Sicrhau ansawdd allbynnau effeithiau gweledol

URN: SKSVFX3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â sicrhau ansawdd gwaith Effeithiau Gweledol. Gallai ansawdd yr allbynnau fod yn greadigol ac yn dechnegol. Mae’n ymwneud â chydweithio mewn proses ddeinamig barhaus i fodloni’r gofynion cynhyrchu.

Mae’r safon hon yn fwyaf tebygol o fod yn berthnasol i Oruchwylwyr Effeithiau Gweledol, Goruchwylwyr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol a Chynhyrchwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi disgwyliadau a gofynion artistig a thechnegol y gwaith
  2. cadarnhau sut y bydd y defnydd o dechnoleg yn effeithio ar y gwaith
  3. cyfathrebu’r disgwyliadau i’r rheiny sydd ynghlwm
  4. gwirio a chadarnhau bod prosesau rheoli ansawdd ar waith a bod y rheiny sydd angen eu defnyddio yn eu deall
  5. asesu ansawdd ar adegau priodol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen
  6. cynnig barn ynghylch ansawdd y gwaith
  7. adnabod gwaith sydd ddim yn bodloni’r ansawdd gofynnol a rhoi mesurau cydweithredol ar waith i’w unioni
  8. pan nad yw’n bosibl i gyflawni gwaith sy’n unol â chwmpas y prosiect, canfod datrysiadau cyraeddadwy sy’n dderbyniol i’r cleient
  9. gweithio ar y cyd ac yn ailadroddol gydag adrannau eraill ar draws holl gamau’r cynhyrchiad i gyflawni canlyniadau o ansawdd uchel
  10. gwirio a chadarnhau bod gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni’r gofynion
  11. cysylltu gyda mudiadau trydydd parti ynghylch gwiriadau technegol a gwiriadau ansawdd (QC) terfynol o ran cydymffurfiaeth a gradd
  12. rhoi prosesau a gweithdrefnau sicrwydd ansawdd ar waith, a allai gynnwys piblinellau sy’n benodol i’r cwmni neu’r cynhyrchiad gan ddefnyddio cyfarpar, profion ac ymarferion unigryw

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y broses gyffredinol sydd ei hangen i gynhyrchu’r cynnyrch terfynol a rôl y bobl sydd ynghlwm
  2. ble mae pob agwedd sy’n cyfrannu at y broses sicrhau ansawdd yn y broses gyffredinol ac sut maen nhw’n gysylltiedig ac yn ddibynnol ar ei gilydd.
  3. ar ba ffurf ddylai’r gwaith fod yn ystod gwahanol gamau o’r broses
  4. y gwiriadau ansawdd (QC) a’r adolygiadau sydd ar waith
  5. pryd a sut i adolygu ansawdd
  6. pwysigrwydd adolygu ansawdd yn unol ag amserlenni’r cynhyrchiad
  7. sut i asesu ansawdd o gymharu gyda safonau artistig a thechnegol disgwyliedig
  8. sut i asesu ansawdd a chanlyniadau artistig animeiddio, gloywi, goleuo a chyfansoddi
  9. pwy sydd angen bod ynghlwm gydag asesu neu werthuso ansawdd o fewn a thu hwnt i’r sefydliad
  10. sut i gyflwyno gwybodaeth i eraill mewn ffyrdd y byddan nhw’n eu deall ac yn eu derbyn
  11. sut i weithredu ffocws ansawdd sy’n hybu gwelliant parhaus, arloesedd a chreadigrwydd i’r broses datblygu effeithiau gweledol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screenskills

URN gwreiddiol

SKSVFX3

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

sicrhau; ansawdd; Effeithiau Gweledol; effeithiau gweledol; gweledigaeth; gwiriadau; cynhyrchiad; gofynion;