Cynorthwyo chwarae a dysgu plant
Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn lleoliad neu wasanaeth sy’n bodoli er mwyn cynorthwyo gofal, dysgu a datblygiad plant. Mae'r uned yn addas os ydych chi'n gweithio fel cynorthwy-ydd yn cynorthwyo chwarae a dysgu plant mewn ysgol.
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â chynorthwyo dysgu plant drwy chwarae. Er i'r uned gael ei datblygu ar gyfer gweithio gyda phlant ifanc yn eu blynyddoedd cyn-ysgol ac mewn addysg gynnar yn seiliedig ar chwarae, mae hefyd yn berthnasol i weithio gyda phlant ym mlynyddoedd cynnar addysg ffurfiol mewn ysgolion.
Mae'r uned hon yn cynnwys pum elfen:
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau i annog iaith a chyfathrebu
- Rhoi cyfleoedd ar gyfer drama a chwarae dychmygus i blant
- Annog plant i fod yn greadigol
- Cynorthwyo chwarae corfforol
- Annog plant i archwilio ac ymchwilio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cymryd rhan mewn gweithgareddau i annog iaith a chyfathrebu
P1 cymryd amser i gyfathrebu â phlant yn ystod gweithgareddau ac arferion bob dydd
P2 defnyddio cerddoriaeth, symud, rhythm a gemau i annog cyfathrebu
P3 defnyddio cyswllt llygaid, symud y corff a’r llais yn effeithiol i annog plant i roi sylw a chymryd rhan
P4 defnyddio iaith briodol i wella sgiliau cyfathrebu a dysgu plant
P5 defnyddio chwarae rôl yn effeithiol i annog, cynorthwyo a modelu iaith a chyfathrebu
P6 gwneud yn siŵr bod yr hyn a wnewch yn addas ar gyfer oedran, anghenion a galluoedd y plentyn
Rhoi cyfleoedd ar gyfer drama a chwarae dychmygus i blant
P7 cyfrannu at ddarparu ystod o ddeunyddiau, cyfarpar a phropiau i gynorthwyo drama a chwarae dychmygus
P8 dewis cyfarpar a deunyddiau mewn cydweithrediad â phlant sy'n ehangu ymwybyddiaeth o'u diwylliannau eu hunain ac eraill
P9 annog plant i osgoi stereoteipio yn eu drama a'u chwarae dychmygus
P10 annog plant i archwilio teimladau a rolau eraill drwy ddrama a dychymyg
P11 cynorthwyo cyfleoedd i ddrama a chwarae dychmygus plant lifo'n rhydd heb ymyrraeth oedolion oni bai bod y plant yn gofyn amdano neu pan fydd angen propiau neu syniadau ychwanegol
P12 gwneud yn siŵr bod yr hyn a wnewch yn addas ar gyfer oedran, anghenion a galluoedd y plentyn
Annog plant i fod yn greadigol
P13 darparu ystod o ddeunyddiau, cyfarpar a phropiau i gynorthwyo creadigrwydd gan ddilyn diddordebau'r plant a gosod gofynion
P14 annog plant i gymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol a chwarae gyda thywod, dŵr a deunyddiau sylfaenol eraill P15 annog plant i:
P15.1 wneud marciau
P15.2 paentio
P15.3 tynnu lluniau
P15.4 modelu
P15.5 printio
P16 gwneud yn siŵr bod yr hyn a wnewch yn addas ar gyfer oedran, anghenion a galluoedd y plentyn
P17 helpu i arddangos gwaith plant mewn ffyrdd sy'n eu hannog ac yn rhoi hwb i’w hunan-barch
Cynorthwyo chwarae corfforol
P18 annog a chynorthwyo pob plentyn i gymryd rhan mewn chwarae corfforol gan alluogi elfen briodol o risg a her yn eu chwarae, yn ôl eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd
P19 galluogi plant i asesu eu risg eu hunain yn eu chwarae corfforol
P20 annog plant i gymryd rhan mewn chwarae corfforol gan ddefnyddio eu cyrff cyfan drwy roi cyfleoedd diddorol ac ysgogol
P21 defnyddio’r lle sydd ar gael yn effeithiol
P22 rhoi cyfleoedd i blant ddatblygu eu sgiliau echddygol mân drwy gynnig gweithgareddau a phrofiadau priodol
P23 goruchwylio chwarae corfforol plant yn ddiogel heb or-warchod neu beidio â’u gwarchod yn ddigonol
P24 annog plant i gymryd eu tro ac ystyried eraill
Annog plant i archwilio ac ymchwilio
P25 archwilio ac arddangos gwrthrychau o ddiddordeb a’r plant yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir i wella dysgu plant
P26 helpu plant i ddefnyddio mannau dan do ac awyr agored
P27 cael gwybod am adnoddau cymunedol i annog plant i archwilio ac ymchwilio
P28 ennyn chwilfrydedd plant drwy gynnig gweithgareddau a phrofiadau diddorol ac ysgogol a thrwy ddangos eich diddordeb eich hun mewn archwilio ac ymchwilio
P29 helpu plant i ddefnyddio TGCh yn rhan o'u prosesau archwilio ac ymchwilio
P30 defnyddio gweithgareddau i ennyn chwilfrydedd plant, gan wneud yn siŵr bod gweithgareddau'n cael eu paratoi'n ofalus, yn ddiogel, a bod plant yn cael eu cynorthwyo'n briodol
P31 gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn ddiogel ac yn drefnus mewn ffyrdd sy'n addas i blant ac yn galluogi plant i archwilio ac ymchwilio'n rhydd
P32 gwneud yn siŵr bod yr hyn a wnewch yn addas ar gyfer oedran, anghenion a galluoedd y plant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 sut i gynorthwyo cyfathrebu, datblygiad deallusol a dysgu plant yn eich lleoliad
K2 sut i gynorthwyo datblygiad chwarae a chyfathrebu plant mewn lleoliadau dwyieithog ac amlieithog a lle mae plant yn dysgu drwy iaith ychwanegol
K3 amlinelliad sylfaenol o'r patrwm disgwyliedig o ddatblygiad plant yng nghyd-destun elfennau corfforol, cyfathrebu a deallusol, yn ogystal â’u datblygiad cymdeithasol, deallusol ac emosiynol ar gyfer y grŵp oedran rydych chi'n gweithio gyda ef.
K4 sut mae'r gweithgareddau a'r profiadau ar gyfer plant a babanod a phlant o dan dair oed yn ymwneud â fframweithiau cwricwlwm ffurfiol a fframweithiau ar gyfer babanod a phlant ifanc yn eich mamwlad
K5 pwysigrwydd chwarae mewn dysgu a datblygiad plant
K6 mathau o gerddoriaeth, symud, caneuon a gemau i annog
cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer y plant rydych chi'n gweithio gyda nhw
K7 sut i ddefnyddio TGCh i gynorthwyo chwarae a dysgu
K8 yr iaith briodol i'w defnyddio i annog cyfathrebu a dysgu plant i gynnwys: manteision cwestiynau penagored, defnyddio iaith i ymestyn dysgu megis defnyddio iaith fathemategol neu annog plant i gwestiynu
K9 cwmpas a manteision chwarae lle mae plant yn defnyddio eu dychymyg i wneud i un peth gynrychioli rhywbeth arall a chwarae gwahanol rolau
K10 sut y gellir defnyddio drama a chwarae dychmygus i annog dysgu plant, gan gynnwys y mathau o ddeunyddiau, cyfarpar a phropiau sy'n cynorthwyo'r maes chwarae hwn
K11 cydnabod y bydd plant yn chwarae rolau y maent yn eu gweld gartref ac yn y byd o'u cwmpas a'r angen am sensitifrwydd wrth ddelio â stereoteipiau
K12 pam mae’n angenrheidiol i chwarae dychmygus plant lifo'n rhydd a chael cyn lleied o ymyrraeth â phosibl gan oedolion, gan gydnabod hefyd y gallai fod angen ymyrraeth sensitif weithiau i symud y ddrama yn ei blaen
K13 pwysigrwydd annog creadigrwydd a chwmpas y gweithgareddau dan sylw
K14 sut byddech chi'n arddangos gwaith plant er mwyn iddo edrych ar ei orau
K15 sut i roi hwb i hyder a hunan-barch plant wrth iddynt wneud a chreu pethau, gan wneud yn siŵr bod y pwyslais ar y broses o greu rhywbeth yn hytrach na'r cynnyrch terfynol
K16 gweithgareddau addas ar gyfer datblygu sgiliau echddygol mân a bras plant
K17 sut y gall chwarae corfforol helpu plant i asesu risg mewn amgylchedd diogel a rheoledig
K18 manteision chwarae corfforol ac ymarfer corff i blant a'r angen am sensitifrwydd wrth ddelio â'r rhai sy'n ei chael hi'n anoddach cymryd rhan
K19 y math o wrthrychau sy'n ennyn diddordeb plant o wahanol oedrannau ac sy’n meddu ar wahanol anghenion a galluoedd
K20 sut mae dysgu plant yn elwa o grwpio gwrthrychau â nodweddion tebyg gyda'i gilydd a dysgu didoli a dosbarthu
K21 sut mae dysgu plant yn elwa o wybod am eu cefndir a'u cymuned eu hunain
K22 sut i gynnig amgylchedd ysgogol a pheidio â mygu chwilfrydedd, datrys problemau ac archwilio gan blant
K23 pwysigrwydd a chwmpas gweithgareddau dyddiol ymarferol fel coginio a garddio i wella dysgu plant
K24 sut rydych chi'n sefydlu gweithgareddau i helpu plant i ddysgu a'r mathau mwyaf effeithiol o weithgareddau, teganau, cyfarpar a phrofiadau
K25 sut i osod dodrefn a chyfarpar i wneud y defnydd gorau o le a helpu plant i gael mynediad i weithgareddau chwarae a dysgu
K26 y defnydd o arferion bob dydd i gynorthwyo chwarae a dysgu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithgareddau priodol ar gyfer sgiliau echddygol mân
Gweithgareddau priodol i'r plant dan sylw: gallai'r rhain gynnwys gwnïo, edafu, defnyddio siswrn, adeiladu pethau bychain.
Iaith briodol (i wella sgiliau cyfathrebu a dysgu plant)
Cwestiynau sy'n rhoi cyfleoedd i blant gael amrywiaeth o wahanol ymatebion; modelu'r defnydd cywir o iaith; defnyddio cyfleoedd ar gyfer mathau penodol o iaith i wella meysydd dysgu megis mathemateg, archwilio/ymchwilio neu ddatblygiad personol plant.
Adnoddau cymunedol
Adnoddau a geir yn y gymuned leol, megis parciau, rhandiroedd, llyfrgelloedd, pobl a sefydliadau.
Plant
Y plant rydych chi'n gweithio gyda nhw, ac eithrio lle nodir yn wahanol.
Chwarae
Mae chwarae yn weithgaredd y mae plant yn cymell eu hunain i'w wneud:
- Mae'n cael ei ddewis yn rhydd
- Mae plant yn chwarae yn eu ffordd ddewisol eu hunain.
Creadigrwydd a chwarae creadigol
Dyma lle mae plant yn datblygu ac yn cyfathrebu eu syniadau eu hunain, gan ddefnyddio celf, dylunio, gwneud pethau, cerddoriaeth, dawns a symud. Gall plant fynegi eu creadigrwydd ym mhob maes chwarae a dysgu.
TGCh
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Chwarae dychmygus/drama/chwarae rôl
Mae esgus yn cynnwys chwarae rôl, h.y. esgus bod yn rhywun arall naill ai ar ei ben ei hun neu mewn grwpiau, gan actio senarios anodd, gall y rhain fod yn weithgareddau drama gyda neu heb gymorth i oedolion.
Gwrthrychau o ddiddordeb
Unrhyw wrthrychau sydd o ddiddordeb i blant ac sy'n gallu ehangu eu dysgu, e.e. ffosiliau neu gerrig, pethau byw fel pryfed, eitemau bwyd.
Chwarae corfforol
Chwarae sy'n canolbwyntio ar symud y corff.
Propiau
Gwrthrychau a deunyddiau y mae plant yn eu defnyddio i gynorthwyo eu chwarae neu ddrama ddychmygus, e.e. gwisgo dillad, doliau, pypedau, masgiau.
Themâu
Syniad neu bwnc a gynhelir drwy ystod o weithgareddau.
Dolenni I NOS Eraill
TDASTL2 Cynorthwyo datblygiad plant
TDASTL15 Cynorthwyo chwarae plant a phobl ifanc
TDASTL27 Cynorthwyo i roi cwricwlwm y blynyddoedd cynnar ar waith
TDASTL28 Cynorthwyo addysgu a dysgu mewn maes cwricwlwm
TDASTL54 Cynllunio a chynorthwyo chwarae hunan-gyfeiriedig
Tarddiad yr uned hon
Daw'r uned hon yn o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, Dysgu a Datblygu lle mae'n ymddangos fel CCLD 206.
Mae'r uned hon yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Dysgu, Datblygiad a Gofal Plant.