Cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus mewn gweithrediadau logisteg
URN: SLWS18
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus a chynnal y safonau hylendid angenrheidiol mewn gweithrediadau logisteg.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd sefydliadol perthnasol yn ymwneud â glanhau ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg
- defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), offer a deunyddiau glanhau i lanhau a thacluso’r ardaloedd gwaith
- glanhau a thacluso’r ardaloedd gwaith i gadw glendid, hylendid a diogeledd ar y lefel sy’n ofynnol gan y sefydliad
- gweithredu rhagofalon diogelwch i ddiogelu pobl yn yr ardaloedd gwaith rhag perlygon glanhau yn ystod gweithdrefnau glanhau
- lleihau anghyfleustra i bobl eraill yn yr ardaloedd gwaith wrth lanhau
- gwaredu mathau gwahanol o wastraff, yn unol â gweithrefnau gweithredol
- dychwelyd offer a deunyddiau glanhau i’r ardal storio berthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adnewyddu
- cydymffurfio â safonau iechyd a hylendid personol yn ystod yr holl weithgareddau gwaith
- nodi ac ymateb i broblemau’n ymwneud â glanhau ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- cofnodi’r gwaith a wnaed, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chadw’r gweithle’n lân
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o ofynion iechyd, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg, yn y sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus
- pwysigrwydd cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus at ddibenion iechyd a diogelwch, hylendid a diogeledd
- y rhagofalon diogelwch sydd yn angenrheidiol wrth ddefnyddio dulliau a deunyddiau glanhau gwahanol
- sut i ddefnyddio deunyddiau glanhau, cyfarpar gwaredu gwastraff a Chyfarpar Diogelu Personol (PPE)
- y gweithdrefnau adnewyddu stoc sefydliadol ar gyfer deunyddiau glanhau
- y dulliau gwaredu gwastraff ar gyfer y mathau gwahanol o wastraff a gynhyrchir gan y gweithrediadau logisteg
- y safonau a’r hylendid personol sydd yn angenrheidiol ar gyfer storio penodol
- y mathau o broblemau’n ymwneud â glanhau a thacluso’r ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg yn y sefydliad
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr yn cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad, a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chynnal ardaloedd gwaith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ardaloedd gwaith: swyddfeydd, ystafelloedd, ardaloedd egwyl, warws, llawr y siop, rheseli, eiliau, tramwyfeydd, coridorau, toiledau, ystafelloedd ymolchi, cerbydau/cyfarpar, ardaloedd llwytho/dadlwytho, tu mewn/tu allan
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel
Peryglon glanhau: lloriau llithrig, peryglon baglu, cemegau peryglus, offer/peiriannau
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a sefydliadol rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Pobl: cydweithwyr, ymwelwyr, cwsmeriaid/cleientiaid
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLWS18
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
glân; ardaloedd gwaith; warws; storio