Creu effeithiau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwneud i systemau gronynnau, cyrff anhyblyg, deunyddiau, hylifau a thyrfaoedd symud gyda grymoedd ffiseg. Gallai hyn gynnwys creu darluniau a gynhyrchir gan gyfrifiadur (CG) o ffenomenau corfforol neu hudolus naturiol megis tân, dŵr, cymylau, mwg a dinistr corfforol.
Mae hyn yn ymwneud â phennu’r datrysiadau dylunio amrywiol sydd eu hangen i greu’r effeithiau, dylunio a chreu effeithiau a chynhyrchu cyfansoddion adolygadwy o agweddau Effeithiau Arbennig ar gyfer saethiad. Caiff ei gyfeirio ato’n aml fel Animeiddio Gweithdrefnol neu Animeiddio Effeithiau Gweledol.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer artist amgylchedd neu dyrfaoedd neu’r rheiny sydd ynghlwm â datblygu effeithiau neu effeithiau tyrfaoedd.
Gallai’r safon hon gael ei defnyddio gan Artistiaid Effeithiau Gweledol neu Artistiaid Iau Effeithiau Gweledol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio gan gydymffurfio â’r briff gan ddefnyddio sgiliau dehongli a chreadigrwydd pan fo’u hangen
- cynllunio’r golygfeydd, setiau, saethiadau a’r gweithrediad sydd ei angen i gyflawni’r effeithiau
- tynnu llun o neu greu effeithiau yn yr arddull a ddymunir
- pennu meini prawf ar gyfer sut y bydd pethau’n ymddwyn ac yn ymateb mewn gwahanol sefyllfaoedd a gyda gwahanol ysgogiadau
- defnyddio sgriptio pan allai wneud eich gwaith yn fwy effeithlon
- defnyddio meddalwedd i ddatrys problemau yn ôl yr angen
- addasu gosodiadau nes eu bod yn cyflawni’r effaith a ddymunir
- optimeiddio gosodiadau i sicrhau effeithlonrwydd
- dehongli problemau a chanfod datrysiadau i gyflawni’r effaith a ddymunir yn y ffordd orau
- rhannu gwaith gyda phobl eraill pan fo’n briodol a defnyddio adborth mewn ffordd adeiladol i adolygu effeithiau pan fo’i angen
- adnabod pryd y bydd newidiadau y gofynnir amdanyn nhw gan bobl eraill yn cael effaith andwyol ar y gyllideb, graddfeydd amser, canlyniad terfynol neu rannau eraill o’r biblinell a chyfathrebu hyn mewn dull priodol
- gwirio a chadarnhau bod gwaith yn cael ei gyflwyno ar amser a’i fod yn bodloni’r allbynnau gofynnol
- cadw a chyflwyno gwaith i bobl eraill mewn dull priodol ar gyfer y swydd a’r sefydliad rydych yn gweithio iddi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ymddygiad ffenomena corfforol a sut i ddyblygu hyn wrth greu effeithiau
- arddull creadigol a chysyniad cyffredinol y cynhyrchiad a’r effeithiau ynghlwm ag o
- sut i drefnu amseriad golygfeydd, saethiadau a gweithrediadau i gyfleu’r ddrama ac adrodd y stori ofynnol
- nodweddion corfforol a mecaneg systemau gronynnau, strwythurau, deunyddiau, hylifau a thyrfaoedd a sut maen nhw’n ymateb i wahanol ysgogiadau
- sut i greu ffwr neu wallt a gwneud iddo ymateb i wahanol ysgogiadau
- sut mae gwahanol agweddau’n cydweithio gyda’i gilydd
- sut i ysgogi symudiad
- sut gallai lensys a goleuadau effeithio ar edrychiad
- sut i roi dealltwriaeth o wrthrychau’r byd go iawn ar waith wrth greu gwrthrychau hudolus
- sut i ddefnyddio meddalwedd perthnasol
- sut i lunio cod i sicrhau bod y gwaith yn fwy effeithlon
- sut i fanteisio i’r eithaf ar ddichonoldeb meddalwedd safon diwydiant i ddatrys problemau
- ymwybyddiaeth o ddatblygiadau technolegol
- effeithlonrwydd y defnydd o ddata
- arferion enwi ffeiliau a rheoli data priodol ar gyfer y sefydliad
- gwerth ceisio adborth cynnar
- sut i adnabod effaith ac amseriad eich gwaith ar bobl eraill sydd ar y gweill