL5 Rhoi cymorth effeithiol i'ch cydweithwyr
TDASTL62 Datblygu a chynnal perthynas waith gydag ymarferwyr eraill
TDASTL63 Arwain eich tîm
TDASTL65 Dyrannu gwaith yn eich tîm a’i wirio