Esblygu gwedd asedau a gynhyrchir gan gyfrifiadur
URN: SKSVFX4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phennu gwedd (gloywder, adlewyrchedd, garwder ac ati) asedau a gynhyrchir gan gyfrifiadur (CG). Mae hyn yn cynnwys sut maen nhw’n rhyngweithio gyda’u hamgylchedd.
Wrth weithio gyda chynhyrchu Rhithwir (VP), mae’n hanfodol gwybod sut caiff yr asedau hyn eu defnyddio ar y gweill a beth ydy’r nod terfynol – megis ar gyfer defnydd amser real ar wal cyfaint LED neu wedi’i rendro ymlaen llaw.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â datblygu gwedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi briffiau, sgriptiau, cyfeirnodau gweledol a pharamedrau technegol a chynhyrchu i bennu’r arddull gweledol gofynnol
- awgrymu gweddau ymarferol wrth weithio gyda briff bras neu phan nad oes briff ar gael
- cysylltu gyda’r rheiny sy’n gyfrifol dros yr arddull gweledol er mwyn sicrhau bod y wedd yn bodloni’r gofynion
- creu priodweddau’r deunyddiau ar gyfer cymeriadau, celfi neu amgylcheddau sy’n cydymffurfio â’r arddull weledol ofynnol
- creu ymarferion sy’n gwirio fod datblygiad gwedd yn bodloni’r gofynion
- nodi a gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol i wella’r wedd
- diffinio pa mor safonol neu hyblyg y mae angen i’r wedd fod
- gwirio a chadarnhau bod y wedd yn cynnal cysondeb gyda gwedd rhannau eraill y cynhyrchiad
- gwirio a chadarnhau bod y wedd sy’n cael ei datblygu mor effeithlon â phosibl o ran rendr
- dylunio piblinellau i sicrhau bod y wedd wedi’i rhoi ar waith yn gywir i wahanol sefyllfaoedd mewn gwahanol saethiadau
- cysylltu gyda’r rheiny sy’n gyfrifol am weithredu’r wedd i nodi unrhyw broblemau
- adnabod a datrys problemau sy’n codi wrth i chi neu eraill weithredu’r wedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod y thema dylunio sefydledig ar gyfer golygfa neu brosiect
- rôl yr adran gelf, yr artist cysyniad neu’r dylunydd cynhyrchu o ran pennu’r arddull gweledol
- pryd mae’n briodol i ddefnyddio prif saethiadau a byrddau tro wrth ddatblygu gwedd a sut i’w defnyddio
- rhannau eraill y cynhyrchiad y mae’n rhaid i’r wedd gydymffurfio â nhw gan gynnwys fersiynau set ac asedau presennol
- ffiseg mudiant a gwrthiant
- priodweddau arwyneb y deunyddiau, y gwahanol fathau o weadau, goleuadau ac effeithiau eraill gellir eu rhoi ar waith gyda gwrthrychau ac amgylcheddau 3D
- effeithiau safleoedd camera, onglau, mathau o lensys a goleuadau mewn perthynas â gwrthrychau ac amgylcheddau
- damcaniaeth a phwysigrwydd lliw, goleuadau a sinematograffi
- diben cysgodwyr a sut gân nhw eu datblygu
- sut gellir defnyddio goleuadau neu gysgodwyr i safoni gweddau
- sut i fanteisio i’r eithaf ar feddalwedd safon diwydiant
- rôl modelwyr, artistiaid gwead ac eraill ar gyfer gweithredu’r wedd
- deall sut caiff yr asedau eu defnyddio
- sut i adnabod a datrys problemau a phryd i uwchgyfeirio problem sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb chi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Screenskills
URN gwreiddiol
SKSVFX4
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
esblygu; gwedd; arddull gweledol; cynhyrchir gan gyfrifiadur; gofynion y cynhyrchiad; cynhyrchiad rhithiol; cynhyrchiad; cysgodwyr; asedau; Effeithiau Gweledol; effeithiau gweledol;