Cyfrannu at gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n helpu i gynorthwyo disgyblion y mae eu hiaith gyntaf wahanol i'r hyn a ddefnyddir i gyflwyno'r cwricwlwm. Mae'n addas ar gyfer y rhai sy'n rhoi cymorth ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol (EAL), neu Gymraeg neu Gaeilge fel ail iaith.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â'r cymorth a roddir i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog ar gyfer datblygu a dysgu iaith yn yr ail iaith neu'r iaith ychwanegol briodol.
Mae'r uned hon yn cynnwys dwy elfen:
- Cyfrannu at gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog i ddatblygu sgiliau yn yr iaith darged
- Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog yn ystod gweithgareddau dysgu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog i ddatblygu sgiliau yn yr iaith darged
P1 cael gwybodaeth gywir a chyfredol am ddatblygiad y disgybl yn yr iaith gyntaf a’r iaith darged a defnyddio'r wybodaeth hon i roi cymorth priodol i'r disgybl
P2 egluro a chadarnhau gyda’r athro y strategaethau y dylech chi eu defnyddio i gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog i ddatblygu sgiliau iaith yn yr iaith darged
P3 rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ryngweithio â chi eich hun ac eraill gan ddefnyddio eu gwybodaeth am yr iaith darged
P4 defnyddio iaith a geirfa sy'n briodol i oedran, lefel dealltwriaeth a cham datblygiad iaith darged y disgyblion
P5 helpu'r disgyblion i ddewis a darllen llyfrau yn yr iaith darged sy'n briodol i'w hoedran, diddordebau a cham datblygiad iaith
P6 rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ymarfer sgiliau iaith newydd
P7 defnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i gynnal diddordeb y disgyblion yn y gweithgareddau dysgu
P8 ymateb i ddefnydd y disgyblion o iaith y cartref a thafodieithoedd lleol mewn modd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol ac yn atgyfnerthu hunan-ddelweddau cadarnhaol i’r disgyblion
P9 rhoi adborth i’r athro am gynnydd y disgyblion wrth ddatblygu sgiliau iaith yn yr iaith darged
Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog yn ystod gweithgareddau dysgu
P10 egluro a chadarnhau gyda'r athro eich dealltwriaeth o amcanion addysgu a dysgu'r gweithgareddau
P11 cytuno â'r athro sut y byddwch yn cynorthwyo'r gweithgareddau addysgu a dysgu, gan gynnwys sut i baratoi'r disgybl ar gyfer y gweithgareddau ac atgyfnerthu dysgu sydd wedi digwydd
P12 esbonio pwrpas dysgu gweithgareddau i'r disgybl
P13 defnyddio strategaethau priodol i gynorthwyo datblygiad dysgu ac iaith y disgybl
P14 defnyddio gwybodaeth a phrofiad blaenorol y disgybl i’w annog i gymryd rhan yn llawn mewn gweithgareddau dysgu
P15 defnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i gynnal diddordeb y disgyblion yn y gweithgareddau dysgu
P16 hysbysu'r athro yn brydlon os yw disgybl yn cael anawsterau nad ydych yn gallu eu datrys
P17 rhoi adborth i'r athro ar gyfranogiad a chynnydd y disgybl mewn perthynas â'r gweithgareddau dysgu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 polisi a gweithdrefnau'r ysgol ar gyfer cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
K2 polisïau ac arferion yr ysgol ar gyfer cynhwysiant, cyfle cyfartal, amlddiwylliannedd a gwrth-hiliaeth
K3 y camau caffael iaith a'r ffactorau sy'n hyrwyddo neu'n rhwystro datblygiad iaith
K4 strategaethau addas ar gyfer cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau iaith yn yr iaith darged
K5 y defnydd rhyngweithiol o siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu i hyrwyddo datblygiad iaith ymhlith disgyblion
K6 sut i ddefnyddio canmoliaeth ac adborth adeiladol i hyrwyddo dysgu disgyblion
K7 rôl hunan-barch wrth ddatblygu cyfathrebu a hunanfynegiant a sut i hyrwyddo hunan-barch disgyblion drwy'r cymorth rydych chi’n ei roi
K8 y cynlluniau cwricwlwm a’r rhaglenni dysgu a ddatblygwyd gan yr athrawon yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
K9 sut i gael gwybodaeth am gefndir a sgiliau iaith ac addysgol disgybl, targedau dysgu unigol ac anghenion cymorth iaith
K10 sut i roi cymorth priodol i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog yn ôl eu hoedran, rhyw, anghenion emosiynol, galluoedd a’u hanghenion dysgu
K11 strategaethau addas i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu sgiliau iaith drwy weithgareddau a phrofiadau dysgu gwahanol ar draws y cwricwlwm
K12 sut i fwydo gwybodaeth yn ôl i athrawon am gyfranogiad a chynnydd disgyblion mewn gweithgareddau dysgu a chyfrannu at gynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Disgyblion dwyieithog/amlieithog
disgyblion y mae eu hiaith gyntaf yn wahanol i'r hyn a ddefnyddir i gyflwyno'r cwricwlwm ac sydd, felly, angen datblygu ail iaith neu iaith ychwanegol i gael mynediad at y cwricwlwm. Mae disgyblion dwyieithog/amlieithog yn cynnwys y rhai y mae'r Saesneg yn iaith ychwanegol ar eu cyfer a'r rhai y mae'r Gymraeg neu'r Gaeilge yn ail iaith ar eu cyfer.
Sgiliau Iaith
Y gallu i siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith darged.
Cymorth
y cymorth a roddwch i ddisgyblion dwyieithog/amlieithog ar gyfer datblygu a dysgu iaith ar draws y cwricwlwm. Wrth roi cymorth i ddisgyblion byddwch yn gweithio un i un gyda disgyblion unigol yn ogystal â chynorthwyo'r disgyblion yn ystod gweithgareddau grŵp a dosbarth.
Iaith darged
yr iaith ychwanegol neu ail iaith sydd ei hangen ar ddisgyblion sydd ag iaith gyntaf wahanol i'r iaith a ddefnyddir ar gyfer addysgu a dysgu.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL6 Cynorthwyo gweithgareddau llythrennedd a rhifedd
TDASTL35 Cynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL36 Rhoi cymorth dwyieithog/amlieithog ar gyfer addysgu a dysgu