Cynorthwyo chwarae plant a phobl ifanc

URN: TDASTL15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon?                                                                                             
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo neu'n goruchwylio chwarae plant neu bobl ifanc a gweithgareddau hamdden. Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn unrhyw fath o ysgol gan gynnwys ysgolion uwchradd.
 
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc brofi amrywiaeth o amgylcheddau chwarae sy'n eu hysgogi ac yn rhoi cyfleoedd ar gyfer risg, her a thwf personol.
 
Mae'r uned hon yn cynnwys pedair elfen:

  1. Creu ystod o amgylcheddau ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc
  2. Cynnig ystod o gyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc
  3. Cynorthwyo hawliau a dewisiadau plant a phobl ifanc wrth chwarae
  4. Dod â sesiynau chwarae i ben.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Creu ystod o amgylcheddau ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc
P1 gofyn i blant a phobl ifanc beth mae arnynt eu heisiau yn eu hamgylchedd chwarae
P2 defnyddio adborth am amgylcheddau chwarae y mae plant a phobl ifanc wedi'u rhoi o'r blaen
P3 nodi anghenion chwarae plant a phobl ifanc
P4 creu amgylcheddau chwarae sy'n diwallu anghenion y plant a'r bobl ifanc yn y lleoliad
P5 gwneud yn siŵr bod amgylcheddau chwarae yn cynnig her, ysgogiad a'r potensial ar gyfer twf personol plant a phobl ifanc
P6 gwneud yn siŵr bod digon o hyblygrwydd, amrywiaeth a dewis o adnoddau
P7 lle bynnag y bo'n bosibl, cynnwys y plant a'r bobl ifanc wrth greu'r amgylcheddau chwarae
P8 gwneud yn siŵr bod yr amgylcheddau chwarae yn bodloni gofynion eich sefydliad a'ch deddfau perthnasol

Cynnig ystod o gyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc
P9 trafod rheolau sylfaenol ar gyfer cyfleoedd chwarae a chytuno arnynt gyda'r plant a'r bobl ifanc, gan wneud yn siŵr bod unrhyw newidiadau yn cyd-fynd â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
P10 annog a chynorthwyo'r plant a'r bobl ifanc i archwilio a dewis cyfleoedd chwarae drostynt eu hunain
P11 cynnig syniadau ac adnoddau newydd ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc
P12 annog y plant a'r bobl ifanc i addasu'r syniadau a'r adnoddau i ddiwallu eu hanghenion eu hunain

Cynorthwyo hawliau a dewisiadau plant a phobl ifanc wrth chwarae
P13 gwneud yn siŵr bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael chwarae mewn ffordd hunangyfeiriedig ochr yn ochr â pharchu hawliau pobl eraill
P14 annog y plant a'r bobl ifanc i ymestyn eu hunain drwy chwarae heb danseilio eu hyder a'u hunan-barch
P15 annog plant a phobl ifanc i archwilio a chyfarwyddo amgylcheddau chwarae drostynt eu hunain
P16 rhoi cymorth i blant a phobl ifanc mewn ffordd nad yw'n tanseilio eu rheolaeth bersonol a sut maent yn cymryd rhan
P17 ymateb i ysgogiadau chwarae plant a phobl ifanc
P18 cymryd rhan mewn chwarae pan mai dyma beth mae plant a phobl ifanc ei eisiau

Dod â sesiynau chwarae i ben
P19 dod â'r sesiwn chwarae i ben mewn ffordd sy'n briodol i'r plant a'r bobl ifanc, i ba raddau roeddent yn cymryd rhan, a gofynion eich lleoliad chwarae
P20 galluogi plant i roi adborth ar y cyfleoedd a'r amgylcheddau chwarae a nodi'r adborth hwn ar gyfer sesiynau yn y dyfodol
P21 dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch y plant a'r bobl ifanc wrth iddynt adael
P22 dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer tacluso'r amgylchedd chwarae a delio ag adnoddau
P23 cwblhau'r holl gofnodion gofynnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 rhagdybiaethau a gwerthoedd y gwaith chwarae sy'n berthnasol i'r uned hon
K2 pwysigrwydd chwarae i ddatblygiad plant a phobl ifanc
K3 pam y dylai chwarae plant a phobl ifanc fod yn hunangyfeiriedig
K4 pam y dylai cyfleoedd chwarae ganolbwyntio ar anghenion plant a phobl ifanc
K5 pam mae’n bwysig gofyn i blant a phobl ifanc am yr hyn maen nhw ei eisiau yn eu hamgylchedd chwarae
K6 sut i nodi anghenion chwarae plant a phobl ifanc
K7 y mathau o amgylchedd chwarae sy'n ysgogi chwarae plant a phobl ifanc a'r rôl y gallwch chi ei chwarae wrth helpu i gynnig yr amgylchedd hwnnw
K8 pwysigrwydd risg a her mewn chwarae plant a phobl ifanc a sut i gydbwyso'r rhain yn erbyn gofynion iechyd a diogelwch
K9 pam mae angen amrywiaeth a dewis ar blant a phobl ifanc yn y lleoliad chwarae
K10 pwysigrwydd cynllunio cyfleoedd chwarae sy'n hyblyg ac y gellir eu haddasu'n rhwydd gan y plant a'r bobl ifanc i'w hanghenion eu hunain
K11 pam y dylai plant a phobl ifanc fod yn rhan o greu amgylcheddau chwarae a sut i’w hannog i wneud hynny
K12 gofynion eich sefydliad sy'n berthnasol i greu amgylcheddau chwarae
K13 gofynion sylfaenol deddfau perthnasol y mae angen i chi eu dilyn wrth greu amgylcheddau chwarae
K14 pam mae’n bwysig cynnig cyfleoedd chwarae ochr yn ochr â pharchu hawl plant a phobl ifanc i archwilio ac addasu'r cyfle i'w hanghenion eu hunain
K15 pam mae’n bwysig cynnwys plant a phobl ifanc wrth drafod a chytuno ar reolau sylfaenol
K16 pam mae’n bwysig annog plant a phobl ifanc i archwilio, dewis ac addasu cyfleoedd chwarae drostynt eu hunain
K17 sut i gydbwyso hawliau'r plentyn neu'r person ifanc i chwarae mewn ffordd hunangyfeiriedig yn erbyn hawliau pobl eraill
K18 y mathau o gymorth y gallai fod ei angen ar blant a phobl ifanc i addasu cyfle chwarae a sut i roir cymorth hwn heb gymryd rheolaeth
K19 pam y dylai plant a phobl ifanc ymestyn eu hunain drwy chwarae a sut i annog hyn
K20 y peryglon o wthio plant a phobl ifanc yn rhy bell a thanseilio eu hyder a'u hunan-barch a'r arwyddion y gallai hyn fod yn digwydd
K21 y mathau o gymorth y gallai fod ei angen ar blant a phobl ifanc yn ystod chwarae
K22 sut i nodi pryd mae angen cymorth ar blant a phobl ifanc yn ystod cyfle chwarae
K23 pam mae’n bwysig rhoi cymorth heb danseilio rheolaeth bersonol y plant a'r bobl ifanc o'u chwarae
K24 ysgogiadau chwarae plant a phobl ifanc a pham mae’n bwysig ymateb i'r rhain mewn modd sensitif
K25 sefyllfaoedd lle gallai eich rôl eich hun mewn chwarae helpu’r plant a'r bobl ifanc i chwarae rhan fwy blaenllaw a chael mwy o fwynhad, a sefyllfaoedd lle gallai hyn gael yr effaith i’r gwrthwyneb.
K26 sut i ddod â sesiwn chwarae i ben mewn ffordd sy'n parchu anghenion a’r ffordd y mae’r plant a'r bobl ifanc yn cymryd rhan, ond sy'n bodloni gofynion eich lleoliad chwarae
K27 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer tacluso'r lleoliad chwarae a delio â'u ffynonellau
K28 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer yr adegau pan fydd plant a phobl ifanc yn ymadael K29 gweithdrefnau cadw cofnodion eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Creu ystod o amgylcheddau ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc
1. Plant a phobl ifanc
1.1. ag anghenion ychwanegol
1.2. o wahanol gefndiroedd cymdeithasol
1.3. o wahanol gefndiroedd diwylliannol
1.4 bechgyn
1.5. genethod

  1. Grwpiau oedran
    2.1. 4 – 7 oed
    2.2. 8 – 12 oed
    2.3. 13 – 16 oed

  2. Amgylchedd chwarae ar gyfer
    3.1. chwarae corfforol
    3.2. chwarae amgylcheddol
    3.3. chwarae creadigol
    3.4. chwarae diwylliannol
    3.5. chwarae dychmygus

  3. Lleoliad
    4.1. dan do
    4.2. awyr agored

  4. Adnoddau
    5.1. cyfarpar
    5.2. deunyddiau

Cynnig ystod o gyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc
6.         Cyfleoedd chwarae
6.1.      corfforol
6.2.      amgylcheddol
6.3.      creadigol
6.4.      diwylliannol
6.5.      dychmygus
 
7.         Plant a phobl ifanc
7.1.      ag anghenion ychwanegol
7.2.      o wahanol gefndiroedd cymdeithasol
7.3.      o wahanol gefndiroedd diwylliannol
7.4.      bechgyn
7.5.      genethod

8.         Grwpiau oedran
8.1.      4 – 7 oed
8.2.      8 – 12 oed
8.3. 13 – 16 oed

Cynorthwyo hawliau a dewisiadau plant a phobl ifanc wrth chwarae
8.         Plant a phobl ifanc
8.1.      ag anghenion ychwanegol
8.2.      o wahanol gefndiroedd cymdeithasol
8.3.      o wahanol gefndiroedd diwylliannol
8.4.      bechgyn
8.5.      genethod
 
9.         Grwpiau oedran
9.1.      4 – 7 oed
9.2.      8 – 12 oed
9.3.      13 – 16 oed
 
10.      Amgylcheddau chwarae
10.1.   chwarae corfforol
10.2.   chwarae amgylcheddol
10.3.   chwarae creadigol
10.4.   chwarae diwylliannol
10.5. chwarae dychmygus

Cynorthwyo chwarae plant a phobl ifanc
8.         Plant a phobl ifanc
8.1.      ag anghenion ychwanegol
8.2.      o wahanol gefndiroedd cymdeithasol
8.3.      o wahanol gefndiroedd diwylliannol
8.4.      bechgyn
8.5.      genethod

Grwpiau oedran
8.6.      4 – 7 oed
8.7.      8 – 12 oed
8.8. 13 – 16 oed


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Anghenion ychwanegol
anghenion corfforol, addysgol, emosiynol neu ymddygiadol.



Chwarae creadigol
chwarae dyfeisgar a/neu gynhyrchiol, e.e. ysgrifennu, adeiladu, gwaith celf, cerddoriaeth.



Chwarae diwylliannol
chwarae sy'n dathlu a/neu'n codi ymwybyddiaeth o wahanol ddiwylliannau a'u gwerthoedd a'u harferion.



Chwarae amgylcheddol
chwarae sy'n cynnwys a/neu'n codi ymwybyddiaeth o elfennau naturiol a/neu fywyd gwyllt a'u goroesiad.



Rheolau sylfaenol
rheolau y cytunir arnynt ar gyfer cyfle chwarae; bydd hyn fel arfer yn ymdrin â materion fel ymddygiad, iechyd a diogelwch, cydweithredu, parch neu faterion eraill y mae'r plant a'r bobl ifanc yn gofyn amdanynt.



Chwarae dychmygus
chwarae sy'n cynnwys rolau 'esgus' neu actio sefyllfaoedd ffantasi.



Ysgogiadau chwarae
mynegiant yr wyneb, iaith neu iaith y corff sy'n cyfleu dymuniad y plentyn neu'r person ifanc i chwarae neu wahodd eraill i chwarae.



Amgylchedd chwarae
amgylcheddau lle ceir adnoddau sy'n ysgogi'r plentyn neu'r person ifanc i chwarae.



Cyfle chwarae
unrhyw fath o adnodd neu weithgaredd sy'n rhoi cyfleoedd i'r plant neu'r bobl ifanc chwarae.



Lleoliad chwarae
unrhyw le lle mae plant neu bobl ifanc yn chwarae, er enghraifft, canolfan chwarae dan do neu faes chwarae antur.



Chwarae corfforol
chwarae sy'n gorfforol weithgar, e.e. pêl-droed neu rownderi, tag.



Deddfau perthnasol
deddfau sy'n berthnasol i'r lleoliad megis y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, Deddf Plant.



Gofynion eich sefydliad
gweithdrefnau a pholisïau eich lleoliad fel y maent yn berthnasol i hawliau, iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc.



Adnoddau
cyfarpar a deunyddiau a fydd yn ysgogi chwarae: deunyddiau naturiol (megis pridd, dŵr, tywod, clai neu bren); deunyddiau adeiladu (fel blociau); cyfarpar cyfrifiadurol a TG; adnoddau cyfathrebu (adnoddau i gynorthwyo siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu); 'rhannau rhydd' (eitemau y gellir eu symud o le i le, eu cario, eu rholio, eu codi, pentyrru un ar ben y llall neu eu cyfuno i greu strwythurau neu brofiadau newydd); cyfarpar go iawn (fel gwaith coed neu gyfarpar coginio); beiciau, trolïau, siglenni, strwythurau dringo a rhaffau; paent, cyfarpar tynnu lluniau, modelu a ffabrigau; cerddoriaeth, lliwiau, cyfarpar gwyddonol a mathemategol (fel clociau a chalendrau); deunyddiau gwisgo, drychau, camerâu, fideos i alluogi plant i archwilio eu hunaniaeth eu hunain; eitemau neu brofiadau (megis barddoniaeth a llenyddiaeth) sy'n caniatáu iddynt fyfyrio ar gysyniadau haniaethol.


Dolenni I NOS Eraill

TDASTL10 Cynorthwyo chwarae a dysgu plant
TDASTL54 Cynllunio a chynorthwyo chwarae hunan-gyfeiriedig



Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gwaith Chwarae lle mae'n ymddangos fel uned PW2.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL15

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

corfforol, amgylcheddol, creadigol, diwylliannol, dychmygus, ysgogiadau chwarae, sesiwn, hamdden, adnoddau