Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion

URN: TDASTL18
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu a gynlluniwyd gan yr athro.
 
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â'r cymorth a roddir i'r athro a'r disgyblion i sicrhau addysgu a dysgu effeithiol. Mae'n cynnwys nodi'r hyn y mae angen i chi ei wneud i gynorthwyo gweithgareddau dysgu a gynlluniwyd a hyrwyddo dysgu annibynnol, rhoi'r cymorth y cytunwyd arno a rhoi adborth i'r athro am gynnydd gan y disgyblion.

Gall y gweithgareddau dysgu fod ar gyfer disgyblion unigol, grwpiau o ddisgyblion, neu'r dosbarth cyfan a gellir eu cyflwyno yn absenoldeb yr athro, e.e. wrth oruchwylio disgyblion neu weithio gyda nhw y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Gellir cyflwyno'r gweithgareddau dysgu yn yr ystafell ddosbarth neu unrhyw leoliad lle mae'r addysgu a'r dysgu'n digwydd fel astudiaethau maes, ymweliadau addysgol, oriau estynedig a threfniadau cymorth astudio.

Dylai gweithgareddau addysgu a dysgu gael eu cynnal o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athro cymwysedig yn unol â threfniadau a wnaed gan bennaeth yr ysgol.

Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:

  1. Cynorthwyo gweithgareddau dysgu
  2. Hyrwyddo dysgu annibynnol.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynorthwyo gweithgareddau dysgu
P1 egluro a chadarnhau:
P1.1 amcanion dysgu ac addysgu'r gweithgareddau
P1.2 eich rôl wrth gynorthwyo disgyblion sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu a sut mae hyn yn berthnasol i rôl yr athro
P2 cael a defnyddio adnoddau addysgu a dysgu sy'n berthnasol i:
P2.1 amcanion dysgu ac addysgu'r gweithgareddau
P2.2 oedran a cham datblygiad y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
P3 rhoi lefelau sylw unigol, sicrwydd a help gyda thasgau dysgu fel sy'n briodol i anghenion disgyblion
P4 rhoi cymorth yn ôl yr angen i hyrwyddo dysgu disgyblion
P5 gwneud yn siŵr eich bod ar gael ac yn hawdd i ddisgyblion ddod atoch am gymorth pan fo angen
P6 defnyddio canmoliaeth, sylwebaeth a chymorth i annog disgyblion i ddyfalbarhau a chwblhau’r tasgau dysgu
P7 delio yn gyflym ac yn effeithiol ag unrhyw darfu ar y broses ddysgu yn unol â pholisi ymddygiad yr ysgol
P8 monitro ymateb y disgyblion i'r gweithgareddau dysgu a, lle bo hynny'n briodol, addasu'r gweithgareddau i gyflawni'r deilliannau dysgu a fwriadwyd
P9 ymateb i argyfyngau a chyfleoedd dysgu digymell i ennyn diddordeb disgyblion ac atgyfnerthu dysgu
P10 cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau wrth gynorthwyo disgyblion yn ystod gweithgareddau dysgu
P11 rhoi adborth i bobl berthnasol ar sut mae’r disgyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd 

Hyrwyddo dysgu annibynnol
P12 rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfleoedd er mwyn i'r disgybl allu dewis a gwneud penderfyniadau am ei addysg ei hun
P13 rhoi anogaeth, adborth a chanmoliaeth i atgyfnerthu a chynnal diddordeb ac ymdrechion y disgybl yn y gweithgareddau dysgu
P14 rhoi lefel briodol o gymorth i alluogi disgyblion i gael ymdeimlad o gyflawniad, cynnal hunan-barch a hunanhyder ac annog sgiliau hunangymorth
P15 defnyddio strategaethau priodol ar gyfer herio a chymell y disgybl i ddysgu
P16 gwrando’n astud ar y disgybl a'i annog i gyfleu ei anghenion a'i syniadau ar gyfer dysgu yn y dyfodol
P17 annog cydweithwyr i dderbyn cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain
P18 helpu disgyblion i adolygu eu strategaethau dysgu a'u cyflawniadau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 natur a ffiniau eich rôl wrth gynorthwyo gweithgareddau addysgu a dysgu, a'i pherthynas â rôl yr athro ac eraill yn yr ysgol
K2 pwysigrwydd disgwyl llawer gan ddisgyblion a sut mae hyn yn cael ei ddangos drwy eich arferion
K3 y cwricwlwm ysgol perthnasol a'r disgwyliadau sy'n gysylltiedig ag oedran disgyblion yn y pwnc/maes cwricwlwm ac ystod oedran y disgyblion yr ydych yn gweithio gyda nhw
K4 amcanion addysgu a dysgu'r gweithgaredd dysgu a lle'r rhain yn rhaglen addysgu gyffredinol yr athro
K5 y ffactorau allweddol sy’n gallu effeithio ar y ffordd y mae disgyblion yn dysgu gan gynnwys oedran, rhywedd, a datblygiad corfforol, deallusol, ieithyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac emosiynol
K6 sut mae trefniadaeth gymdeithasol a pherthnasoedd, fel grwpio disgyblion a'r ffordd y mae oedolion yn rhyngweithio â nhw ac yn ymateb iddynt, yn gallu effeithio ar ddysgu
K7 polisïau'r ysgol ar gyfer cynhwysiant a chyfle cyfartal a goblygiadau hyn ar gyfer sut rydych chi'n cynorthwyo gweithgareddau addysgu a dysgu
K8 sut i ddefnyddio ac addasu strategaethau cymorth dysgu i ddiwallu gwahanol anghenion dysgu ac arddulliau dysgu
K9 polisïau ac arferion yr ysgol mewn perthynas â chanmol, cynorthwyo a gwobrwyo, a sut i'w defnyddio i gynnal diddordeb disgyblion mewn gweithgareddau dysgu
K10 sut i fonitro ymateb y disgyblion i weithgareddau addysgu a dysgu
K11 pryd a sut i addasu gweithgareddau addysgu a dysgu
K12 sut i fonitro a hyrwyddo sut mae disgbyblion yn cymryd rhan a’u cynnydd
K13 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gynorthwyo gweithgareddau dysgu a sut i ddelio â'r rhain
K14 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech chi gyfeirio at bobl eraill
K15 pwysigrwydd dysgu annibynnol a sut i annog a chynorthwyo hyn ymhlith disgyblion
K16 strategaethau priodol ar gyfer herio a chymell y disgybl i ddysgu
K17 pwysigrwydd gwrando’n astud a sut i wneud hyn
K18 sut i helpu disgyblion i adolygu eu strategaethau dysgu a'u cyflawniadau a chynllunio dysgu yn y dyfodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gweithgareddau dysgu
y gweithgareddau dysgu a gynlluniwyd gan yr athro ar gyfer disgyblion unigol, grwpiau o ddisgyblion, neu'r dosbarth cyfan. Gall y gweithgareddau ymwneud ag un wers neu rychwantu sawl gwers e.e. yn rhan o bwnc, prosiect neu thema. Gellir eu cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth neu unrhyw leoliad lle mae'r addysgu a'r dysgu'n digwydd fel astudiaethau maes, ymweliadau addysgol, oriau estynedig a threfniadau cymorth astudio. Gellir cyflwyno'r gweithgareddau ym mhresenoldeb neu absenoldeb yr athro.



Adnoddau dysgu
deunyddiau, cyfarpar (gan gynnwys TGCh), meddalwedd, llyfrau a deunyddiau ysgrifenedig eraill (e.e. taflenni, dalenni gwaith), DVDs, ac ati sydd eu hangen i gynorthwyo addysgu a dysgu.



Problemau
y rhwystrau i gynorthwyo gweithgareddau dysgu a gynlluniwyd. Gall problemau ymwneud â:

  1. gweithgareddau dysgu, e.e. gwybodaeth aneglur neu anghyflawn, pa mor addas ydynt i’r disgyblion dan sylw
  2. adnoddau dysgu, e.e. maint, ansawdd, addasrwydd neu argaeledd
  3. yr amgylchedd dysgu, e.e. lle, cyfforddusrwydd, lefel sŵn, ffactorau sy’n tarfu
  4. gallu'r disgyblion i ddysgu, e.e. ymddygiad gwael, hunan-barch isel, diffyg canolbwyntio.



Cymorth
y strategaethau a'r technegau ar gyfer hyrwyddo dysgu disgyblion, er enghraifft:

  1. creu amgylchedd dysgu cadarnhaol
  2. rheoli ymddygiad
  3. annog disgyblion swil neu amharod i ofyn cwestiynau a gwirio dealltwriaeth
  4. cyfieithu geiriau ac ymadroddion neu eu hesbonio
  5. atgoffa disgyblion o bwyntiau addysgu a wnaed gan yr athro
  6. modelu'r defnydd cywir o iaith a geirfa
  7. gwneud yn siŵr bod disgyblion yn deall ac yn dilyn cyfarwyddiadau'r athro
  8. helpu disgyblion i ddefnyddio adnoddau sy'n berthnasol i'r gweithgaredd dysgu.


Dolenni I NOS Eraill

TDASTL1 Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu
TDASTL8 Defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i gynorthwyo dysgu disgyblion
TDASTL23 Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
TDASTL24 Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu
TDASTL25 Cynorthwyo datblygiad llythrennedd
TDASTL26 Cynorthwyo datblygiad rhifedd
TDASTL27 Cynorthwyo i roi cwricwlwm y blynyddoedd cynnar ar waith
TDASTL33 Rhoi cymorth llythrennedd a rhifedd i alluogi disgyblion i gael mynediad i'r cwricwlwm ehangach
TDASTL34 Cynorthwyo disgyblion dawnus a thalentog
TDASTL35 Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL36 Rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog ar gyfer addysgu a dysgu
TDASTL39 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion cyfathrebu a rhyngweithio
TDASTL40 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion gwybyddol a dysgu
TDASTL42 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol

Gyda’i gilydd, mae TDASTL18 a TDASTL24 yn ymdrin â chyfrifoldebau'r rhai sy'n cyfrannu at gynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu. Fodd bynnag, gellir defnyddio TDASTL18 ar wahân os nad oes unrhyw gysylltiad â chynllunio a gwerthuso, e.e. er mwyn cyflenwi goruchwylio
Mae TDASTL23 wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu yn annibynnol ar gyfer disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion o dan gyfarwyddyd athro, lle mae'r athro yn bresennol neu gerllaw, ac yn parhau i fod yn bennaf gyfrifol am y dosbarth cyfan.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL18

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

adnoddau dysgu, strategaethau cynorthwyo, anghenion dysgu, monitro, deilliannau dysgu, anghenion addysgol arbennig, anghenion cymorth ychwanegol, gwrando’n astud, hyrwyddo hunan-barch