Cyfrannu at symud a thrin unigolion
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo disgyblion ag amhariadau corfforol drwy eu helpu i symud a/neu ail-leoli eu hunain.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â'r angen i allu symud, trin ac ail-leoli unigolion. Pan fyddwch chi’n symud ac yn trin unigolion, mae gennych chi gyfrifoldeb i wneud hynny'n ddiogel ac yn gywir i sicrhau eich diogelwch eich hun a diogelwch pobl eraill.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Paratoi unigolion, amgylcheddau a chyfarpar ar gyfer symud a thrin
- Galluogi unigolion i symud o un safle i'r llall.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi unigolion, amgylcheddau a chyfarpar ar gyfer symud a thrin
P1 golchi eich dwylo a gwneud yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau sy'n ddiogel ar gyfer symud a thrin unigolion
P2 cyn symud a thrin unigolion, gwirio’r cynllun gofal a'r asesiadau risg symud a thrin
P3 asesu unrhyw risgiau uniongyrchol i unigolion
P4 os ydych chi'n meddwl bod risg na allwch ddelio â hi, gofyn am gyngor gan y bobl briodol cyn symud neu drin unigolion
P5 cynorthwyo unigolion i gyfleu lefel y cymorth sydd ei angen arnynt
P6 cael cymorth gan y bobl briodol os bydd dewisiadau'r unigolyn yn gwrthdaro ag arfer diogel
P7 cyn symud a thrin unigolion, gwneud yn siŵr eich bod yn deall pam eu bod yn cael eu symud a'u trin mewn ffyrdd penodol a sut y gallant gydweithredu’n ddefnyddiol yn y weithdrefn
P8 dileu peryglon posibl a pharatoi'r man cyfagos ar gyfer y symudiad arfaethedig mewn cytundeb â phawb dan sylw
P9 dewis cyfarpar symud a thrin y cytunir arnynt, a gwneud yn siŵr ei fod yn ddiogel ac yn lân cyn ei ddefnyddio
P10 gofyn am gymorth priodol i'ch galluogi i symud a thrin yr unigolyn yn ddiogel
Galluogi unigolion i symud o un safle i'r llall
P11 rhoi cymorth ac anogaeth weithredol fel bod unigolion yn cyfrannu at y broses symud
P12 symud a newid safleoedd gan ystyried anghenion yr unigolyn, ei ddewisiadau a'i gyngor ar y dulliau a'r cyfarpar mwyaf priodol
P13 defnyddio dulliau symud a thrin sy'n briodol i gyflwr yr unigolyn, eich terfynau trin personol a'r cyfarpar sydd ar gael
P14 symud a newid safleoedd yr unigolyn mewn ffyrdd sy'n lleihau poen, anesmwythder a ffrithiant a rhoi cymaint o annibyniaeth, hunan-barch ac urddas â phosibl i’r unigolyn.
P15 os ydych chi'n symud ac yn newid safle'r unigolyn gyda chymorth rhywun arall, cydlynu eich camau â'u camau nhw
P16 ar ôl newid safleoedd, dychwelyd dodrefn a gosodiadau i'w lleoliad cywir
P17 dychwelyd cyfarpar symud a thrin i'w leoliad dynodedig gan wneud yn siŵr ei fod yn lân, yn ddiogel ac yn barod i'w ddefnyddio yn y dyfodol
P18 golchi eich dwylo a sicrhau eich glendid a'ch hylendid eich hun ar ôl symud a lleoli unigolion
P19 arsylwi, cofnodi a rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw newidiadau arwyddocaol yng nghyflwr yr unigolyn pan fyddwch yn eu symud
P20 cofnodi manylion dulliau symud a thrin sy’n dderbyniol i’r unigolyn yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwerthoedd
K1 gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gydraddoldeb, amrywiaeth, gwahaniaethu a hawliau wrth symud a thrin unigolion
K2 yr effaith y gall credoau a dewisiadau personol ei chael ar ddewisiadau'r unigolyn ar gyfer symud a thrin
K3 pam y dylid ystyried dewisiadau'r unigolyn ar sut maent yn cael eu symud a'u trin
K4 gwrthdaro posibl rhwng dewis unigol, arferion iechyd da, diogelwch a hylendid, asesiadau risg a rheolaeth a chynllun gofal yr unigolyn, a sut i ddelio â'r rhain
K5 sut i roi cymorth gweithredol a hyrwyddo hawliau, dewisiadau a lles yr unigolyn wrth symud a thrin unigolion
Deddfwriaeth a pholisi a gweithdrefnau sefydliadol
K6 codau ymarfer ac ymddygiad, a safonau a chanllawiau sy'n berthnasol i'ch rolau eich hun, cyfrifoldebau, atebolrwydd a dyletswyddau eraill wrth symud a thrin unigolion
K7 deddfwriaeth leol, y DU ac Ewropeaidd gyfredol, a gofynion, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol ar gyfer:
K7.1 cyrchu cofnodion
K7.2 cofnodi, adrodd, cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth, gan gynnwys diogelu data
K7.3 iechyd, diogelwch, asesu a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â symud a thrin unigolion
K7.4 rheoli risg rhag haint
K7.5 gweithio'n agos gyda phobl sy’n symud ac yn trin unigolion
K8 sut i gael gafael ar gopïau cyfoes o asesiadau risg sefydliadol ar gyfer symud a thrin unigolion penodol
Damcaniaeth ac arferion
K9 newidiadau allweddol yn amodau ac amgylchiadau unigolion rydych chi'n eu symud a'u trin a’r camau i'w cymryd o dan yr amgylchiadau hyn
K10 gwahanol fathau o gyfarpar/peiriannau sydd ar gael ar gyfer symud a thrin
F11 ffactorau y mae angen eu hystyried wrth ddefnyddio cyfarpar/peiriannau symud a thrin
K12 pam mae’n bwysig paratoi'r amgylchedd ar gyfer symud a thrin unigolion cyn ceisio gwneud hynny
K13 pam mae’n bwysig defnyddio technegau symud diogel, cadw at asesiadau risg a gwybodaeth arall am symud a thrin unigolion penodol a'r goblygiadau posibl i'r unigolyn, eich hun ac eraill os na wnewch chi hynny
K14 risgiau posibl i unigolion, y rhai sy'n helpu i symud a thrin; eraill yn yr amgylchedd a'r amgylchedd ei hun os na chaiff symud a thrin ei wneud yn gywir (gan gynnwys gweithdrefnau cyn, yn ystod ac ar ôl i chi symud a thrin unigolion)
K15 ffynonellau cymorth pellach ar gyfer symud a thrin unigolion mewn gwahanol leoliadau iechyd a gofal
K16 pam mae unigolion yn cael eu symud i wahanol safleoedd
K17 sut i gydlynu camau wrth symud a thrin yn rhan o dîm
K18 pam na ddylid llusgo unigolion a sut mae hyn yn gysylltiedig ag atal doluriau gwasgu
K19 pam y dylid ailosod yr amgylchedd ar ôl newid safle
K20 pam mae’n bwysig cynnal eich glendid a'ch hylendid eich hun cyn, yn ystod ac ar ôl symud a thrin unigolion
Cwmpas/ystod
- Cyfathrebu drwy ddefnyddio:
1.1 yr iaith lafar sydd orau gan yr unigolyn
1.2 arwyddion
1.3. symbolau
1.4. lluniau
1.5. ysgrifennu
1.6. gwrthrychau cyfeirio
1.7. pasportau cyfathrebu
1.8. ffurfiau cyfathrebu di-eiriau eraill
1.9. cymhorthion dynol a thechnolegol i gyfathrebu. - Gall cyfarpar symud a thrin gynnwys:
2.1. teclynnau codi
2.2. sleidiau
2.3. llieiniau sleidiau
2.4. slingiau
2.5. gobenyddion.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cymorth gweithredol
cymorth sy'n annog unigolion i wneud cymaint â phosibl drostynt eu hunain i gynnal eu hannibyniaeth a'u gallu corfforol ac sy'n annog pobl ag anableddau i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial eu hunain a’u hannibyniaeth.
Peryglon
eitemau sydd â'r potensial i achosi niwed.
Unigolion
y bobl y mae angen gwasanaethau iechyd a gofal arnynt. Pan mae unigolion yn defnyddio eiriolwyr i'w galluogi i fynegi eu barn, eu dymuniadau neu eu teimladau a siarad ar eu rhan, mae’r term unigolyn o fewn y safon hon yn cynnwys yr unigolyn a'i eiriolwr neu gyfieithydd ar y pryd.
Codi a chario
Mae hyn yn cyfeirio at dechnegau sy'n galluogi'r gweithiwr i gynorthwyo unigolion i symud o un safle i'r llall. Rhaid i symud a thrin gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth gyfredol.
Eraill
pobl eraill o fewn a’r tu allan i'ch sefydliad sy'n angenrheidiol i chi gyflawni eich swydd.
Hawliau
yr hawliau sydd gan unigolion i:
- gael eu parchu
- cael eu trin yn gyfartal a pheidio â chael eu gwahaniaethu
- cael eu trin fel unigolion
- cael eu trin ag urddas
- preifatrwydd
- cael eu hamddiffyn rhag perygl a niwed
- cael gofal mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion, yn ystyried eu dewisiadau, yn ogystal â’u diogelu
- gweld gwybodaeth am eu hunain
- cyfathrebu drwy ddefnyddio’r dulliau cyfathrebu a’r iaith sydd orau ganddynt.
Risg
dyma'r tebygolrwydd y bydd potensial y perygl yn cael ei wireddu; gall fod yn risg i unigolion ar ffurf heintiau, perygl, niwed a cham-drin a/neu i'r amgylchedd ar ffurf perygl o ddifrod a dinistr.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL12 Cynorthwyo plentyn ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig
TDASTL38 Cynorthwyo plant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig a'u teuluoedd
TDASTL42 Cynorthwyo disgyblion ag anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol
TDASTL44 Gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â gofynion ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion cymorth personol
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle mae'n ymddangos fel uned HSC223.