Modelu neu weadu cymeriadau, creaduriaid, celfi neu amgylcheddau ar gyfer effeithiau gweledol

URN: SKSVFX5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â modelu, gweadu neu beintio’r asedau y bydd eu hangen ar gyfer Effeithiau Gweledol. Gallai’r rhain fod yn gymeriadau, creaduriaid, celfi, amgylcheddau, neu gefndiroedd.

Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer Artistiaid Effeithiau Gweledol a’r rheiny sydd ynghlwm â pheintio matte digidol, amgylcheddau, datblygu gwedd, modelu a datblygu gwead.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dadansoddi briffiau, sgriptiau, cyfeirnodau gweledol a pharamedrau technegol a chynhyrchu i bennu beth sydd ei angen
  2. creu modelau, gweadau neu baentiadau sy’n cydymffurfio â’r wedd sydd wedi’i datblygu a’r gofynion technegol ac sy’n addas i’w diben
  3. gwirio a chynllunio ar gyfer cysondeb modelau, gweadau neu baentiadau  a sicrhau eu bod yn addas i’w diben ar gyfer yr holl safleoedd ac onglau camera sy’n ofynnol
  4. gwerthuso ansawdd yr asedau rydych chi wedi’u modelu, gweadu neu eu peintio ar eu pen eu hunain, mewn perthynas ag asedau eraill ac ymhen y cyd-destun o ran sut gân nhw eu defnyddio
  5. sicrhau bod yr asedau sydd wedi’u datblygu yn cyd-fynd ag unrhyw fersiynau ar y set
  6. ymateb i adborth ynghylch gwaith a gofynion newidiol a chyflawni gwaith mireinio fel sy’n briodol
  7. cyflwyno gwaith i bobl eraill mewn ffyrdd sy’n eu galluogi i weld ei wedd a’i botensial
  8. cyflenwi gwaith ar ffurfiau priodol y gellir eu defnyddio gan eraill 'sydd ynghlwm â'r gwaith
  9. paratoi a storio asedau yn unol â gofynion ac amserlenni’r cynhyrchiad i alluogi cam nesaf y cynhyrchiad i fynd rhagddo

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr arddull creadigol, y cysyniad cyffredinol a’r lefel o fanylder sydd ei angen ar gyfer y cynhyrchiad
  2. deunyddiau cyfeirnod megis llyfrgell asedau, y gellir ei ddefnyddio i sicrhau bod y gwaith yn gywir ac yn bodloni’r briff
  3. defnydd bwriedig a chyd-destun yr asedau rydych yn eu creu o fewn y piblinellau a phwysigrwydd hyn
  4. egwyddorion a thechnegau animeiddio digidol, megis modelu eglurder isel ac uchel, modelu gweithredol, cysoni, lliwio, gweithredu matte, cerflunio digidol
  5. effeithiau safleoedd camera, onglau, mathau o lensys a’r goleuadau mewn perthynas â gwrthrychau ac amgylcheddau
  6. priodweddau arwyneb y deunyddiau, y gwahanol fathau o weadau, goleuadau ac effeithiau eraill y gellir eu rhoi ar waith gyda gwrthrychau ac amgylcheddau 3D
  7. technegau darlunio a sgiliau tynnu llun
  8. damcaniaeth a phwysigrwydd lliw, goleuadau a sinematograffi
  9. pwysigrwydd cysondeb
  10. sut i fanteisio i’r eithaf ar feddalwedd animeiddio digidol safon diwydiant ar gyfer agweddau digidol
  11. sut i werthuso os ydy gosodiad agweddau yn addas i’w diben
  12. sut i asesu a gwerthuso effaith ehangach ledled y prosiect a golygfeydd lluosog.
  13. sut i gynllunio a nodi effeithlonrwydd o ran gwaith adeiladu a phroseu lle’n bosibl ac yn ymarferol
  14. pwysigrwydd cynnal diogelwch data a chydymffurfio gyda gofynion, amserlenni, canllawiau a strwythurau ffeil y cynhyrchiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screenskills

URN gwreiddiol

SKSVFX5

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

llinellau amser; gofynion cynhyrchu; Effeithiau Gweledol; effeithiau gweledol; cynhyrchiad; datblygu gwedd; cymeriadau; creaduriaid; modelau; gweadau;