Cynorthwyo unigolion yn ystod sesiynau therapi
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo disgyblion yn ystod sesiynau therapi megis ar gyfer lleferydd ac iaith neu ffisiotherapi. Mae'n golygu gweithio dan gyfarwyddyd therapydd cymwys i'w gynorthwyo ef/hi i gynnal sesiynau therapi a gall gynnwys cynorthwyo'r disgybl i ymarfer ymarferion therapi rhwng sesiynau a gynhelir gan y therapydd.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chynorthwyo therapyddion ac unigolion cyn, yn ystod ac yn dilyn sesiynau therapi. Mae'n cynnwys paratoadau ar gyfer y sesiwn therapi, cynorthwyo sesiynau therapi a chyfrannu at yr adolygiad o sesiynau therapi.
Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:
- Paratoi a chynnal amgylcheddau, cyfarpar a deunyddiau cyn, yn ystod ac ar ôl sesiynau therapi
- Cynorthwyo unigolion cyn sesiynau therapi a rhyngddynt
- Arsylwi sesiynau therapi a rhoi adborth arnynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi a chynnal amgylcheddau, cyfarpar a deunyddiau cyn, yn ystod ac ar ôl sesiynau therapi
P1 nodi, gyda chymorth pobl eraill, y paratoad sydd ei angen ar gyfer therapi, a sut bydd yr amgylchedd yn cael ei ail-osod, ar ôl sesiynau therapi
P2 nodi eich rôl a'ch cyfrifoldebau wrth baratoi a mynd i'r afael ag unrhyw risg a mater diogelwch
P3 paratoi eich hun, yr amgylchedd a'r deunyddiau yn unol â chyfarwyddiadau
P4 ar ôl y gweithgareddau, adfer yr amgylchedd, a glanhau a storio deunyddiau yn unol â gweithdrefnau a chytundebau cyfreithiol a threfniadol a diogelwch
P5 rhoi gwybod am unrhyw ddifrod i ddeunyddiau, cyfarpar neu yn y man cyfagos ar unwaith, ac yn unol â gweithdrefnau ac arferion sefydliadol
Cynorthwyo unigolion cyn sesiynau therapi a rhyngddynt
P6 gweithio gydag unigolion i nodi eu dewisiadau, eu pryderon a'u materion ynghylch cymryd rhan mewn sesiynau therapi a chytuno ar unrhyw ofynion arbennig
P7 rhoi sicrwydd i unigolion am natur a chynnwys y sesiynau therapi
P8 tynnu sylw at bryderon a materion nad ydych yn gallu eu datrys i'r therapydd, gan ofyn am eu cymorth i dawelu ofnau yr unigolion
P9 cynorthwyo ymarferwyr a therapyddion arbenigol i gynnal sesiynau therapi
P10 dilyn cyfarwyddiadau therapyddion yn fanwl wrth gyflawni gweithgareddau y mae therapyddion wedi'u dirprwyo i chi
P11 rhoi cymorth gweithredol i unigolion rhwng sesiynau therapi, gan ystyried eu hanghenion, eu dewisiadau a'u galluoedd
P12 cymryd camau priodol os oes gan yr unigolyn unrhyw anawsterau a/neu os ydych yn arsylwi ar unrhyw newidiadau arwyddocaol
P13 adolygu unrhyw addasiadau sydd eu hangen, cytuno arnynt a’u rhoi ar waith fel bod yr unigolyn yn cymryd rhan yn llawn a bod y sesiynau therapi mor effeithiol â phosibl
Arsylwi sesiynau therapi a rhoi adborth arnynt
P14 yn cytuno ag unigolion ac eraill ar yr arsylwadau y mae angen eu gwneud a chwmpas eich cyfrifoldeb
P15 gweithio gydag unigolion i nodi effeithiolrwydd y sesiynau therapi ar eu hiechyd a'u lles cymdeithasol
P16 dilyn trefniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer arsylwi unigolion cyn, yn ystod, ac ar ôl sesiynau therapi
P17 gwirio eich sylwadau gyda phobl briodol ac yn erbyn y deilliannau y cytunwyd
arnynt
P18 nodi unrhyw broblemau mewn perthynas â'r sesiynau therapi
P19 yn gweithio gydag unigolion, pobl allweddol ac eraill i nodi newidiadau i'r sesiynau therapi a chytuno arnynt
P20 cofnodi sesiynau therapi ac adrodd arnynt o fewn cytundebau cyfrinachedd ac yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwerthoedd
K1 gofynion cyfreithiol a sefydliadol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, gwahaniaethu a hawliau wrth gynorthwyo yn ystod sesiynau therapi
K2 sut i roi cymorth gweithredol a hyrwyddo hawliau, dewisiadau a lles yr unigolyn wrth symud a thrin unigolion
Deddfwriaeth a pholisi a gweithdrefnau sefydliadol
K3 codau ymarfer ac ymddygiad; safonau a chanllawiau sy'n berthnasol i'ch rolau eich hun, cyfrifoldebau, atebolrwydd a dyletswyddau eraill wrth gynorthwyo unigolion i gymryd rhan mewn sesiynau therapi
K4 deddfwriaeth leol, y DU ac Ewropeaidd gyfredol, a gofynion, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol ar gyfer:
K4.1 cyrchu cofnodion
K4.2 cofnodi, adrodd, cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth, gan gynnwys diogelu data
K4.3 iechyd, diogelwch, asesu a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â chynorthwyo unigolion cyn, yn ystod, ac ar ôl sesiynau therapi
K4.4 cynorthwyo unigolion cyn, yn ystod, ac ar ôl sesiynau therapi
Damcaniaeth ac arferion
K5 newidiadau allweddol a allai ddigwydd i unigolion yr ydych yn gweithio gyda nhw a chamau i'w cymryd o dan yr amgylchiadau hyn
K6 effaith straen ac ofn ar ymddygiad a gallu'r unigolyn i gymryd rhan mewn sesiynau therapi a’u defnyddio’n effeithiol
K7 yr amodau a'r amhariadau y mae'r therapi yn mynd i'r afael â nhw
K8 y manteision a'r problemau a allai godi cyn, yn ystod, ac ar ôl sesiynau therapi
K9 y deilliannau y mae sesiynau therapi yn ceisio eu cyflawni ar gyfer unigolion
K10 y ffyrdd gorau o gynorthwyo'r unigolion drwy sesiynau therapi
K11 sut i ffurfio perthynas gefnogol gydag unigolion i'w galluogi i elwa cymaint â phosibl o'r therapi
K12 sut i arsylwi a chofnodi arsylwadau i gynorthwyo sesiynau therapi
K13 yr arwyddion allweddol o broblemau ac anawsterau y mae angen rhoi gwybod i'r therapydd amdanynt
K14 sut i gynnwys yr unigolyn wrth gasglu gwybodaeth am ei brofiad o'r therapi a'i ddeilliannau
K15 sut i ddelio â gwrthdaro sy'n codi cyn, yn ystod, ac ar ôl sesiynau therapi
K16 y risgiau, y peryglon a'r anawsterau sy'n gysylltiedig â gwahanol gyfarpar a deunyddiau ac mewn perthynas ag unigolion penodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
- Pobl allweddol:
1.1. teulu
1.2. ffrindiau
1.3 gofalwyr
1.4. y bobl eraill y mae gan yr unigolyn berthynas gefnogol â hwy - Cymryd camau priodol dylai‘r rhain fod yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol a gall y rhain gynnwys:
2.1. adrodd i'ch rheolwr llinell
2.2. cysylltu â'r therapydd
2.3. atal y therapi - Mae sesiynau therapi yn cynnwys:
3.1 therapi galwedigaethol:
3.2. ffisiotherapi
3.3. therapi ymddygiadol
3.4. rhaglenni therapiwtig eraill, e.e. ar gyfer lleferydd ac iaith
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cymorth gweithredol
cymorth sy'n annog unigolion i wneud cymaint â phosibl drostynt eu hunain i gynnal eu hannibyniaeth a'u gallu corfforol ac sy'n annog pobl ag anableddau i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial eu hunain a’u hannibyniaeth.
Unigolion
y bobl y mae angen gwasanaethau iechyd a gofal arnynt. Pan mae unigolion yn defnyddio eiriolwyr a chyfieithwyr ar y pryd i'w galluogi i fynegi eu barn, eu dymuniadau neu eu teimladau a siarad ar eu rhan, mae’r term unigolyn o fewn y safon hon yn cynnwys yr unigolyn a'i eiriolwr neu gyfieithydd ar y pryd.
Pobl allweddol
yw'r bobl hynny sy'n allweddol i iechyd a lles cymdeithasol unigolyn. Dyma’r bobl ym mywyd yr unigolyn sy'n gallu gwneud gwahaniaeth i'w hiechyd a'u lles.
Eraill
pobl eraill o fewn a’r tu allan i'ch sefydliad sy'n angenrheidiol i chi gyflawni eich swydd.
Hawliau
yr hawliau sydd gan unigolion i:
- gael eu parchu
- cael eu trin yn gyfartal a pheidio â chael eu gwahaniaethu
- cael eu trin fel unigolion
- cael eu trin mewn ag urddas
- preifatrwydd
- cael eu hamddiffyn rhag perygl a niwed
- cael gofal mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion, yn ystyried eu dewisiadau, yn ogystal â’u diogelu
- gweld gwybodaeth am eu hunain
- cyfathrebu drwy ddefnyddio’r dulliau cyfathrebu a’r iaith sydd orau ganddynt.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL42 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle mae'n ymddangos fel uned HSC212.