Cynnal profion ac arholiadau
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n goruchwylio profion ac arholiadau allanol a mewnol, gan gynnwys profion modiwlau, arholiadau ymarferol a llafar, o dan amodau ffurfiol.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chynnal profion ac arholiadau ym mhresenoldeb yr ymgeiswyr. Mae'n cynnwys paratoi'r ystafell arholi a'r adnoddau, dod ag ymgeiswyr i mewn i'r ystafell, a chynnal y prawf neu’r arholiad yn unol â gweithdrefnau'r ganolfan. Mae hefyd yn cynnwys delio â sefyllfaoedd penodol fel trefniadau mynediad, argyfyngau ac amheuaeth o gamymddygiad.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Paratoi i gynnal profion ac arholiadau
- Rhoi gofynion goruchwylio ar waith a’u goruchwylio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi i gynnal profion ac arholiadau
P1 gwneud yn siŵr bod yr ystafell yn bodloni'r gofynion ar gyfer cynnal profion neu arholiadau
P2 cael a/neu gadarnhau bod cyflenwadau o ddeunydd ysgrifennu a deunyddiau awdurdodedig ar gael yn yr ystafell arholi, gan gynnwys y papurau cywir ar gyfer y prawf neu’r arholiad
P3 nodi a chydymffurfio ag unrhyw ofynion penodol ar gyfer y prawf neu'r arholiad a/neu'r ymgeiswyr dan sylw
P4 gwneud yn siŵr bod papurau cwestiynau a deunyddiau eraill y prawf neu’r arholiad yn cael eu cadw’n ddiogel bob amser
P5 gwirio a chadarnhau'r trefniadau iechyd a diogelwch ar gyfer yr ystafell arholi
P6 gwirio bod unrhyw system gyfathrebu frys ar gael ac yn gweithio
P7 gwneud yn siŵr bod yr ystafell arholiad yn barod i dderbyn ymgeiswyr ar yr amser a drefnwyd
P8 dilyn gweithdrefn y ganolfan ar gyfer derbyn ymgeiswyr i'r ystafell ac i wirio pwy yw'r ymgeiswyr
P9 gwneud yn siŵr nad oes unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau na chaniateir yn dod i mewn i'r ystafell arholi
P10 cadarnhau bod yr ymgeiswyr yn eistedd yn unol â'r cynllun eistedd
P11 gwneud yn siŵr bod gan yr ymgeiswyr y papurau a'r deunyddiau cywir
Rhoi gofynion goruchwylio ar waith a’u goruchwylio
P12 gwneud yn siŵr bod yr holl reolau a rheoliadau sy'n ymwneud â chynnal profion ac arholiadau yn cael eu cymhwyso a’u dilyn yn llym
P13 rhoi cyfarwyddiadau clir a diamwys i ymgeiswyr ar ddechrau'r prawf neu'r arholiad
P14 cwblhau'r gofrestr bresenoldeb yn unol â gofynion y ganolfan
P15 dilyn gweithdrefnau'r ganolfan ar gyfer ymdrin ag:
P15.1 unrhyw ymholiadau gan ymgeiswyr
P15.2 unrhyw ymddygiad aflonyddgar neu afreolaidd
P15.3 ymgeiswyr sydd eisiau neu sydd angen gadael yr ystafell arholi yn ystod y prawf neu'r arholiad
P15.4 unrhyw argyfwng iechyd, diogelwch neu ddiogeledd
P16 cyfeirio unrhyw faterion neu broblemau y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb neu'ch cymhwysedd i'r person priodol
P17 dilyn gweithdrefnau'r ganolfan ar gyfer dod â phrofion ac arholiadau i ben, casglu papurau a chaniatáu i ymgeiswyr adael yr ystafell arholi
P18 cwblhau cofnodion y prawf a’r arholiad yn unol â gweithdrefnau'r ganolfan
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisi profion ac arholiadau'r ganolfan
K2 gweithdrefnau a rheoliadau ar gyfer cynnal archwiliadau allanol ac unrhyw weithdrefnau arolygu sy'n gysylltiedig â hyn
K3 eich rôl eich hun yn y broses brofi ac arholi a sut mae hyn yn berthnasol i rôl pobl eraill gan gynnwys y swyddog arholiadau, goruchwylwyr eraill ac athrawon pwnc
K4 rôl staff anghenion addysgol arbennig a/neu bobl eraill wrth ddelio â threfniadau mynediad
K5 pa fath o drefniadau mynediad y gallai fod eu hangen a'r goblygiadau ar gyfer goruchwylio profion ac arholiadau
K6 y gweithdrefnau cywir ar gyfer paratoi ystafell arholi
K7 pa ddeunydd ysgrifennu a chyfarpar sydd wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio yn ystod profion ac arholiadau a'ch cyfrifoldeb dros drefnu cyflenwadau
K8 y trefniadau iechyd a diogelwch ar gyfer yr ystafell arholi, e.e. lleoliad diffoddwyr tân ac allanfeydd argyfwng
K9 unrhyw system gyfathrebu frys a ddefnyddir gan yr ysgol a sut i’w defnyddio
K10 pa gyfarpar a deunyddiau na chaniateir yn yr ystafell arholi a sut i wneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn dod â’r rhain i mewn
K11 y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag ymgeiswyr nad ydynt ar restr bresenoldeb y prawf neu’r arholiad
K12 y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag ymgeiswyr sy'n cyrraedd prawf neu arholiad yn hwyr
K13 sut i gwblhau cofrestr bresenoldeb gan gynnwys gofynion penodol ar gyfer ymgeiswyr sy'n cael eu tynnu'n ôl o'r prawf neu'r arholiad, y rhai nad ydynt ar y gofrestr, neu sy’n hwyr neu'n absennol
K14 eich cyfrifoldebau a'ch gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag:
K14.1 ymholiadau gan ymgeiswyr
K14.2 unrhyw ymddygiad aflonyddgar
K14.3 unrhyw gamymddwyn gwirioneddol neu amheuaeth ohono
K14.4 ymgeiswyr sy'n dymuno neu sydd angen gadael ystafell yr arholiad yn ystod prawf neu arholiad
K14.5 unrhyw argyfwng iechyd, diogelwch neu ddiogeledd
K15 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch cymhwysedd a phryd y dylech chi gyfeirio at eraill
K16 polisi rheoli ymddygiad y ganolfan a sut mae hyn yn berthnasol i brofion ac arholiadau
K17 lle i ofyn am gymorth meddygol mewn argyfwng
K18 y trefniadau ar gyfer hebrwng ymgeiswyr sydd angen gadael ystafell yr arholiad yn ystod prawf neu arholiad
K19 y trefniadau ar gyfer gwacáu ystafell yr arholiad mewn argyfwng
K20 sut i ddod â phrofion ac arholiadau i ben pan:
K20.1 mae disgwyl i bob ymgeisydd orffen ei brawf neu ei arholiad ar yr un pryd
K20.2 mae rhai ymgeiswyr yn parhau i gymryd rhan mewn prawf neu arholiad
K21 pam y gallai fod angen goruchwylio ymgeisydd rhwng profion ac arholiadau a'ch rôl a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â hyn
K22 cofnodion y prawf a’r arholiad y mae angen i chi eu cwblhau a sut i wneud hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Trefniadau mynediad
y trefniadau y mae’r Ganolfan wedi’u gwneud ac y cytunwyd arnynt gan y corff dyfarnu, os yn briodol, ar gyfer ymgeiswyr ag anghenion ychwanegol, e.e. cymorth darllen, ysgrifennydd, cyfieithydd iaith arwyddion.
Ystafell yr arholiad
y man lle mae'r prawf neu'r arholiad yn cael ei gynnal.
Goruchwylio
cynnal prawf neu sesiwn arholiad ym mhresenoldeb ymgeiswyr.
Gofynion ar gyfer cynnal profion ac arholiadau
Y nifer gofynnol a lleoliad desgiau/gweithfannau, arddangos hysbysiadau, cynllun eistedd, cloc, rhif y ganolfan, cyfarwyddiadau i ymgeiswyr a'r gofrestr presenoldeb. Byddai'r gofynion ar gyfer cynnal profion ac arholiadau hefyd yn cynnwys ystyried trefniadau iechyd a diogelwch ac amodau amgylcheddol fel gwresogi, goleuo, awyru a lefel sŵn allanol.
Gofynion penodol
gofynion ychwanegol mewn perthynas â chanllawiau pellach, hysbysiadau o gywiriadau, goruchwylio ymgeiswyr unigol rhwng profion neu arholiadau, a threfniadau mynediad.