Rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau dysgu

URN: TDASTL1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynorthwyo Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Datblygwyd gan: Training and Development Agency for Schools
Cymeradwy ar: 2007

Trosolwg

Ar gyfer pwy mae'r uned hon?
 
Mae'r uned hon ar gyfer y rhai sy'n cynorthwyo'r athro i gyflwyno gweithgareddau dysgu.
 
Am beth mae'r uned hon?
Mae'r uned hon yn ymwneud â'r cymorth a roddir i'r athro a'r disgyblion i sicrhau addysgu a dysgu effeithiol. Mae'n golygu cytuno â'r athro beth fyddwch chi'n ei wneud i gynorthwyo gweithgareddau dysgu sydd wedi'u cynllunio, rhoi'r cymorth y cytunwyd arno a rhoi adborth i'r athro am ba mor dda aeth y gweithgaredd.

Gall y gweithgareddau dysgu fod ar gyfer disgyblion unigol, grwpiau o ddisgyblion neu'r dosbarth cyfan. Fodd bynnag, bydd eich cyfraniad at gynorthwyo'r gweithgareddau dysgu yn golygu y byddwch chi’n gweithio gydag unigolion neu grwpiau bach yn unig yn ôl pob tebyg. Gellir cyflwyno'r gweithgareddau dysgu yn yr ystafell ddosbarth neu unrhyw leoliad lle mae'r addysgu a'r dysgu'n digwydd fel astudiaethau maes, ymweliadau addysgol, oriau estynedig a threfniadau cymorth astudio.

Mae'r uned hon yn cynnwys tair elfen:

  1. Cynorthwyo'r athro wrth gynllunio gweithgareddau dysgu
  2. Cynorthwyo i gyflwyno gweithgareddau dysgu
  3. Cynorthwyo'r athro i werthuso gweithgareddau dysgu.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynorthwyo'r athro wrth gynllunio gweithgareddau dysgu
P1 cynnig awgrymiadau adeiladol ac amserol ynghylch y cymorth y gallwch ei roi i weithgaredd dysgu wedi'i gynllunio
P2 nodi ac egluro unrhyw anawsterau a allai fod gennych chi wrth roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi
P3 cytuno ar eich rôl wrth roi'r gweithgaredd dysgu ar waith
P4 gwneud yn siŵr eich bod wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer eich cyfraniad i'r gweithgaredd dysgu

Cynorthwyo i gyflwyno gweithgareddau dysgu
P5 rhoi cymorth ar gyfer y gweithgaredd dysgu fel y cytunwyd gyda'r athro
P6 cael yr adnoddau dysgu y cytunwyd arnynt a’u defnyddio
P7 rhoi cymorth yn ôl yr angen i alluogi disgyblion i ddilyn cyfarwyddiadau
P8 gwneud yn siŵr eich bod ar gael ac yn hawdd i ddisgyblion ddod atoch am gymorth
P9 defnyddio canmoliaeth, sylwebaeth a chymorth i annog disgyblion i ddyfalbarhau â thasg
P10 monitro ymateb disgyblion i'r gweithgareddau dysgu
P11 rhoi cymorth yn ôl yr angen i alluogi disgyblion i gwblhau unrhyw dasgau dilynol a osodir gan yr athro
P12 gofyn am gymorth yn brydlon os ydych chi'n cael anawsterau wrth gynorthwyo'r gweithgaredd dysgu fel y cynlluniwyd

Cynorthwyo'r athro i werthuso gweithgareddau dysgu
P13 cynnig adborth adeiladol ar y gweithgaredd dysgu mewn trafodaeth â'r athro
P14 nodi ac egluro unrhyw anawsterau a gawsoch wrth roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi
P15 rhannu eich adborth â'r athro ar adeg ac mewn lle priodol, ac mewn ffordd sy'n cynnal perthynas waith effeithiol
P16 rhoi gwybodaeth berthnasol i gyfrannu at gofnodion ac adroddiadau'r athro


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 y berthynas rhwng eich rôl eich hun a rôl yr athro yn yr amgylchedd dysgu
K2 eich rôl a'ch cyfrifoldebau o ran cynorthwyo dysgu disgyblion a goblygiadau hyn ar gyfer y math o gymorth y gallwch ei roi
K3 polisïau'r ysgol ar gyfer cynhwysiant a chyfle cyfartal, a goblygiadau hyn ar gyfer sut rydych chi'n gweithio gyda disgyblion
K4 eich profiad a'ch arbenigedd mewn perthynas â chynorthwyo gweithgareddau dysgu a sut mae hyn yn berthnasol i'r gweithgareddau a gynlluniwyd
K5 amcanion y gweithgareddau dysgu i'w cynorthwyo
K6 pwysigrwydd cynllunio a gwerthuso gweithgareddau dysgu
K7 yr egwyddorion sylfaenol sy'n sail i ddatblygiad a dysgu plant; ffactorau sy'n hyrwyddo dysgu effeithiol; a'r rhwystrau i ddysgu effeithiol
K8 strategaethau i'w defnyddio i gynorthwyo dysgu disgyblion fel unigolion ac mewn grwpiau
K9 polisi’r ysgol ar ddefnyddio canmoliaeth, cymorth, gwobrau a chosbau
K10 y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gynorthwyo gweithgareddau dysgu a sut i ddelio â'r rhain
K11 pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau eich rôl a'ch gallu a phryd y dylech gyfeirio at eraill
K12 sut i roi adborth mewn modd adeiladol ac mewn ffordd sy'n gwneud yn siŵr bod perthnasoedd gwaith yn cael eu cynnal


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Anawsterau
Rhwystrau posibl a allai eich atal rhag helpu i roi'r cymorth gofynnol ar gyfer y gweithgareddau dysgu a gynllunnir, megis prinder amser neu'r angen am arbenigedd a/neu ddatblygiad ychwanegol.



Adborth
Rhoi gwybodaeth i'r athro am:

  1. ymateb y disgyblion i'r gweithgaredd dysgu
  2. y deunyddiau a ddefnyddir
  3. eich cyfraniad wrth gynorthwyo'r gweithgaredd

Gweithgareddau dysgu
Y gweithgareddau dysgu a gynlluniwyd gan yr athro ar gyfer disgyblion unigol, grwpiau o ddisgyblion, neu'r dosbarth cyfan. Gall y gweithgareddau ymwneud ag un wers neu rychwantu nifer o wersi, er enghraifft, yn rhan o bwnc, prosiect neu thema. Gellir eu cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth neu unrhyw leoliad lle mae'r addysgu a'r dysgu'n digwydd fel astudiaethau maes, ymweliadau addysgol, oriau estynedig a threfniadau cymorth astudio.



Adnoddau dysgu
Deunyddiau, cyfarpar (gan gynnwys TGCh), meddalwedd, llyfrau a deunyddiau ysgrifenedig eraill (e.e. taflenni, dalenni gwaith), DVDs, ac ati sydd eu hangen i gynorthwyo addysgu a dysgu.



Cynllunio
Penderfynu gyda'r athro beth fyddwch chi'n ei wneud, pryd, sut a gyda pha ddisgyblion, i wneud yn siŵr bod y gweithgareddau dysgu sydd wedi'u cynllunio yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol. Gall y cynllun gael ei gofnodi yn ysgrifenedig gan yr athro neu chi eich hun, neu gellir cytuno arno ar lafar yn unig rhyngoch chi.


Dolenni I NOS Eraill

TDASTL6 Cynorthwyo gweithgareddau llythrennedd a rhifedd
TDASTL8 Defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i gynorthwyo dysgu disgyblion
TDASTL11 Cyfrannu at gynorthwyo disgyblion dwyieithog/amlieithog
TDASTL18 Cynorthwyo gweithgareddau dysgu disgyblion
TDASTL23 Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu o dan gyfarwyddyd athro
TDASTL24 Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau addysgu a dysgu


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Training and Development Agency for Schools

URN gwreiddiol

STL1

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymorth dysgu uniongyrchol, Datblygiad a Lles Plant, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Eraill

Cod SOC

6112

Geiriau Allweddol

cynllunio, paratoi, adnoddau dysgu, monitro, strategaethau cynorthwyo, rhwystrau dysgu, cyflwyno