Hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol

URN: TDASTL19
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon? 
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo athrawon a disgyblion i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol gan ddisgyblion.
 
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â rhoi strategaethau rheoli ymddygiad y cytunwyd arnynt ar waith i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a chynorthwyo disgyblion i reoli eu hymddygiad eu hunain.
 
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

  1. Rhoi strategaethau rheoli ymddygiad y cytunwyd arnynt ar waith
  2. Cynorthwyo disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a'u hymddygiad.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Rhoi strategaethau rheoli ymddygiad y cytunwyd arnynt ar waith
P1 cymhwyso strategaethau rheoli ymddygiad y cytunwyd arnynt yn deg ac yn gyson bob amser
P2 bod yn fodel rôl effeithiol ar gyfer y safonau ymddygiad a ddisgwylir gan ddisgyblion ac oedolion yn yr ysgol
P3 canmol ac annog disgyblion i gydnabod a hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol gan ddisgyblion yn unol â pholisïau ysgol
P4 defnyddio strategaethau priodol fel bod ymddygiad amhriodol yn amharu cyn lleied â phosibl
P5 atgoffa disgyblion o gôd ymddygiad yr ysgol yn rheolaidd
P6 cymryd camau ar unwaith i ddelio ag unrhyw fwlio, aflonyddu neu ymddygiad gormesol yn unol â'ch rôl a'ch cyfrifoldebau
P7 adnabod risgiau i chi'ch hun a/neu eraill yn ystod achosion o ymddygiad heriol ac ymateb yn briodol iddynt
P8 cyfeirio achosion o ymddygiad amhriodol y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb at yr aelod staff perthnasol i gymryd camau
P9 cyfrannu at adolygiadau o ymddygiad, gan gynnwys bwlio, presenoldeb ac effeithiolrwydd gwobrau a chosbau, fel sy'n berthnasol i'ch rôl
P10 rhoi adborth clir ac ystyriol ar effeithiolrwydd strategaethau rheoli ymddygiad

Cynorthwyo disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a'u hymddygiad
P11 annog disgyblion i dderbyn cyfrifoldeb am eu dysgu a'u hymddygiad eu hunain wrth weithio ar eu pennau eu hunain, mewn parau, mewn grwpiau ac mewn sefyllfaoedd gyda’r dosbarth cyfan
P12 defnyddio technegau cyd-asesu a hunanasesu fel bod disgyblion yn chwarae rhan fwy amlwg yn eu dysgu a hyrwyddo ymddygiad da
P13 amlygu a chanmol agweddau cadarnhaol ar ymddygiad disgyblion
P14 cydnabod patrymau a sbardunau a allai arwain at ymatebion ymddygiadol amhriodol a chymryd camau priodol i atal problemau
P15 annog a chynorthwyo disgyblion i ystyried effaith eu hymddygiad ar eraill, eu hunain a'u hamgylchedd
P16 cynorthwyo disgyblion ag anawsterau ymddygiad i nodi a chytuno ar ffyrdd y gallant newid neu reoli eu hymddygiad er mwyn cyflawni'r deilliannau a ddymunir.
P17 cynorthwyo disgyblion mewn modd sy'n debygol o wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu ac yn cydnabod cynnydd sydd wedi’i gyflawni.
P18 annog a chynorthwyo disgyblion i adolygu eu hymddygiad, eu hagwedd a'u cyflawniadau eu hunain yn rheolaidd
P19 cyfrannu at gasglu data am bresenoldeb ac ymddygiad disgyblion,
gan gynnwys defnyddio gwobrau a chosbau, i lywio gwaith adolygu a chynllunio polisïau
P20 rhoi adborth i bobl berthnasol ar gynnydd unrhyw ddisgybl sydd â chynllun cymorth ymddygiad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 polisïau'r ysgol ar gyfer gofal, lles, disgyblaeth a phresenoldeb disgyblion, gan gynnwys hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol
K2 côd ymddygiad yr ysgol y cytunwyd arno
K3 eich rolau a’ch cyfrifoldebau eich hun a rhai pobl eraill yn lleoliad yr ysgol ar gyfer rheoli ymddygiad disgyblion
K4 pwysigrwydd cyfrifoldeb a rennir rhwng yr holl staff am ymddygiad disgyblion yn y coridorau, meysydd chwarae a mannau cyhoeddus o fewn a’r tu allan i'r ysgol
K5 manteision cymhwyso’n gyson y strategaethau rheoli ymddygiad y cytunwyd arnynt
K6 camau datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant a phobl ifanc a goblygiadau'r rhain ar gyfer rheoli ymddygiad y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K7 pwysigrwydd modelu'r ymddygiad rydych chi am ei weld a goblygiadau hyn i'ch ymddygiad eich hun
K8 pwysigrwydd cydnabod a gwobrwyo ymddygiad cadarnhaol a sut i wneud hyn
K9 y strategaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer delio ag ymddygiad amhriodol
K10 polisi a gweithdrefnau yr ysgol ar gyfer gwobrau a chosbau
K11 sut i asesu a rheoli risgiau i'ch diogelwch eich hun ac eraill wrth ddelio ag ymddygiad heriol
K12 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech chi gyfeirio at bobl eraill
K13 y cyngor arbenigol sydd ar gael yn yr ysgol ar reoli ymddygiad a sut i gael gafael arno os oes angen
K14 trefniadau’r ysgol ar gyfer adolygu ymddygiad gan gynnwys bwlio, presenoldeb a defnyddio gwobrwyon a chosbau yn effeithiol
K15 ystod a goblygiadau’r ffactorau sy'n effeithio ar ymddygiad pob disgybl, e.e. oedran, rhyw, diwylliant, hanes gofal, hunan-barch
K16 tybiaethau ystrydebol am ymddygiad disgyblion mewn perthynas â rhyw, cefndir diwylliannol ac anabledd, a sut y gall y rhain gyfyngu ar ddatblygiad disgyblion
K17 sut y gall amgylchiadau yn y cartref a’r teulu a hanes gofal disgyblion effeithio ar ymddygiad, a sut i ddefnyddio gwybodaeth o'r fath yn briodol i ragweld sefyllfaoedd anodd a delio â nhw’n effeithiol
K18 strategaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer rheoli a diwallu anghenion cymorth ychwanegol unrhyw ddisgyblion ag anawsterau dysgu ac ymddygiad
K19 y dangosyddion perfformiad sydd wedi'u cynnwys mewn unrhyw gynlluniau cymorth ymddygiad ar gyfer disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw a goblygiadau'r rhain ar gyfer sut rydych chi'n gweithio gyda'r disgybl(ion) dan sylw.
K20 sut i gynorthwyo disgyblion i ddefnyddio asesiadau gan ddisgyblion eraill a hunanasesiadau i hyrwyddo eu dysgu a'u hymddygiad
K21 y sbardunau ar gyfer ymatebion ymddygiadol amhriodol gan ddisgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw a’r camau y gallwch eu cymryd i ragflaenu, dargyfeirio neu dawelu sefyllfaoedd anodd posibl
K22 sut i gynorthwyo disgyblion ag anawsterau ymddygiad i nodi targedau ymddygiad a chytuno arnynt
K23 sut i annog a chynorthwyo disgyblion i adolygu eu hymddygiad eu hunain (gan gynnwys presenoldeb) ac effaith hyn arnyn nhw eu hunain, eu dysgu a'u cyflawniad, ar eraill ac ar eu hamgylchedd
K24 gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer casglu data am bresenoldeb ac ymddygiad disgyblion, gan gynnwys defnyddio gwobrau a chosbau, ac olrhain cynnydd disgyblion, a'ch rôl a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Strategaethau ymddygiad
set o egwyddorion a gweithdrefnau eang i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol gan ddisgyblion y cytunwyd arnynt gan y corff llywodraethu/cyngor rhieni a'r gymuned ysgol i'w rhoi ar waith yn gyson dros amser gan bawb yn yr ysgol, e.e. defnyddio gwobrau a chosbau, ffrindiau, cymorth un-i-un, amser ymdawelu, cwnsela, technegau rheoli ymddygiad a dicter.



Cynlluniau cynorthwyo ymddygiad
datganiadau sy'n nodi trefniadau ar gyfer addysg disgyblion ag anawsterau ymddygiad.



Ymddygiad amhriodol
ymddygiad sy'n mynd yn groes i werthoedd a chredoau derbyniol yr ysgol a'r gymdeithas. Gellir ymddygiad amhriodol fod ar lafar, yn ysgrifenedig, yn ddi-eiriol neu’n gam-drin corfforol.



Adolygiadau o ymddygiad
cyfleoedd i drafod a gwneud argymhellion am ymddygiad, gan gynnwys bwlio, presenoldeb ac effeithiolrwydd gwobrau a chosbau, er enghraifft:

  1. dosbarth, blwyddyn a chynghorau ysgol
  2. adolygiadau ymddygiad dosbarth neu grŵp
  3. adolygiad o bolisi ysgol gyfan.



Cymuned yr ysgol
yr holl bersonél sy'n cyfrannu at waith yr ysgol gan gynnwys disgyblion, athrawon, staff cymorth, cynorthwywyr gwirfoddol, rhieni a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol/asiantaethau eraill.



Polisïau'r ysgol
yr egwyddorion a'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol disgyblion gan gynnwys, fel sy'n berthnasol i'r ysgol, polisïau:

  1. rheoli ymddygiad
  2. bwlio
  3. gofal a lles disgyblion
  4. defnyddio iaith
  5. sut mae disgyblion ac oedolion eraill yn cael eu trin yn yr ysgol
  6. cyfle cyfartal
  7. symud o fewn ac o amgylch yr ysgol
  8. mynediad i gyfleusterau a chyfarpar yr ysgol a'u defnyddio.

Dolenni I NOS Eraill

TDASTL3 Helpu i gadw plant yn ddiogel
TDASTL37 Cyfrannu at atal a rheoli ymddygiad heriol ymhlith plant a phobl ifanc
TDASTL41 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion ymddygiad, emosiynol a datblygiad cymdeithasol


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL19

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

polisïau, gweithdrefnau, ymddygiad amhriodol, presenoldeb, model rôl, côd ymddygiad, disgyblaeth, ymddygiad heriol, gwobrau, cosbau, cynlluniau cynorthwyo ymddygiad